John Griffiths: Yn gyflym iawn. Nid yw'r cynllun ymgynghori drafft bob amser yn cynnwys amserlenni ar gyfer cyflawni, felly tybed a fydd gan y cynllun terfynol ddyddiadau clir ar gyfer cyflawni pob cam gweithredu, ac a fydd cyllid gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddyrannu i'r ymrwymiadau a wnaed yn y cynllun gweithredu drafft. Diolch.
John Griffiths: Arweinydd y Tŷ, o ran adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r ymatebion a wnaeth Llywodraeth Cymru, tybed a wnewch chi roi mwy o fanylion a sicrwydd o ran rhai materion. Yn gyntaf, y cynllun cydlyniant cymunedol: yr ymateb gan Lywodraeth Cymru oedd y byddai hwnnw'n cael ei gyhoeddi yn yr haf 2017 ac y byddai'n cynnwys camau gweithredu arbennig o ran naratif mwy...
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau ac adleisio sylwadau a wnaed eisoes ei bod yn arbennig o dda cael cyfraniadau gan Aelodau nad ydynt yn aelodau o'n pwyllgor? A gaf fi ddechrau felly gyda Janet Finch-Saunders a chydnabod hawl Janet i anghytuno ar rai pwyntiau, ond serch hynny, diolch i Janet am ei chyfraniad i'r adroddiad yn gyffredinol? Wrth gwrs, mae'n...
John Griffiths: Un o'r meysydd allweddol a ystyriwyd gennym fel rhan o'n hymchwiliad oedd achosion cysgu ar y stryd. Mae'r rhain yn eang ac yn cynnwys cyfuniad o ffactorau personol a strwythurol. Rydym wedi canolbwyntio ar ddau brif achos strwythurol: diwygio lles a diffyg tai fforddiadwy. Mae newidiadau i hawliau i fudd-daliadau, y cynnydd yn y cosbau a chyflwyno credyd cynhwysol yn cael effaith ddifrifol...
John Griffiths: Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar gysgu ar y stryd. Hoffwn ddiolch i'r rhai a roddodd dystiolaeth i'n hymchwiliad, gan gynnwys y staff a'r gwirfoddolwyr y cyfarfuom â hwy mewn prosiectau yng Nghasnewydd a Chaerdydd. Cawsom ein taro gan eu hymroddiad, eu tosturi a'u hymagwedd gadarnhaol. Dywedasant wrthym...
John Griffiths: Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai a rannodd eu profiadau uniongyrchol a'u hanesion trawiadol ynglŷn â sut y daethant i fod yn cysgu ar y stryd. Roedd llawer yn cynnwys rhestr o ddigwyddiadau y byddai hyd yn oed y mwyaf gwydn yn ein plith yn ei chael hi'n anodd eu goddef. Diolch byth, cawsant eu cynorthwyo i ddod oddi ar y stryd ac maent yn gwneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol, a dymunwn yn dda...
John Griffiths: Sut y bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda sefydliadau amgylcheddol i ddiogelu a gwella yr amgylchedd naturiol?
John Griffiths: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf i eisiau ychwanegu fy llais i, mewn gwirionedd, i'r rhai hynny sy'n galw am fwy o gamau ataliol yn y dyfodol, i wneud yn siŵr bod y straen ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael ei leddfu a'n bod yn ymdopi'n well â heriau poblogaeth sy'n heneiddio. Felly, tybed a wnewch chi ddweud wrthyf beth, mewn polisïau a strategaethau yn y...
John Griffiths: Weinidog, beth ydych chi'n gallu ei ddweud heddiw am ardaloedd fel Dwyrain Casnewydd, lle mae'r iaith Gymraeg yn eithaf gwan? Pa gamau fydd y Llywodraeth yn eu cymryd i ddelio â'r materion hyn, yn enwedig yn Nwyrain Casnewydd ac ardaloedd tebyg yng Nghymru, i gefnogi'r iaith a'i gwneud yn fwy cryf yn y dyfodol?
John Griffiths: Prif Weinidog, mae plismona yn hollbwysig i sicrhau bod ein cymunedau yn gydlynol ac yn mwynhau ansawdd bywyd da, ac mae ein heddluoedd yn gweithio gydag awdurdodau lleol, iechyd, tai ac, yn wir, y sector gwirfoddol mewn partneriaeth agos, gan adlewyrchu'r ffaith bod y rhan fwyaf o waith yr heddlu yn ymwneud â chyfrifoldebau datganoledig. O gofio hynny, a'r achos cryf iawn dros ddatganoli...
John Griffiths: 3. Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn yn y dyfodol i wella cydlyniant cymunedol yn ne Cymru? OAQ52260
John Griffiths: Rwyf am godi mater penodol, Ddirprwy Lywydd, ac rwyf wedi ei godi cyn hyn fel rhan o'r gwaith hwn, mater sy'n ymwneud â fy etholaeth, sef Dwyrain Casnewydd, lle mae'r elfen god post o gymhwysedd ar gyfer y ddarpariaeth, er gwaethaf yr elfen allgymorth sy'n ymdrin yn rhannol â'r cyfyngiad hwnnw, yn dal i fod wedi arwain at ddwy gymuned sy'n debyg iawn—tai cymdeithasol ym...
John Griffiths: Ie, Weinidog, rwy'n croesawu eich cyhoeddiad o £3 miliwn ar gyfer newid y cladin ar y blociau uchel yng Nghasnewydd yn fawr. Pe na bai Llywodraeth Cymru wedi darparu'r cyllid hwnnw, byddai wedi cael effaith andwyol ar ddatblygiadau newydd angenrheidiol, yn ogystal â gwelliannau i adeiladau sy'n bodoli'n barod ac yn wir, eu hamgylcheddau, felly diolch yn fawr iawn am hynny. A wnewch chi...
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, canfu arolwg a gynhaliwyd gan Asthma UK yn 2017 fod dros 300,000 o bobl yng Nghymru yn byw gydag asthma, fod miloedd o dderbyniadau brys i'r ysbyty bob blwyddyn a bod 62 o bobl wedi marw yn 2016. Ystyrir bod dwy ran o dair o'r marwolaethau yn ataliadwy gyda gofal sylfaenol gwell, a dywedir bod safonau gofal sylfaenol yn cael eu cyflawni mewn dros 48 y cant o achosion...
John Griffiths: 5. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i atal a thrin salwch anadlol? OAQ52222
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, mae pawb yn gwybod bod yr heriau o gyflwyno addysg yn yr ysgolion sy'n gwasanaethu ein hardaloedd mwyaf difreintiedig yn fater o bwys i ni yma yng Nghymru—ac ymhellach y tu hwnt i'n ffiniau, yn ddiamau. Rydym wedi trafod yn y gorffennol bwysigrwydd arweinyddiaeth yn yr amgylchiadau penodol hynny, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rydym i gyd yn gwybod ei bod yn bwysig iawn...
John Griffiths: Prif Weinidog, rwy'n cytuno'n llwyr â Darren Millar, a chyda llawer ar draws y Siambr, am werth y rhaglen Cymru o Blaid Affrica. Rwyf innau hefyd wedi bod yn ddigon ffodus i weld drosof fy hun yn Mbale yn Uganda gwerth y cysylltiadau addysg ac iechyd. Yn ogystal â'r hyn yr ydych chi wedi ei grybwyll eisoes, o ran Hub Cymru Affrica a'r cynllun grant, a wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried sut y...
John Griffiths: Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r rhwystredigaeth fawr ynghylch y diffyg cynnydd o ran sefydlu gwasanaeth trên cyswllt rheilffordd i deithwyr o Gasnewydd i Lynebwy. Mae hynny wedi bod yn wir ers cryn amser, ac mae llawer iawn o bryder yn yr ardal. O ystyried y cysylltiadau economaidd, cymdeithasol a diwylliannol hirsefydlog rhwng Casnewydd a Glynebwy, a ydych chi'n deall y pryderon...
John Griffiths: A wnewch chi gymryd—? O. [Chwerthin.]
John Griffiths: Diolch yn fawr iawn, arweinydd y tŷ. Yn amlwg, mae'n bwysig iawn fod gennym fynediad mor llawn â phosibl at fand eang yng Nghymru, o ystyried ei bwysigrwydd mewn perthynas â dinasyddiaeth lawn heddiw, o ran cael mynediad at nwyddau a gwasanaethau ac elfennau addysgol, er enghraifft. Felly, yn amlwg, dyna pam y mae Llywodraeth Cymru, rwy'n gobeithio, yr un mor awyddus â minnau i gyrraedd...