Rhun ap Iorwerth: Mae o'n bryder mewn llawer rhan o Gymru ac i lawer o fudiadau bod y sector fancio i'w gweld yn troi eu cefnau ar fudiadau cymunedol. Rydyn ni'n gwybod bod HSBC yn mynd i ddechrau codi ffi am gyfrifon cymunedol. Mae o'n rhywbeth y mae sawl un wedi cysylltu efo fi ynglŷn ag o—Merched y Wawr, er enghraifft, ac eisteddfodau lleol. Dwi'n annog pawb i arwyddo deiseb gan yr Aelod o'r Senedd a'r...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr. Mae hon yn drafodaeth ddiddorol, cyfle cyntaf i sgrwtineiddio cynllun y gaeaf. Yn anffodus, does gennym ni ddim cynllun gaeaf i'w sgrwtineiddio eto. Dwi'n gwerthfawrogi'r briefing byr gawson ni yn gynharach heddiw fel aelodau o'r pwyllgor iechyd ar rai o'r egwyddorion sydd y tu ôl i'r cynllun a gawn ni ddydd Iau. Dwi'n gwerthfawrogi cael rhyw ragflas gan y Gweinidog heddiw am...
Rhun ap Iorwerth: Diolch. Wn i ddim a weloch chi o, ond yr wythnos diwethaf, mi wnaeth gweinyddiaeth dramor Llywodraeth Iwerddon gyhoeddi map yn dathlu agor croesiad rhif 44 yn uniongyrchol o Iwerddon i gyfandir Ewrop. Yn gyntaf, buaswn i'n licio cadarnhad bod Llywodraeth Cymru yn pwyso'n drwm ar Lywodraeth Iwerddon i gofio pwysigrwydd ac i hybu croesiadau uniongyrchol o Iwerddon i Gymru. Ond y prysuraf o'r...
Rhun ap Iorwerth: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol porthladd Caergybi? OQ57079
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod hon wedi bod yn drafodaeth wirioneddol werthfawr, ac a gaf fi ddiolch yn gyntaf oll i'r Gweinidog am ei eiriau, pan ddywedodd ei fod yn dod yn agos at sefydlu, gobeithio, corff a fydd yn annog ac yn hyrwyddo ynni cyhoeddus yng Nghymru? Mae hynny'n swnio i mi fel pe bai ymgyrch hirfaith Plaid Cymru i sefydlu ynni Cymru, corff ynni i Gymru, wedi dwyn...
Rhun ap Iorwerth: 'Rydym yn cefnogi'r cysyniad y dylid deddfu ar gyfer swm safonol o fudd cymunedol am bob megawat neu fegawat awr a gynhyrchir o brosiectau sy'n mynd yn eu blaenau.'
Rhun ap Iorwerth: Mi fyddai hynny, dwi'n meddwl, yn gam pwysig ymlaen. Ond mi all budd ddod mewn ffyrdd eraill hefyd. Mi all o olygu addewidion go iawn am swyddi—bwrlwm economaidd o'r math yna—cryfhau cadwyni cyflenwi; biliau ynni rhatach, neu, o bosib, yn fwy gwerthfawr yn amgylcheddol, fuddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni o fewn y cymunedau hynny; rhwydweithiau gwefru cerbydau trydan; batris cartref neu...
Rhun ap Iorwerth: 'Mae darparu budd cymunedol o ddatblygu ynni adnewyddadwy yn digwydd yn wirfoddol ar hyn o bryd.'
Rhun ap Iorwerth: A dyna un o'r problemau. Mi wnes i gyflwyno cynnig am ddeddfwriaeth newydd i'r Senedd yn ddiweddar, ar ôl i dîm deddfwriaethol y Senedd gadarnhau y byddai angen deddfwriaeth sylfaenol i fynnu asesiad o fudd cymunedol o'r math yma. Ches i ddim fy nhynnu o'r balot, ond mae'r ddadl yn sicr yn dal yn fyw gen i. Yn y cyd-destun hwnnw, dwi'n croesawu datganiad RWE heddiw:
Rhun ap Iorwerth: Dwi'n gofyn i'r Senedd yma gydsynio efo'r gosodiad yn ail gymal y cynnig, sef ein bod ni'n cytuno bod angen sicrhau bod pob datblygiad ynni yn dod â budd i'r cymunedau lle maen nhw wedi'u lleoli, ac mae hyn mor bwysig, dwi'n credu. Mae gennym ni fel gwlad gymaint i'w gynnig o ran datblygiadau ynni; mi allen ni fod yn cyflenwi nid yn unig ein hanghenion ein hunain mewn ynni glân, mewn ynni...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a dwi'n ddiolchgar i'r Pwyllgor Busnes yn gyntaf am roi'r cyfle imi gael rhoi'r cynnig yma o flaen y Senedd heddiw, a dwi'n ddiolchgar hefyd i'r Aelodau sydd wedi cefnogi'r cynnig sydd o'n blaenau ni. Mae'n ddadl amserol iawn, dwi'n credu. Dyma ni ar drothwy cynhadledd y COP26 yn Glasgow. Nes ymlaen y prynhawn yma, mi fydd Plaid Cymru yn arwain dadl ar y...
Rhun ap Iorwerth: —mae gweld y feirws yn mynd yn rhemp yn ysgolion Cymru ar hyn o bryd, a chlywed gan y rhieni sydd wedi ofni a gan yr athrawon sy'n ofni lefelau parhaus y feirws ymhlith pobl ifanc a phlant yn arbennig yn rhywbeth y mae angen gwirioneddol i ni barhau i ganolbwyntio arno?
Rhun ap Iorwerth: Mae heddiw'n ddiwrnod eithaf sobreiddiol, onid yw, gyda chyhoeddi'r adroddiad hwnnw gan Aelodau Senedd y DU yn dweud mai ymateb Llywodraeth y DU i'r pandemig oedd un o'r methiannau iechyd cyhoeddus 'gwaethaf erioed'. Mae'r rheini yn eiriau eithaf cryf. Prin fod cyfeiriad at Gymru yn yr adroddiad hwnnw—byddaf i'n dychwelyd at hynny mewn eiliad—ond mae llawer o'r cwestiynau ynghylch yr...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mi wnaf i, os caf i, anfon fy nymuniadau gorau i Andrew R.T. Davies. Dwi eisiau gyrru dymuniadau gorau i bawb, wrth gwrs, sydd yn wynebu heriau tebyg lle bynnag y bôn nhw. Wrth gwrs, y gwir amdani ydy ein bod ni mewn sefyllfa freintiedig i allu gwneud llawer mwy na dymuno'n dda i bobl mewn geiriau. Mae Llywodraeth yn gallu gweithredu, rydym ni i gyd yn gallu...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, a diolch am gyfraniadau'r Aelodau ac ymateb y Gweinidog. Rydyn ni wedi clywed cyfeiriad at broblemau cyfarwydd iawn i bob un ohonom ni yma yn y Senedd, ac wedi clywed llawer o syniadau ar draws y pleidiau, a bod yn deg, ar gyfer yr ymateb y gellid ei roi mewn lle. O ran y Gweinidog, dwi ddim yn meddwl y byddem ni'n disgwyl mwy, ychydig ddyddiau, neu lai na phythefnos, cyn...
Rhun ap Iorwerth: Mae hon yn ddadl sydd wedi cael ei hysgogi gan dreigl amser, treigl amser efo problemau yn dwysáu o fewn ein gwasanaethau iechyd a gofal ni. Y gaeaf yn nesáu, yn wir y teimlad bod pwysau'r gaeaf yma yn barod, ac eto ein bod ni heb weld cynllun gan y Llywodraeth ar gyfer y gaeaf eleni. Fe lwyddon nhw i'w gyhoeddi fo yn amserol iawn erbyn canol Medi y llynedd a hynny wedi'r misoedd hynod,...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Rhun ap Iorwerth: Wrth gwrs.
Rhun ap Iorwerth: Ond eich dadl chi yw lladd ar Gymru a lladd ar ddatganoli, felly ni allwn fod o ddifrif yn ei chylch yn y cyd-destun hwn. Dywedodd y Gweinidog wrthym y dylai Plaid Cymru flaenoriaethu. Y fraint o fod yn Llywodraeth yw'r gallu i gyllidebu i flaenoriaethu, onid e? Ac yn sicr, mae'n rhaid i fuddsoddi yn ein hased mwyaf gwerthfawr, ein gweithlu iechyd a gofal, fod yn flaenoriaeth go iawn....