Mark Isherwood: Diolch. Mae gwelliant 111 yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru ddatblygu a chyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol i'w cefnogi i gyflawni gwell cynnwys, neu 'cyfranogiad' fel y mae wedi'i ddrafftio yn y Bil ar hyn o bryd. Cynigiwyd y term 'cynnwys' i ni gan gyrff arbenigol allanol sy'n gweithio ym maes ymgysylltu cymunedol, grymuso ac adfywio ar ddulliau sy'n seiliedig ar asedau a...
Mark Isherwood: Cynnig.
Mark Isherwood: Diolch, Llywydd. A allwch chi fy nghlywed i? Gallwch. Unwaith eto, ymateb siomedig ond nid annisgwyl. Mae'n ymddangos bod y Gweinidog a Llywodraeth Cymru yn credu bod llawer o bethau sydd wedi'u gwrth-ddweud yn uniongyrchol gan y cyrff arbenigol perthnasol yn yr achos hwn, yn gyson â'r ymwrthodiad blaenorol o bryderon a godwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Solace ac eraill. Ac yn...
Mark Isherwood: Diolch. Mewn llythyr at y pwyllgor, fe wnaeth Parciau Cenedlaethol Cymru ddadlau fod cyfle wedi'i golli trwy beidio â chynnwys awdurdodau'r parciau cenedlaethol yn yr adran sy'n ymwneud â'r pŵer cymhwysedd cyffredinol sydd wedi'i gynnig ar gyfer cynghorau tref a chymuned. Mae gwelliant 107 yn rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau parciau cenedlaethol yng Nghymru. Mae Parciau...
Mark Isherwood: Mae ein gwelliannau yn y grŵp hwn yn ceisio dileu gallu awdurdodau lleol unigol i newid eu system bleidleisio o system y cyntaf i'r felin i bleidlais sengl drosglwyddadwy. Nid yw hyn i fod yn groes, mae hyn er mwyn adlewyrchu'r dystiolaeth a gafodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth leol yng Nghyfnod 1, a gefnogwyd gan yr Aelodau, lle nad oedd y rhan fwyaf o randdeiliaid yn...
Mark Isherwood: Cynigiwyd.
Mark Isherwood: Cynigiwyd.
Mark Isherwood: Cynigiwyd.
Mark Isherwood: Ymateb siomedig ond rhagweladwy, mae'n debyg. Rwy'n credu i'r Gweinidog ddechrau drwy gyfeirio at arolwg yn 2017 a chanran yr ymatebwyr. Roedd y rheini'n samplau anghynrychioliadol ac mae'n gwybod cystal â mi fod ein gwelliannau'n ceisio adlewyrchu, drwy farn y cyhoedd ar y mater hwn, yr holl sbectrwm gwleidyddol, lle mae pleidleisio a dinasyddiaeth yn faterion pwysig. Maen nhw'n rhan o...
Mark Isherwood: Iawn. Wel, fe ddof i ben gyda'r sylw yna, felly, a chrybwyll, fel y dywedwch chi, y pwyntiau sy'n weddill yn fy nghasgliad. Diolch.
Mark Isherwood: Yn ystod Cyfnod 2 y Bil hwn, dadleuodd y Gweinidog yn erbyn y gwelliant hwn, gan ddweud y bydd Cwricwlwm newydd Cymru yn caniatáu i athrawon benderfynu sut i ddarparu addysg wedi'i theilwra i anghenion penodol eu disgyblion. Mae hyn yn cynnwys addysg wleidyddol, a fydd yn dod o dan y diben craidd o gefnogi dysgwyr i ddod yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a'r byd, gan dynnu...
Mark Isherwood: Pnawn da. Nod gwelliannau 84, 85 a 103 yw dileu'r ddarpariaeth bresennol sy'n ymestyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol ar gyfer pob dinesydd tramor, waeth beth fo'i ddinasyddiaeth. Mae gan y rhan fwyaf o wledydd a chenhedloedd sy'n caniatáu i bobl nad ydynt yn ddinasyddion bleidleisio, ofyniad preswylio sylfaenol. Er enghraifft, er mwyn bod yn gymwys i bleidleisio yn...
Mark Isherwood: Mae addysgu ein hanes yn ysgolion Cymru yn bwysig. Mae'r gorffennol yn llywio'r dyfodol; byddai colli'r gorffennol yn golygu ein bod yn byw yn yr oes fwyaf ddi-hid. Mae hanes yn ein dysgu bod 'Cymreig' yn golygu Prydeinig. Enwyd 'England' a 'Scotland' ar ôl eu goresgynwyr. Fodd bynnag, fe wnaeth y Prydeinwyr, neu'r Brythoniaid, barhau. Enwyd 'Wales' ar ôl y term a ddefnyddiwyd gan y...
Mark Isherwood: Mae gennym ni dri o wyrion newydd, i gyd yn byw gerllaw, ond dau yn Lloegr. Gallwch ddychmygu sut yr ydym ni'n teimlo. Dywed Epilepsi Cymru nad oes llawdriniaeth epilepsi ar gyfer plant nac oedolion yng Nghymru ar hyn o bryd, ac ni fu am y saith mis diwethaf. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pryd y bydd hyn yn newid fel y gellir darparu llawdriniaeth hanfodol i'r bobl hynny sy'n hynod o...
Mark Isherwood: Rwy'n galw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ynghylch cyfyngiadau COVID-19 ar ymweliadau â chartrefi gofal yng Nghymru. Fel yr ysgrifennodd un etholwr, Dim ond ers mis Chwefror y mae ein mam ni wedi byw yn y cartref nyrsio. Daeth yr ymweliadau i ben yn llwyr yn ystod ton gyntaf y pandemig, ac fe wnaethon nhw ailddechrau gydag ymweliadau awyr agored ganol mis Awst. Fodd bynnag, daeth...
Mark Isherwood: Cymerodd fisoedd i gyllid chwarter 1 ddod drwodd, ac ym mis Gorffennaf, dywedodd adroddiad is-grŵp cyllid Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar arolwg incwm a gwariant COVID-19 ar gyfer chwarter 2 a phwysau cyllidebol yn y dyfodol fod Llywodraeth Cymru wedi cael cyllid o £280 miliwn fan lleiaf mewn symiau canlyniadol, ac y gallai gael mwy, oherwydd ar gyfer y chwarter cyntaf a'r ail chwarter...
Mark Isherwood: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol drwy pandemig y coronafeirws?
Mark Isherwood: Helo.
Mark Isherwood: Rwy'n galw am ddatganiad llafar, neu ddadl os oes modd, yn amser Llywodraeth Cymru ar gynllun drafft Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru, ar ôl i Lywodraeth Cymru heddiw dynnu ei datganiad llafar allweddol ar hyn yn ôl a rhoi datganiad ysgrifenedig yn ei le, nad oedd yn caniatáu cwestiynau. Roedd cynllun Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng...
Mark Isherwood: Fel y dywed ein cynnig, rhaid inni gydnabod effaith andwyol sylweddol y cyfyngiadau coronafeirws lleol ar fusnesau a chyflogwyr eraill, a nodi'r angen i sicrhau bod cyfyngiadau coronafeirws sy'n effeithio ar gyflogwyr yn gymesur. Er mwyn helpu i gadw ein heconomi'n weithredol a diogelu rhag trosglwyddiad COVID, mae angen data lleol arnoch, ac oni bai bod Llywodraeth Cymru yn darparu hyn, bydd...