Russell George: Diolch. Mae'n braf clywed hynny. Ym mis Mehefin eleni, dywedodd y Dirprwy Weinidog, eich bos, y Gweinidog, wrth y Siambr hon fod trafnidiaeth yn faes lle mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol. Dywedodd ei fod yn disgwyl adroddiad interim i Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru o fewn chwe mis. Dywedodd y Gweinidog hefyd, ac rwy'n dyfynnu: 'rwyf wedi bod yn...
Russell George: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am barodrwydd cefnffyrdd cyn tywydd gwael posibl? OAQ54613
Russell George: Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod gennym Faes Awyr Caerdydd sy'n ffynnu yn hanfodol i economi'r de. Nawr, mae'r benthyciadau a roddwyd i'r maes awyr wedi cynyddu erbyn hyn i fwy na £50 miliwn, bron cymaint ag a gostiodd i brynu'r maes awyr yn ôl yn 2013, ac mae'r colledion a wneir gan y maes awyr yn parhau i dyfu. Dywedodd eich rhagflaenydd, Prif Weinidog, mai...
Russell George: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae'n siwr y cytunwch â mi nad yw'r toiled hygyrch safonol yn diwallu anghenion pawb sydd ag anableddau corfforol, megis y rhai sy'n dioddef o anafiadau i'r cefn neu sglerosis ymledol er enghraifft, ac yn aml, mae angen cyfarpar a lle ychwanegol ar bobl i ganiatáu iddynt ddefnyddio toiled yn ddiogel ac yn gysurus. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mewn...
Russell George: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hygyrchedd cyfleusterau ar gyfer y rhai ag anableddau corfforol ym Mhowys? OAQ54571
Russell George: Prif Weinidog, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod y cytundeb fframwaith capasiti cludo nwyddau yn gallu rhoi'r gallu i adrannau Llywodraeth sicrhau capasiti cludo nwyddau ar gyfer cadwyni cyflenwi rhwng y DU a'r UE. Ond mae hefyd yn bwysig gwella capasiti cludo nwyddau ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. A sylwais yn ystod y broses o gasglu tystiolaeth ar gyfer strategaeth cludo nwyddau y...
Russell George: Weinidog, diolch am eich ateb i David Rees. Yn ystod y cwestiynau i'r Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol yn gynharach, nid oeddwn yn siŵr a oeddech yn y Siambr i glywed y cwestiwn neu beidio, ond tynnais sylw at y dystiolaeth a roddodd y Gweinidog i'r pwyllgor materion allanol yr wythnos o'r blaen yn awgrymu y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o bwyslais ar allforion yn hytrach na denu...
Russell George: Diolch am eich ateb, Weinidog. Sylwais hefyd ei bod yn ymddangos eich bod wedi awgrymu bryd hynny yn y pwyllgor materion allanol ar 23 Medi—a chredaf eich bod yn ategu hyn yn eich ateb yn awr—y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy o bwyslais ar gefnogi allforion yn hytrach na denu mewnfuddsoddiad. Os yw hynny'n gywir, tybed a allech esbonio'r rhesymeg dros yr ymagwedd hon a rhoi eich barn...
Russell George: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran gweithredu argymhellion adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Werthu Cymru i'r Byd? OAQ54517
Russell George: Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Ddwy flynedd yn ôl, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym ni mai amcanion y Comisiwn fyddai dadansoddi, cynghori a gwneud argymhellion ynghylch anghenion seilwaith strategol economaidd ac amgylcheddol tymor hwy Cymru dros gyfnod o dair neu bum mlynedd i 30 mlynedd. Rwy'n falch bod rhai comisiynwyr wedi eu penodi erbyn hyn, ond mae'n ymddangos nad oes fawr ddim...
Russell George: 7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol? OAQ54515
Russell George: Rwy'n ategu'r sylwadau a wnaed gan eraill o ran ein bod yn meddwl am y rhai a gyflogwyd yn Triumph. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog—? Cafwyd rhai awgrymiadau bod y sefyllfa ariannol wedi'i hachosi gan oedi mewn perthynas â chontractau newydd gan y Llywodraeth gan effeithio ar elw a gwerthiannau. Buaswn yn ddiolchgar pe gallech wneud sylwadau ar hynny. Yn anffodus, rydym wedi gweld cyfres o...
Russell George: Weinidog, nid yw'r argymhellion presennol yn yr adran ar ynni yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn cynnwys unrhyw fanylion ynglŷn â sut y byddai'r ynni a gynhyrchir yn cael ei gysylltu â'r grid cenedlaethol wedyn. Tybed pa sylwadau a gyflwynoch chi i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar hyn, a chyrff eraill, o ran siarad â'r grid cenedlaethol eich hun hefyd. Os yw canlyniadau'r...
Russell George: Diolch, Weinidog, ac rwy'n falch o glywed yr ateb hwnnw. Mae pryder gwirioneddol yn bodoli, ac wedi bodoli ers peth amser bellach, ynghylch rheolau a chytundebau gweithredu'r ddau argae, gan fod dŵr wedi bod yn gorlifo dros y ddau argae, fel y crybwyllodd y ddau ohonom, ac mae hyn wedi achosi llifogydd mawr mewn rhannau helaeth o fy etholaeth. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallem hwyluso...
Russell George: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoli argaeau yng nghanolbarth Cymru? OAQ54459
Russell George: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol?
Russell George: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma ar ddwy agwedd yn gysylltiedig â theithio rhatach. Tybed, Gweinidog, a wnewch chi ddweud ychydig mwy am y ffordd yr ydych chi wedi ystyried rhai o'r pryderon a fynegwyd i osgoi'r canlyniadau anfwriadol i ddeiliaid cardiau megis gofalwyr a phobl hŷn sydd â phroblemau iechyd neu anableddau. Byddwn hefyd yn ddiolchgar am ragor o fanylion...
Russell George: Yr wythnos diwethaf, Prif Weinidog, ysgrifennodd etholwr lythyr a ysgrifennwyd â llaw ataf yn amlinellu ei phrofiad o deithio ar y rheilffyrdd. Mae'r unigolyn penodol hwn yn berson anabl, sydd â phroblemau symudedd, ac sydd â bathodyn glas. Cefais yr argraff fod y person hwn yn berson oedrannus, ac yn sicr nid yw'n teimlo'n gyfforddus, ar wahân i'r problemau symudedd, yn defnyddio...
Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am welliannau i brif gefnffyrdd yn Sir Drefaldwyn?
Russell George: Y dydd Iau hwn, ar 3 Hydref, byddwn yn dathlu 160 mlynedd ers sefydlu siop archebion post Pryce-Jones a 140 mlynedd ers agor Warws Brenhinol Cymru Pryce-Jones. Bydd dathliad a drefnwyd gan y ganolfan treftadaeth ar gyfer canolbarth Cymru yn Warws Brenhinol Cymru Pryce-Jones, sy'n adeilad rhestredig gradd II yn y Drenewydd, i nodi bywyd Syr Pryce Pryce-Jones, a oedd yn arloeswr siopa archebu...