Suzy Davies: Y cwestiwn i mi yw: sut y mae'r Cynulliad hwn yn dylanwadu ar sut y mae ein dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod uniondeb y setliad datganoledig yn cael ei amddiffyn? Ac er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor hwn pan oedd y gwaith yn cael ei wneud ar y cytundeb penodol hwn, mae'r gwaith rwyf wedi'i wneud ar y pwyllgor ers hynny wedi lliwio sut rwyf eisiau gosod fy nghyflwyniad...
Suzy Davies: Un nod i'r cynllun yw, wrth gwrs, cynyddu darpariaeth dysgu Cymraeg ar ôl 16 i helpu pobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle, ac rwyf fi'n falch—rwy'n credu fy mod i'n falch anyway—i weld syniadau fel llinell ffôn cymorth i helpu darparu gwasanaethau cyfieithu am ddim i fusnesau bach ac elusennau, er enghraifft, ond cam bach iawn, iawn yw hynny tuag at darged 2050. Beth ydych...
Suzy Davies: Diolch am eich ateb. Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, ac rydym wedi clywed heddiw am y pryderon difrifol a fynegir bellach ynghylch cyllid ysgolion, ac un o'r pethau a glywn yw y gall ysgolion fod yn derbyn arian ychwanegol heb fawr o rybudd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, sy'n ei gwneud yn anodd iawn iddynt ei wario'n effeithiol o fewn y flwyddyn. Mae hefyd yn arwain at y canlyniad...
Suzy Davies: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru o ran cyllidebu aml-flwyddyn? OAQ53522
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog. Ymddiheuriadau i'r rhai doeddwn i ddim yn gallu galw heddiw.
Suzy Davies: Mae'r eitem nesaf, eitem 6, wedi'i ohirio.
Suzy Davies: Felly, rydym ni'n troi nawr at gynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid Gwasanaeth), a galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i wneud y cynnig—Lesley Griffiths.
Suzy Davies: Yn olaf ac yn glou, Jack Sargeant.
Suzy Davies: Diolch yn fawr. Allaf i jest ofyn i bob siaradwr heddiw ystyried y ffaith bod gyda ni dri chwarter awr ar gyfer y mater hwn? Mae yna nifer o bobl sydd eisiau siarad, ac rwy'n dechrau gyda Dawn Bowden.
Suzy Davies: Trefnydd, cefais fy nychryn pan glywais ychydig ddyddiau yn ôl bod menywod sy'n cael camesgoriad ar ôl bod yn feichiog am lai nag 20 wythnos yn cael eu derbyn mewn ward yn Ysbyty Singleton lle nad oes unrhyw gyfleusterau ystafell ymolchi en-suite. Yn waeth byth, mae hon yn ward gymysg lle disgwylir i fenywod sy'n cam-esgor gerdded heibio dynion i fynd i'r toiledau a'r cawodydd, ac mae...
Suzy Davies: Nid yw'r holl gyllid gwasanaeth ieuenctid yn dod drwy'r llwybr awdurdod lleol. Yn 2016, argymhellodd y comisiynydd plant bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod eiriolaeth cysylltiedig ag iechyd ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed ar gael ac yn hygyrch i bawb sydd ei hangen. Fodd bynnag, yn ei diweddariad chwarterol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni, nododd nad yw'n ymwybodol o unrhyw newidiadau i'r...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, ac roeddwn am gyfleu'r pwynt hwn: beth bynnag yw'r swm y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael, mae'n rhoi ffigur dangosol i gynghorau. Nid yw'r ysgolion yn cael y ffigur a ddynodwyd iddynt, a dyna'r bwlch rwy'n ceisio ei nodi yn hytrach na'r cyllid cychwynnol.
Suzy Davies: Credaf imi ateb y cwestiwn hwnnw ar y dechrau un, oherwydd—ac fe ddof at hyn—mae'n rhy hawdd rhoi bai ar Lywodraeth y DU am hyn, oherwydd mae'r problemau rwy'n sôn amdanynt—[Torri ar draws.] Beth am i chi adael i mi ddod at ddiwedd fy araith, ac fe gewch atebion. Fe gymeraf ymyriad arall, os mynnwch, i arbed ychydig o amser ar hyn. Yn fyr, mae'r holl restr hon rwyf wedi'i chrybwyll...
Suzy Davies: Wrth wraidd y cwynion a gawn gan rieni ac arweinwyr ysgolion, fodd bynnag, mae'r hyn y maent yn dechrau ei weld—[Torri ar draws.]—mae'r hyn rydym yn dechrau ei weld fel annhegwch o ran ariannu rhwng ysgolion o fewn yr un awdurdod lleol, heb sôn am gymharu â siroedd eraill, ynghyd â pheth gofid ynghylch ffyrdd newydd o ariannu, nad ydynt bob amser yn cyflawni eu...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn sicr cafwyd newid gêr eleni o ran nifer y cwynion gan ysgolion ac awdurdodau lleol ynglŷn â thanariannu. Nid yw cynghorau yn fodlon gadael i'r Llywodraeth hon gael rhwydd hynt mwyach i feio popeth ar gyni fel y'i gelwir, ac yn wir ni allant wneud hynny, oherwydd mae'r cyllid gwaelodol, a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr hynny, yn golygu bod Cymru—. Yma...
Suzy Davies: Rwy'n siŵr fod yr Aelodau'n ymwybodol fod ffatri Ford yn fy rhanbarth yn wynebu colli hyd at 1000 o swyddi o bosibl yn y dyfodol agos. Soniasoch yn gynharach, Ddirprwy Weinidog, na fydd y sefyllfa yn Honda yn dod yn un ddifrifol tan 2021, sy'n golygu bod dwy flynedd lle gallai Llywodraeth Cymru weithio i sicrhau bod Ford a'u cadwyni cyflenwi, yn ogystal â Honda, yn cael y canlyniad gorau...
Suzy Davies: Mae Prifysgol Abertawe, ynghyd â phrifysgolion Warwick a Sheffield, yn cydweithio ar y prosiect newydd SUSTAIN hwn, a fydd yn defnyddio £35 miliwn o fuddsoddiad i leihau allyriadau o'r broses gynhyrchu dur ac yn cynyddu cynhyrchiant a swyddi, a chredaf y dylid croesawu'r cydweithrediad hwnnw'n fawr, rhywbeth a all leihau llygredd ar gyfer Tata Steel, a gobeithiaf y byddant hefyd, pan...
Suzy Davies: Fel y clywsom yn y grŵp trawsbleidiol diweddar ar drafnidiaeth, o dan gadeiryddiaeth Russell George, bysiau a cherbydau nwyddau trwm sy'n cyfrannu fwyaf at lygredd diesel. Ac er bod lorïau'n cael eu newid am rai newydd yn weddol aml, nid yw’r un peth yn wir am fysiau. Yn y gorffennol, rhoddodd Llywodraeth Cymru gryn dipyn o arian i Gyngor Abertawe tuag at system Nowcaster—nid wyf wedi...
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch yn fawr iawn. Roeddwn yn gwrando ar yr hyn yr ydych newydd fod yn ei ddweud, yn arbennig ynghylch cyfraniad Caroline Jones. Rwyf yn dal i gredu nad ydych chi wedi rhoi ateb i ni pam mae gennym ni gymaint o ysgolion sy'n methu'n barhaus—a defnyddiaf 'methu' yn ystyriol. Mae carfan arbennig o ysgolion sydd dal yn methu â symud allan o fesurau arbennig ac...
Suzy Davies: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig ein gwelliant. Hoffwn ddweud ar gyfer y cofnod, serch hynny, na chafodd ei fwriadu i fod yn welliant 'dileu popeth', ond dyna sydd gennym, ac felly symudwn ymlaen ar y sail hwnnw. A gaf i hefyd ategu'r teimladau a fynegwyd yng ngwelliant cyntaf Plaid? Mae unrhyw welliant i'w groesawu am ei effaith ar y bobl ifanc unigol sy'n elwa ohono, yn ogystal â...