Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Fynediad at Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf: adolygiad o'r farchnad agored 2019?
Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am wasanaethau gofal profedigaeth i'r rhai sy'n colli plentyn drwy gamesgoriad?
Russell George: Caffael lleol.
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac am y copi ymlaen llaw a ddarparwyd hefyd? Fe fydd y Gweinidog yn ymwybodol o waith Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gaffael a sut y gall hynny chwarae ei ran yn yr economi sylfaenol. Nid yw'r Pwyllgor wedi gwneud unrhyw argymhellion hyd yn hyn na chyflwyno ei adroddiad, ond un o'r negeseuon...
Russell George: Y pwynt rwyf am ei wneud—ac roeddech yn dweud eich bod yn anghytuno â rhai o fy mhwyntiau, ond nid wyf yn hollol siŵr pa bwyntiau roeddech chi'n anghytuno â hwy—yw fy mod yn ategu’r hyn a ddywedais, Hefin. Ysgrifennodd yr Adran Drafnidiaeth yn ôl at y pwyllgor, mewn gwirionedd, yn egluro'r safbwynt a amlinellais heddiw, fod y cerbydau wedi bod yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru ers y...
Russell George: Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 2 yn ffurfiol yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. A gaf fi longyfarch Plaid Cymru ar gynnig wedi'i saernïo’n dda a nodi ein cefnogaeth lawn heddiw? Nid oedd gwelliant y Llywodraeth heddiw wedi'i saernïo’n dda, gan ei fod yn methu cydnabod y cyfrifoldeb am ddarparu capasiti ar gyfer gwasanaethau Cymru a gwasanaethau Cymru’n unig o dan y...
Russell George: Rwy'n falch dros ben o gael siarad o blaid y cynnig hwn heddiw ac ategu'r hyn a ddywedodd cyd-Aelodau i ganmol rôl hosbisau a'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i'r rhai sy'n dioddef o gyflwr sy'n cyfyngu ar fywyd a'u teuluoedd. Yn fy etholaeth i, hoffwn dalu teyrnged i Gynghrair Cyfeillion Ysbyty Llanidloes. Cafodd eu hystafelloedd gofal lliniarol eu hagor yn swyddogol y llynedd, ac roedd...
Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Heb os, byddwch yn cytuno â mi ein bod yn gweld y newidiadau yn ein hinsawdd yn sgil newid hinsawdd. Ac yn sicr, buaswn yn dweud bod angen darparu cyllid ychwanegol er mwyn carthu ein hafonydd a'n cyrsiau dŵr, a arferai ddigwydd yn amlach rai blynyddoedd yn ôl, a chyllid ychwanegol hefyd i awdurdodau lleol er mwyn glanhau cwlfertau a draeniau. Buaswn yn dweud...
Russell George: 1. Pa ddyraniadau ychwanegol fydd ar gael yn ystod y cylch cyllideb presennol i gynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus wrth ymdrin â thywydd garw? OAQ54689
Russell George: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ysgrifenedig a'i ddatganiad heddiw? Ac, wrth gwrs, byddwn i'n cytuno ag ef y bydd y cyhoeddiad hwn ddoe yn peri pryder mawr i weithlu Tata Steel ym Mhort Talbot a lleoliadau eraill ledled Cymru. Rwy'n falch eich bod chi wedi cael trafodaeth gychwynnol heddiw, ac yn y drafodaeth honno, a oedd unrhyw arwydd o sut y gallai'r cyhoeddiad hwn...
Russell George: Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Fel y gallwch ddychmygu, rwy'n cyfarfod yn rheolaidd ag undebau'r ffermwyr yn sir Drefaldwyn. Y mater a godwyd gyda mi yn y cyfarfod diwethaf, fel na fyddech yn synnu o gwbl, yw'r ymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Maent wedi gofyn nifer o gwestiynau ynglŷn â sut y byddai'r cynllun yn gweithio'n ymarferol, a sut y byddai cefnu ar y mecanwaith...
Russell George: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant ffermio yng nghanolbarth Cymru? OAQ54668
Russell George: Diolch ichi am ildio. Os nad yw hwn yn faes a ddatganolwyd, pam rhoi yn eich maniffesto ar gyfer Cynulliad Cymru—ymrwymiad y bydd gan bob safle ledled Cymru fand eang cyflym iawn erbyn 2015? Hefyd, rwy'n eich herio ar faint rydych chi wedi ymwneud â hyn, yn bendant. Hynny yw, dewch i'm hetholaeth a dod i gyfarfod cyhoeddus—nid fy ngeiriau i yw'r rhain, ond geiriau'r bobl sydd wedi cael...
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd, a chynigiaf y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Byddwn yn cytuno â sylwadau agoriadol y Dirprwy Weinidog pan ddywedodd nad yw band eang yn foethusrwydd bellach; mae'n rhan o fywyd bob dydd. Mae'n debyg i nwy a thrydan, ac mae'n ddisgwyliedig. Byddwn yn cytuno â'r Dirprwy Weinidog yn ei sylwadau agoriadol. Gwnaeth y Dirprwy Weinidog nifer o gyfeiriadau...
Russell George: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw? Rwyf yn cefnogi i raddau helaeth ddyheadau'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud yn y rhan fwyaf o'i ddatganiad. Rwy'n sicr yn cytuno â dechrau ei ddatganiad heddiw, pan ddywedodd mai busnesau bach a chanolig yw asgwrn cefn economi Cymru. Ni allwn gytuno mwy â hynny. Mae'n debyg bod rhan olaf ei ddatganiad braidd yn negyddol efallai....
Russell George: Trefnydd, a fyddai modd imi ofyn am ddatganiad ar ddiogelu plant ysgol mewn lleoliadau sy'n cael eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio, os gwelwch yn dda? Mae pryder ynghylch diogelwch disgyblion oherwydd bod cyfleusterau'r ysgol hefyd yn cael eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio ar ddiwrnod yr etholiad cyffredinol. Rhoddaf un enghraifft yma o Bennaeth sydd wedi cysylltu â mi, sy'n...
Russell George: —neu fenyw, Joyce, i gael cyfleuster i ganiatáu i awdurdodau lleol drosglwyddo gwybodaeth i wefan Traffig Cymru, fel bod gennym y siop un stop honno ar gyfer unrhyw fath o broblemau ar y ffordd.
Russell George: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Yn sicr, yn fy etholaeth dros yr wythnosau diwethaf, bu nifer o broblemau gyda llifogydd lle rydym wedi gweld nifer o ffyrdd yn cau. A’r hyn y mae etholwyr yn dod ataf yn ei gylch yw’r ffaith na allant gael gwybodaeth am ble mae'r ffyrdd ar gau, boed yn gefnffyrdd neu’n ffyrdd sy'n gyfrifoldeb i'r awdurdod lleol. Nawr, gwn fod y Gweinidog eisoes...
Russell George: Diolch, Weinidog. Fe fyddwch hefyd yn ymwybodol fod traffig ar yr M4 yn cynyddu'n ddyddiol. Rydym wedi cael arolwg barn newydd, sy'n dangos bod bron i ddwywaith cymaint o bobl yng Nghymru bellach yn credu y dylid adeiladu ffordd liniaru'r M4, yn groes i farn y Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru. Ond a allwch gadarnhau p'un a yw'r opsiwn o adeiladu ffordd liniaru'r M4 o fewn cwmpas cylch...
Russell George: Diolch, Lywydd. Ddirprwy Weinidog, a yw'r amserlen ar gyfer Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru wedi llithro?