Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ein cymunedau’n ddiogel. Rwy’n croesawu mentrau fel rhaglen atal trais Caerdydd, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau, ac rydym yn gweithio gyda’n cydweithwyr yn y GIG ar ddatblygu hyn.
Carl Sargeant: Credaf fod Jonathan Shepherd wedi gwneud gwaith ardderchog. Yn wir, o ganlyniad i’w waith ar hyn, mae bellach yn rhan o fy ngrŵp cynghori ar wasanaethau trais domestig. Felly, daw â’i ddeallusrwydd ynglŷn â hyn i’r rhaglen hon hefyd. Yr her sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd yw’r gofynion drwy’r GIG ac adrannau’r gwasanaethau brys mewn perthynas ag integreiddio’r rhaglen ar...
Carl Sargeant: Gallaf, diolch, ac rwy’n siŵr fod yr Aelod wedi gwrando ar fy ymateb i Huw Irranca-Davies. Rydym yn anghytuno â chryn dipyn o adolygiad Charlie Taylor. Ni fyddwn yn cyflwyno ysgolion diogel yma yng Nghymru. Rwyf wedi ymweld â rhaglen Hillside. Rwy’n edrych ar gyfleusterau cam-i-lawr. Yn hynny o beth, mae gennym atebion Cymreig i’r problemau hyn. Nid wyf yn credu mai proses yr...
Carl Sargeant: Yn wir, ac rwy’n gyfarwydd iawn â’r cynnig hwnnw ac adolygiad Charlie Taylor. Cyfarfûm â Dr Phillip Lee AS, yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol, ddydd Llun i siarad ynglŷn ag adolygiad Taylor. Buom yn trafod mater datganoli. Credaf fod Charlie Taylor yn anghywir yn ei sylwadau. Siaradodd am ddatganoli mewn ystyr Seisnig, heb gydnabod bod y rhan fwyaf o’r gwasanaethau a ddarperir...
Carl Sargeant: Wel, mae dwy agwedd yn perthyn i hyn. Mae un yn ymwneud â’r carchar, sy’n swyddogaeth nad yw wedi ei datganoli, ond y ffaith yw nad oes unrhyw beth yn fy mrifo mwy na gweld pobl ifanc yn cael eu carcharu. Mae’n fethiant yn ein system. Mae’n rhaid i ni fynd y tu hwnt i—. Mae’n rhaid i ni weithredu ein gwasanaethau cyn i ni fynd i mewn i’r gofod hwnnw. Dyna pam rydym yn buddsoddi...
Carl Sargeant: Credwn y dylai plant a phobl ifanc yn y system cyfiawnder ieuenctid gael eu trin fel plant yn gyntaf ac fel troseddwyr yn ail. Caiff hyn ei adlewyrchu yn ein strategaeth ar y cyd â Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru a Lloegr.
Carl Sargeant: Buaswn yn synnu os nad yw’r awdurdod wedi ymgysylltu â’u cymunedau lleol, ond fe gymeraf air yr Aelod am hynny. Mae’n rhywbeth y byddwn yn disgwyl iddynt ei wneud mewn ffordd dryloyw. Weithiau, pan nad yw pobl yn hoff o ganlyniadau penderfyniadau, mae yna gynllwyn yn sail i’r peth bob amser, ond yr hyn sy’n rhaid i ni feddwl amdano yma yw’r broses. Mae un o egwyddorion gweithredu...
Carl Sargeant: Rydym yn darparu cyllid ar gyfer prosiect Teithio Ymlaen elusen Achub y Plant drwy’r grant cydraddoldeb a chynhwysiant i hybu ymwybyddiaeth o hawliau a chyfranogiad ymhlith Sipsiwn a Theithwyr ifanc. Rydych yn llygad eich lle: mae ymagwedd y teulu cyfan yn un bwysig. Yn ôl pob tebyg, teuluoedd Sipsiwn a Theithwyr yw rhai o’r teuluoedd mwyaf difreintiedig, a’r rhai â’r hyd oes byrraf...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio i wella canlyniadau ar gyfer Sipsiwn a Theithwyr drwy fframwaith gweithredu a chynllun cyflawni ‘Teithio at Ddyfodol Gwell’. Mae cryn gynnydd wedi’i wneud ers 2014 a chyhoeddwyd diweddariad i’r cynllun ym mis Mawrth eleni.
Carl Sargeant: Mae gennym gydgysylltwyr cydlyniant yn gweithio gyda grwpiau Sipsiwn a Theithwyr ac rwy’n cyfarfod â chynrychiolwyr y gymuned yn rheolaidd.
Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar iawn am y gwahoddiad ac yn edrych ymlaen at ei dderbyn yn ffurfiol. Rwy’n gyfarwydd â Penparcau; yn wir, croesawais eu trydariad ynglŷn â’r ffaith fod yna fywyd ar ôl Cymunedau yn Gyntaf. Credaf fod yn rhaid i ni fod yn uchelgeisiol o ran y cyfleoedd—[Anghlywadwy.]—a’n bod yn dysgu gan sefydliadau o’r fath. Rwyf wedi siarad â’r Gweinidog blaenorol ynglŷn...
Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am y cwestiwn. Hoffwn dynnu sylw’r Dirprwy Lywydd at y ffaith fod cyllideb Cronfa’r Teulu yn rhan o linell gyllideb fy nghyd-Aelod, ond byddaf yn gofyn iddi ysgrifennu atoch. Rebecca Evans yw’r Gweinidog sy’n ymdrin â’r mater penodol hwn.
Carl Sargeant: Prynhawn da. Diolch am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi nifer o sefydliadau sy’n darparu cymorth i deuluoedd yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Yn fy mhortffolio, mae’r grant cyflawni ar gyfer plant a theuluoedd, Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau’n Deg yn rhoi cefnogaeth i grwpiau yn y trydydd sector sy’n ceisio cyflawni blaenoriaethau cefnogi lles, trechu tlodi, ac yn wir,...
Carl Sargeant: Wel, mae Ken Skates a minnau—nid wyf yn gyfarwydd â’r prosiect y cyfeiriodd yr Aelod ato, ond rwyf bob amser yn awyddus i sicrhau bod gennym dai fforddiadwy ledled Cymru. Mae Ken Skates a minnau’n gweithio ar gronfa gyfle tir, lle y gallwn weld nid yn unig sut y gallwn ddatblygu tir Llywodraeth Cymru, ond sut y gallwn ddatblygu tir y sector cyhoeddus hefyd, a’i ryddhau’n rhan o’r...
Carl Sargeant: Wrth gwrs, rwy’n ddiolchgar i’r Aelod am atgoffa’r Siambr o lwyddiant tymor diwethaf y Llywodraeth. Rwy’n falch iawn o fod wedi llunio cytundeb tai newydd, yn y pythefnos diwethaf, gyda Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer tymor y Llywodraeth hon. Mae’n darged uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi, ond mae fy nghyfaill a’m cyd-Aelod, Ysgrifennydd y...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod dros Islwyn am ei chwestiwn. Rydym wedi ymrwymo i gynyddu nifer y tai fforddiadwy yng Nghymru. Rydym yn parhau i fuddsoddi mewn tai rhent cymdeithasol a Cymorth i Brynu, ac rydym yn datblygu cynlluniau newydd arloesol, er mwyn cyrraedd ein targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi.
Carl Sargeant: Rwy’n ddiolchgar iawn am y dôn hynod o ymosodol yng nghwestiynau’r Aelod. Rwyf hefyd yn cofio yr adegau drwy’r 1980au pan oedd yr Aelod yn gweithio yn y gymdeithas adeiladu leol, yn cymryd y sieciau diswyddo gan y gweithwyr dur a gafodd eu gwneud yn ddi-waith gan Lywodraeth y DU ar y pryd—cyfnod anodd iawn, a chymuned a oedd wedi torri ar y pryd. Felly, unwaith eto, wrth ddarlithio...
Carl Sargeant: Dau bwynt. Yn gyntaf oll, rwy’n ddiolchgar iawn i’r Aelod am awgrymu ymateb i fy nghwestiwn yn gynharach. Ond a gaf fi ei atgoffa mai ei Lywodraeth ef, a oedd mewn grym yn yr wythdegau, a chwalodd Gymru’n llwyr, gyda’r gyfradd uchaf o ddiweithdra erioed yn y DU? Ac roedd ei ffrind ar y fainc flaen yn y fan acw, yn UKIP, yn rhan o’r Llywodraeth ar y pryd hefyd, felly ni all ef ysgwyd...
Carl Sargeant: Dyna pam ein bod yn cyflwyno 100,000 o brentisiaethau ar gyfer pob oedran. Dyna pam ein bod yn parhau gyda rhaglen Cymunedau am Waith. Dyna pam ein bod yn parhau â’r rhaglen Esgyn. Dyna pam ein bod yn awyddus i ymgysylltu â’n cymunedau i adeiladu cymunedau gwell a chryfach. Roeddwn yn glir iawn ynglŷn â fy ymdeimlad o gyfeiriad ddoe. Buaswn yn croesawu sylwadau’r Aelod o ran gwneud...
Carl Sargeant: Fe edrychaf ar hynny’n fanylach—fe siaradaf â’m cyd-Aelodau yn y Cabinet yn ogystal. Rwy’n credu bod hwn yn fater moesol—gan roi gwleidyddiaeth unrhyw awdurdod lleol o’r neilltu, rydym yn sôn am fodau dynol yma mewn gwirionedd. Dylai unrhyw un sy’n mynd yn ddigartref—buasai’n ddychrynllyd, ac weithiau rwy’n meddwl y gallai ddigwydd i unrhyw un ohonom. Y ffaith yw y dylem...