Mark Isherwood: 1. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi i fyrddau iechyd lleol ar atal achosion o COVID-19 mewn ysbytai? OQ55951
Mark Isherwood: Wrth gwrs, yn Lloegr, nid yw'r cynigion ar gyfer tafarndai a lletygarwch yr un fath â gwaharddiad llwyr. Mae'n ddull haenog sy'n seiliedig ar ystyriaethau pragmatig a thystiolaeth go iawn. Yn nodweddiadol ymhlith y dilyw o negeseuon yr wyf wedi'u derbyn ers eich cyhoeddiad mae, a dyfynnaf, 'Rwy'n gwerthfawrogi bod hyn yn risg ddifrifol i bobl sâl neu agored i niwed, ond mae'r mesurau a...
Mark Isherwood: Rwy'n edrych ymlaen at siarad a gwrando ar ddiwrnod ymgysylltu gwleidyddol pobl ifanc anabl Leonard Cheshire a lansiad Anabledd Cymru o faniffesto pobl anabl ddydd Iau. Mae gan bob awdurdod cyhoeddus ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb y DU 2010 i sicrhau eu bod nhw'n ateb anghenion pobl anabl ac yn cynnwys pobl anabl mewn ffordd weithredol wrth gynllunio a darparu eu gwasanaethau. Mae...
Mark Isherwood: Diolch. Wel, nododd dogfen ymchwil Cyngor ar Bopeth Cymru, 'Facing the cliff edge: Protecting people in Wales from the financial consequences of Covid-19', ym mis Mai bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol o ran annog pobl i wirio pa fudd-daliadau neu gymorth y mae ganddyn nhw hawl iddynt...Dylai hyn gynnwys cynlluniau budd-daliadau a chymorth a weinyddir yng Nghymru, fel Cynllun...
Mark Isherwood: 2. Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith tlodi sy'n gysylltiedig â'r coronafeirws yng Nghymru? OQ55952
Mark Isherwood: Er fy mod yn derbyn nifer fawr o negeseuon e-bost ynglŷn ag oedi sy'n gysylltiedig â COVID yn GIG Cymru, mae pob un ohonynt yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn disgrifio'r cynnydd yn nifer y cleifion sy'n aros am bob triniaeth yn GIG Cymru o'i gymharu â mis Medi 2019 fel tuedd a welwyd ym mhob rhan o'r DU. Mae hyn...
Mark Isherwood: Gwnaeth argraff fawr arnaf hefyd pan ymwelais â'r ysgol honno fy hun. Mae'n esiampl y mae angen i eraill ei dilyn, oherwydd mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, ADHD, yn gallu cuddio mewn amgylchedd addysg. Nid yw ADHD, neu gyflyrau cysylltiedig eraill, yn deillio o ganlyniad i faterion amgylcheddol na rhianta gwael. Sut felly rydych yn ymateb i etholwyr yn Sir y Fflint sydd...
Mark Isherwood: Ni allaf ond canmol y staff meddygol arwrol, sy'n gweithio'n galed yn ein hysbytai yn y gogledd. Mae'r pryderon mewn mannau eraill. Ym mis Ionawr, ysgrifennodd cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru atoch, gan atodi'r adolygiad annibynnol o therapïau seicolegol yn y gogledd, a ddisgrifiodd sut roedd y gwasanaeth yn methu mewn sawl ardal, a dweud, ar ôl bron i bum mlynedd yn destun mesurau...
Mark Isherwood: Rwy'n galw am ddatganiad brys ar gefnogaeth i fusnesau gwely a brecwast bach. Pan ofynnais i chi am ddatganiad ar hyn chwe wythnos yn ôl, dywedais fod Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi'u heithrio rhag cymorth ariannol i'w helpu i oroesi'r pandemig, y tro hwn wedi eu gwahardd o drydedd rownd y gronfa cadernid economaidd. Fe'u barnwyd hefyd yn anghymwys mewn camau blaenorol ac fe wrthodwyd...
Mark Isherwood: Corfforaetholdeb yw'r ddamcaniaeth a'r ymarfer o drefnu cymdeithas yn gorfforaethau sy'n ddarostyngedig i'r wladwriaeth. Y dull hwn sydd wedi bod yn dal Cymru yn ôl ers 1999, gan dagu lleoliaeth a thrwy hynny lyffetheirio entrepreneuriaeth gymdeithasol ac arloesi cymunedol. Mae'r Bil hwn a allai fod wedi sbarduno'r newidiadau angenrheidiol wedi dod, yn lle hynny, yn gyfle a gollwyd. Mewn...
Mark Isherwood: Gobeithio bod hynny'n golygu—
Mark Isherwood: A ydych chi'n gallu clywed?
Mark Isherwood: Diolch. Wel, gobeithio bod hynny'n golygu y byddwch hefyd yn ymgysylltu â hwy ar gyflawni a monitro. Crisis wnaeth gyhoeddi'r adroddiad y cyfeirioch chi ato, ond maent hefyd wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol i Gymru. Maent yn amcangyfrif, ar unrhyw noson benodol, fod tua 5,200 o aelwydydd yng Nghymru yn profi rhyw fath o ddigartrefedd yn 2017, a bod yr angen am dai ar gyfer pobl â...
Mark Isherwood: Iawn, wel, rwy'n gobeithio y gallwch glywed yn well ac rwy'n gobeithio bod yr ateb hwnnw'n golygu y byddwch yn eu cynnwys hwy a chymunedau nid yn unig yn y broses gynllunio, ond yn y gwaith o gyflawni a monitro, ac fel y gwyddoch, rwyf wedi cyfeirio nifer o achosion atoch yn ddiweddar, ond roeddech yn teimlo na allai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn briodol. Fel y clywsom, adroddodd BBC Wales yr...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Rwy'n cytuno—nid oes dadl wleidyddol ymysg y pleidiau mawr ynglŷn â'r mater hwn. Mae adroddiad diweddar yr Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau, 'Building Stronger Welsh Communities: opportunities and barriers to community action in Wales' yn ymwneud â harneisio cryfderau a sgiliau pobl leol fel y gallant adeiladu'r seilwaith cymdeithasol a llunio'r gwasanaethau y maent eu...
Mark Isherwood: Bu’n rhaid cynnal ymchwiliad i raglen Arbed Llywodraeth Cymru, neu’r cynllun tlodi tanwydd ar sail ardal, ar ôl iddo fynd o chwith i drigolion Arfon, wrth i’w cartrefi gael eu difrodi gan eu gadael yn ddiolwg ac angen eu hatgyweirio. Y mis diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi comisiynu Miller Research i werthuso rhaglen Arbed er mwyn deall sut y câi ei rheoli a’i...
Mark Isherwood: Diolch, Llywydd. Bu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, a Gweinidog Busnes a Diwydiant y DU, Nadhim Zahawi, mewn cyfarfod â Tata Steel yn gynnar ddydd Gwener diwethaf, cyn cyhoeddiad y cwmni am ei weithrediadau masnachol ar gyfandir Ewrop. Fe gytunwyd y byddai Llywodraeth y DU a Tata Steel yn parhau i gydweithio i ddiogelu dyfodol cynhyrchiant cynaliadwy i ddur o ansawdd uchel yn y DU....
Mark Isherwood: Eleni, rhaid i ni hefyd ddiolch i'n lluoedd arfog am y cyfraniad sylweddol y maent wedi'i wneud ar adegau o heddwch i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol y GIG yn dal i redeg a bod cyflenwadau'n cael eu dosbarthu i'n gwasanaethau rheng flaen pwysig yn ystod pandemig COVID-19. Fel y dywed y cynnig trawsbleidiol hwn, mae Senedd Cymru yn mynegi ei diolch am gyfraniad sylweddol y lluoedd arfog i'r...
Mark Isherwood: Eleni mae'n 80 mlynedd ers Dunkirk a brwydr Prydain a 75 mlynedd ers Diwrnod VE a Diwrnod VJ. Mae hefyd yn 60 mlynedd ers i argyfwng Malaya ddod i ben; 38 mlynedd ers rhyfel y Falklands; 30 mlynedd ers i'n lluoedd arfog gael eu hanfon i'r Gwlff yn dilyn yr ymosodiad ar Kuwait; a 25 mlynedd ers i gam cyntaf gweithrediadau'r DU i gynnal yr heddwch yn yr hen Iwgoslafia ddod i ben. Yn ystod y...
Mark Isherwood: Diolch. Y bore yma, ar yr unfed awr ar ddeg o unfed diwrnod ar ddeg yr unfed mis ar ddeg, roeddem yn cofio aberth y rhai a wasanaethodd yn y lluoedd arfog, a'r rhai yn y boblogaeth sifil a gollodd eu bywydau neu y newidiwyd eu bywydau'n barhaol gan ryfeloedd ers 1914. Mae'r cynnig trawsbleidiol hwn yn cynnig ein bod yn cofio ac yn anrhydeddu pawb sydd wedi colli eu bywydau ac wedi aberthu...