Vikki Howells: Yn gynharach eleni, roeddem yn coffáu canmlwyddiant Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Derbyniodd mwy na 5 miliwn o ddynion dosbarth gweithiol yn bennaf y bleidlais a daeth bron 8.5 miliwn o fenywod yn bleidleiswyr hefyd. Ond ni chafodd y menywod hyn yr etholfraint ar sail gyfartal. Yn hytrach, o dan y Ddeddf honno, roedd yn rhaid i bleidleiswyr newydd a oedd yn fenywod fod dros 30 oed. Roedd...
Vikki Howells: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn dilyn eich datganiad ysgrifenedig heddiw, hoffwn bwysleisio bod fy etholaeth i, fel sawl un ledled Cymru, wedi'i chreithio gan gyfres o danau dinistriol dros y dyddiau diwethaf. Mae'r digwyddiadau wedi cynnwys tân mewn coedwig ger Llwydcoed, a ddisgrifiwyd fel tân cannoedd o fetrau o led, tân mynydd Maerdy a gwaith haearn Hirwaun. Yn gyntaf,...
Vikki Howells: 2. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr achosion diweddar o danau gwair sydd wedi effeithio ar gymunedau ledled Cymru? 196
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog, a byddwn i'n cytuno'n llwyr â hynny. Ymwelais yn ddiweddar â Chylch Meithrin Seren Fach yn Aberpennar yn fy etholaeth i, sy'n ddarparwr gofal plant cofrestredig. Fe'u cynorthwyir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru ac maen nhw wedi sicrhau canlyniadau gwirioneddol gadarnhaol yn eu harolygiadau Estyn ac Arolygiaeth Gofal Cymru diweddar. Gan ein bod ni ym Mhythefnos y...
Vikki Howells: 7. Sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r sector cydweithredol a chydfuddiannol i wella canlyniadau ar gyfer plant a phobl ifanc? OAQ52461
Vikki Howells: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o rôl egwyddorion cydweithredol o fewn y system addysg yng Nghymru?
Vikki Howells: Gyda marwolaeth Frank Vickery ddoe yn 67 oed ar ôl salwch byr, mae Cymru nid yn unig wedi colli un o'i dramodwyr mwyaf toreithiog, ond rydym hefyd wedi colli un o'r sylwebwyr mwyaf craff ar gymeriadau, hiwmor a ffraethineb Cymoedd de Cymru. Yn fab i löwr yn y Rhondda, gadawodd Frank yr ysgol yn 15 oed. Bu'n gweithio mewn swyddi amrywiol tra'n actio ac ysgrifennu yn ei amser sbâr....
Vikki Howells: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn ei chael ar gyllid cyhoeddus yng Nghymru?
Vikki Howells: Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet; mae llawer i'w groesawu yn eich datganiad pwysig iawn heddiw. Yn gyntaf, hoffwn gael rhywfaint o eglurhad ynglŷn â sawl peth. O ran y posibilrwydd o gyflwyno cyfraith Lucy i wahardd gwerthu cŵn bach drwy drydydd parti, croesawaf eich sylwadau ynghylch trafod posibiliadau gyda swyddogion. Gwyddom ar sail lles fod cydnabyddiaeth gynyddol ei fod yn gam...
Vikki Howells: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n croesawu'r sylwadau hynny ar agwedd rheilffordd y metro, ond mae'n bwysig nodi, bod y prosiect metro, o'r dechrau, wedi ei hyrwyddo fel ateb trafnidiaeth integredig. Mae daearyddiaeth y Cymoedd yn golygu mai ein cymunedau tlotaf yn aml sydd bellaf oddi wrth y cysylltiadau trên ar lawr y dyffryn. Felly, er mwyn iddyn nhw elwa ar well mynediad at y farchnad...
Vikki Howells: 4. Sut y bydd metro de Cymru yn gwella mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghwm Cynon? OAQ52384
Vikki Howells: Wel, mae gan hyrwyddwyr gofalwyr rôl fwy anffurfiol yn cefnogi pobl ifanc ac wrth gwrs, mae yna wasanaethau eraill yn rhan o hyn, megis gwasanaethau cymdeithasol. Felly, mae hwn yn fath o ymateb sylfaenol ar lawr gwlad sy'n darparu'r cymorth a'r gofal o ddydd i ddydd hwnnw. Yn fy etholaeth fy hun, rwy'n ffodus o gael prosiect gofalwyr ifanc cryf iawn. Mae prosiect gofalwyr ifanc Gweithredu...
Vikki Howells: Fel llawer o gyd-Aelodau yma heddiw, rwyf finnau hefyd wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i gefnogi a hyrwyddo gwaith gofalwyr yn ystod Wythnos y Gofalwyr 2018. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Fel y dywedwyd, mae yna 370,000 o ofalwyr yng Nghymru, sef 12 y cant o'r boblogaeth, a'r gyfran uchaf yn unrhyw ran o'r DU. Rydym yn gwybod bod gofalwyr sy'n darparu...
Vikki Howells: Diolch. Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich cyhoeddiad pwysig iawn heddiw. Rwy'n falch eich bod chi wedi gallu gweld enghreifftiau mor dda o arfer gorau mewn dau leoliad yng Nghwm Cynon, a gobeithio y byddan nhw'n gwella eich gallu i gymryd hynny a'i gyflwyno mewn mannau eraill. Dau gwestiwn cyflym, felly. Yn gyntaf, a gaf i groesawu'r gydnabyddiaeth yn y cynllun o'r gwaith a...
Vikki Howells: Diolch, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i—.
Vikki Howells: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau effaith tlodi ar fywydau dinasyddion?
Vikki Howells: Diolch, Lywydd. Ar ddechrau mis Mehefin, daeth cystadleuwyr o bob cwr o'r byd at ei gilydd yn ninas Guimarães ym Mhortiwgal. Roeddent yno i gystadlu ym mhymthegfed Pencampwriaeth Gymnasteg Aerobig y Byd. Yn ystod y pencampwriaethau grŵp oedran blaenorol, roedd cystadleuwyr tîm Prydain yn cynnwys Seren Jones, merch 11 oed o Aberdâr. Roedd y gymnastwraig ifanc dalentog hon yn rhan o dîm a...
Vikki Howells: Diolch i chi, Gwnsler Cyffredinol. Fel y gwyddoch, ar hyn o bryd, mae'r Goron wedi'i heithrio'n awtomatig o dan ddeddfau a basiwyd yn y lle hwn oni bai bod y ddarpariaeth yn cael ei chynnwys yn benodol. Yn y Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft mae yna gynnig i wrthdroi hyn fel y bydd y Goron a'i holl eiddo yn ddarostyngedig i gyfraith Cymru yn awtomatig. A allwch chi esbonio'r rhesymeg dros y...
Vikki Howells: 4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o sut y mae cyfreithiau yng Nghymru yn gymwys i'r Goron? OAQ52282
Vikki Howells: A wnaiff Llywodraeth Cymru amlinellu sut y mae'n bwriadu cynyddu nifer y twristiaid sy'n ymweld â chymoedd de Cymru?