Suzy Davies: Wel, rwy'n credu efallai eich bod newydd wneud un o'r pwyntiau ar fy rhan, Joyce, sef y pwynt a godwyd gan gyn-arweinydd Llafur cyngor gwahanol yn gynharach ynghylch rhai cynghorau sy'n gwneud penderfyniadau gwael ynglŷn â sut y maent yn cyllidebu, ac yn awr maent yn manteisio ar y cyfle i gosbi eu trigolion eu hunain drwy wneud hyn. Ond fy mhwynt cyffredinol oedd dweud bod pethau wedi bod...
Suzy Davies: Gwnaf.
Suzy Davies: Edrychwch, tybed os gallwn ddechrau gyda'r amlwg yma, sef nad oes unrhyw Lywodraeth yn hoffi torri cyllid awdurdodau lleol ac nid oes unrhyw gyngor yn hoffi codi'r dreth gyngor. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n llai amlwg, er gwaethaf rhai o'r honiadau a wnaed yn y Siambr hon, yw pam fod hyn yn digwydd a pham fod diwygio cyllid llywodraeth leol yn dasg mor anodd, pan allai hynny ddechrau, oherwydd...
Suzy Davies: Fe'm dychrynwyd pan glywais fod Abertawe, fel y clywsom, yn un o'r ardaloedd a ystyriwyd gan y cwmni hwn, ac fel sawl un arall, rwyf wedi cyfleu fy nheimladau ynglŷn â hynny yn glir yn yr ymgynghoriad. Fe ailadroddoch chi eto heddiw fod hwn yn fater i gymunedau lleol wneud penderfyniad yn ei gylch, ac rwy'n ddiolchgar am y cadarnhad a gawsom, ond a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud...
Suzy Davies: Wel, credaf y byddem oll yn awyddus i glywed am unrhyw ddatblygiadau mewn perthynas â morlyn llanw bae Abertawe—roedd hi'n wirioneddol ddiddorol clywed beth oedd gan Dai Lloyd i'w ddweud yno. Ond un o'r pethau sy'n parhau i fod yn anodd, wrth gwrs, yw cost yr ynni a gynhyrchir gan y morlyn—y darpar forlyn—sy'n ystyriaeth berthnasol ar adeg pan fo Tata Steel, er enghraifft, yn cystadlu...
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Rydym yn hoffi eich cadw chi ar flaenau'ch traed. [Chwerthin.] Ystyriodd y pwyllgor y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 18 Mawrth ac fe wnaethom ni hysbysu'r Cynulliad am un pwynt technegol a dau bwynt rhinwedd. Mae'r pwynt adrodd technegol yn ymwneud â rheoliad 2, sy'n diwygio rheoliad 1(4) Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003. Mae'r...
Suzy Davies: Diolch, Llywydd. Ystyriwyd y rheoliadau hyn yn rheoliadau negyddol arfaethedig gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 12 Chwefror, ac fe wnaethom ni argymell dyrchafu'r weithdrefn gadarnhaol oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol mor sylweddol, yn bennaf Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016. Rydym yn croesawu felly bod Llywodraeth Cymru...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Os caf i ddechrau gyda nodyn personol cyn imi siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Rwy'n falch o glywed y bu cydnabyddiaeth bod angen diffiniad manylach o'r gair 'gofal'. Mae hynny'n sylw sydd wedi ei wneud yn y Siambr hon yng nghyd-destun gofal plant, ac rwy'n pendroni, os yw hynny o fewn eich cylch gwaith, a oes angen efallai rhoi...
Suzy Davies: Prif Weinidog, er bod y rhaglen groeso yn darparu peth hyfforddiant gwasanaethau cwsmeriaid, mae busnesau twristiaeth Cymru nawr yn dweud wrthyf fod ar Gymru angen rhywbeth mwy na hynny, sy'n crynhoi'r hyn y mae Cymru yn ei gynnig ac yn cael ei gydnabod a'i dderbyn gan y diwydiant twristiaeth ei hun. Byddai'n gwella, nid yn unig ansawdd yr hyn a gynigir, ond hefyd yn hyrwyddo'r economi...
Suzy Davies: A gaf fi ddiolch i Lynne Neagle a fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor yn ogystal â staff y pwyllgor, a'r Gweinidog wrth gwrs, am eu rhan yn yr ymchwiliad hwn? Rwy'n gobeithio bod yr Aelodau'n teimlo bod yr adroddiad yn ddiddorol. Ni chawsom gyfle i glywed gan y Gweinidog addysg ynglŷn â pharodrwydd yr adran ar gyfer Brexit yn y sesiwn faith a gawsom yn weddol ddiweddar, felly mae hwn yn gyfle i...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn, Russell. Soniasoch am 5G yno. Wrth gwrs, dyna dechnoleg arall sy'n cynnwys lefel o faes electromagnetig. Yn amlwg, ceir canllawiau sy'n bodoli eisoes ar bobl sy'n sensitif i hyn, i gyfyngu ar eu cysylltiad ag ef, ond wrth i'r Llywodraeth edrych ar gyflwyno 5G—a chytunaf yn llwyr â manteision hyn—tybed a roddir ystyriaeth i gwestiynau iechyd posibl yn rhan o'r broses...
Suzy Davies: Iawn, o'r gorau.
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn i chi am yr ateb hwnnw. Rwy'n siŵr y byddwch yn cofio, mae bron i ddwy flynedd bellach ers y cyhoeddiad gwreiddiol, a byddwch yn cofio bod Aelodau eraill, gan gynnwys Mike Hedges a minnau, wedi codi nifer o weithiau yn y Siambr hon i ddweud pa mor anodd yw hi wedi bod i ni, fel Aelodau Cynulliad—yr Aelodau Cynulliad perthnasol, sydd â buddiant yn hyn—i sicrhau unrhyw...
Suzy Davies: Diolch yn fawr am y sylw olaf hwnnw, oherwydd un o'r cwestiynau roeddwn am eu gofyn, wrth gwrs, oedd bod hyn yn wahanol i Tesco neu Virgin—mae hwn yn gwmni y mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi ynddo, ac felly, drwy alluogi Dawnus i fodoli am ddwy neu dair blynedd arall, rhaid gofyn a ydych wedi caniatáu iddynt ymrwymo i rai cytundebau, yn sgil y ffaith bod y cwmni wedi'i ganiatáu i...
Suzy Davies: Hoffwn ddod at hyn o'r ochr arall, os caf, oherwydd, ar hyn o bryd wrth gwrs, gall athro neu athrawes wedi cymhwyso sy'n dod o'r Undeb Ewropeaidd weithio yma heb fod angen unrhyw hyfforddiant pellach, ond yn y bôn, mae angen i athrawon sydd wedi cymhwyso o rannau eraill o'r byd ailhyfforddi. Pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, mae yna gwestiwn gwirioneddol yn codi wedyn ynglŷn ag a...
Suzy Davies: Soniasoch yn gynharach, Ddirprwy Weinidog, beth yw rôl y Llywodraeth yn hyn, ac efallai mai un rôl yw rhoi sicrwydd. Rwyf wedi siarad â darparwyr rhyngrwyd am gysylltedd 5G yn yr ychydig fisoedd diwethaf yng nghyd-destun bargen ddinesig bae Abertawe, ac maent yn gwneud y pwynt fod y sector preifat a'r sector cyhoeddus angen creu galw am 5G, megis dulliau o ddefnyddio deallusrwydd...
Suzy Davies: 2. A wnaiff y Gweinidog ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am fargen ddinesig bae Abertawe, yn dilyn cyhoeddi adolygiad annibynnol bargen ddinesig bae Abertawe? 290
Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fargeinion dinesig yng Ngorllewin De Cymru?
Suzy Davies: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, yn enwedig os nad ydyn nhw'n cael eu codi yn y cwestiynau amserol yfory? Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r sefyllfa gyda chwmni adeiladu Dawnus, ac er fy mod i'n diolch i Lywodraeth Cymru am y datganiad ysgrifenedig byr a dderbyniwyd ddiwedd yr wythnos diwethaf, rwy'n credu y byddai'n werthfawr iawn i'r Aelodau gael y cyfle i ofyn cwestiynau,...
Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddefnyddio contractau adeiladu yn y sector cyhoeddus yng Nghymru?