Lynne Neagle: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar addysg a dysgu proffesiynol athrawon. Rwy'n credu mai ansawdd yr addysgu yn ein hysgolion yw elfen bwysicaf addysg ein plant. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ac Estyn wedi sicrhau nad oes gan unrhyw un unrhyw amheuon ynglŷn â pha mor bwysig yw addysgu o...
Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y pecyn cymorth sydd ar y gweill i ddatblygu dull cenedlaethol o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol, i'w ddefnyddio gan ddarparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru?
Lynne Neagle: Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella deilliannau addysgol ar gyfer plant Sipsiwn a Theithwyr yng Nghymru?
Lynne Neagle: Rwy’n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl am adroddiad blynyddol Estyn. Mae'n bwysig bod y Cynulliad yn cael cyfle i graffu ar waith y prif arolygydd, yn y ddadl flynyddol hon ac yn y pwyllgor. Mae’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei hun yn cymryd tystiolaeth gan y prif arolygydd am yr adroddiad blynyddol yr wythnos nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd yr hyn a ddywedwyd yn y ddadl...
Lynne Neagle: Rwy'n siarad y prynhawn yma yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad. Yn ddiweddar fe gynhaliwyd ymchwiliad cynhwysfawr gennym i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc yng Nghymru. Yfory, byddwn yn cynnal ein sesiwn tystiolaeth lafar olaf, ac yn clywed gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgrifennydd y...
Lynne Neagle: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i gyfrannu at y ddadl. Gallai unigrwydd ac unigedd fod wedi cael eu gweld fel pynciau ymylol ychydig flynyddoedd yn ôl, ac rwy'n falch o fod wedi rhoi blaenoriaeth iddynt yn y pwyllgor iechyd a bod ymwybyddiaeth gynyddol ymhlith y cyhoedd o'r niwed y gall unigrwydd ei wneud i'n hiechyd. Rydym i gyd yn dod yn gyfarwydd ag effaith iechyd cyhoeddus...
Lynne Neagle: Rwy'n falch o gyfrannu'n fyr i'r ddadl hon. Nawr, nid wyf yn honni fod gennyf y math o wybodaeth fanwl a thechnegol a ddangoswyd gan rai o'n siaradwyr eraill y prynhawn yma, ond gwn fy mod wedi ymdrin â llif cyson iawn o gwynion am ffyrdd heb eu mabwysiadu yn fy 19 mlynedd fel Aelod Cynulliad dros Dorfaen. Nawr, mewn rhai achosion, mae'r ffyrdd hyn wedi bod mewn cyflwr gwirioneddol...
Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi teuluoedd sy'n Sipsiwn a Theithwyr mewn addysg?
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n mynd i orfod bod yn gyflym iawn oherwydd nid oes gennyf lawer o amser, felly ni fyddaf yn gallu ymateb i bwyntiau pawb, ond diolch i bawb sydd wedi cyfrannu, ac mae'n wych gweld y fath amrywiaeth o siaradwyr ar draws y Siambr ar y pwnc pwysig hwn. Rwyf am geisio mynd ar drywydd rhai o'r pwyntiau o'r ddadl. Cyfeiriodd Darren Millar at bwysigrwydd triniaethau...
Lynne Neagle: Er ein bod yn derbyn y bydd y gwasanaethau mwyaf arbenigol weithiau'n ei gwneud hi'n ofynnol i gleifion deithio, mae ein hadroddiad yn glir fod angen datblygu uned mamau a babanod yng Nghymru. Galwodd argymhelliad 6 ar Lywodraeth Cymru i sefydlu uned mamau a babanod yn ne Cymru, wedi'i chomisiynu a'i hariannu ar sail genedlaethol i ddarparu gwasanaethau i Gymru gyfan ac wedi'i staffio'n...
Lynne Neagle: Y rheswm sylfaenol pam y dewisodd ein pwyllgor ystyried y pwnc hwn yw'r ffaith y gall salwch meddwl amenedigol effeithio ar blant. Profwyd bod y 1,000 o ddyddiau cyntaf o fywyd plentyn, o feichiogrwydd i ail ben-blwydd y plentyn, yn gyfnod allweddol o amser sy'n gosod y llwyfan ar gyfer datblygiad yr unigolyn a'i iechyd gydol oes. Mae'n gyfnod o botensial enfawr, ond o fregusrwydd enfawr...
Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl amenedigol. Mae salwch meddwl amenedigol yn effeithio ar hyd at un o bob pump menyw yng Nghymru. Gydag oddeutu 33,000 o enedigaethau y flwyddyn, mae hynny'n golygu bod hyd at 6,600 o fenywod yng Nghymru yn cael problemau iechyd meddwl a achosir neu a waethygir...
Lynne Neagle: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i gyfrannu at y ddadl. Mae hwn yn fater pwysig ac rwy'n falch iawn ein bod yn cael cyfle i'w drafod heddiw. Er bod y cynnig heddiw yn sôn am eiddo a adeiladir o'r newydd, roeddwn am godi mater lesddeiliaid sydd wedi prynu hen dai cyngor neu dai cymdeithasol, ac yna wedi wynebu biliau mawr iawn i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon. Rwyf wedi...
Lynne Neagle: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymdrechion i wella safonau ysgolion yn Nhorfaen?
Lynne Neagle: Diolch, Weinidog. Yn anffodus, rwyf wedi gweld cryn gynnydd yn ddiweddar yn nifer y cwynion gan denantiaid ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac mae rhai ohonynt wedi bod yn achosion difrifol iawn a hyd yn oed yn achosion lle roedd bywyd yn y fantol. Un o'r pethau sy'n ymddangos yn gyson yw amharodrwydd pobl i roi tystiolaeth am eu bod ofn y bydd rhywun yn dial arnynt, ac er bod...
Lynne Neagle: Diolch. Ar ôl y chwe mis cyntaf o wasanaeth llawn y credyd cynhwysol yn Nhorfaen, mae pennaeth refeniw a budd-daliadau'r cyngor, Richard Davies, wedi dweud ei fod yn teimlo bod ethos ei rôl wedi newid o dalu budd-daliadau a gwneud yn siŵr fod pobl yn cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo i sicrhau bod gan bobl fwyd ar y bwrdd. Yn anffodus, nid oes unrhyw arwydd o welliant, a'r wythnos...
Lynne Neagle: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith diwygio lles yn Nhorfaen? OAQ51574
Lynne Neagle: 7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei gynnig i gymdeithasau tai yn Nhorfaen wrth ymdrin ag ymddygiad gwrthgymdeithasol? OAQ51575
Lynne Neagle: A gaf fi ddiolch i Janet am adael i mi gael munud o'i hamser? Hefyd rwyf wedi bod yn ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd am ei ymwneud yn ddiweddar ag ymgyrch Know Type 1 ac am gyfarfod â mi a chyd-Aelodau, Julie Morgan a Jayne Bryant, a Diabetes UK Cymru a Beth Baldwin, sydd wedi ymgyrchu mor ddewr yn dilyn marwolaeth drasig ei mab, Peter, ddwy flynedd yn ôl. Fel y gŵyr...
Lynne Neagle: A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches yng Nghymru?