Lesley Griffiths: Diolch. O ran cyllid Horizon Europe, mae Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch chi, wedi gwthio'n gyson am gymryd rhan mewn rhaglenni fel Horizon Europe, ac yn sicr nid ydym ni wedi gweld yr addewidion a gafodd eu gwneud gan Lywodraeth y DU o ran cyllid yr UE a'r ffaith na fyddem ni'n colli ceiniog os byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Gwn fod Gweinidog yr Economi yn gweithio'n agos iawn...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi mynychu llinellau piced gyda, fel y dywedwch chi, ein postmyn a'n postfenywod sy'n gweithio'n galed iawn, a gyflawnodd wasanaeth mor bwysig yn ystod pandemig COVID-19, yn enwedig. Ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog mewn cysylltiad agos â'i chymheiriaid yn Llywodraeth y DU.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ar hyn o bryd yn edrych yn fanwl iawn ar yr adolygiad ffyrdd, sydd dan ystyriaeth gan Lywodraeth Cymru. Bydd yn cyflwyno datganiad, mae'n debyg, nawr, yn hanner nesaf y tymor presennol hwn.
Lesley Griffiths: Diolch, Llywydd. Mae tri newid i'r busnes yr wythnos hon. Yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn, bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn gwneud datganiad ar ymateb Llywodraeth Cymru i ddatganiad y Canghellor am y cynllun cyllidol tymor canolig. Yn ail, mae Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 wedi cael eu tynnu'n ôl a'r ddadl wedi'i...
Lesley Griffiths: Nid oeddwn yn dirwyn i ben, a dweud y gwir. Roeddwn yn edrych ar yr amser. Ar y cyfnodau gwaharddedig, os caf ateb Llyr: rydych yn llygad eich lle, roedd yn rhywbeth y bûm yn ymrafael ag ef am amser maith. Un o'r pethau a'm perswadiodd oedd anghenion y cnwd a'r maethynnau y mae angen eu rhoi ar y tir. Mae'n ddiddorol iawn na soniodd unrhyw Aelod, yn unrhyw un o'u hymatebion, am ofynion y...
Lesley Griffiths: Credaf y gallwn weld pam nad yw George Eustice yn Ysgrifennydd Gwladol yn DEFRA mwyach. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnal a chadw at safonau amgylcheddol yr UE. Byddaf yn gwrthsefyll, a lle bo modd, yn atal unrhyw newidiadau a wneir gan y Ceidwadwyr yn San Steffan rhag tanseilio’r safonau hynny, ac mae hynny’n cynnwys fel y’u hadlewyrchir yn...
Lesley Griffiths: Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig yn sgil y trafodaethau hynny gyda Phlaid Cymru, sy’n nodi ein bwriad i wneud darpariaeth i gynnal ymgynghoriad i archwilio’r cynnig hwn, ac i gyflwyno newidiadau i’r rheoliadau os tybir bod cynllun o'r fath yn ymarferol i ffermwyr ac yn diogelu'r amgylchedd y maent hwy, fel pob un ohonom, yn ddibynnol arno. Felly, i dawelu meddwl...
Lesley Griffiths: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd ac aelodau’r pwyllgor am eu gwaith yn cynnal yr adolygiad hwn a llunio’r adroddiad a’r argymhellion. A diolch i’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl heddiw, ac rwyf am geisio ymateb i gynifer o bwyntiau â phosibl. Mae adroddiad y pwyllgor yn codi cyfres o bwyntiau adeiladol mewn perthynas â rhoi'r rheoliadau ar waith. Mae’r...
Lesley Griffiths: Felly, rwy'n credu i mi ateb Jane Dodds yn llawn ynglŷn â'r sefyllfa yn Iran, a byddwch chi wedi clywed fy ateb i Jenny Rathbone. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU. Gwnaethoch chi ofyn am dri datganiad gan y Gweinidog addysg. O ran prydau ysgol am ddim, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, ac nid wyf i'n credu, mewn gwirionedd, bod angen...
Lesley Griffiths: Wel, yn sicr, fe wnaf i drosglwyddo'ch sylwadau a'ch barn i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a fydd, rwy'n siŵr, yn hapus iawn i ysgrifennu at Lywodraeth y DU.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n deall bod y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol wedi gofyn i chi ysgrifennu ati. Rwy'n gwybod ei bod hi wedi cael tipyn o ohebiaeth o gwmpas hyn, felly rwy'n meddwl y bydd hi'n hapus iawn i rannu hynny gyda chi a hefyd i ymateb i chi os ydych chi'n ysgrifennu ati.
Lesley Griffiths: Diolch. Yn sicr, gallaf i roi ymrwymiad i chi y byddaf i'n ysgrifennu at berchennog trac rasio y Valley yng Nghaerffili. Yn anffodus, gwnes i ysgrifennu ato ym mis Mawrth, ac yr wyf i'n dal i aros am ymateb. Felly, nid ydw i'n siŵr y caf i ymateb os ysgrifennaf i ato eto, ond yn sicr, fe wnaf i ysgrifennu ato eto. Fel y gwyddoch chi, rwy'n gwbl ymroddedig i les milgwn. Rydw i eisiau...
Lesley Griffiths: Diolch. Yn sicr, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno datganiad ysgrifenedig mae'n debyg o ran Hywel Dda, ac rwy'n rhoi ymrwymiad personol i chi, bydd gennych chi ymateb gan y Prif Weinidog y gallwch chi ei rannu gyda'ch etholwr.
Lesley Griffiths: Diolch. Yn sicr mae Jane Dodds yn disgrifio sefyllfa dorcalonnus iawn, ac rwy'n talu teyrnged i bawb a wnaeth gasglu heddiw i ddangos eu cefnogaeth. Rwy'n gwybod y bydd y Prif Weinidog yn falch iawn o dderbyn llythyr gennych chi, Jane. Ein huchelgais ni yma yw gwneud Cymru y lle mwyaf diogel yn y byd i fod yn fenyw neu'n ferch, ac mae hynny wrth gwrs yn ymestyn i hyrwyddo hawliau merched yn...
Lesley Griffiths: Rydych chi'n ymdrin ag amrywiaeth o heriau sy'n wynebu'r GIG. Yn amlwg, nid ydym ni eisiau gweld pobl yn yr ysbyty am funud yn hirach nag sydd angen iddyn nhw fod, ac mae'u cael nhw adref, lle maen nhw'n amlwg yn gallu gwneud cynnydd a gwella, yn hanfodol bwysig. Mae gwaith yn mynd ymlaen yn barhaus i wneud hynny'n fwy di-dor. Rydym ni'n gwybod ein bod ni wedi cael problemau yn ymwneud â...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu bod yr Aelod yn disgrifio ffordd y cafodd llawer o'n hadeiladau cyhoeddus ni eu hariannu yn nechrau'r ugeinfed ganrif. Rydych chi'n cyfeirio at y cynlluniau oedd gan yr ysbyty, ac, yn amlwg, fel y dywedwch chi, mae cynnydd aruthrol wedi bod nawr yng nghost deunyddiau, er enghraifft, ac yn amlwg llafur hefyd. Yn hytrach na bod y Gweinidog yn gwneud datganiad, rwy'n credu y...
Lesley Griffiths: Gallaf i sicrhau'r Aelod fy mod i'n ystyried busnes y Llywodraeth yn fanwl iawn bob wythnos, ac yn cael sgyrsiau gyda fy nghydweithwyr gweinidogol i wneud yn siŵr bod prynhawn llawn o fusnes. O ran deintyddiaeth, yn sicr gwnaf edrych ar yr hyn y dywedais i wrthych chi ym mis Mawrth, ac os nad oes datganiad wedi bod, fe wnaf ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gyflwyno...
Lesley Griffiths: Gwnaethoch chi ofyn bod dau faes yn cael eu hystyried. Yn sicr, fe wnaf i siarad â swyddfa'r Prif Weinidog i sicrhau eich bod chi'n cael ymateb i'r llythyr yr ysgrifennoch chi ato fis diwethaf. O ran y data, fy nealltwriaeth i yw nad yw'r data'n addas i'w gyhoeddi, oherwydd, pe bai'n cael ei gyhoeddi, gallai alluogi adnabod unigolion, ac yn amlwg byddai hynny'n destun pryder i lawer o bobl....
Lesley Griffiths: Diolch. Fe wnaf ofyn i Weinidog yr Economi gyflwyno datganiad ysgrifenedig ar ardaloedd menter. O ran gwasanaethau orthopedig ac amseroedd aros, rwy'n credu y byddwch chi wedi clywed y Prif Weinidog a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn dweud nad yw amseroedd aros orthopedeg lle yr ydym ni eisiau iddyn nhw fod, fel amseroedd aros eraill. Mae cyllid ychwanegol sylweddol wedi'i...
Lesley Griffiths: Yn sicr, mae'n sobreiddiol iawn clywed yr amgylchiadau trasig yr ydych chi'n eu disgrifio. Wrth gwrs, mae'n fater i bob awdurdod lleol faint o Dai Amlfeddiannaeth sydd ganddyn nhw a'u lleoliad o fewn eu ffiniau eu hunain. Nid wyf i'n sicr y byddai'r hyn yr ydych chi'n ei ddisgrifio yn arwain at y Gweinidog yn gwneud datganiad ar ailystyried y rheoliadau.