Laura Anne Jones: Wel, fe rown ni gynnig arni, Llywydd. Mewn ymateb i'r—
Laura Anne Jones: Mewn ymateb i ymatebion y Prif Weinidog i'm cyd-Aelodau anrhydeddus yn gynharach, ie, argyfwng iechyd cyhoeddus yw hwn, oes, mae bywydau yn y fantol, ac oes, mae'r rhain yn benderfyniadau anodd. Rydym ni i gyd yn cydnabod hyn ac rydym ni i gyd yn deall hyn. Felly, yn hytrach na gwastraffu amser yn gwneud cyhuddiadau hurt ar draws y Siambr hon yn gynharach, pan roeddech chi yma, Prif Weinidog,...
Laura Anne Jones: Diolch, Dirprwy Weinidog. Rwy'n croesawu'r datganiad hwn heddiw ar ddiwrnod rhyngwladol pobl anabl, sy'n ceisio nodi a mynd i'r afael â'r gwahaniaethu, ymyleiddio, allgáu a diffyg hygyrchedd y mae llawer o bobl sy'n byw gydag anableddau yn eu hwynebu. Fe alwodd y Cenhedloedd Unedig nôl ym 1992 am ddiwrnod rhyngwladol i ddathlu pobl sy'n byw gydag anableddau i'w gynnal ar yr adeg hon, ar y...
Laura Anne Jones: Diolch. Prif Weinidog, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i wella diogelwch ar y ffyrdd ar yr A4042 yn Llanelen? Ceir man lle mae pont grom dros afon Wysg, ac rwy'n gwybod bod llwybrau troed yn arwain at y bont ar y ddwy ochr. Mae unrhyw gerddwyr yn cael eu gorfodi i wrthdaro â cherbydau drwy beidio â chael unrhyw ddewis ond cerdded ar y gerbytffordd. Dyma'r unig ran o'r...
Laura Anne Jones: Rwy'n cytuno â Delyth Jewell ar hyn. Mae'r newyddion bod trethdalwyr yn wynebu'r swm afresymol o arian a wariwyd ar y gwaith deuoli hwn o Hirwaun i Ddowlais, ar ôl i gostau adeiladu gynyddu gan 25 y cant mewn llai na blwyddyn, yn wirioneddol ddychrynllyd. Mae hwn yn swm afresymol o arian i fod yn ei wario ar brosiect o'r fath ac rwy'n cytuno'n llwyr â Delyth Jewell ar hynny. Mae hyn yn...
Laura Anne Jones: 7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella diogelwch ar y ffyrdd yn Sir Fynwy? OQ55985
Laura Anne Jones: Weinidog, bydd llwyddiant y cwricwlwm newydd yn dibynnu'n helaeth ar ba mor dda y mae athrawon ac aelodau eraill o staff ysgolion wedi gallu paratoi ar gyfer ei gyflwyno. O gofio bod bron i hanner blwyddyn academaidd wedi'i cholli yn gynharach eleni, a'n bod bellach yn gweld grwpiau blwyddyn cyfan yn cael eu tynnu o'r ysgol ar raddfa fawr—. Er enghraifft, gellid dadlau bod tynnu 1,000 o...
Laura Anne Jones: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg yn egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar gadw plant mewn ysgolion gymaint â phosibl hyd at ddiwedd y tymor hwn? Roedd yn galonogol clywed y Prif Weinidog yn rhannu fy mhryderon ynghylch grwpiau blwyddyn mewn rhai ysgolion mewn rhai awdurdodau y gellid dadlau eu bod gartref yn ddiangen oherwydd nad oedden nhw'n defnyddio'r system...
Laura Anne Jones: Prif Weinidog, yn dilyn cwestiwn John Griffiths, hoffwn ddweud bod nifer o rieni pryderus yn ardal etholaeth Casnewydd wedi cysylltu â mi hefyd, oherwydd, ar hyn o bryd, fel y mae pethau'n sefyll, mae 1,000 o ddisgyblion yn ynysu o Ysgol Gyfun Caerllion, fy hen ysgol i. Mae Blynyddoedd 7, 8, 9, 12 a 13 i gyd i ffwrdd ar hyn o bryd, sydd y tu hwnt i ddealltwriaeth mewn gwirionedd. Yn amlwg,...
Laura Anne Jones: Diolch, Dirprwy Weinidog. Croesawaf y datganiad hwn heddiw ar Wythnos Rhyngffydd, sy'n ceisio datblygu'n fwy y berthynas dda a'r partneriaethau gwaith rhwng pobl o wahanol grefyddau a chredoau. Dros genedlaethau, rydym ni wedi datblygu democratiaeth amlhiliol, aml-ffydd lwyddiannus. Mae'r wythnos hon yn ganolbwynt ar gyfer gweithgarwch rhyngffydd, fel bod mwy o bobl yn ymwybodol o'i...
Laura Anne Jones: Prif Weinidog, hoffem ninnau hefyd, ar y meinciau hyn, fynegi ein llongyfarchiadau i—rieni Poppy, dyna yw ei henw rwy'n credu, a hoffem groesawu'r ysbyty hefyd, sydd, wrth gwrs, o fudd mawr i'm holl etholwyr ar draws Dwyrain De Cymru. Bu llawer o bryderon y mae pobl wedi bod yn anfon negeseuon ataf yn eu cylch yn ddiweddar, oherwydd mae meddygon wedi dweud eu bod nhw'n pryderu am y lefelau...
Laura Anne Jones: Fel hyrwyddwr lluoedd arfog Cyngor Sir Fynwy ac fel wyres i uwchgapten fy hun, gwn am bwysigrwydd cydnabod gwaith, anghenion ac ymrwymiad ein lluoedd arfog. Mae'n briodol, felly, ein bod heddiw, ar Ddiwrnod y Cadoediad, yn cydnabod y ddyled enfawr sydd arnom i'r rhai sy'n gwasanaethu ac sydd wedi gwasanaethu yn ein lluoedd arfog. Maent yn gwasanaethu ein gwlad gydag ymroddiad, er gwaethaf y...
Laura Anne Jones: Prif Weinidog, ydy, mae hynny'n newyddion i'w groesawu'n fawr am y brechlyn, ond, fel y dywedwch, mae angen i bobl barhau i ymddwyn yn ddoeth, ac mae'n amlwg mai diogelwch sy'n dod gyntaf. Ond mae gen i gwestiwn i chi na wnes i ei wneud mor eglur ag y dylwn fod wedi ei wneud yr wythnos diwethaf, mae'n debyg, ac mae hwnnw yn ymwneud â phêl-droed. Felly, mae'n effeithio ar glybiau sydd wedi...
Laura Anne Jones: Diolch, Weinidog. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Helen Mary Jones am roi cyfle arall i'r Senedd hon, yn sgil yr hyn a gafwyd ddoe, i fynegi wrth y Llywodraeth pa mor bwysig yw ailagor cam 3 y gronfa cadernid economaidd—ochr y grant datblygu busnes ohoni, fel rydych wedi disgrifio, sy'n wahanol i'r llall—a'i hailagor yn gyflym, Weinidog. Oherwydd roedd busnesau ar draws de-ddwyrain Cymru...
Laura Anne Jones: Rwyf newydd wneud hynny. Diolch. Yn gyntaf, diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad, a diolch i chi, Llywydd, am adael imi ddweud pwt ar y diwedd fel hyn. Ceisiaf gadw'r cyfraniad yn fyr. Hoffwn ddweud yn gyntaf, Prif Weinidog, rwy'n falch iawn bod Alun Davies a Delyth Jewell ill dau hefyd wedi cydnabod yr angen dybryd i ailagor cam 3 y gronfa cadernid economaidd ar gyfer busnesau a oedd yn...
Laura Anne Jones: Gweinidog busnes, ar gefn rhywbeth y mae fy arweinydd eisoes wedi ei grybwyll heddiw, ac ar sail y ffaith fy mod i wedi fy llethu gan negeseuon e-bost a galwadau ers dydd Iau diwethaf, rwyf i'n gofyn i chi, ac yn erfyn ar y Llywodraeth, i ddwyn ymlaen y datganiad yr oedden nhw i fod i'w wneud heddiw ar y cynllun adferiad economaidd. Mae'n gwbl hanfodol bod busnesau yn gwybod yr hyn maen nhw'n...
Laura Anne Jones: Diolch, Prif Weinidog. Mae'n amlwg bod pandemig COVID wedi taro'r sector treftadaeth yn galed. Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ill dau yn sefydliadau sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn refeniw oherwydd diffyg ymwelwyr, neu ddim ymwelwyr, ond mae hyn ar ben gostyngiadau sylweddol mewn cyllid cymorth grant cyn dechrau'r pandemig. Mae'r amgueddfa...
Laura Anne Jones: Prif Weinidog—. Ydych chi'n gallu fy nghlywed i?
Laura Anne Jones: Iawn. Cefais i rai problemau gyda fy motymau yn y fan yna. Prif Weinidog, er mwyn i bobl yng Nghaerffili a Chymru allu paratoi, mae'n ymddangos bod rhyw fath o ddryswch yr wyf i'n gobeithio y gallwch chi ei egluro i ni y prynhawn yma. Mae un o'ch Gweinidogion chi wedi llefaru gan ddweud y bydd cyfnod atal byr arall ym mis Ionawr a mis Chwefror—cyfyngiadau symud cyfnod atal byr arall. A...
Laura Anne Jones: 7. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi sector treftadaeth Cymru cyn yr etholiad seneddol nesaf? OQ55800