Mike Hedges: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu'r sectorau economaidd yn Abertawe sy'n talu cyflogau da?
Mike Hedges: Os oes gennych chi anabledd, rydych chi'n fwy tebygol o fod yn ddi-waith, ac os ydych chi mewn gwaith, rydych chi'n fwy tebygol o fod ar yr isafswm cyflog. Dyna'r realiti i bobl ag anableddau yng Nghymru heddiw. Er bod sefydliadau fel Barod—cwmni buddiannau cymunedol wedi'i leoli yn Abertawe, yn arbenigo mewn hyfforddiant a gwybodaeth arloesol, lle mae'r perchenogion a'r gweithlu yn...
Mike Hedges: Byddai'r Undeb Ewropeaidd yn ei fynnu, oherwydd byddai hynny'n atal nwyddau rhag mynd i mewn i'r Undeb Ewropeaidd ar draws y ffin honno. Mae'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio drwy gael rheolaeth ar nwyddau o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn dod i mewn.
Mike Hedges: Nid wyf yn siŵr fy mod yn cytuno â'ch datganiad ein bod wedi ein cloi mewn tlodi oherwydd system y DU. Buaswn yn dadlau ein bod wedi ein cloi mewn tlodi oherwydd y system gyfalafol, ond mae hynny'n rhywbeth na fyddech yn cytuno ag ef o bosibl. Ond credaf fod gennym broblem gyda thlodi ac mae angen inni fynd i'r afael â hi. Yn olaf, byddai polisi arall Plaid Cymru o annibyniaeth ac aros yn...
Mike Hedges: Mae bob amser yn braf cael gwybod eich bod yn iawn. Rwyf wedi dweud yn barhaus ers 2011 mai polisi gwleidyddol nid economaidd yw cyni. Rwy'n siŵr y byddai'r Ceidwadwyr yn hoffi ymddiheuro i weithwyr y sector cyhoeddus a defnyddwyr gwasanaethau cyhoeddus am y mesurau cyni sydd wedi arafu'r twf economaidd ac wedi arwain at ddefnydd torfol o fanciau bwyd a'r cynnydd mewn digartrefedd. I helpu'r...
Mike Hedges: Na, gostyngiad yn y dreth incwm a gesglir am fod rhywbeth wedi digwydd a oedd yn benderfyniad a wnaed gan Lywodraeth San Steffan, nad oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth drosto.
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am dderbyn yr ymyriad? A gaf fi ddiolch iddo hefyd am fod y person cyntaf i ddefnyddio'r enw Senedd y sefydliad hwn? Nick, y cwestiwn rwy'n awyddus iawn i'w ofyn i chi—gobeithio y gallwch ei ateb—yw: yn y papur gorchymyn mae'n dweud 'heb niwed'. A yw hynny'n golygu, os bydd camau'n digwydd yn San Steffan sy'n achosi gostyngiad yn y swm o arian sy'n dod i...
Mike Hedges: Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth—yn gyntaf, ar ddefnyddio asiantaethau cyflenwi i ddarparu athrawon cyflenwi i ysgolion. Mae hyn, i mi, yn fater difrifol iawn o ran cyfiawnder cymdeithasol. Rwy'n credu bod athrawon cyflenwi'n cael eu hecsbloetio. Credaf fod angen inni gael ateb sector cyhoeddus yn hytrach na bod athrawon cyflenwi ar drugaredd asiantaethau cyflenwi preifat....
Mike Hedges: Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb. Mae'r model buddsoddi cydfuddiannol yn costio mwy na benthyca gan y Llywodraeth. Pe na bai hynny'n wir, dyna fyddai'r dull o fenthyca a ffafrir. Menter cyllid preifat ydyw i bob pwrpas heb reolaeth cyfleusterau. Ar brosiect risg isel, gyda chost ychwanegol amcangyfrifedig o 3 y cant ar gyfer benthyca, 5 y cant ar gyfer elw, a 2 y cant ar gyfer rhan budd...
Mike Hedges: Credaf fod yna broblemau difrifol gyda llifogydd. Weinidog, a fyddech yn cytuno nad ydych yn mynd i ddatrys y broblem drwy wario arian a chodi waliau uwch ac uwch yn unig; mae’n rhaid i'r ateb ymwneud â dod o hyd i leoedd i'r dŵr fynd. Ac rwy'n siarad yn aml am yr un ar Afon Tawe, lle mae'r dŵr yn gorlifo i ardal llifogydd, sef dim ond tir. Os ydych yn mynd i wario arian, does bosibl na...
Mike Hedges: 8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y model buddsoddi cydfuddiannol? OAQ54690
Mike Hedges: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod yn croesawu'r datganiad? A gaf i ddweud hefyd mai'r hyn sydd ei angen fwyaf ar lywodraeth leol yw setliad ariannol sy'n eich galluogi i ddiwallu anghenion y cymunedau a wasanaethir? A beth bynnag sydd gan y Bil—ac mae llawer o bethau da iawn yn y Bil—y setliad ariannol yw'r gwir sbardun i lywodraeth leol. Tri datganiad...
Mike Hedges: Rwy'n credu y gallai'r ganran fod yn llai, ond bydd y nifer absoliwt sy'n pleidleisio yn codi.
Mike Hedges: Dim ond tri phwynt cyflym iawn. Onid yw'n well rhoi enw iddo y bydd yn cael ei alw? Y gair 'Senedd' yw'r gair sy'n mynd i gael ei ddefnyddio. A oes unrhyw berson yma'n credu y bydd Senedd.tv yn cael ei alw'n 'Senedd Cymru Welsh Parliament tv', neu a ydych chi'n meddwl y bydd yn parhau i fod yn Senedd.tv? O ran dwyieithrwydd yng Nghymru, ni welais y gair 'eisteddfod' wedi'i gyfieithu erioed....
Mike Hedges: Eleni yw dau ganmlwyddiant genedigaeth John Humphrey. Roedd yn cael ei adnabod fel 'pensaer Duw' oherwydd y capeli a gynlluniodd, gan gynnwys y Tabernacl yn Nhreforys. Amcangyfrifir ei fod wedi cynllunio neu ailfodelu rhwng 30 a 44 o gapeli, ac fe'u hadeiladwyd ar draws canolbarth a de Cymru, rhwng Llanidloes, Pentre Rhondda a sir Gaerfyrddin, tra bo'r rhan fwyaf wedi'u hadeiladu yn Abertawe....
Mike Hedges: Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan y Gweinidog, a'r cynllun. Mae'n rhaid inni edrych ar hyn i gyd yn erbyn cefndir o gynhesu byd-eang a lefelau'r môr yn codi, ac, oni bai ein bod yn gweithredu'n gyflym, rhagor o gynhesu byd-eang a lefelau'r môr yn codi'n uwch. Mae'n bwysig bod moroedd Cymru yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol. Rwy'n croesawu'r ffaith bod...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Efallai y dylwn i ddatgan fy mod yn Llysgennad Rhuban Gwyn, diolch i fy nghyfaill Jack Sargeant, a anfonodd yr holl wybodaeth ataf ar gyfer bod yn un. Ond pan fydda i'n siarad am faterion fel hyn, mae hynny'n fwy o lawer fel tad i ferch 21 oed na fel gwleidydd. Mae trais yn erbyn menywod bob amser yn annerbyniol. Mae angen i bawb ohonom wneud...
Mike Hedges: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Bob haf, mae plant yn llwgu, mae llawer o rieni yn colli 10 o brydau am ddim fesul plentyn yr wythnos pan fydd ysgolion ar gau. Byddwn yn cymeradwyo gwaith fy nghydweithiwr Carolyn Harris, a fu'n bwydo ymhell dros 5,000 o blant yn ystod yr haf yn Nwyrain Abertawe, ond yn sicr nid oedd hynny'n cyrraedd pawb a oedd ar eu colled o ran y bwyd am ddim. A...
Mike Hedges: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dlodi plant? OAQ54648
Mike Hedges: 2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddiwrnod y rhuban gwyn? OAQ54653