Mark Drakeford: Llywydd, mae'r hyn y dywedodd Rhys ab Owen yn dal i fod yn wir. Dwi ddim wedi clywed dim byd oddi wrth y Prif Weinidog newydd, dim galwad ffôn, dwi ddim wedi cael e-bost—dim byd o gwbl. Mae cynllun newydd gyda ni, cynllun roeddem ni wedi'i gytuno gyda Llywodraeth yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r Llywodraeth yn San Steffan. Yn y galwad ffôn olaf y cefais i gyda Boris Johnson, pan oedd e'n...
Mark Drakeford: Llywydd, rwyf wedi cael sawl sgwrs gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru am y mater hwn a materion eraill.
Mark Drakeford: Diolch i Vikki Howells am y pwynt pwysig yna mae hi'n ei wneud. Mae dros 200 o leoliadau gofal plant yn etholaeth Cwm Cynon yn unig. Y newyddion da yw, oherwydd ein bod wedi ymestyn y rhyddhad ardrethi 100 y cant ar gyfer eiddo gofal plant cofrestredig hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025, mae gennym linell gyfathrebu uniongyrchol â'r lleoliadau hynny, oherwydd eu bod yn cael budd o'r cynllun...
Mark Drakeford: Llywydd, diolch i Vikki Howells am hynna. Gan roi hwb i'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, fe gyhoeddom ni bron i £100 miliwn yr wythnos diwethaf i gefnogi'r gwaith o ehangu gofal plant Dechrau'n Deg i gefnogi buddsoddiadau mewn gwelliannau a chynnal a chadw adeiladau a chyllid gofal plant i gefnogi darpariaeth Gymraeg gwell. Bydd trigolion Cwm Cynon yn cael budd o bob...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n cytuno y byddai'n well gennyf i gael pobl yn gweithio'n uniongyrchol fel gweithwyr y GIG, neu mewn trefniadau banc o dan reolaeth y GIG, na phobl sy'n gweithio mewn trefniadau asiantaeth. Yn y diwedd, unigolion yn gwneud penderfyniadau yn eu bywydau eu hunain yw'r rhain. Ni allwch gyfarwyddo pobl o ran sut y bydden nhw eu hunain yn dewis rhoi trefn ar eu trefniadau...
Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n cytuno â llawer iawn o'r hyn y mae Joel James newydd ei ddweud. Fel yr wyf wedi esbonio sawl gwaith ar lawr y Siambr, mae'r GIG yn parhau i orfod ymdrin ag effaith COVID, gydag ychydig o dan 1,000 o aelodau staff i ffwrdd o'r gwaith heddiw; mae tua 600 i 700 ohonyn nhw mewn gwirionedd yn sâl gyda COVID eu hunain ac nid yw tua 300 yn gweithio oherwydd eu bod wedi bod mewn...
Mark Drakeford: Mae byrddau iechyd yn cynllunio, defnyddio a rheoli eu gweithlu i ddiwallu anghenion y boblogaeth. Mae atebion e-amserlennu wedi'u gweithredu ledled GIG Cymru i gefnogi'r defnydd effeithiol o staff.
Mark Drakeford: Yn gyntaf oll, rwy'n cytuno â'r pwyntiau am sefydlogrwydd economaidd a wnaeth Mike Hedges. Dyna'r ffordd y bydd modd sicrhau'r buddsoddiad hirdymor y byddwch ei angen os ydych chi'n adeiladu tai. Ond mae'n gwneud pwynt olaf pwysig iawn. Yn fy etholaeth fy hun yng Ngorllewin Caerdydd, mae tref o'r un maint â Chaerfyrddin yn cael ei hadeiladu yng ngogledd-orllewin Caerdydd. Roedd hynny'n cael...
Mark Drakeford: Yn gyntaf oll, mae prisiau tai yng Nghymru'n rhatach nag yn y rhan fwyaf o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, nid yn ddrytach fel yr ymddengys yr oedd Mr Giffard yn ei gredu. Mae nifer o resymau pam y mae rhwystrau newydd yn atal adeiladu nifer y tai y mae angen i ni eu gweld yma yng Nghymru, tai i'w rhentu'n gymdeithasol a thai sy'n cael eu hadeiladu ar gyfer gwerthu masnachol. Mae Brexit yn...
Mark Drakeford: Rydym wedi ymrwymo i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol, gan ddarparu'r lefelau uchaf erioed o gyllid i wneud hynny. Disgwylir y datganiad ystadegol cyntaf sy'n dangos cynnydd tuag at y targed hwn yn ddiweddarach eleni.
Mark Drakeford: Wrth gwrs, rwy'n cydnabod yn iawn y sefyllfa y mae Jane Dodds yn ei nodi. Mae bob amser wedi bod yn her i'r rhaglen Cartrefi Clyd ddod o hyd i ffyrdd effeithiol o insiwleiddio eiddo nad oes ganddyn nhw y nodweddion sydd gan y rhan fwyaf o eiddo lle gallwch chi roi deunydd insiwleiddio mewn waliau ceudod ac ati. Rydym yn ailwampio'r rhaglen Cartrefi Clyd, yn fuan byddwn yn chwilio am y rownd...
Mark Drakeford: Mae hwnna'n rhywbeth arbennig o dda i weld, a bydd hwnna'n help i'r bobl sy'n byw ym Mhowys yn ardal yr Aelod. Rydym ni'n fodlon, wrth gwrs, ystyried os oes mwy y gallwn ni ei wneud, ond rydym ni yn trial gwneud nifer o bethau'n barod.
Mark Drakeford: Mae cyfres gyfan o bethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu gwneud dros nifer o flynyddoedd i fuddsoddi mewn cynlluniau o'r fath ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys, wrth gwrs, y Gymru wledig. Bydd pobl sy'n byw yn etholaeth yr Aelod yn poeni llai am y pethau y mae wedi eu codi gyda fi heddiw nag am y cwestiwn a fydd ganddyn nhw lai i fyw arno y flwyddyn nesaf o ganlyniad i'r penderfyniadau y mae...
Mark Drakeford: Fe fyddan nhw'n rhoi £150 i'r holl breswylwyr sy'n byw mewn cartrefi sydd â chyflenwad tanwydd oddi ar y grid.
Mark Drakeford: I ddechrau, dwi'n cydnabod popeth mae'r Aelod wedi'i ddweud am y sefyllfa yn y gorllewin a faint mae pobl yn dibynnu ar y ffordd i gynhesu tai sydd ddim yn cael cymorth o gwbl nawr oddi wrth y Llywodraeth yn San Steffan. Mae nifer o bethau rŷn ni'n eu gwneud. Yn barod, rŷn ni wedi ymestyn y gronfa cymorth dewisol i roi mwy o help i bobl sy'n dibynnu ar brynu ynni yn y ffordd mae Cefin...
Mark Drakeford: Diolch i Cefin Campbell am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £1.6 biliwn eleni mewn cymorth wedi'i dargedu ar gyfer costau byw a rhaglenni cyffredinol i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl ac i helpu i leddfu'r argyfwng hwn. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, cymorth i'r rhai nad ydynt ar y grid nwy i brynu LPG neu olew mewn swmp.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae'n rhaid bod bron i ddegawd nawr ers i mi drafod gyda Gweinidogion Ceidwadol y DU am y tro cyntaf eu cynlluniau i weithredu'r adolygiad Dilnot. Ni ddigwyddodd hynny erioed. Aeth mwy o flynyddoedd heibio. Roedd yn ymddangos ein bod ni wedi cyrraedd pwynt o dan y Prif Weinidog diwethaf pryd yr oedd ardoll benodol i fod i gael ei chyflwyno er mwyn creu, fel yr oedd y Prif...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, nid yw Shelter yn galw am rewi rhent yng Nghymru, a'r rheswm nad ydyn nhw'n galw am rewi rhent yw eu bod yn cydnabod, rwy'n credu, y canlyniadau anfwriadol posibl i denantiaid pan fydd hynny'n digwydd. Rwy'n credu bod arweinydd Plaid Cymru newydd gyfaddef nad yw cynigion Llywodraeth yr Alban gyfystyr â rhewi rhent yn hollgynhwysfawr yn y modd yr adroddir amdano efallai. Ar 1...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, byddwn yn edrych yn ofalus ar y cynigion yn yr Alban, wrth gwrs. Rwyf wedi cael cyfle i edrych arnyn nhw'n frysiog y bore 'ma. Gadewch i ni fod yn glir ynglŷn â beth yw'r cynigion mewn gwirionedd. Maen nhw'n rhewi rhent ar gyfer tenantiaid sy'n rhentu'n gymdeithasol yn yr Alban. Mae hynny eisoes yn bodoli yma yng Nghymru. Mae'r rhenti hynny i gyd yn sefydlog ac ni fyddant yn...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, dyna i chi anallu'r wrthblaid. Gall arweinydd yr wrthblaid fynd ati wrth gwrs i bledio'i achos cyhyd ac mor uchel ag y mae'n ei ddymuno. Yn y cyfamser, mae'r byd wedi symud ymlaen. Mae ymchwiliad, ymchwiliad wedi ei gyfansoddi'n llawn, a sefydlwyd gan Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan pryd y bydd cleifion a theuluoedd yng Nghymru yn cymryd rhan lawn, pryd y bydd holl...