Darren Millar: Cynigiwyd.
Darren Millar: Cynigiwyd.
Darren Millar: Rwy'n cynnig.
Darren Millar: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod camau yn cael eu cymryd i leihau'r defnydd o dân gwyllt. Does dim amheuaeth yn fy meddwl i eu bod nhw wedi dod yn broblem fwy rheolaidd, mae'n ymddangos i mi, o tua diwedd Calan Gaeaf yr holl ffordd drwodd i'r flwyddyn newydd. Ac rydym ni'n gwybod, fel y mae Mike Hedges wedi ei nodi yn gwbl briodol, nad anifeiliaid...
Darren Millar: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac am rannu copi ymlaen llaw gyda ni. A gaf i yn gyntaf, Dirprwy Lywydd, dalu teyrnged ar goedd i staff y GIG yn y gogledd, sydd wedi bod yn gwneud gwaith clodwiw iawn, rwy'n credu, i allu ymdopi dan rai amgylchiadau anodd iawn o ganlyniad i'r pandemig COVID? Nid yw bob amser yn hawdd, yn enwedig ar adegau fel y rhain, ond maen nhw wedi ysgwyddo'r...
Darren Millar: Allwch chi fy nghlywed i nawr?
Darren Millar: Diolch, Llywydd. A gaf i alw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru os gwelwch yn dda, Gweinidog busnes? Mae'r cyntaf yn ymwneud ag adroddiad diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu hymateb i lifogydd y llynedd. Byddwch chi'n gwybod bod yr adroddiad wedi nodi rhai diffygion sylweddol yn ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i'r llifogydd a gafodd eu hachosi gan stormydd Ciara, Dennis a George. A...
Darren Millar: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyngor gwyddonol ynghylch y cyfyngiadau ar werthu nwyddau nad ydynt yn hanfodol mewn archfarchnadoedd a siopau cyfleustra yng Nghymru?
Darren Millar: Diolch ichi am yr ateb hwnnw, Weinidog. Nid busnesau'n unig sydd wedi ysgwyddo baich y cyfyngiadau a osodwyd ledled Cymru yn ystod y misoedd diwethaf. Gwyddom fod y gwasanaeth iechyd gwladol wedi gweld amseroedd aros yn cynyddu'n eithafol yn y misoedd diwethaf, ac wrth gwrs, yng ngogledd Cymru'n enwedig, roedd gennym yr amseroedd aros gwaethaf yn y wlad yn barod. A gaf fi ofyn i chi pa...
Darren Millar: Weinidog, mae busnesau yng Nghonwy a Sir Ddinbych ar eu gliniau'n llythrennol, ac mae llawer o swyddi sy'n dibynnu ar y busnesau hynny bellach yn ei chael hi'n anodd dal eu pennau uwchben y dŵr. Mae bron i dair wythnos wedi mynd heibio ers i chi roi Conwy a Sir Ddinbych, ynghyd â rhannau eraill o ogledd-ddwyrain Cymru, dan gyfyngiadau lleol. Mae hynny'n golygu eu bod eisoes wedi dioddef yn...
Darren Millar: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cymorth ariannol sydd ar gael i'r rheini y mae cyfyngiadau coronafeirws lleol yn effeithio arnynt? OQ55719
Darren Millar: Diolch, Trefnydd. Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad ynghylch y dystiolaeth y penderfynodd Llywodraeth Cymru arni o ran cau addoldai yn ystod y cyfnod atal byr a fydd yn digwydd cyn bo hir? Mae llawer o arweinwyr eglwysi wedi bod mewn cysylltiad â mi i fynegi pryderon y bydd yn ofynnol iddynt gau am gyfnod pellach o'r dydd Gwener yma, ac, wrth gwrs, mae hyn yn dilyn cyfnod lle bu eglwysi,...
Darren Millar: Ond mae'r argyfwng hefyd, wrth gwrs, wedi rhoi sylw blaenllaw i bwysigrwydd ein perthynas fel undeb y Deyrnas Unedig, ac mae cyflymder y cyhoeddiadau gan Lywodraeth y DU, y cymorth ariannol, y cymorth busnes—mae'r holl fesurau hynny'n dangos pwysigrwydd ymdrin ag effaith yr argyfwng hwn ym mhob rhan o'r DU. Gwelsom Lywodraeth y DU yn gweithredu ar gyflymder anhygoel a dweud y gwir i roi...
Darren Millar: Roeddwn yn meddwl mewn gwirionedd fod rhai rhannau o'r sylwadau a wnaed yn awr gan lefarydd Plaid Cymru braidd yn angharedig ynglŷn â gweithredoedd Llywodraeth y DU, oherwydd, wrth gwrs, dechreuasom y degawd hwn heb unrhyw syniad a dweud y gwir am y newidiadau sylweddol y byddem yn eu hwynebu ar ddechrau'r flwyddyn. Ac ers dechrau'r pandemig, rhaid i mi ddweud bod Llywodraeth ei Mawrhydi...
Darren Millar: Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn ddiweddar, cynhaliais gyfarfod â thrigolion Llysfaen, ychydig y tu allan i Fae Colwyn yn fy etholaeth yng Ngorllewin Clwyd. Rwyf wedi gohebu â chi ar ran trigolion Llysfaen yn y gorffennol oherwydd bod potensial ar gyfer cynllun cysylltu â'r prif gyflenwad nwy yn y gymuned honno. Mae'n gymuned eithaf mynyddig ac yn agored iawn i'r elfennau, felly mae...
Darren Millar: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gymorth i drigolion er mwyn lleihau costau ynni yn eu cartrefi? OQ55690
Darren Millar: Byddai'n anghyfrifol iawn i unrhyw Aelod o'r Senedd hon gefnogi camau gorfodi cyfyngiadau sylweddol ar ein hetholwyr pan nad ydym ni wedi cael digon o dystiolaeth i allu eu cyfiawnhau. Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd gyfreithiol, fel y gwnaethom ni glywed yn gynharach, i ddangos bod unrhyw gyfyngiadau y mae'n eu gosod ar bobl Cymru yn gymesur ac yn angenrheidiol, ac eto maen nhw wedi...
Darren Millar: Mae'n braf iawn clywed eich geiriau caredig am bobl hŷn yn awr; mae'n drueni na chafodd yr un ohonynt eu cynnwys yn unrhyw un o'r dogfennau a gyhoeddwyd gan eich swyddfa ddoe. Ac wrth gwrs, ni chyfeirioch chi at bobl hŷn ychwaith yn eich datganiad i’r Senedd hon. Ac efallai, a bod yn onest, pe baech wedi rhoi mwy o gefnogaeth i fy Mil hawliau pobl hŷn pan gafodd ei gyflwyno gerbron y...
Darren Millar: Diolch am eich ateb, Weinidog, ond prin yw’r dystiolaeth hyd yma eich bod yn cymryd effaith y coronafeirws ar bobl hŷn o ddifrif. Cefais fy synnu’n fawr pan welais y ddogfen a gyhoeddwyd ddoe ar yr heriau a’r blaenoriaethau wrth ailadeiladu ar ôl y coronafeirws, nad oedd yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at bobl hŷn. Rwy'n deall eich bod wedi cynnal nifer o gyfarfodydd bord gron, gan...
Darren Millar: Diolch, Lywydd. Rwyf am ofyn rhai cwestiynau mewn perthynas â chyfrifoldeb y Gweinidog dros yr adferiad wedi COVID. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i bobl hŷn fel rhan o brosiect Llywodraeth Cymru i ailadeiladu'n ôl yn well?