Mike Hedges: Fi.
Mike Hedges: Rwy'n eithaf da.
Mike Hedges: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Suzy Davies am roi munud i mi yn y ddadl hon, ond hefyd am ei chyflwyno? Hoffwn ganolbwyntio ar ddewisiadau TGAU. Heb TGAU mewn iaith dramor, mae'n annhebygol y bydd disgyblion yn mynd ymlaen i astudio safon uwch neu radd yn yr iaith dramor honno. Mewn ysgol cyfrwng Cymraeg bydd disgybl yn astudio iaith a llenyddiaeth Gymraeg, iaith a...
Mike Hedges: Anaml y bydd diwrnod yn mynd heibio pan nad wyf yn gresynu at y ffaith bod cynlluniau Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i ben yn fy etholaeth. Yn gyntaf, roedd unrhyw un a gredai y byddai cynllun £30 miliwn y flwyddyn yn dileu tlodi naill ai’n or-optimistaidd neu’n twyllo’i hun. Adleisir hyn gan y dystiolaeth a roddodd cyngor Caerffili i bwyllgor Cynulliad pan oeddem yn edrych arno. A gaf...
Mike Hedges: Mae'n ddealladwy fod gan lawer o breswylwyr cartrefi gofal iechyd deintyddol gwael i gychwyn pan fyddant yn mynd i gartref gofal, gan eu bod yn aml yn mynd i gartref gofal gan fod eu hiechyd yn dirywio ac oherwydd diffyg symudedd. Gan fod mynediad deintyddol i blant ar lefel uwch nag erioed, ac fel y gwyddoch, rwy'n sôn yn rheolaidd iawn am ba mor dda yw Cynllun Gwên, a yw'r Gweinidog yn...
Mike Hedges: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ac i wneud sylw ar y goblygiadau ariannol, y disgwylir iddynt, fel y dywedodd y Gweinidog, fod yn fach iawn ac yn debygol o fod mor fach fel nad ydynt yn effeithio ar y cynghorau na'r syrcasau eu hunain. Hoffwn ddiolch ar goedd i bawb a roddodd dystiolaeth neu a gyflwynodd...
Mike Hedges: Mae gen i ymyriad cyflym. Wrth gwrs, fe wyddoch chi am yr arian y mae awdurdodau lleol yn ei ddal, mae rhywfaint o hwnnw ar gyfer peth o'r gwaith atgyweirio mawr hyn. Os byddaf i'n sôn am ysgol Plasmarl yn eich rhanbarth chi a fy etholaeth i, maen nhw wedi cael to newydd, ac maen nhw wedi cael ail-wifro trydanol llawn. Felly, dyna sut y mae'r arian sy'n cael ei ddal yn ganolog yn cael ei...
Mike Hedges: Dau bwynt sydyn. A wnewch chi gytuno â mi mai'r hyn y dylem ni fod yn ei weld yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r cyfrifiadau er mwyn i bob un ohonom ni allu gweld sut yr ydych chi'n cyrraedd y rhifau hynny? Pe byddai'r rheini'n cael eu cyhoeddi, byddem wedyn yn gweld pwy oedd yn gywir a phwy oedd yn anghywir. Yr ail bwynt yr hoffwn i ei wneud, ac rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno â mi, yw...
Mike Hedges: Gwnaf.
Mike Hedges: Wel, nid wyf i'n siŵr y byddai ei rannu yn arbennig o fuddiol mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod ei gael dan reolaeth ysbytai fel mai nhw sy'n gyfrifol am yr ambiwlansys sy'n aros y tu allan, yn hytrach na'i fod yn gyfrifoldeb ar rywun arall—nid yw'n gwneud dim synnwyr o gwbl. Mae'r ambiwlansys yn aros y tu allan, ac nid yw o fudd i'r bwrdd iechyd gael y bobl allan gan nad nhw sy'n gyfrifol...
Mike Hedges: Yn sicr.
Mike Hedges: Byddwn, a do, fe ddywedais i'r un peth yn union y llynedd a'r flwyddyn flaenorol. Felly, croeso. Un enghraifft o sefydliad mawr nad yw'n gweithio'n effeithiol yw gwasanaeth ambiwlans Cymru. Mae angen taer i redeg hwn ar gyfres o olion traed llawer llai. Mae gennym ni restri aros orthopedig hir, ac mae angen rhoi sylw i'r rhain. Mae gen i rywun sydd wedi bod yn aros rhwng pedair ac wyth...
Mike Hedges: Rydym ni wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan mai polisi gwleidyddol ac nid economaidd oedd cyni cyllidol. Rydym ni'n gweld twf gwirioneddol yn yr arian sydd ar gael ar gyfer cyllideb Cymru tra bod economi Prydain yn parhau i aros yn ei hunfan. Mae'n rhaid croesawu'r twf mewn termau real yn yr arian sydd ar gael. Rwy'n credu bod yn rhaid croesawu unrhyw gynnydd mewn twf...
Mike Hedges: Gallwn i roi dewis arall i chi. Mi wnaf i roi dewis arall i chi: byddwn i'n cymryd arian o gyllideb yr economi a byddwn i'n ei roi yn y gyllideb amgylcheddol a byddwn i'n ei roi yn y gyllideb addysg. Dim ond newidiadau pen uchaf yr wyf i'n gofyn i chi eu gwneud. Ond, rwy'n credu, lle byddech chi'n tynnu arian i ffwrdd—. Oherwydd bod yn rhaid i chi dynnu arian o rywle i'w roi yn rhywle...
Mike Hedges: Mae nifer o bryderon wedi cael eu codi gyda mi ynglŷn â sbwriel, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y camau sy'n cael eu cymryd i atal gollwng sbwriel? Dau awgrym a gefais i yw bod troseddwyr tro cyntaf yn mynd ar gwrs ymwybyddiaeth sbwriel tebyg i'r cwrs ymwybyddiaeth cyflymder a bod bwytai bwyd cyflym yn argraffu rhif plât y car ar...
Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adeiladu tai cyngor yng Nghymru?
Mike Hedges: Mae Llywodraeth Cymru yn darparu llawer o gefnogaeth i bobl sy'n ddigartref, ond fel y gŵyr pob un ohonom, mae gormod o lawer o bobl yn cysgu ar y strydoedd a gormod lawer o bobl nad ydynt yn gwybod ble y byddant yn cysgu heno, ac maent yn gobeithio y bydd ffrind neu berthynas yn rhoi llety iddynt. Mae honno'n sefyllfa wael inni fod ynddi yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. A yw'r...
Mike Hedges: Os ydym am sicrhau bod nifer fawr o goed yn cael eu plannu, mae angen cynllun arnom, nid targed cenedlaethol. A wnaiff Llywodraeth Cymru osod targedau blynyddol ar lefel awdurdod lleol, dynodi tir ar gyfer plannu coed, neu ofyn i awdurdodau lleol ddynodi tir ar gyfer plannu coed fel y gwnânt yn y cynllun datblygu lleol ar gyfer tai, a gosod isafswm o goed i'w plannu fesul tŷ ar gyfer pob...
Mike Hedges: A gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog? Mae llawer gormod o blant yn byw mewn cartrefi tlawd. Heno yn Abertawe bydd rhai plant yn mynd i'r gwely'n llwglyd. Bydd hyd yn oed mwy o famau'n mynd i'r gwely'n llwglyd. Bydd rhai yn mynd i'r gwely mewn tŷ oer a llaith. Bydd rhai plant yn newid eu hysgol weithiau mor aml â phob blwyddyn wrth i'w rhieni symud o un tŷ a rentir yn breifat am...
Mike Hedges: Ddydd Mawrth diwethaf, cyflwynodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth adroddiad ar gyflogaeth a phobl anabl. A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch pa gamau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, ac yn bwysicach, gan gyrff sy'n cael eu cefnogi'n ariannol gan Lywodraeth Cymru, i gynyddu nifer y bobl anabl sy'n cael eu cyflogi? Yn ail, mae fy ngwrthwynebiad i losgi yn hysbys...