Siân Gwenllian: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Siân Gwenllian: Gadewch i mi ddangos map i chi.
Siân Gwenllian: Mae gan y cwricwlwm newydd y potensial i weddnewid profiadau dysgu ein plant a phobl ifanc, ond mi ydw i'n arswydo o feddwl bod ganddo fo hefyd y potensial o fethu yn llwyr. Mae bywyd pob ysgol yn hynod brysur o ddydd i ddydd ac yn llawn heriau, ac mae yna lawer o amser yn mynd ar ddelio efo toriadau yn wyneb cyllidebau sy'n crebachu. Rydych chi wedi cyhoeddi y bydd yna un diwrnod ychwanegol...
Siân Gwenllian: Dwi wedi eich clywed chi'n sôn am Brexit o'r blaen fel rheswm dros beidio ag ailgychwyn y rhaglen o gyflwyno safonau ar gyfer cyrff newydd. Os rhywbeth, mae bygythiad Brexit yn ei gwneud hi'n fwy o flaenoriaeth i warchod ein hawliau iaith ni. Mi wnaethoch chi gyhoeddi eich cynllun gweithredu strategaeth miliwn ar gyfer 2019-20 ychydig ddyddiau yn ôl. Ac roedd hyn yn gyfle i chi gadarnhau...
Siân Gwenllian: Dydy'r swydd ddisgrifiad ddim yn sôn am ddysgu Cymraeg; dydy o ddim yn sôn ei bod hi'n ddymunol, dim ond 'dirnadaeth'—sut bynnag dŷch chi'n mynd i fod yn edrych ar hynny. Y gwir amdani ydy bod gennych chi bwerau i osod safonau ar gymdeithasau tai. Ac yn 2015, yn dilyn y ffrae wreiddiol, fe wnaeth Comisiynydd y Gymraeg edrych mewn i'r holl sefyllfa, a dod i'r casgliad—a dwi'n dyfynnu...
Siân Gwenllian: A wnewch chi ymyrryd i sicrhau bod un o gonglfeini eich strategaeth miliwn o siaradwyr, o ran y gweithlu, yn cael ei chynnal, drwy anfon llythyr cyhoeddus i erfyn ar Cartrefi Cymunedol Gwynedd i ailystyried?
Siân Gwenllian: Diolch, Llywydd. Pum mlynedd yn ôl, mi oeddwn i’n cynrychioli Cyngor Gwynedd ar fwrdd Cartrefi Cymunedol Gwynedd, sef y gymdeithas tai sy’n gyfrifol am reoli dros 6,300 o dai cymdeithasol Gwynedd. Mae mwyafrif helaeth staff y corff yn siaradwyr Cymraeg, mae’r Gymraeg yn iaith mwyafrif y boblogaeth y mae’r sefydliad yma’n ei gwasanaethu, ac mae pencadlys y corff yn un o gadarnleoedd...
Siân Gwenllian: A wnaiff y Gweinidog amlinellu strategaeth cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru?
Siân Gwenllian: Yn wahanol iawn i'r Torïaid, mi fyddwch chi'n falch o glywed bod Plaid Cymru yn falch iawn o weld y Bil yma yn cychwyn ar ei daith. Mae'n rhaid imi ychwanegu un cymal bychan i hynny: 'o'r diwedd'. Hynny yw, mae wedi cymryd amser inni gyrraedd y diwrnod yma heddiw, er bod rhywun yn gwerthfawrogi ein bod ni wedi cyrraedd yma heddiw yma. A dwi'n credu bod y Cynulliad wedi pasio mewn egwyddor...
Siân Gwenllian: Mae yna gryn bryder am ddyfodol prosiect arloesol Ffarm Moelyci yn fy etholaeth i. Mae ymddiriedolaeth Cwm Harry dros ddwy flynedd i mewn i brosiect tair blynedd sy’n cael ei arwain gan brifysgol yn yr Almaen fel rhan o raglen INTERREG, sy’n cynnwys 11 partner mewn pump o wledydd yn Ewrop. Mae’r prosiect wedi archebu peiriant prosesu biomas mawr ac ar fin gwario degau o filoedd o bunnau...
Siân Gwenllian: 5. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi diweddariad am ddyfodol cynlluniau sydd bron â chael eu cwblhau ac sydd ar hyn o bryd yn derbyn cyllid strwythurol yr UE? OAQ53617
Siân Gwenllian: A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gynllun twf y gogledd o safbwynt parciau busnes?
Siân Gwenllian: Tra oeddech chi yn Buckingham Palace, fe glywodd y lle hwn fod y bwrdd iechyd wedi camarwain y cyhoedd ar fater israddio'r gwasanaeth ym Mangor. Ers hynny, mae yna aelod blaenllaw o'r bwrdd iechyd wedi ymddiswyddo mewn protest—cam difrifol iawn—ac eto, dydy eich Llywodraeth chi ddim yn bwriadu ymyrryd. Ai'r gwir amdani yw mai agenda wleidyddol y Blaid Lafur sy'n gyfrifol am ffafrio ysbyty...
Siân Gwenllian: 1. A wnaiff y Prif Weinidog gyfarwyddo Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gynnal ymgynghoriad newydd i ddyfodol gwasanaethau fasgwlaidd brys yn Ysbyty Gwynedd? OAQ53603
Siân Gwenllian: Fel dŷch chi'n gwybod, mae un o bob pedwar plentyn pedair a phump oed un ai dros bwysau neu'n ordew. Mae Lloegr a'r Alban wedi gosod targedau i haneru gordewdra ymhlith plant a phobl ifanc erbyn 2030. Pam nad oes gan Lywodraeth Cymru darged? Fel gyda thaclo tlodi, heb darged does dim posib gweld sut dylai'r dyfodol edrych. Does dim nod clir i'w chyflawni a dim modd monitro'r gweithredu i...
Siân Gwenllian: I helpu'r drafodaeth, felly, gaf i awgrymu bod yna nifer o gwestiynau y gallwch chi a'r adran addysg yn y Llywodraeth fod yn eu gofyn? Oes yna ormod o haenau yn ein system addysg ni? Ydy'r rhain yn creu biwrocratiaeth diangen? Oes yna ormod o ddyblygu gwaith? Ac ydy hynny'n ddefnydd da o arian prin y pot addysg? Er enghraifft, oes yna ormod o gyrff yn cefnogi ysgolion? Oes angen tynhau'r...
Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, ac rwy’n falch iawn o glywed y cyhoeddiad diwethaf yna. Dwi’n gwybod bod fy nghydweithiwr yn San Steffan, Ben Lake, wedi bod yn mynd ar ôl y mater yma yn ddyfal hefyd, felly rwy’n ddiolchgar iawn o glywed hynny—bydd hynny’n newyddion da i’n hysgolion ni. Ond, i fynd yn ôl at yr ariannu uniongyrchol, jest i'w roi fo ar y record, mae Plaid Cymru yn barod i...
Siân Gwenllian: Diolch, Llywydd. Mae penaethiaid ar draws Cymru yn rhybuddio bod argyfwng cyllido yn wynebu ein hysgolion, ac y bydd gan hyn ganlyniadau pellgyrhaeddol—dosbarthiadau mwy, llai o athrawon, cyflwr adeiladau’n dirywio, lleihad mewn cefnogaeth i anghenion dysgu ychwanegol, toriadau i wasanaethau bugeiliol a lles. Dŷn ni’n colli cannoedd o’n hathrawon mwyaf profiadol ac arweinwyr canol...
Siân Gwenllian: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i daclo gordewrdra ymhlith plant a phobl ifanc ? OAQ53566
Siân Gwenllian: Wel, mae hynna'n un ffordd. Ers imi godi'r mater yma, mae wedi fy rhyfeddu i faint o bobl sydd wedi cysylltu efo fi ac sydd wedi cynnig gwahanol ffyrdd o ddatrys y broblem. Dŷch chi wedi sôn am un ffordd—mae yna bobl yn cynnig ffyrdd eraill. Mae yna ffordd o sortio hyn allan. Beth sydd angen ydy ewyllys gan y Llywodraeth i sortio'r broblem, a'r Llywodraeth ddylai fod yn arwain y ffordd i...