Jeremy Miles: Rwy'n gwneud y cynnig.
Jeremy Miles: Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn yna. Rwy’n credu ei bod yn bwysig dweud fod yr uchelgeisiau sydd gennym ni yn ein cynllun yn uchelgeisiau sy'n berthnasol i bob ysgol yng Nghymru. Bydd pob ysgol yng Nghymru yn byw mewn cymuned wahanol, a bydd cyfansoddiad demograffig ac ethnig y gymuned honno yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru. Ond, rydym ni am i bob plentyn yng Nghymru allu elwa...
Jeremy Miles: Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny, ac rwy'n cytuno â llawer o'r pethau mae hi wedi gofyn amdanyn nhw yn ei chwestiynau. Mi wnaeth hi gychwyn drwy sôn am brofiadau dysgwyr sydd wedi cael profiadau hiliol yn yr ysgol, a bydd amryw yn cael profiad uniongyrchol o hynny mewn ysgolion. A dyna'r nod sydd gyda ni: nid yn unig sicrhau nad yw hynny'n digwydd mewn ffordd sydd yn...
Jeremy Miles: Diolch i Laura Anne Jones am yr ystod bwysig iawn honno o gwestiynau, ac rwy’n cytuno â llawer o fyrdwn ei chwestiynau. Rwy'n cytuno bod rôl bwlio ar-lein a bwlio hiliol ac aflonyddu hiliol yn rhan bwysig iawn o'r darlun hwn, a bydd yr adnoddau rydym ni’n gweithio arnyn nhw’n helpu dysgwyr ac athrawon a chynorthwywyr addysgu i allu ymgysylltu â hynny. Byddwn yn parhau â'n gwaith o...
Jeremy Miles: Llywydd, mae sylfeini cadarn eisoes yn eu lle gyda rhanbarthau a phartneriaethau i ymgorffori'r gwaith pwysig hwn yn llawn i gefnogi datblygiad ysgolion o'r cwricwlwm newydd, gan gydnabod y cyfrifoldeb sydd gennym ni i gyd i brysuro'r agenda hon yn ei blaen. Mae'r prosiect DARPL eisoes wedi lansio campws rhithwir newydd a chyfres o ddigwyddiadau byw, sy'n agored i bob gweithiwr addysg...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Fel Llywodraeth, rŷn ni’n hollol glir ein bod yn disgwyl i honiadau a digwyddiadau o fwlio a hiliaeth gael eu hymchwilio'n llawn, ac i gamau gael eu cymryd ar unwaith i fynd i'r afael â'r mater, i atal achosion pellach rhag digwydd. Rŷn ni wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod ein hysgolion yn gynhwysol ac yn groesawgar i bob disgybl. Gwnes i bwysleisio hyn yn ddiweddar yng...
Jeremy Miles: Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn ac am roi'r spoiler am raglen Newyddion S4C heno. [Chwerthin.] Dwi'n siŵr y bydd y viewing figures yn mynd trwy'r to yn sgil yr awgrym hwnnw. Wel, roedd e'n brofiad arbennig i fod yn Ysgol Llanhari y bore yma. Diolch iddyn nhw am eu croeso ac am eu gwahoddiad i fod yno gyda chi hefyd, Huw. Ces i'r cyfle, fel gwnaethoch chi ddweud, i gael sgwrs...
Jeremy Miles: Diolch i Vikki Howells am y cwestiynau yna. Rwy'n credu bod y berthynas rhwng lleoliadau'r Mudiad Meithrin a'r blynyddoedd cynnar yn arbennig ynghylch defnyddio a recriwtio cynorthwywyr addysgu sy'n gallu darparu eu gwasanaethau a'r gwaith pwysig a wnânt drwy gyfrwng y Gymraeg yn bosibilrwydd cyffrous iawn, mewn gwirionedd. Felly, mae'n faes eithaf cymhleth ac mae'n un lle mae yna...
Jeremy Miles: Wel, ie, dyna'n union fydd mesur llwyddiant. Ac fel y gwnes i wahodd Samuel Kurtz, os oes gan yr Aelod gamau penodol i'w hawgrymu sydd ddim yn y cynllun, byddwn i, wrth gwrs, yn barod i'w clywed nhw. Mae dau brif bwynt, dwi'n credu, yn y cwestiwn wnaeth yr Aelod ei ofyn. Hynny yw, y peth cyntaf yw rôl awdurdodau lleol a sicrwydd bod cynnydd yn digwydd o ran eu cyfrifoldebau nhw i ddarparu ar...
Jeremy Miles: Diolch i Samuel Kurtz am y cwestiwn hwnnw. Fel dywedodd e yn ei gyfraniad, does gan neb fonopoli ar syniadau da. Mae'r ddogfen hon yn ffrwyth gwaith y Llywodraeth, yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid ar draws amryw o sectorau, ond os oes gennych chi awgrymiadau pellach, cadarnhaol i'w cynnig, wrth gwrs y byddwn ni'n hapus iawn i'w hystyried nhw. Fel rŷch chi'n dweud, mae gan...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Er mwyn gwireddu'n huchelgais i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg newydd erbyn 2050, rhaid gwneud newidiadau a chymryd camau sylweddol. Mae'r cwricwlwm newydd yn rhoi'r Gymraeg wrth galon dysgu yng Nghymru, ond os ydym ni am greu cenedl lle mae pobl yn siarad Cymraeg ac yn defnyddio'r iaith o ddydd i ddydd, mae cynyddu nifer y dysgwyr mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg yn...
Jeremy Miles: Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw. Rydym yn ymwybodol iawn o'r effaith y mae'r pandemig wedi'i chael ar y gallu i asesu a chefnogi anghenion dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol ym mhob rhan o'u taith addysg. Y llynedd, dyfarnwyd pecyn adfer gwerth £10 miliwn gennym i awdurdodau lleol, a diben hwnnw oedd ariannu'r gwaith o ailintegreiddio disgyblion ag ADY yn ôl i'r ystafell ddosbarth...
Jeremy Miles: Mae ein diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol yn hyrwyddo asesu a chynllunio cydweithredol i hwyluso'r broses o nodi ac ymyrryd yn gynnar. Mae cydlynwyr ADY a swyddogion arweiniol ADY y blynyddoedd cynnar yn helpu i sicrhau bod anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu diwallu, ac mae'r gronfa datblygiad plant a Dechrau'n Deg yn ymateb i'r galw cynyddol am gymorth datblygiadol ychwanegol.
Jeremy Miles: Mae Gweinidog yr Economi a minnau'n gweithio'n agos iawn ar y maes hwn, oherwydd mae'n thema drawsbynciol ac mae'r ddau ohonom yn angerddol yn ei gylch. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn manteisio'n llawn ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil y cwricwlwm newydd, gan ganolbwyntio'n wirioneddol ar ddeall opsiynau gyrfa o oedran ifanc—oedran iau nag y mae'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc efallai'n...
Jeremy Miles: Mae hwnnw'n gwestiwn da iawn ac yn bwynt da iawn y mae'r Aelod yn ei wneud yn ei gwestiwn. Mae rhywfaint o'r £1.5 miliwn o gyllid grant y cyfeiriais ato'n gynharach—. Er enghraifft, rydym wedi buddsoddi yn Techniquest yn ddiweddar i archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno rhaglenni gwaith i wella gwyddoniaeth a mathemateg mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, gan ddatblygu cariad at wyddoniaeth...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu bron i £1.5 miliwn o gyllid grant eleni i gefnogi'r gwaith o gyflwyno mentrau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, gyda'r prif nodau o gefnogi a datblygu gweithgareddau cyfoethogi STEM, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad ac annog pobl i astudio pynciau STEM ar lefel TGAU a Safon Uwch.
Jeremy Miles: [Anghlywadwy.]—pwynt. Rwy'n credu bod yr arian ychwanegol sydd ar gael i awdurdodau lleol er mwyn gweithredu'r diwygiadau newydd wedi'i wella a'i ymestyn yn sylweddol yn ystod y misoedd diwethaf. Ym mis Ionawr, cyhoeddais £18 miliwn ychwanegol, a chyhoeddais £4 miliwn arall ar gyfer ysgolion arbennig yn benodol ddechrau mis Mawrth. Ond mae'r pwynt y mae'n ei wneud yn bwysig iawn—fod...
Jeremy Miles: Rydym yn cyd-greu fframwaith atebolrwydd i ddeall effaith gweithredu'r ddeddfwriaeth ADY newydd. Bydd hyn yn cynnwys asesu effeithiolrwydd gweithredu, yn amlwg, ond hefyd nodi rhwystrau, yn ogystal â mesurau i gefnogi gweithredu ac archwilio effeithiau a manteision sy'n dod i'r amlwg yn sgil y system newydd.
Jeremy Miles: Mae'r ffigurau diweddaraf a welais yn dangos bod derbyniadau ar gyfer pynciau â blaenoriaeth uwchradd, sef y maes sy'n peri pryder allweddol, wedi cynyddu 8 y cant, a bod derbyniadau i hyfforddi i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys y Gymraeg fel iaith, wedi cynyddu 45 y cant. Felly, dyna'r realiti ar lawr gwlad. Ond mewn gwirionedd, mae'r mater yn llawer mwy na'r ffigurau ar gyfer...
Jeremy Miles: Wel, diolch am hynny, a chredaf ei fod yn bwynt cwbl bwysig, fel y clywsom eisoes heddiw. Gobeithio y gallaf roi sicrwydd i'r Aelod—byddaf yn cyhoeddi cynllun 10 mlynedd yn fuan iawn a fydd yn nodi'r camau y bwriadwn eu cymryd mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau eraill i gynyddu nifer yr athrawon cyfrwng Cymraeg yn gyffredinol, ond yn benodol hefyd yn y meysydd a nododd yn ei chwestiwn...