Canlyniadau 541–560 o 2000 ar gyfer speaker:Alun Davies

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2020-2021 ( 4 Chw 2020)

Alun Davies: Gwnaf.

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2020-2021 ( 4 Chw 2020)

Alun Davies: Nid wyf yn credu bod gennym—dyna'n union yw fy mhwynt. Credaf fod angen i ni sicrhau bod gennym ni fwy o gyfranogiad o bob ochr i'r Siambr yn y materion hyn, a chredaf fod angen i ni sicrhau ein bod yn gallu craffu ar waith y Llywodraeth mewn modd mwy dwys, gan edrych ar y blaenoriaethau cyffredinol yn hytrach na dim ond dadansoddi'r gyllideb linell wrth linell.

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2020-2021 ( 4 Chw 2020)

Alun Davies: Roeddwn i'n gwenu wrth wrando ar gyfraniad Mike Hedges yn gynharach yn y ddadl hon, wrth iddo drafod adegau pryd y cymerodd ran mewn dadleuon pan nad oedd ond ychydig iawn o Aelodau yn bresennol ac ychydig iawn o Aelodau a gyfrannodd mewn gwirionedd. Mae fy nodiadau yn dweud 'ychydig iawn oedd yn bresennol'. Rwy'n credu bod angen i ni feddwl yn galed am sut yr ydym ni'n rheoli proses y...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Yr Adolygiad Brys o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 (29 Ion 2020)

Alun Davies: Y broblem yn sicr, Weinidog, yw na fyddwch yn cael eich cyhuddo o ruthro i ddeddfu ar y mater hwn. Nid yw rhoi sicrwydd pendant eich bod yn mynd i ddarllen adroddiad yn rhoi llawer o hyder i'r Aelodau yma. Rydym wedi clywed y sicrwydd hwnnw o'r blaen, ac rydym wedi cael ein siomi. Credaf ein bod wedi cyrraedd pwynt bellach, gydag ychydig dros flwyddyn ar ôl yn y Senedd hon, lle rydym am weld...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Yr Adolygiad Brys o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 (29 Ion 2020)

Alun Davies: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at weithredu Deddf Lucy i reoleiddio ffermio cŵn bach yng Nghymru? OAQ54979

6. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cefnogi Canol ein Trefi (28 Ion 2020)

Alun Davies: Fel eraill y prynhawn yma, Dirprwy Weinidog, fe hoffwn innau hefyd groesawu'r datganiad yr ydych chi wedi'i wneud. Rwy'n credu, ym mhob rhan o'r Siambr, er gwaethaf llawer o wahaniaethau, y byddem i gyd yn croesawu'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn meddwl yn strwythuredig nawr ynglŷn â dyfodol canol ein trefi. Mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio nid yn unig ar economi lleoedd unigol, ond...

11. Dadl Fer: Yr achos dros drefi angor: Eu rôl o ran adeiladu economi decach (22 Ion 2020)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Weinidog. Rwy'n dod i mewn i gefnogi'r sylwadau a wnaethpwyd gan fy nghyfaill o Gaerffili, oherwydd mae'n creu amgylchedd 'ni a nhw' rhwng y gefnwlad a dinas Caerdydd, a'r un peth y mae hanes wedi ei ddysgu inni yw, os llwydda Caerdydd, bydd y Cymoedd yn llwyddo, ac os llwydda'r Cymoedd, mae Caerdydd yn llwyddo. Ni fydd gwahanu a rhannu yn galluogi'r naill na'r llall...

11. Dadl Fer: Yr achos dros drefi angor: Eu rôl o ran adeiladu economi decach (22 Ion 2020)

Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

11. Dadl Fer: Yr achos dros drefi angor: Eu rôl o ran adeiladu economi decach (22 Ion 2020)

Alun Davies: Buaswn yn dweud nad oedd y fersiwn gyntaf yn cynnwys unrhyw hybiau strategol yn y Cymoedd chwaith, felly roedd yn broses hwy nag y byddai pobl yn ei feddwl o bosibl.

11. Dadl Fer: Yr achos dros drefi angor: Eu rôl o ran adeiladu economi decach (22 Ion 2020)

Alun Davies: A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?

11. Dadl Fer: Yr achos dros drefi angor: Eu rôl o ran adeiladu economi decach (22 Ion 2020)

Alun Davies: Gan mai fi oedd y Gweinidog a ddyfeisiodd y pethau hyn a'u bod wedi cael eu trafod nifer o weithiau, efallai y byddai'n ddefnyddiol i mi ddweud beth oedd y tu ôl iddo ar y pryd. Nid oedd yr hybiau strategol erioed yn ffordd o wneud dim heblaw canolbwyntio buddsoddiad mewn mannau penodol, oherwydd y feirniadaeth a glywsom a'r feirniadaeth a wnaed—yn deg, rwy'n credu, yn y gorffennol—oedd...

11. Dadl Fer: Yr achos dros drefi angor: Eu rôl o ran adeiladu economi decach (22 Ion 2020)

Alun Davies: Wel, mae hynny'n dibynnu ar ba mor ddiddorol fydd hi. [Chwerthin.]

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit — Goblygiadau i Gymru (22 Ion 2020)

Alun Davies: Daeth ein cartref Ewropeaidd cyffredin, yn aml y man lle buom yn ymladd ein rhyfeloedd sifil, yn fan lle gallem estyn allan a pheidio ag adeiladu waliau pellach. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod arolygfeydd ffin wedi'u marcio gan luniau rhyfel hefyd. Mae symud y tu hwnt i'r ffiniau hynny ac edrych ar fyd drwy sbectol, 'A ydych chi'n frodorion? A wyf fi'n frodor? A yw rhywun arall yn frodor?',...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit — Goblygiadau i Gymru (22 Ion 2020)

Alun Davies: Rwyf wedi cefnogi'r rhyddid i symud yn frwd ar hyd fy oes fel oedolyn. Fel person ifanc yn fy arddegau, rwy'n cofio sefyll wrth yr arolygfeydd ffin a arferai fodoli yn ein cartref Ewropeaidd cyffredin. Mae gennyf stamp ar basbort o Ffrainc. Rwy'n cofio gorfod dangos fy mhasbort i groesi afonydd a ffyrdd ein cyfandir. Un o'r rhoddion mwyaf a gawsom gan yr Undeb Ewropeaidd oedd dileu'r ffiniau...

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (21 Ion 2020)

Alun Davies: Mae'n eironig iawn, Llywydd, cael pregeth ar ddemocratiaeth gan Mark Reckless, ond gadewch i mi ddweud hyn: dadl y Ceidwadwyr a roddwyd iddyn nhw gan eu penaethiaid yn Llundain yw nad oes gennym ni hawl i wrthwynebu'r Bil hwn, bod yn rhaid i ni dderbyn pa bynnag Fil a gaiff ei ysgrifennu yn Stryd Downing a'i anfon drwy Dŷ'r Cyffredin, nad oes gan y Senedd hon unrhyw hawl i farn, nad oes gan...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (21 Ion 2020)

Alun Davies: Byddwn i, rheolwr busnes, yn hoffi gofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os oes modd. Mae'r cyntaf yn ymwneud â mater a gafodd ei godi yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, sef y tâl atal tagfeydd y mae cyngor sir Caerdydd wedi'i gynnig fel rhan o'i waith o wella trafnidiaeth yn y ddinas. Bydd llawer ohonom ni'n croesawu'r weledigaeth a ddangosodd awdurdodau lleol Caerdydd yn eu...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru (15 Ion 2020)

Alun Davies: Rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol fod y defnydd o bwerau benthyca a drosglwyddwyd i Lywodraeth Cymru gan Ddeddf 2014 a Deddf 2017 yn destun gwaith craffu. Yn fy marn i, mae'r ymchwiliad wedi dangos, er bod y dull strategol cyffredinol sy'n cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru yn ddull da ac effeithiol o wneud y mwyaf o werth cyhoeddus y ffynonellau cyllid cyfalaf sydd ar gael iddi,...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru (15 Ion 2020)

Alun Davies: Fel eraill, hoffwn ddiolch i ysgrifenyddiaeth y pwyllgor a Chadeirydd y pwyllgor am y gwaith a wnaethant i gynorthwyo'r pwyllgor yn yr ymchwiliad hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Gweinidog am dderbyn holl argymhellion y pwyllgor. Rwy'n credu bod gweld y Llywodraeth yn derbyn argymhellion fel hyn yn rhywbeth sydd i'w groesawu'n fawr.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.