Hannah Blythyn: Diolch yn fawr iawn i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwyf innau, mewn gwirionedd, wedi rhoi'r un addewid â hithau i beidio â defnyddio cyllyll a ffyrc plastig. Yn sicr, credaf ein bod yn gwybod bod plastig yn broblem fawr. Mae'n sicr yn rhywbeth sydd yn y penawdau'n aml ar hyn o bryd. Fel rhan o'r astudiaeth o gyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, mae hyn yn cynnwys dadansoddiad o'r cynlluniau...
Hannah Blythyn: Dengys y data diweddaraf gan Raglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau mai 75 y cant oedd cyfradd gasglu awdurdodau lleol Cymru o boteli plastig i’w hailgylchu o aelwydydd yn 2015, i fyny o 55 y cant yn 2009. Rydym wedi comisiynu ymgynghorwyr i gynnal astudiaeth i archwilio potensial cynlluniau cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, a fydd yn cynnwys dadansoddiad o gynlluniau dychwelyd...
Hannah Blythyn: Mae Llywodraeth Cymru’n anelu at sicrhau nad yw sbwriel yn amharu ar ein cymunedau drwy weithredu gwahanol raglenni a mentrau. Mae hyn yn cynnwys darparu cyllid ar gyfer awdurdodau lleol a’r trydydd sector er mwyn helpu i addysgu a chodi ymwybyddiaeth, annog ailgylchu, cefnogi prosiectau amgylcheddol cymunedol a gwella camau gorfodi.
Hannah Blythyn: A gaf i ddiolch i'r Aelod am eich cyfraniad, a chredaf eich bod wedi gwneud y pwyntiau hynny yn gwbl huawdl, yn ôl eich arfer, ac yn llygad eu lle? Diolch ichi am eich croeso cyffredinol a'ch cydnabyddiaeth fod egwyddor Sandford yn cael ei chynnal. Mae cydraddoldeb o ran mynediad—rydych chi'n taro'r hoelen ar ei phen, mae'r parciau cenedlaethol a'r ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol...
Hannah Blythyn: Diolch, ac fe wnaethoch siarad yn huawdl iawn nawr am angerdd pobl ledled Cymru o ran faint y mae ein parciau cenedlaethol a'n tirweddau dynodedig yn ei olygu i bob un ohonom, ac rwy'n meddwl ei fod yn arwydd o hynny bod bron pawb yn y Siambr sydd wedi codi ac wedi siarad am y tirweddau dynodedig naill ai yn ffinio ar eu hetholaethau neu o fewn eu hetholaethau, felly gwyddom pa mor anhygoel...
Hannah Blythyn: Ni feddyliais fyth y byddwn yn dweud y geiriau 'Cytunaf yn llwyr â Nick Ramsay yn hyn o beth.' Mae'r ddwy fenter y gwnaethoch chi sôn amdanyn nhw, roeddwn mewn gwirionedd yn mharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog wythnos diwethaf—hwnnw sydd yn geoparc, a hefyd â'r statws ffurfafen dywyll, a gwyddom fod gan rai o'r AHNE y statws hwnnw hefyd mewn gwirionedd. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â...
Hannah Blythyn: Diolch i chi am yr help gyda hynny. Nid oes unrhyw gynlluniau i uno'r parciau cenedlaethol.
Hannah Blythyn: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei ddau gwestiwn ac am ei ddiddordeb yn y mater hwn a'i ymrwymiad? Oherwydd gwn fod eich etholaeth yn agos iawn at ardal o harddwch naturiol eithriadol, yn union fel y mae f'un i. O ran rhywogaethau goresgynnol, mewn gwirionedd yn fuan iawn y bydd hi'n Wythnos Rhywogaethau Goresgynnol—wythnos nesaf, rwy'n credu—pan fyddwn ni'n edrych ar sut—. Eto, mae...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei groeso cyffredinol ac am ei gwestiynau. Dechreuodd drwy sôn eto am yr egwyddor Sandford, a'r posibilrwydd o amcan polisi yn gwrthdaro. Wel, gwyddom fod egwyddor Sandford dim ond yn gymwys pan fo gwrthdaro digymod rhwng diben presennol y parciau cenedlaethol, ond mewn gwirionedd, wrth i ni edrych ar bethau yn eu cyfanrwydd, drwodd a thro, ac ar ein hymrwymiad i ynni...
Hannah Blythyn: Diolch am eich cwestiynau.
Hannah Blythyn: Rwyf am ddechrau trwy ddiolch unwaith eto am waith yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ar hyn. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy ddweud, bum mlynedd yn ddiweddarach—wyddoch chi, fe ddechreuodd, bum mlynedd yn ôl. Roedd hynny, mewn gwirionedd, cyn i mi hyd yn oed fod yn Aelod Cynulliad. Ond, fy ddywedasoch nad oes dim byd wedi newid. Efallai nad oes unrhyw beth wedi newid ar lefel...
Hannah Blythyn: Diolch i chi am yr ystod eang honno o gwestiynau. Fe wnaethoch chi ddechrau drwy gydnabod y parc cenedlaethol o fewn eich etholaeth chi sef Sir Benfro, ac roeddwn yn falch iawn, fel pan ddechreuais yn fy swydd, fy mod i wedi ymrwymo i ymweld â'r holl barciau cenedlaethol, sydd yn dipyn o galedi—mynd ar ymweliadau—ond roedd yr ymweliad cyntaf â Sir Benfro. Pan oeddwn i yno, gwelais y...
Hannah Blythyn: Os ydym am fynd i'r afael â'r heriau amgylcheddol yr ydym yn eu hwynebu, mae'n rhaid inni gydnabod bod yn rhaid i dirweddau dynodedig wneud mwy i nodi, diogelu a gwireddu'r manteision sy'n deillio o'r nwyddau cyhoeddus y maent yn eu amddiffyn ar gyfer holl bobl Cymru. A phan wyf yn dweud, 'ar gyfer holl bobl Cymru', rwy'n golygu ar gyfer holl bobl Cymru; rwy'n awyddus i weld trawstoriad mwy...
Hannah Blythyn: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Yn ôl ym mis Mehefin 2017, trafododd y Cynulliad hwn swyddogaeth ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a pharciau cenedlaethol, pan siaradodd Aelodau gydag angerdd am yr hyn y mae'r tirweddau hyn yn ei olygu iddyn nhw a'u hetholwyr. Roeddem yn cytuno'n unfrydol y dylai ein tirweddau dynodedig chwarae eu rhan yn y gwaith o reoli adnoddau naturiol mewn modd...
Hannah Blythyn: prydlesu tir yn ymwybodol o oblygiadau tymor hwy, ac mae cael y grym sy’n edrych ymlaen yn rhoi cyfle i Diolch yn fawr iawn ichi, a diolch yn fawr am y cwestiwn. Nid wyf yn credu y byddai'n ddadl ar reoliadau heb gwestiwn neu gyfraniad gan Simon Thomas. Rwy'n ddiolchgar am eich cyfraniad, a bydd y rheoliadau hyn yn helpu ein rheolyddion i fynd i'r afael â safleoedd gwastraff sy'n...
Hannah Blythyn: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig i gymeradwyo Rheoliadau Gorfodi Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2018. Er bod y rhan fwyaf o'r diwydiant gwastraff yn gweithredu mewn ffordd gyfrifol, rydym yn gweld problemau sylweddol o du rhan fechan o'r diwydiant sydd yn methu â bodloni'r safon ofynnol neu sydd yn gweithredu yn groes i'r gyfraith. Mae gwastraff a gaiff ei waddodi yn...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Fel y soniasoch chi, fe wnaethoch chi golli'r ymweliad â Merthyr ddoe. Roeddwn i yn sicr yn meddwl bod yr ymweliad yn ddiddorol iawn ac mae'n dda gweld sut y maen nhw wedi datblygu ar eu llwyddiant ar ôl cael y cyllid ac wedi cynyddu cyfraddau ailgylchu ym Merthyr Tudful. Maen nhw wedi gwella eu cyfraddau ailgylchu, ac mewn gwirionedd maen nhw hefyd wedi...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Mae hi'n gwneud rhai pwyntiau dilys a phwysig iawn, yn enwedig gan ddechrau drwy bwysleisio'r angen i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu-tri phen y bregeth y dylem oll eu hadrodd yn rheolaidd. O ran y pwyntiau a wnewch o ran gwastraff bwyd, mae hynny'n fater o bwys yn ogystal. Rwy'n meddwl mai dyna pam ei bod hi mor bwysig bod ein huchelgais i haneru'r...
Hannah Blythyn: Diolch ichi am y cwestiwn hwnnw. Hoffwn eich llongyfarch ar fod ymhlith y rhai cyntaf i ddatgan eich cefnogaeth i'r tâl am fagiau siopa yng Nghymru, ac ni yw'r cyntaf yn y DU. [Torri ar draws.] Ie, yn yr hen ddyddiau drwg. Rwy'n deall yn llwyr yr hyn yr ydych yn ei ddweud o ran y materion yr ydych chi'n eu cael ar yn lleol. Mater i awdurdodau lleol unigol yw pennu amlder eu casgliadau...
Hannah Blythyn: A gaf ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad addysgiadol iawn? Diolch iddo hefyd am ei waith a'i ddiddordeb yn y maes hwn, yn arbennig fel Cadeirydd ei bwyllgor. Rwyf yn ddigon hen fy hun i gofio cael yr arian yn ôl pan aethoch â photel Corona yn ôl, ond credaf yr arferwn ei gadw a'i ddefnyddio ar gyfer bag cymysg o losin, felly mae'n debyg nad dyna'r newid mewn ymddygiad y byddem yn edrych...