Lesley Griffiths: Diolch. Yn amlwg, wrth i ni gyflwyno'r polisi hwn, bydd mwy o waith yn cael ei wneud gyda'n hysgolion, ac mae hynny eisoes yn digwydd. Fe wnaethoch chi sôn eich bod wedi cael ymateb gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg mewn perthynas â gwaith pellach oedd yn cael ei wneud yn ystod mis Hydref. Yn amlwg, rydym ni'n dal ym mis Hydref, felly byddwn yn gobeithio pan fydd ganddo'r wybodaeth honno...
Lesley Griffiths: Diolch. Yn sicr, rwy'n credu y byddai'n werth i chi ysgrifennu at Weinidog yr Economi, gan amlinellu'r cynigion sydd wedi'u hawgrymu gennych chi, ac rwy'n gwybod ein bod ni wedi gwneud cryn dipyn o waith fel rhan o adfywio canol tref, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig yn ystod y blynyddoedd blaenorol, i dynnu sylw at sut y gallan nhw gael mwy o ymwelwyr i ganol ein trefi, ac, yn amlwg, mae...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, rydym ni'n sicr yn gwybod, i lawer o bobl, y bydd yr argyfwng costau byw hwn yn eu gwthio dros y diben, yn anffodus, o ran eu cyllid, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol wedi ystyried yr adroddiad yn ofalus iawn, a'i bod hi'n edrych—. Rwy'n gwybod mai un maes lle mae hi'n gwneud rhywfaint o waith yw dyled sy'n ddyledus i gredydwyr y sector cyhoeddus, er...
Lesley Griffiths: Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ystyried gwneud datganiad ar wasanaethau canser yng Nghymru. Rwy'n credu ei bod hi'n gwneud hynny bron bob blwyddyn, ond nid ydw i'n hollol siŵr lle yr ydym ni yn y cylch, ond yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog—sydd newydd glywed eich cwestiwn—os yw hi'n barod i wneud hynny.
Lesley Griffiths: —i wneud yn siŵr bod—
Lesley Griffiths: —i wneud yn siŵr bod gan ein prif ysbytai yn y gogledd yr ymgynghorwyr gofal brys sy'n ofynnol.
Lesley Griffiths: Wel, mae'r Aelod yn gwybod nad oes modd i ni wneud datganiad brys y prynhawn yma ar achos unigol gofidus iawn, ac mae'n ddrwg gennyf i nad yw'r Gweinidog yn y Siambr, ond byddaf i'n sicrhau ei bod hi'n clywed am yr achos unigol. Er na all hi wneud sylwadau ar achos penodol yn amlwg, byddwch chi'n ymwybodol iawn o'r gwaith arwyddocaol y mae'r Gweinidog yn ei wneud gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd, sydd yn amlwg â chyfrifoldeb am y cynllun hwn, wedi ysgrifennu at y Cynghorydd Huw David, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan ddiolch i'w swyddogion, yn enwedig, am eu hymgysylltiad parhaus gyda'i swyddogion wrth ddatblygu'r achos busnes manwl. Fel y dywedoch chi, cymeradwyodd y Gweinidog y cynllun mewn egwyddor,...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn sicr mae'n rhywbeth rwy'n meddwl ein bod ni wedi'i weld y tu allan i lawer o'n hysbytai yng Nghymru, sy'n rhywbeth nad ydym ni eisiau'i weld, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'r holl fyrddau iechyd i geisio gwella'r amseroedd y mae ambiwlansys yn aros y tu allan. Yn amlwg, mae hwn yn broblem gyda...
Lesley Griffiths: Diolch. Yn sicr, rwy'n credu eich bod chi wedi gwneud gwaith da iawn o ran codi ymwybyddiaeth o fath o ddiabetes anhysbys iawn. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei lle ac wedi cytuno i ysgrifennu atoch chi am hyn.
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae tri newid i'r busnes yr wythnos hon. Mae'r datganiad ar yr oriel gelf gyfoes genedlaethol wedi ei dynnu'n ôl. Hefyd, mae'r drafodaeth ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg wedi'i gohirio tan 15 Tachwedd. Yn olaf, mae datganiad llafar ar gau pont Menai wedi'i ychwanegu fel yr eitem olaf ar agenda heddiw. Mae busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi...
Lesley Griffiths: Fe ddywedoch chi 'yr un sedd'.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn am y pethau erchyll yr ydym ni wedi'u gweld gyda chaethwasiaeth fodern yma yng Nghymru, ac rwy'n gwybod y byddai'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn hapus iawn i gyflwyno datganiad ysgrifenedig, ac mae hi hefyd yn awyddus iawn i roi cyhoeddusrwydd i'r safon ymhlith sefydliadau yma yng Nghymru.
Lesley Griffiths: Mae'r Gweinidog addysg eisiau dod gyda fi hefyd. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'r cysylltiadau rhwng y gogledd, ac yn enwedig y gogledd-ddwyrain, a gogledd-orllewin Lloegr yn bwysig iawn, a gwyddom ni fod pobl yn teithio i Lerpwl ac, yn wir, Manceinion, ac ymhellach mae'n debyg, i weld digwyddiadau celfyddydol a diwylliant. Yn amlwg, mae cystadleuaeth yr Eurovision...
Lesley Griffiths: Wel, yn sicr mae'n swnio'n gynllun cyffrous iawn gan Gyngor Sir Pen-y-bont ar Ogwr. Yn amlwg, mae'n rhaid ystyried y ddarpariaeth ar gyfer trafnidiaeth i gyd pan fydd ceisiadau cynllunio'n cael eu gwneud, ond nid ydw i'n credu ei fod yn addas ar gyfer datganiad.
Lesley Griffiths: Wel, ni fyddwn ni'n gallu cael datganiad cyn eich cwestiynau yfory, felly rwy'n falch eich bod chi'n codi hynny'n uniongyrchol yfory gyda'r Gweinidog Economi. Rwy'n gwybod ei fod wedi bod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda grwpiau busnes fel Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, er enghraifft, i drafod yr argyfwng sy'n amlwg yn bodoli ym maes ynni. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud yn fy...
Lesley Griffiths: Dim ond i ddweud wrthych chi yn union sut mae pethau ar hyn o bryd, sef gyda'r awdurdod lleol. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi derbyn cais ffurfiol am arian i ailosod pont Llannerch. Rwyf wedi gweld sylw yn y cyfryngau fy hun sydd wedi cynnwys datganiadau gan y cyngor i ddweud eu bod yn datblygu achos busnes cadarn i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru iddo gael ei asesu. Pan fydd yr achos busnes...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, roedden nhw'n sicr yn sylwadau rhyfeddol, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, ac rwy'n meddwl eich bod chi'n gwneud pwynt da iawn, os nad oeddem ni'n gweld meysydd eraill o anallu yn Llywodraeth y DU yn cipio'r penawdau, mae'n siŵr y byddai hynny wedi cael llawer mwy o sylw. Mae'n fater pwysig iawn, ac rwy'n gwybod y byddai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol eisiau...
Lesley Griffiths: Ni fyddai penderfyniad o'r fath yn briodol ar gyfer datganiad yn y Siambr.
Lesley Griffiths: Wel, fel gydag unrhyw gynllun newydd, rwy'n credu bod gennych chi broblemau cychwynnol ac mae modd gwella pethau bob amser. Yn sicr, fe rannais i daith drên ddymunol iawn adref i Wrecsam ychydig fisoedd yn ôl gyda ffoadur a oedd yn hynod ddiolchgar am y cynllun ac a oedd ond yn teithio i Gaergybi ac yn ôl, dim ond i adael Caerdydd a chael blas ar y golygfeydd ar draws ein gwlad brydferth....