Hefin David: Diolch, Prif Weinidog. Yn ystod gwanwyn 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid fwriad Llywodraeth Cymru i ymgymryd â thri chynllun seilwaith mawr gan ddefnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol ar gyfer eleni. Ac yn ôl gwybodaeth Llywodraeth Cymru, mae ganddyn nhw werth cyfalaf cyfunol—y tri phrosiect hynny—o £1 biliwn. Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd y model buddsoddi...
Hefin David: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau seilwaith mawr? OAQ52551
Hefin David: Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer awdurdodau tân yng Nghymru?
Hefin David: Ac mae'n troi ar David Melding, ac yntau'n gyfalafwr. [Chwerthin.] Felly, rwy’n credu bod hynny’n dangos, hyd yn oed os ydych chi wedi eich rhannu ar delerau ideolegol, ei bod hi'n dal yn bosib dod o hyd i rai elfennau cyffredin o arfer—rhai elfennau cyffredin o arfer. Mae angen i’r model traddodiadol o adeiladu tai newid. Fe wnes gyfarfod yn fy nghymhorthfa, fore Sadwrn, â Cerianne...
Hefin David: Fe hoffwn i ganolbwyntio yn fy nghyfraniad ar y gwahanol ffrydiau gwaith sydd yn y ddogfen adolygu’r cyflenwad tai fforddiadwy yr ydym ni wedi ei chael, ac rwy’n mynd i fyfyrio ar rai pethau a ddywedodd Mike Hedges, rhai pethau a ddywedodd Bethan Sayed a rhai pethau a ddywedodd David Melding. Yn gyntaf oll, rydym ni wedi sôn am yr angen am dai, ac mae’r angen, fel y dywedodd Mike...
Hefin David: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i bobl â phroblemau iechyd meddwl?
Hefin David: Gwrandewais â diddordeb ar ateb Ysgrifennydd y Cabinet i Dawn Bowden mewn perthynas â'r depo yn Rhymni, a rhaid imi ddweud nad yw'r hyn a gynigiwyd ganddo yn ddigon. Credaf y gellir gwneud mwy dros yr ardal economaidd haeddiannol honno, yn enwedig—. Soniodd am fannau cadw trenau a mân waith cynnal a chadw. Hoffwn ofyn iddo faint o swyddi y bydd hynny'n eu creu, a beth arall y gellir...
Hefin David: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am wasanaethau ategol ar gyfer Trafnidiaeth Cymru? OAQ52460
Hefin David: Pa sicrwydd all y Prif Weinidog ei roi y bydd yr ysbyty gofal critigol mawr newydd, y Grange, ger Cwmbrân yn hygyrch drwy gludiant cyhoeddus o bob rhan o etholaeth Caerffili erbyn yr adeg y bydd yr ysbyty yn agor?
Hefin David: Y bore yma, gyda Phwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, bûm yn ymweld â The Number Hub, sef busnes bach yn Ffynnon Taf, ac roedd ganddynt lawer i'w ddweud am ddatblygiadau mewn awtomatiaeth a newid technolegol. Pa gamau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i baratoi ar gyfer swyddi'r dyfodol, ond gan ganolbwyntio'n benodol ar y sgiliau sydd eu hangen yn y sector cwmnïau bach...
Hefin David: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi oedolion i uwchsgilio ac ailsgilio pan fyddant mewn gwaith? OAQ52411
Hefin David: Rwy'n cytuno gyda'r Prif Weinidog; rwy'n credu mai cynlluniau datblygu strategol yw'r ateb. Byddwn yn mynd ymhellach a dweud bod CDLlau yn methu â chyflawni o fewn eu ffiniau mewn ardaloedd fel Canol De Cymru, a'r awdurdodau hynny sy'n sefyll yn eu herbyn ac yna'n canfod eu hunain yn dioddef ceisiadau cynllunio hapfasnachol, pan fo prif arolygwyr yn gwrthdroi cynghorwyr a etholwyd yn...
Hefin David: Rwyf eisoes wedi dweud diolch yn fawr wrth arweinydd y tŷ am y gwaith rhyfeddol a wnaeth yn ystâd Castle Reach in Kingsmead i gael Openreach i ariannu band eang ffeibr i'r safle, nad oedd wedi'i gynnwys yn rhaglen Cyflymu Cymru oherwydd bod yr ystâd wedi cael ei hadeiladu ar ôl i'r rhaglen gychwyn. Yr hyn nad oeddem yn ei wybod ar y pryd oedd nad oedd hynny ond yn cynnwys 165 o dai ar yr...
Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Lywodraeth Cymru ar gyfer cleifion iechyd meddwl yng Nghaerffili?
Hefin David: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynlluniau ar gyfer y rheilffordd rhwng Rhymni a Chaerdydd yn y fasnachfraint reilffyrdd newydd?
Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru i rieni sy'n gweithio?
Hefin David: Mae gennyf ardaloedd Dechrau'n Deg yn fy etholaeth, ardaloedd megis Parc Churchill, Graig-y-Rhaca, Parc Lansbury, ystâd Parc ym Margoed, Senghennydd ac ystâd Trecenydd, ac rwyf wedi y gweld manteision—fel y byddai'r Siambr wedi'i ddisgrifio heddiw yn 'anecdotaidd'. Rwyf wedi gweld manteision Dechrau'n Deg. Fy unig gyfraniad i'r ddadl dros argymhelliad 6 fyddai bod deall effaith...
Hefin David: A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet pam nad yw'r cysyniad o'r effaith lluosydd drwy'r gadwyn gyflenwi mor sylfaenol nad ystyriwyd ef i fod yn bumed colofn diben cymdeithasol?
Hefin David: Nid yn golofn.
Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr Academi Genedlaethol Arweinyddiaeth Addysgol?