Mark Drakeford: Diolch yn fawr i Adam Price am beth ddywedodd e i ddechrau. Rŷn ni'n awyddus nawr i wneud mwy i helpu teuluoedd yn ystod y gwyliau ym mis Hydref, dros y Nadolig, ym mis Chwefror ac yn y Pasg hefyd. Mae hynny yn mynd i gostio miliynau o bunnoedd, a dwi'n ddiolchgar am y trafodaethau rŷn ni wedi'u cael i ddod at y casgliad hwnnw.
Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n fy ngweld fy hun yn yr un sefyllfa i raddau helaeth ag yr oeddwn i ynddi yn gynharach yn y prynhawn. Mae yna achos cryf dros, rwy'n gwbl sicr, bopeth bron yr hoffai arweinydd Plaid Cymru i ni wario mwy o arian arno: mwy o arian ar insiwleiddio, mwy o arian ar lwfansau cynhaliaeth addysg, mwy o arian ar docynnau trenau, mwy o arian ar fusnesau. Mae achos i'w ddadlau dros bob un...
Mark Drakeford: Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr iawn i chi. A gaf i ddweud wrth agor fy mod i'n credu, wrth ateb cwestiynau'r Prif Weinidog, fy mod i wedi methu â chydnabod haelfrydedd sylwadau arweinydd yr wrthblaid o ran gwaith swyddogion Llywodraeth Cymru dros yr wythnos ddiwethaf? Ac os methais i â gwneud hynny, yna fe hoffwn i wneud yn siŵr fy mod i'n gwneud hynny ar y cofnod nawr, oherwydd fe...
Mark Drakeford: Dirprwy Lywydd, mae'r gaeaf fel arfer yn gyfnod heriol i ni i gyd, yn ogystal ag i'n gwasanaethau cyhoeddus. Ond mae'r argyfwng costau byw a biliau ynni eithriadol, hyd yn oed gyda chap y Llywodraeth, yn rhoi pwysau anhygoel ar bob teulu a busnes yng Nghymru. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhybuddio y gallai effaith yr argyfwng yma arwain at y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw a...
Mark Drakeford: Dirprwy Lywydd, dyna ddim ond ychydig o'r cynlluniau y gallwn i fod wedi eu nodi. Ac yn awr fe fydd yna fwy. Yn gynharach y mis hwn, yn rhan o'r cytundeb cydweithredu, fe wnaethom ni ddechrau cyflwyno prydau ysgol yn rhad ac am ddim yn ein hysgolion cynradd ni. Wythnos nesaf, fe fyddwn ni'n agor ceisiadau eto ar gyfer ein taliad cymorth tanwydd gaeaf unigryw, gan ymestyn y cymhwysedd fel y...
Mark Drakeford: Dirprwy Lywydd, rwy'n croesawu unrhyw gamau i leihau effaith yr argyfwng costau byw hwn ar deuluoedd, ond os caiff y cap ar filiau ynni ei ariannu trwy fenthyca, yna mae hynny mewn gwirionedd, i ddyfynnu llawer iawn o Weinidogion Ceidwadol blaenorol, yn golygu gwerthu dyfodol ein plant ni. Yn hytrach na dewis ariannu hyn drwy ddefnyddio treth ffawddelw ar yr elw rhyfeddol ac annisgwyl a...
Mark Drakeford: Llywydd, nid oes unrhyw un o'r materion hyn wedi dod i'w derfyn. Fe gaiff y cyfan ohonyn nhw eu dwysáu gan yr argyfwng diweddaraf i wynebu'r Deyrnas Unedig: sef costau byw cynyddol. Mae'r rhyfel yn Wcráin wedi gweld miliynau o bobl yn ceisio lloches a noddfa rhag yr ymladd. Mae miloedd lawer o bobl, menywod a phlant yn bennaf, wedi cael eu croesawu yma yng Nghymru. Mae'r rhyfel hwn yn un...
Mark Drakeford: Llywydd, diolch yn fawr. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae ein gwaith fel Llywodraeth ac fel Senedd wedi ei ddominyddu gan gyfres o argyfyngau cenedlaethol, o effaith mesurau cyni i baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd, fel roedd Alun Davies yn sôn amdano yn gynharach, i ymateb i argyfwng yr hinsawdd a delio â phandemig y coronafeirws.
Mark Drakeford: Llywydd, allwn ni ddim lleddfu argyfwng uniongyrchol costau ynni drwy waethygu argyfwng hirdymor newid hinsawdd. Yng Nghymru, rydym ni'n dal i fod yn benderfynol o gyflawni ein hymrwymiadau sero-net a rhoi lle blaenllaw i ddatblygu ynni adnewyddadwy yn ein hymdrechion i wneud hynny.
Mark Drakeford: Diolch i Jenny Rathbone am y pwyntiau pwysig yna. Llywydd, os bydd yn ymddangos ddydd Gwener, fel rydym ni'n clywed, bod Llywodraeth y DU yn bwriadu talu am y cymorth y bydd yn ei ddarparu i ddinasyddion sy'n wynebu cynnydd enfawr i'w prisiau ynni trwy roi'r ddyled a fydd yn cael ei chodi i wneud hynny yn ôl yn nwylo'r aelwydydd hynny, yna ni fydd wedi cynnig ateb o gwbl. Mae gwell...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, dwi eisiau talu teyrnged hefyd i Jo Whitehead am bopeth mae hi wedi'i wneud, a thalu teyrnged i aelodau'r bwrdd. A hefyd, rŷn ni'n lwcus i ailapwyntio Mark Polin fel cadeirydd y bwrdd ar gyfer y tymor nesaf hefyd. A dwi'n gwybod bod y bwrdd a'r bobl sy'n arwain y bwrdd ar lefel clinigol yn dal ati i wneud beth yr oedd Jo Whitehead yn ei ddweud yn ei hadroddiad blynyddol hi. Fel...
Mark Drakeford: Diolch i Mabon ap Gwynfor, Llywydd, am y cwestiwn. Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda'r bwrdd iechyd lleol, er enghraifft drwy roi cymorth ariannol uniongyrchol, mynediad at arbenigedd clinigol cenedlaethol a chymorth ar gyfer datblygu'r bwrdd. Diben yr ymdrechion hyn ar y cyd yw sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion.
Mark Drakeford: Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am hynna. Gallaf ei sicrhau nad yw cyhoeddiad Prif Weinidog y DU o ran ffracio yn cael unrhyw effaith yma yng Nghymru, ac nid yw polisi Llywodraeth Cymru wedi newid o gwbl. Ni fyddwn yn datrys yr argyfwng ynni trwy droi'n ôl at ffyrdd o gyflenwi ynni sydd wedi gwneud cymaint o ddifrod i'n planed. Ac mae'n arbennig o rwystredig gweld amser, egni ac arian yn...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, fel y dywedodd yr Aelod, fe wnes i groesawu penodiad Prif Weinidog diweddaraf y DU—y pedwerydd mewn chwe blynedd—ac rwy'n gobeithio y bydd hi'n bosibl cynnal cysylltiadau rhwng Llywodraeth y DU a chenhedloedd eraill y Deyrnas Unedig yn yr ysbryd hwnnw o barch tuag at ei gilydd. Ni chafwyd cyfle eto i brofi awydd Prif Weinidog newydd y DU i ddilyn dull o'r fath. Rwy'n credu y...
Mark Drakeford: Rwyf i wedi cael sawl sgwrs gynhyrchiol gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, ond ni chafwyd unrhyw gyfle i gyfarfod â Phrif Weinidog newydd y DU eto.
Mark Drakeford: Wrth gwrs dwi'n cydnabod y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud ar ran y bobl sy'n byw yn ei etholaeth e, a phobl eraill, ond nid cwestiynau i'r Llywodraeth ydyn nhw. Nid ni sydd wedi gwneud y gwaith. Mae'r elusen yn arwain y gwaith, gyda'r bobl sy'n arbenigwyr yn y maes. Y data yw eu data nhw. Mae'r ddadl yn ddadl i'w gael gyda nhw. Fel y dywedais i wrth Russell George, maen nhw wedi dweud eu...
Mark Drakeford: Wrth gwrs rwy'n deall y pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud ar ran y bobl mae'n eu cynrychioli. Safbwynt Elusen Ambiwlans Awyr Cymru ers tro yw nad ydyn nhw'n dymuno cael cyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, ac maen nhw'n gwneud hynny am resymau da iawn yn ymwneud â'u model eu hunain. Maen nhw'n ffyrnig o annibynnol yn hynny o beth. Rwy'n gwybod eu bod nhw wedi rhoi sicrwydd i'r cyhoedd...
Mark Drakeford: Diolch i Russell George am y cwestiwn yna, Llywydd. Elusen Ambiwlans Awyr Cymru sy'n gyfrifol am drefnu canolfannau. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi trafod y cydadolygiad strategol a gynhaliwyd gan yr elusen a'r gwasanaeth adalw a throsglwyddo meddygol brys, ac mae'r trafodaethau hynny wedi cael eu cynnal gyda'r ddau sefydliad.
Mark Drakeford: Diolch i Paul Davies am hynna. Rwy'n cytuno ag ef, wrth gwrs, am bwysigrwydd deintyddiaeth. Nid yw mor bell yn ôl â hynny yn y Siambr, Llywydd, yr oedd hi'n cael ei awgrymu y byddai'r holl ddeintyddion ar draws Hywel Dda yn gwrthod cytuno ar y contract deintyddol newydd sydd wedi bod ar gael ers 1 Ebrill. Rwy'n falch iawn o ddweud bod 92 y cant o'r contractau yn Hywel Dda bellach yn cael eu...
Mark Drakeford: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn parhau i ddatblygu ei gynigion ar gyfer darparu gwasanaethau ar draws ei ardal yn y dyfodol. Mae hynny wedi cynnwys gweithdai gydag aelodau'r cyhoedd, staff a phartneriaid. Gwnaed y penderfyniadau diweddaraf gan y bwrdd yn ei gyfarfod ar 4 Awst.