Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Nawr, mae cynnig y Llywodraeth heddiw yn ymddangos yn oleuedig iawn gan nad oes neb yn mynd i ddechrau dadlau bod angen i ni fod yn llai agored wrth ddarparu data'r Llywodraeth. Yr hyn y mae angen i ni ei wybod, fodd bynnag, yw goblygiadau ymarferol y cynnig hwn o fod yn fwy agored. Mae bwriadau Llywodraeth Cymru i fod yn fwy agored fyth yn y...
Gareth Bennett: Ie, diolch am yr ymateb. Fel rheol, mae o bosibl yn syniad da gwneud cynnig am y digwyddiadau mawr hyn oherwydd y potensial i greu refeniw i fusnesau lleol, er bod posibilrwydd o darfu hefyd. Felly, ceir cydbwysedd y mae'n rhaid i ni ei daro. Ond mae gennym ni broblem ar hyn o bryd gyda chyflwr Sgwâr Canolog Caerdydd a hefyd diffyg capasiti posibl gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog. Felly,...
Gareth Bennett: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gais Caerdydd i gynnal gemau yn ystod pencampwriaethau pêl-droed Ewropeaidd UEFA yn 2020? (OAQ51086)
Gareth Bennett: Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl heddiw ar bwnc pwysig. Rydym wedi clywed llawer yn barod am y diffygion ym mhroses ymgynghori Llywodraeth Cymru, felly nid wyf am fynd ar ôl hynny, ond yn hytrach am y newidiadau y maent yn eu hargymell yn eu Papur Gwyn. Nawr, mae ‘Gwasanaethau sy’n addas i’r dyfodol’, y Papur Gwyn, yn cydnabod yr angen am yr hyn y mae’n ei alw’n...
Gareth Bennett: Diolch. Yn rhyfedd, mae fy nghwestiwn nesaf yn ymwneud â’ch cynllun arloesi £20 miliwn, y cyfeirioch ato eich hun yn awr. Yn amlwg, fe ddaw eich cyhoeddiad cyn bo hir. A oes unrhyw beth y gallwch ei ddweud wrthym heddiw ynglŷn â’r cynllun hwnnw?
Gareth Bennett: Rydych wedi crybwyll hyn o’r blaen. Pan oeddwn yn gwneud cwestiynau i’r Gweinidog gyda chi am y tro cyntaf ym mis Ebrill, fe sonioch am eich trafodaethau parhaus gydag adran Ken Skates a’r defnydd posibl o dir Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu tai ar dir llwyd, ac fe awgrymoch ar y pryd—cymerais mai dyna oedd yr awgrym o leiaf—fod yna lawer o adeiladau GIG gwag y gellid eu...
Gareth Bennett: Diolch, Llywydd. Prynhawn da, Gweinidog, a chroeso’n ôl i’r Siambr. Ddoe, soniodd un o Aelodau eich meinciau cefn, Hefin David, ynglŷn ag adfer safleoedd tir llwyd. Nawr, rwy’n sylweddoli y gall fod yn anodd datblygu safleoedd tir llwyd, ond mae rhai safleoedd tir llwyd y gellir eu paratoi ar gyfer codi tai am bris cymharol rad. Felly, tybed beth mae eich adran yn ei wneud ar hyn o...
Gareth Bennett: Diolch, Llywydd. Mae’n ymwneud â thaliadau amaethyddol, mewn gwirionedd.
Gareth Bennett: Ie, diolch am eich ateb. Yn amlwg, rwy’n deall bod rhywfaint o ansicrwydd ynglŷn â’r dyfodol, ond rydych yn swnio’n weddol argyhoeddedig y gellir gwneud rhyw fath o daliadau cyflym ac effeithiol pe bai’r cyfrifoldeb yn cael ei ddatganoli yma yn y pen draw. A fyddech yn cytuno â hynny?
Gareth Bennett: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer taliadau polisi amaethyddol cyffredin ar ôl Brexit? (OAQ51036)
Gareth Bennett: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ymfudo ar ôl Brexit?
Gareth Bennett: Gwnaf, yn sicr. Ar y cyfan, gallai fod dyfodol mwy addawol i economi wledig Cymru pe baem ond yn gweld y blynyddoedd nesaf fel cyfnod a allai ddod â rhywfaint o gynnwrf yn ei sgil, yn sicr, ond elfen fawr o gyfle hefyd. Diolch.
Gareth Bennett: Rydym yn cyflwyno’r ddadl hon heddiw am fod gennym ddiddordeb—fel sydd gan bob Aelod, rwy’n disgwyl—mewn adfywio’r economi wledig. Rydym wedi cysylltu cynnig heddiw â phwnc Brexit, nid i achosi cynnwrf diangen yn y Siambr ar ddiwrnod olaf y tymor, ond yn hytrach i edrych ar y cyfleoedd a allai ddeillio o Brexit. Nawr, rwy’n gwybod ein bod wedi cael rhyw led anghydweld yn y lle...
Gareth Bennett: Mae bwriad Llywodraeth Cymru i ddiddymu’r Bil hawl i brynu yn ceisio mynd i'r afael â mater y stoc tai cymdeithasol, ac mae hyn yn sicr yn fater difrifol, ond wrth gwrs mae'n rhaid i ni ddod o hyd i'r modd mwyaf effeithiol o fynd i'r afael â'r broblem. Mae gwahanol agweddau ar yr argyfwng tai. Mae diddymu'r hawl i brynu yn un ffordd o ystyried y broblem, ond dim ond rhan fach o'r darlun...
Gareth Bennett: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae diwygio llywodraeth leol yn creu cyfle ac rwy'n credu y gall diwygio weithio'n dda ar yr amod mai’r prif nod yw dod â llywodraeth leol yn nes at y bobl y mae'n ei wasanaethu. Felly, mae’r elfen o leoliaeth, rwy’n credu, yn allweddol. Nawr, rydych chi wedi tynnu sylw at swyddogaeth fwy i gynghorau tref a chymuned. Credaf fod hynny yn...
Gareth Bennett: Mae llawer o gyflogwyr yn teimlo bod pobl ifanc yn gadael y system addysg heddiw heb y sgiliau ymarferol sydd eu hangen arnynt ar gyfer y farchnad lafur. Mae gan lawer o bobl radd, er enghraifft, ond nid yw cyflogwyr o’r farn eu bod yn barod ar gyfer gwaith. A ydych chi'n meddwl y dylid ailwampio’r system prifysgolion yng Nghymru?
Gareth Bennett: Cawsom graffu helaeth ar Fil Undebau Llafur (Cymru) Llywodraeth Cymru ar y pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol yn gynharach eleni. Janet sy’n cynnig y gwelliannau heddiw. Diddorol oedd clywed sylwadau Janet am y Bil ar y pryd, ac rwy'n meddwl ei bod weithiau'n dda cael llais anghydffurfiol yn ystod y cyfnod pwyllgor, oherwydd mae hynny’n rhoi prawf ar ddadleuon y Llywodraeth. Fodd...
Gareth Bennett: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n dda bod gan Lywodraeth Cymru gynllun ar gyfer y Cymoedd, ond, wrth gwrs, mae angen inni sicrhau ei fod yn un effeithiol. Mae’n ymddangos bod elfen o amheuaeth mewn gwahanol sectorau o'r Siambr hyd yn hyn, ac mae gennym ni ddiffyg manylder. Wrth gwrs, yr ydych chi’n cael eich llesteirio gan broblem hanesyddol methiant cymharol,...
Gareth Bennett: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw. Fel Aelodau’r Cynulliad mae angen i ni gefnogi mesurau effeithiol i hybu twf y Gymraeg, ac rydym ni yng ngrŵp UKIP yn cymeradwyo’r amcanion hynny. Gwrandewais ar sylwadau agoriadol Sian Gwenllian, ac rwy’n cytuno â hi fod angen i ni roi pwyslais ar ddiogelu’r Gymraeg yn ei chadarnleoedd: y syniad o roi camau ar waith i gadw swyddi...
Gareth Bennett: Ie, diolch. Rydych wedi cyfeirio at Ynys Môn fel enghraifft lle y cafodd y broblem ei datrys, a chredaf eich bod yn iawn i edrych ar enghreifftiau o’r gorffennol a lle y llwyddodd Llywodraeth Cymru, i edrych ar hynny fel ffordd o ymdrin ag achosion a ddaw ger eich bron yn y dyfodol. Nawr, unwaith eto, mae hyn braidd yn anodd gan nad wyf am gyfeirio at achos penodol, ond os oes achos lle...