Neil McEvoy: Yr wythnos hon, unwaith eto, yng nghyngor Caerdydd, rydym wedi gweld cynghorydd yn ymddiswyddo. Rydym wedi— [Torri ar draws.] Wel efallai eich bod chi—. [Torri ar draws.] —
Neil McEvoy: Â phob parch, rwy’n codi mater pwysig iawn ynglŷn â gwleidyddion sy’n fenywod yn y ddinas hon yn cael eu bwlio. Byddaf yn datgan buddiant, gan fy mod yn gynghorydd yn yr awdurdod hwnnw. Dyma'r trydydd tro i mi godi’r mater hwn. Mae menyw arall eto wedi ymddiswyddo. Ceir penawdau ym mhapurau heddiw bod rhywun wedi ymweld â hi am 9.30pm, yn y nos, yn ei chartref, a bod llawer o...
Neil McEvoy: Brif Weinidog, yn Ewrop, mae 460,000 o bobl yn marw cyn pryd bob blwyddyn o lygredd aer. 6.5 miliwn yw’r ffigur yn fyd-eang. Yng Nghymru, mae miloedd yn marw bob blwyddyn, ac mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhestru Caerdydd fel un o'r ardaloedd gwaethaf o ran llygredd aer. Nawr, mae cynlluniau Llafur ar gyfer Caerdydd yn cynnwys rhoi 10,000 o geir ychwanegol ar y ffyrdd. Felly, sut mae hyn yn...
Neil McEvoy: Diolch. Rwyf wedi ildio unwaith. [Yn parhau.] —£30,000 ar bapurau newydd ac maent wedi gwario £60,000 ar gynhadledd o'r enw Dinasoedd Craidd. Mae'r penderfyniadau gwleidyddol hyn a gymerwyd gan eich cydweithwyr, gyda distawrwydd oddi wrthych chi, wedi cau fy nghanolfan ieuenctid i. Felly, rwyf wedi rhoi £90,000 i chi, y byddem wedi’i wario’n wahanol. Mae’r un egwyddor â'r hyn...
Neil McEvoy: Gwnaf.
Neil McEvoy: Wel, gallech yn hawdd fod wedi gofyn yr un peth i’ch cydweithiwr y Gweinidog cyllid, pan wnaeth dair swydd ar yr un pryd—Gweinidog, AC a hefyd darlithydd addysg bellach. Mae fy safbwynt i ar fy lwfans yn eithaf clir: y flwyddyn nesaf, bydd yn mynd i’m cymuned. Ond, i ddychwelyd at daflu i ffwrdd miliynau o bunnoedd—miliynau o bunnoedd—rwyf newydd dynnu eich sylw at ble rydych wedi...
Neil McEvoy: Rwy'n credu mai’r hyn yr ydym wedi ei wneud yma yw gwneud y gorau o'r gwaethaf, mewn gwirionedd. Gwyddom i gyd am y sefyllfa o San Steffan gyda'r toriadau yn dod o Lundain, ond rwy'n credu bod yn rhaid i bobl yma sylweddoli eich bod chi draw acw yn cael eich ethol i fod y Llywodraeth, ac mae angen i chi gymryd cyfrifoldeb. Yr hyn yr wyf i’n ei gael yn eironig, mewn gwirionedd, yw nad...
Neil McEvoy: Iawn. Diolch, Brif Weinidog. Wel, yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi ddisgrifio hyn fel lol; mae'n amlwg nad ydyw. Felly, yn gyntaf oll, a wnewch chi dderbyn eich bod chi’n anghywir yr wythnos diwethaf? Ac ail-ofynnaf y cwestiwn a ofynnais yr wythnos diwethaf: a wnewch chi gefnogi, yn y Siambr hon, achub safleoedd tir glas Caerdydd trwy bleidleisio i ddirymu'r CDLl?
Neil McEvoy: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Adran 68 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004? OAQ(5)0318(FM)
Neil McEvoy: Mae gan bobl fyddar yr hawl i gael mynediad at addysg. Lleisiodd etholwyr eu pryder wrthyf nad yw hyn yn digwydd fel y dylai ac nad yw rhai o’r staff yn gallu arwyddo ar lefel uwch na lefel 1 neu lefel 2. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymgysylltu â myfyrwyr Iaith Arwyddion Prydain sydd wedi pasio lefel 6 i’w hannog i weithio yn y sector addysg, fel y gallwn geisio gwella...
Neil McEvoy: A wnewch chi ildio, Weinidog?
Neil McEvoy: A allai'r Gweinidog egluro sut y mae ailgylchu yn cael ei rannu o safleoedd tirlenwi a sut y mae canran y defnydd i’w ailgylchu’n cael ei gyfrifo? Mae'n berthnasol iawn i'r ffigurau cyffredinol.
Neil McEvoy: Rwy'n chwilio am ddatganiad gan y Gweinidog dros lywodraeth leol ynglŷn â’r arolwg o’r holl gynghorwyr benywaidd a godais yr wythnos diwethaf. Roedd rhywun arall wedi ymddiswyddo ddoe, sef cynghorydd benywaidd arall o gyngor Caerdydd. Mae'r grŵp Llafur ar draws y ffordd bellach wedi colli mwy na thraean o'i aelodau benywaidd, a chysylltodd aelod o’r cyngor â mi heddiw i sôn am y...
Neil McEvoy: Diolch i chi. Diolch. Rwyf i wedi ymladd yn erbyn hiliaeth ar hyd fy oes. Nid wyf yn credu ei bod yn dderbyniol i’r Prif Weinidog ddefnyddio iaith mor anghyfrifol. O dan 13.9 (iv): roedd yn anghwrtais; 13.9 (v): roedd yn sarhaus i rywun, yn enwedig rhywun o’m cefndir i, ac y mae wedi dilorni urddas y Cynulliad hwn.
Neil McEvoy: Diolch i chi. Diolch.
Neil McEvoy: Diolch o galon, Lywydd. I'm raising a point of order under 13.9(iv) and 13.9(v). My background is Irish-English, and my grandfather arrived in Cardiff on a boat from the Yemen. The First Minister suggested that I was somehow anti-immigration, and he accused me of not liking incomers. I have dealt with racism all my life. I have fought racism all my life, and it’s not acceptable for our...
Neil McEvoy: A wnewch chi benodi bwrdd dros dro i symud pethau ymlaen ac a wnewch chi dderbyn pryderon yn ehangach, gan, efallai, sefydliadau sydd eisoes yn rhyngweithio â’r corff? Ac mae'n debyg mai fy mhrif gwestiwn yw: sut ydym ni wedi cyrraedd y pwynt hwn pryd yr ataliwyd y bwrdd yr wythnos diwethaf? Oni ddylai’r pethau hyn fod wedi eu datrys cyn cyrraedd y pwynt hwn?
Neil McEvoy: Brif Weinidog, swyddogaeth eich Llywodraeth yn CDLl Caerdydd yw’r bwriad i daflu miloedd o anheddau ar ein cefn gwlad. Bydd Plaid Cymru Caerdydd yn sicrhau bod cyngor Caerdydd yn pasio cynnig i fynnu bod y Cynulliad yn diddymu cynllun difa lleol Caerdydd. A wnewch chi gefnogi'r cynnig hwnnw i achub meysydd glas Caerdydd?
Neil McEvoy: Brif Weinidog, rwyf wedi cael etholwyr di-ri yn ysgrifennu ataf am ardrethi busnes—perchnogion busnesau bach, pobl sy’n rhedeg siopau annibynnol—ac maen nhw i gyd yn dweud wrthyf fod ardrethi busnes eich Llywodraeth yn bygwth eu busnesau, y gallent olygu y bydd yn rhaid iddyn nhw gau neu, yn sicr, diswyddo pobl. Pam ydych chi’n niweidio busnesau bach yn fy rhanbarth i?
Neil McEvoy: Pwynt o drefn.