Jack Sargeant: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb a dweud fy mod i'n falch iawn o'i weld yn cyfeirio at agwedd fwy garedig at wleidyddiaeth yn ei araith gyntaf fel Prif Weinidog? Bydd yn gwybod fy mod i wedi bod yn gweithio'n galed i weld newid cadarnhaol yn ein gwleidyddiaeth, ac rwy'n cytuno'n llwyr bod y ffordd yr ydym ni'n ymddwyn yn gwneud gwahaniaeth mewn byd toredig ac anniddig. Nawr,...
Jack Sargeant: 8. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwleidyddiaeth fwy caredig? OAQ53166
Jack Sargeant: Mark Drakeford.
Jack Sargeant: Hoffwn ddiolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw, ac rwyf yn siŵr ei bod hi’n ymwybodol, fel y mae hi wedi ei ddweud yn gwbl gywir, mae astudiaethau wedi cysylltu digwyddiadau chwaraeon mawr â chynnydd mewn adroddiadau o drais yn y cartref, heb sôn am y trais nad yw’n cael ei gofnodi. Er enghraifft, yn ystod Cwpanau pêl-droed y Byd yn 2002, 2006 a 2010, cofnododd Heddlu Caerhirfryn...
Jack Sargeant: 7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am rôl chwaraeon o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod? OAQ53094
Jack Sargeant: Hoffwn fynd ar drywydd y mater iechyd meddwl, sy'n rhywbeth y bydd arweinydd y tŷ yn gwybod yn iawn fy mod wedi ei godi ar sawl achlysur ers imi gael fy ethol yn gynharach eleni. Y mis diwethaf, fe wnaeth arweinwyr busnes ledled y DU annog Llywodraeth y DU i wneud darpariaethau fel bod swyddogion cymorth cyntaf iechyd meddwl yn orfodol yn y gweithle. Rwyf yn cytuno’n llwyr â’r...
Jack Sargeant: Y penwythnos diwethaf, cawsom gyfle i ddiolch am aberth ein pobl mewn rhyfeloedd, ac i gydnabod y bobl sy'n parhau i wasanaethu yn ein lluoedd arfog heddiw ac yn y dyfodol. Heddiw, hoffwn ddathlu bywyd un o drigolion dewraf Shotton, Harry Weale VC. Dim ond 16 oed oedd Harry pan aeth i amddiffyn ei wlad ac ymladd drosti. Ni allaf ddychmygu sut roedd Harry'n teimlo, wrth adael ei gartref i fynd...
Jack Sargeant: Arweinydd y tŷ, mae hi'n Ddiwrnod Caredigrwydd y Byd heddiw. Mae'n ddiwrnod i ddathlu a hyrwyddo caredigrwydd yn ei holl ffurfiau, o gymwynasau bach, i ymladd am wleidyddiaeth newydd, mwy caredig, sy'n rhywbeth yr wyf i wedi bod yn galw amdano ers imi gyrraedd y lle hwn, gyda chymorth gan Aelodau ar draws y Siambr, gan gynnwys Darren Millar, Bethan Sayed a Julie Morgan, i enwi dim ond rhai...
Jack Sargeant: Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu diddordeb mewn diwydiant 4.0 ac am eu gwaith yn yr ymchwiliad hwn. Mae'n rhywbeth y buaswn yn bendant wedi hoffi cyfrannu ato. Rydym yng nghanol newid sylweddol o ran y ffordd rydym yn cynhyrchu cynnyrch, diolch i ddigideiddio gweithgynhyrchu. Dylem bob amser barhau i ganolbwyntio ar weld y chwyldro diwydiannol nesaf fel cyfle ac nid fel her....
Jack Sargeant: Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf wedi cael llawer o ohebiaeth ynglŷn ag astudio, cyllid myfyrwyr a Cyllid Myfyrwyr Cymru. Mae profiad y rhan fwyaf o bobl yn eithaf da. Nawr, rwy'n sylweddoli na allwch roi sylwadau ar achosion penodol, ond mae etholwr wedi cysylltu â mi yn ddiweddar i sôn am yr anhawster wrth sicrhau cymorth ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio dramor. Ysgrifennydd y Cabinet, a...
Jack Sargeant: Arweinydd y Tŷ, roedd hi'n Ddiwrnod Digartref y Byd yr wythnos diwethaf, diwrnod rhyngwladol i godi ymwybyddiaeth ac i annog cymunedau lleol i helpu'r rhai sy'n ddigartref, y rhai sy'n cysgu ar y stryd neu sydd â llety ansefydlog. Roeddwn yn falch iawn, yr wythnos diwethaf, o gael ymuno â'm cyfaill a'm cyd-Aelod Bethan Sayed i werthu The Big Issue yng nghanol Dinas Caerdydd, rhywbeth y bu...
Jack Sargeant: O'r profiad, dysgais bwysigrwydd oedi a chael sgwrs, gan y gall hynny fod o gymorth mawr i rywun, ac nid prynu'r cylchgrawn yn unig. Rwyf wedi dweud sawl gwaith o'r blaen y gall gwên ar y stryd achub bywyd rhywun. Felly, yr wythnos hon, rwyf yn edrych ymlaen hefyd at gael ymuno ag un o'm hetholwyr, Adam Dandy, o siop SHARE, am noson ar y strydoedd ddydd Iau er mwyn codi ymwybyddiaeth a...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Heddiw yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd. Yn y blynyddoedd diwethaf, gwnaed llawer o gynnydd yn chwalu'r stigma ynglŷn â siarad am iechyd meddwl, ond gwyddom fod llawer i'w wneud o hyd. Y thema eleni ar gyfer Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd yw pobl ifanc ac iechyd meddwl mewn byd newidiol a heriol, ac roeddwn yn falch o gynnal digwyddiad y bore yma gyda chomisiynydd...
Jack Sargeant: Ddoe, cefais gyfle i ddarllen drwy rai o'r syniadau hyn ar y bwrdd yn yr Oriel ac rwy'n pwysleisio y dylai llawer o bobl ar draws y Siambr hon fynd i edrych drostynt eu hunain, oherwydd nid oeddwn yn synnu gweld bod cynifer o blant a phobl ifanc yn cyfeirio at yr angen i wella gwasanaethau iechyd meddwl a sicrhau ein bod yn rhoi diwedd ar fwlio mewn ysgolion. Wrth gwrs, bydd yn cymryd...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch ichi am y cyfle hwn i gyflwyno fy nadl fer gyntaf yn y Senedd ar wella ein democratiaeth a thrafodaeth wleidyddol: pam y mae'n rhaid i Gymru arwain y ffordd o ran creu a darparu gwleidyddiaeth fwy caredig. Rwy'n falch iawn heddiw hefyd i roi munud o fy amser i gyd-Aelodau ar draws y Siambr, gan gynnwys Adam Price, Julie Morgan a Darren Millar. Deuthum i'r...
Jack Sargeant: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb. Mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a grybwyllwyd hefyd gan lefarydd y Ceidwadwyr, Nick Ramsay, yn nodi na fyddai cynyddu treth incwm yng Nghymru yn fater syml, ond awgryma fod cyfle i'w gael i wneud y dreth gyngor yn fwy blaengar. Un cyfle a nodwyd fyddai diwygio'r dreth gyngor ar yr un pryd er mwyn creu ymagwedd gyfannol tuag at...
Jack Sargeant: 4. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, 'Y Sylfaen Drethu Gymreig: Risgiau a Chyfleoedd ar ôl Datganoli Cyllidol'? OAQ52547
Jack Sargeant: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch trefniadau trosiannol ar gyfer y DU yn ystod y broses o ymadael â'r UE?
Jack Sargeant: Pa asesiad y mae Arweinydd y Tŷ wedi'i wneud o lwyddiant polisïau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â cham-drin domestig?
Jack Sargeant: Arweinydd y tŷ, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud llawer o waith ardderchog i fynd i'r afael â cham-drin domestig, yn enwedig gyda Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, yr oedd, fel y gwyddoch, fy nhad a chyn aelod o'r Cabinet, Leighton Andrews, yn gweithio'n galed iawn arni. O ran fy nhîm fy hun, rydym ni i gyd wedi dod yn hyrwyddwyr a Llysgenhadon...