Delyth Jewell: Gellir aralleirio'r cwpled olaf yn llac fel, Mae cleddyf ar ei orau pan fo'n segur a'r rhwd arno sy'n ei wneud yn wych.
Delyth Jewell: Hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i bob dyn a menyw sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd. Mae gwahaniaeth sylfaenol rhwng dathlu rhyfel a nodi aberth unigolion. Yr olaf y byddwn i'n dymuno ei wneud. Pan oeddwn yn gweithio fel ymchwilydd yn San Steffan, gweithiais yn agos gydag Elfyn Llwyd a'n cyfaill rydym yn gweld ei golli'n fawr, y diweddar Harry Fletcher, ar faniffesto ar gyfer...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. I wanted to speak very briefly to this group of amendments and to welcome the Minister's commitment, given at Stage 2, to explore the potential for guidance to be issued that would strengthen the role of democratic services within local government, including the potential for a research service function, as has just been mentioned by Mark Isherwood. In that respect, amendment...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Yn gynharach yn y ddadl ac yng Nghyfnod 2, mae'r Gweinidog wedi gwneud pwyntiau am ganlyniadau anfwriadol a allai fod i rai gwelliannau, ac roeddwn wedi derbyn y pwynt hwnnw. Rwyf yn derbyn pwynt y Gweinidog yn y fan yma ei bod yn ddigon posibl mai bwriad y pŵer cyfyngedig hwn i orfodi awdurdodau lleol yw ei ddefnyddio mewn ystyr gyfyngedig iawn. Ond, unwaith eto, byddwn i'n...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Roeddem ni'n awyddus i gyflwyno gwelliannau i ddileu pŵer y Gweinidog i orfodi awdurdodau lleol i ffurfio cyd-bwyllgorau corfforedig. Mae rhai o'r gwelliannau hynny wedi eu cyflwyno gan Mark Isherwood, felly mae ein gwelliannau ni yn welliannau canlyniadol i'r rhai hynny, ond fe'u cyflwynwyd gyda'r un bwriad polisi ac, wrth gwrs, maen nhw wedi'u drafftio gan y gwasanaethau...
Delyth Jewell: Diolch i'r Gweinidog. Dwi'n cymryd y pwyntiau am y pethau a all ddigwydd fel canlyniad i'r gwelliannau sydd yn anfwriadol. Dwi yn croesawu rhai o'r pethau mae'r Gweinidog yn eu dweud, ond oherwydd pa mor bwysig yw'r egwyddorion hyn, byddwn ni yn gwthio'r gwelliannau yma i bleidlais. Diolch.
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad am yr holl welliannau yn y grŵp hwn, sydd wedi eu cyflwyno yn dilyn trafodaethau gyda sefydliadau allanol, sydd, fel minnau, yn wastadol siomedig o ran y diffyg amrywiaeth mewn llywodraeth leol. Yng Nghyfnod 2 cyflwynais nifer o welliannau treiddgar ar gydraddoldeb ac amrywiaeth, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gweithio gyda ni ar yr agenda hon, ni...
Delyth Jewell: Symud.
Delyth Jewell: Oes. Diolch, Llywydd. Diolch i'r Gweinidog am hynny. Rwyf yn siomedig i glywed bod y Gweinidog yn dweud bod y Llywodraeth yn barod i gytuno mewn egwyddor, ond ddim yn fodlon gweithredu ar hyn yn syth yn y dull dŷn ni'n rhoi ymlaen. Ond rwyf yn clywed beth mae'n ei ddweud, ac mae rhai pethau yna, yn amlwg, rŷn ni yn croesawu. Buaswn i jest yn dweud eto fod y Llywodraeth wedi derbyn y...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Mae'n bleser cael arwain y ddadl ar y grŵp yma a chynnig yn ffurfiol y pedwar gwelliant sydd yn y grŵp—y pedwar ohonynt wedi cyflwyno yn fy enw i ar ran Plaid Cymru. Pedwar gwelliant sydd i gyd mewn dwy set, sef gwelliannau 158 a 159, a gwelliannau 165 a 166. Bwriad y set gyntaf hon yw dileu'r anomali yn y gyfraith sy'n golygu nad ydy swyddogion canlyniadau etholiadau, na...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Wel, diolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl. Mae'n siomedig i glywed bod y Llywodraeth yn colli cyfle unwaith eto i greu system bleidleisio decach, a byddwn ni'n gwthio ein gwelliannau yma i bleidlais. Diolch.
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Rydym ni wedi cyflwyno'r gwelliannau hyn i newid y system bleidleisio mewn llywodraeth leol i un tecach. Mae'r dadleuon wedi'u trafod o'r blaen, ac ymddiheuraf i aelodau'r pwyllgor sydd efallai wedi fy nghlywed yn cyflwyno'r dadleuon hyn o'r blaen, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig eu datgan eto nawr. Mae system y cyntaf i'r felin wedi creu llawer o ganlyniadau annemocrataidd....
Delyth Jewell: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr, fel y mae newydd ei ddweud, ei fod wedi bod yn dilyn nid yn unig canlyniad etholiad yr Unol Daleithiau, ond y sylw diddorol sydd wedi bod iddo yn y cyfryngau. Rwyf i wrth fy modd â buddugoliaeth y Democratiaid yn erbyn Llywydd gwaethaf yr Unol Daleithiau mewn hanes, yn ôl pob tebyg, ac rwy'n falch bod y Prif Weinidog wedi ymuno â mi i...
Delyth Jewell: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd cynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o wleidyddiaeth yng Nghymru? OQ55848
Delyth Jewell: Rwy'n hoffi geiriad y ddeiseb gyntaf rŷn ni'n ei thrafod y prynhawn yma'n arbennig. Mae'r pwynt wedi cael ei wneud bod yr iaith yma yn gyfoethog ac yn bwysig. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am hanes Cymru y bydd pob disgybl yn ei ddysgu, ac, wrth gwrs, mae'r ail ddeiseb yn gysylltiedig, gan ei bod yn gofyn i hanesion pobl dduon a phobl o liw gael eu...
Delyth Jewell: Diolch, Gweinidog, am y datganiad.
Delyth Jewell: Rydym ni'n amlwg yn croesawu adeiladu mwy o dai cymdeithasol a dulliau mwy arloesol o wneud hynny. Mae llawer yn y datganiad yr ydym ni'n ei groesawu. Rwyf i hefyd yn falch o weld bod hwn wedi'i ddefnyddio wrth ôl-ffitio, gan fod hwnnw hefyd yn faes pwysig iawn i fynd iddo. Efallai, Gweinidog, y gallech chi amlinellu pa un a fyddai modd defnyddio dull tebyg i sicrhau bod cartrefi gwag yn...
Delyth Jewell: Iawn, Llywydd. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi dweud yn gynharach fod angen eglurder arno ynghylch symiau canlyniadol Barnett ar hyn, ond byddwn i'n croesawu mwy o eglurder ynghylch yr hyn yr oedd yn ei olygu, gan ei fod yn ymddangos bod hon yn fformiwla ar gyfer arian sydd eisoes wedi ei ddarparu. Felly, hoffwn i gael y datganiad hwnnw, os gwelwch yn dda, ar frys gan y Gweinidog, gan...
Delyth Jewell: Hoffwn i ychwanegu fy llais i at rywfaint o'r hyn sydd wedi ei ddweud, oherwydd hoffwn i hefyd alw am ddatganiad ar frys gan Weinidog yr economi sy'n mynd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i berchnogion busnes am hyn, Trefnydd, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu cymorth dros dro i'r cwmnïau hynny a oedd yn dibynnu ar gyllid cam 3 y gronfa cadernid economaidd. Nawr, rwy'n gwybod bod...
Delyth Jewell: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cynnal gyda sefydliadau perthnasol i sicrhau bod etholwyr Cymru yn wybodus am faterion gwleidyddol cyn etholiad y Senedd yn 2021?