Rhianon Passmore: 8. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr eiddo sydd wedi elwa ar brosiect Cyflymu Cymru yn Islwyn? OAQ51803
Rhianon Passmore: Diolch. Arweinydd y tŷ, cynigiodd David Lidington, Gweinidog Llywodraeth Dorïaidd y DU dros Swyddfa'r Cabinet, wrth siarad yn Airbus yn y gogledd, ailysgrifennu'r Bil Brexit blaenllaw honedig i fynd i'r afael â phryderon y gweinyddiaethau datganoledig yng Nghymru a'r Alban. Mewn ymateb, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud bod y Bil ymadael o'r UE, fel y mae wedi ei ddrafftio ar hyn o bryd,...
Rhianon Passmore: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am asesiad Llywodraeth Cymru o effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar Islwyn? OAQ51805
Rhianon Passmore: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi dyraniad o £73 miliwn ychwanegol i raglen addysg ysgolion yr unfed ganrif ar hugain. Mae hyn yn cynyddu'r cyfanswm a fuddsoddwyd i £3.8 biliwn. Prif Weinidog, fel y gwelsoch chi eich hun pan wnaethoch agor Ysgol Uwchradd Islwyn yn swyddogol, mae seilwaith ysgolion Cymru yn cael ei ail-lunio a'i ailadeiladu i wasanaethu cenedlaethau'r...
Rhianon Passmore: 8. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella cyfleusterau addysgol yn Islwyn? OAQ51782
Rhianon Passmore: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Roedd adroddiad annibynnol a ryddhawyd yr wythnos diwethaf i werthuso prosiect atgyfnerthu rheilffyrdd y Cymoedd yn nodi—ac roedd yn brosiect arloesol—ei fod wedi gwella ansawdd aer, ei fod wedi sicrhau cynnydd o 19 y cant yn y capasiti ar rwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd, a hefyd ei fod wedi cynhyrchu tystiolaeth o...
Rhianon Passmore: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth yn Islwyn? OAQ51703
Rhianon Passmore: Diolch. Prif Weinidog, ar 15 Ionawr, cytunodd cabinet prifddinas-ranbarth Caerdydd yn unfrydol i gefnogi, mewn egwyddor, ailddatblygiad £180 miliwn prif ganolfan drafnidiaeth prifddinas Cymru, gyda £40 miliwn o gyllid bargen dinas. Nod yr arian o gronfa fuddsoddi'r fargen dinas fydd cynorthwyo i sicrhau arian cyfatebol gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn ogystal â'r sector...
Rhianon Passmore: 7. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i gynyddu allbwn economaidd ar gyfer cymunedau Islwyn? OAQ51685
Rhianon Passmore: Diolch. Prif Weinidog, yn dilyn cyllideb wag Llywodraeth Dorïaidd y DU ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn is unwaith eto, mewn termau real, yn 2019-20 nag yr oedd yn 2010-11. Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi mynegi dro ar ôl tro, er mwyn i economi Cymru dyfu, a fydd o ganlyniad yn gwella diogelwch ariannol i bobl Cymru, ei bod hi'n hanfodol bwysig bod...
Rhianon Passmore: Diolch, Dirprwy Lywydd. A minnau'n Aelod Cynulliad Islwyn, un o'r ardaloedd allweddol a gwmpesir gan y tasglu gweinidogol ar gyfer Cymoedd y de, a gaf i ddweud ar goedd fy mod i'n gwbl gefnogol i'r ffordd ragweithiol yr aeth Llywodraeth Lafur Cymru ati i gefnogi datblygiad economaidd cymunedau yn Islwyn a thu hwnt? Mae'n briodol bod Llywodraeth Lafur yn gwneud hyn. Mae fy etholwyr yn awyddus...
Rhianon Passmore: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymunedau lleol yn Islwyn drwy brosiectau buddsoddi cyfalaf?
Rhianon Passmore: Diolch, Lywydd. Nawr, fe ddymunoch chi Nadolig llawen i mi ddoe, a hoffwn ddymuno'n dda i chi ac i'ch teulu heddiw. Nadolig llawen i chi i gyd. Ysgrifennydd y Cabinet, wrth annerch Confensiwn Cyflogadwyedd a Sgiliau Cymru y Sefydliad Dysgu a Gwaith yr wythnos diwethaf, dywedodd Gweinidog newydd y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, nad yw cyflogadwyedd yn ymwneud â swyddi a sgiliau...
Rhianon Passmore: Diolch. Er hynny, mae'n amlwg, hoffwn groesawu'r ddogfen arbennig o bwysig ac arloesol hon, a hefyd yr arloesi o ran y contractau economaidd newydd. Mae fy nghwestiwn i mewn gwirionedd yn ymwneud â'r posibiliadau ar gyfer cymunedau Islwyn o ran twristiaeth. Tybed sut mae Ysgrifennydd y Cabinet yn rhagweld dyfodol y daith hyfryd mewn car trwy goedwig Cwmcarn—mae hon yn ardal drawiadol o...
Rhianon Passmore: Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y gwasanaeth o Lynebwy i Gaerdydd yn cael ei ddyblu o un trên yr awr i ddau. A all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf—
Rhianon Passmore: Gallaf geisio ei gysylltu, Llywydd.
Rhianon Passmore: Ydych chi eisiau i mi barhau?
Rhianon Passmore: Diolch. A all y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl Islwyn ar hynt y gwaith sy'n cael ei wneud gan Network Rail a phryd y disgwylir i'r gwaith sydd wedi ei drefnu gael ei gwblhau? [Chwerthin.]
Rhianon Passmore: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rhianon Passmore: Diolch. A fyddech yn cydnabod mai'r rheswm pam y cafodd y credyd cynhwysol ei dreialu ledled y DU yw oherwydd maint y problemau sydd ynghlwm wrtho? A fyddech yn cydnabod hefyd y byddai'n ergyd ddwbl i hawlwyr yng Nghymru pe na baem yn cael y swm o arian y byddai ei angen i ariannu hyn yn briodol? Dyna'r pryder; yr hawlwyr sy'n ganolog i hyn.