Bethan Sayed: Mae cryfder y teimladau ynghylch y carchar arfaethedig yn glir, ac mae'n wych gweld bod rhai o'r ymgyrchwyr yma heddiw. Mae'r ffaith ein bod yn cael dadl arall ar y mater hwn mor fuan ar ôl dadl Plaid Cymru yn tystio i'r llwyddiant hwnnw. Mae hefyd yn brawf o'r grym ewyllys a'r penderfyniad sy'n bodoli yn y gymuned a thu hwnt. Hoffwn innau hefyd ddechrau drwy roi teyrnged i waith yr ymgyrch...
Bethan Sayed: Rwyf wedi clywed llawer iawn o sylwadau gan rieni yn ardal Port Talbot, lle y maen nhw'n datgan bod darpariaeth arbenigol o gylch chwarae ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn Gweithredu dros Blant yn Ysbyty Castell-nedd Port Talbot, o dan fygythiad, ac efallai y bydd yn cael ei gau. Maen nhw hefyd wedi dweud wrthyf fod y gweithiwr cymorth i deuluoedd awtistiaeth o dan fygythiad o...
Bethan Sayed: Mae cyngor cyfreithiol yr wyf i wedi ei dderbyn, ac rwy'n dyfynnu, yn dweud: O dybio bod hyn yn gywir, mae cyfamod yn bodoli ac mae'r cyfamod hwnnw yn ddilys yn gyfreithiol. Mae'n golygu bod y safle yn cael ei effeithio gan rwymedigaeth o blaid trydydd parti yn cyfyngu ei ddefnydd i barc diwydiannol yn unig. O dan yr amgylchiadau hynny, gallai adeiladu carchar ar y safle fod yn ddiffyg...
Bethan Sayed: Iawn. Diolch yn fawr iawn. Efallai eich bod wedi sylweddoli bod fy llais yn diflannu; nid oes gennyf Strepsils fel Theresa May, ac felly nid wyf yn dymuno siarad am lawer rhagor. Ond rwy’n credu mai’r hyn sy’n bwysig yw ein bod wedi cael y ddadl, rydym wedi gwyntyllu pryderon, ond rydym bob amser yn disgrifio’r broblem yma yn y Siambr hon. Rydym yn ei disgrifio am ei bod yn wael, ond...
Bethan Sayed: Diolch. Rwy’n credu ei bod yn bwysig ein bod o ddifrif ynglŷn â’r ddadl hon gan ein bod wedi gweld ar feinciau San Steffan yn flaenorol pan fydd pobl yn rhy ffwdd-â-hi ynglŷn â hyn, ac nid yw’n cael derbyniad da gyda’r cyhoedd. Nid yw’n cael derbyniad da gyda’r cyhoedd os yw pobl yn gweld pobl yn chwerthin yn y Siambr. Y pwynt roeddwn am ei roi i Mark Isherwood yw bod hyn...
Bethan Sayed: [Yn parhau.]—syniadau adeiladol i adeiladu ein system les bosibl ein hunain ar gyfer y dyfodol yma yng Nghymru, fel na fydd yn rhaid i ni, o bosibl, osod sancsiynau ar bobl, ac y gallwn weinyddu taliadau gyda pharch i’r unigolion. Pam na all Llywodraeth Cymru ystyried hynny? Nid ydym yn clywed yr ateb hwnnw yma heddiw. Ni fyddwn yn cefnogi gwelliant y Torïaid yn hyn o beth. Melin drafod...
Bethan Sayed: Diolch yn fawr iawn. Yn anad dim arall, rwy’n credu ein bod wedi cael dadl fywiog arall, ac rwy’n credu bod hynny’n dda i ddemocratiaeth. Rwy’n credu ei bod yn bwysig inni ddechrau ar y costau gweinyddol y mae Steffan Lewis wedi ymyrryd arnynt ddwywaith. Mae cytundeb y fframwaith cyllidol—[Torri ar draws.]
Bethan Sayed: [Yn parhau.]—rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban yn 2016 yn datgan y bydd fformiwla sylfaenol Barnett—nid yw’n gwrando arnaf hyd yn oed—yn cael ei haddasu i adlewyrchu’r cyfrifoldeb dros les, gan gynnwys costau a gweinyddiaeth—gan gynnwys costau a gweinyddiaeth. Mae’n dweud ym mhwynt 31, a dyfynnaf, Mae’r ddwy Lywodraeth wedi cytuno y bydd y llywodraeth y DU yn...
Bethan Sayed: Gadewch i ni ddechrau gydag un ffaith ddamniol. Mae bron i hanner y tenantiaid cyngor yn y 105 o awdurdodau lleol sy’n cael elfen dai y credyd cynhwysol mewn mis o ddyled. Mae bron i draean mewn dau fis o ddyled, ac mae’r rhai sy’n dal ar fudd-dal tai—10 y cant o denantiaid cyngor yn unig—mewn mis o ddyled, a llai na 5 y cant o’r grŵp hwnnw sydd mewn dau fis neu fwy o ddyled....
Bethan Sayed: Wel, gallwch ddod i mewn os ydych am wneud ymyriad. Rwy’n hapus i chi gadarnhau eich safbwyntiau yn yr e-bost hwnnw.
Bethan Sayed: Hoffwn agor y ddadl drwy gofnodi barn Plaid Cymru ar y polisi hwn yn gadarn o’r cychwyn. Mae credyd cynhwysol yn bolisi dinistriol a chreulon a luniwyd yng nghorneli mwyaf anghyfannedd y blaid Dorïaidd fel pwdin ‘Eton mess’ wedi troi i gosbi’r rhai sy’n chwilio am waith. Mae’n ffaith hysbys fod rhai elfennau o’r Blaid Geidwadol a’r rhai yn UKIP a arferai fod yn Dorïaid ar un...
Bethan Sayed: Erbyn hyn 18 mis yn unig sydd i fynd nes y daw Cymunedau yn Gyntaf i ben yn gyfan gwbl. Ac o ran trosglwyddo darpariaeth a chyllid etifeddol, mae’n rhaid i ni fod yn hyderus fod y cyrff statudol a fydd yn cymryd rheolaeth dros gyflawni prosiectau cyfredol yn cael y cyllid sydd ei angen i gyflawni’r prosiectau hynny, a bod arian yn cael ei glustnodi yn unol â hynny. Rwy’n dweud hynny...
Bethan Sayed: Roeddwn yn gofyn mewn perthynas â thrafodaethau a gefais gyda ‘The Big Issue’ pan oeddwn yn gwerthu copïau gyda hwy yng Nghaerdydd. Roeddent yn dweud eu bod yn cael eu gwasgu allan gan bobl a oedd yn cardota yng Nghaerdydd fel na allent werthu eu cylchgronau yn dda iawn yno. Felly, tybed a oes capasiti yn yr ystad i rai o werthwyr ‘The Big Issue’ ddod i werthu i’r rhai sy’n...
Bethan Sayed: 1. A wnaiff y Comisiwn amlinellu’r rheolau sy’n ymwneud â gwerthwyr preifat, fel y Big Issue, ar neu y tu allan i ystâd y Cynulliad? (OAQ51228)
Bethan Sayed: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Bethan Sayed: Ar yr adroddiad penodol hwn, fodd bynnag, cafodd yr awduron eu golygu. Rydym yn cael adolygiad mewnol ac nid ydym yn gwybod pwy sydd wedi ei ysgrifennu mewn gwirionedd. Felly, mae’n anodd iawn bod â ffydd mewn system lle na allwn graffu’n iawn arni, a lle na chymerodd yr adroddiad hwnnw dystiolaeth gan y rhai a oedd am roi tystiolaeth. Sut y gallwch fod yn sicr y bydd hynny’n digwydd,...
Bethan Sayed: Diolch. Rwyf wedi rhoi munud i Angela Burns. Wrth nesáu at y ddadl hon, a meddwl am y materion y mae’n eu codi, gan gynnwys hawliau cleifion, sut yr ydym yn cefnogi ac yn credu gair pobl sydd wedi dioddef troseddau neu gam-drin yn y GIG, sut yr ydym yn diogelu yn erbyn digwyddiadau yn y dyfodol, a sut y mae’r GIG yn ymdrin â phroblemau a digwyddiadau mawr pan fyddant yn codi, roeddwn yn...
Bethan Sayed: Hoffwn wneud datganiad i nodi mai yfory yw Diwrnod Rhyngwladol yr Undebau Credyd. Mae ‘Nid er credyd, nid er elusen, ond er gwasanaeth’ yn arwyddair undebau credyd. Rydym yn aml yn anghofio nad busnes yn unig yw diben bancio, ond angen cymdeithasol. Wrth inni weld miloedd o fanciau bach manwerthu a lleol yn cael eu cau a’u caffael dros y 30 i 40 mlynedd diwethaf, a phan ystyriwn fod y...
Bethan Sayed: Y pwynt yw, fodd bynnag, ei fod wedi cael ei newid, fod hynny wedi ei wneud yn lleoliad posibl, felly, i’r carchar hwn allu cael ei adeiladu. Yn y gorffennol, nid oedd mor bosibl i ddiwydiannau geisio’r tir hwnnw, ac rwy’n ceisio deall pam oedd hynny a phryd y cafodd y penderfyniad ei wneud, ac nid wyf yn clywed hynny gennych yma heddiw. O ran y cyfamod, a’r hyn rwy’n ei ddeall, fel...
Bethan Sayed: Iawn. Nid wyf yn credu eich bod wedi ateb y cwestiwn cyntaf, ond gallaf ddod yn ôl ato eto. Rwyf eisiau ceisio ymchwilio ymhellach i hynny’n benodol. Pam na chafodd y categori perygl llifogydd ei ddiweddaru drwy Cyfoeth Naturiol Cymru hyd nes fis Mawrth 2017? Dyna’r mis y daeth y newyddion am y safle—. Cafodd y dewis a ffafrid ar gyfer carchar newydd ei wneud yn gyhoeddus yn ystod y...