Jeremy Miles: For 2022-23 we are providing £270,000 to the Supporting Service Children in Education Cymru programme. This funds a package of universal support, including resources for schools, local authorities and families; research, networks and events; and focused, targeted support to schools where most needed.
Jeremy Miles: Diolch i Ken Skates am y ddau gwestiwn pwysig iawn yna. O ran y cyntaf o'r ddau gwestiwn, mewn gwirionedd, rydym ni eisoes wedi cael cyswllt â nifer o gerddorion o Gymru sydd â phroffil uchel—rhai yng Nghymru, ond rhai y tu hwnt i'n ffiniau ni—y mae'r cyhoeddiad hwn wedi eu cyffroi nhw'n fawr ac sydd wedi bod yn cysylltu i ddweud, 'Sut allwn ni helpu?' Felly, gan gyfeirio yn ôl at y...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am hynna, ac rwy'n credu bod ei bwynt ynglŷn ag ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf wrth wraidd hyn mewn gwirionedd. P'un ai eich profiad chi o gerddoriaeth yw dim ond rhoi cynnig ar ganu offeryn yn yr ysgol gynradd, neu ei bod yn dod yn angerdd ar hyd eich oes, neu ei bod yn yrfa i chi, rwy'n credu mai rhan o'r hyn a gynigir yma yw sicrhau ein bod ni'n cysylltu pobl ifanc sydd ag...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am hynna. Pan oeddwn i ar y pwyllgor a ystyriodd hyn yn y Senedd ddiwethaf, cawsom ni dystiolaeth gan amrywiaeth o wasanaethau cerdd. Felly, nid uchelgais y cynllun yw pennu ffurf y gwasanaeth sy'n cael ei ddarparu; bydd hynny'n parhau i fod yn swyddogaeth i'r awdurdod lleol, ond bydd yr holl wasanaethau cerdd yn gallu cydweithio â CLlLC i gyflawni'r cynllun yn gyffredinol....
Jeremy Miles: A gaf i gymeradwyo'r Aelodau'n gyffredinol am atal eu hunain rhag defnyddio mwyseiriau cerddorol yn eu cyfraniadau heddiw? Ond, dywedaf, Carolyn Thomas, fod eich cyfraniad yn taro'r nodyn cywir. Gobeithio na fydd yr Aelodau'n teimlo bod hwn wedi ei offerynnu gormod. [Chwerthin.] Dim ond i ddweud, rwy'n credu bod y pwynt y mae hi'n ei wneud am yr amrywiaeth o brofiad yn gwbl ganolog i hyn....
Jeremy Miles: Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Mae hi'n iawn i ddweud bod y sefyllfa wedi bod, ers cyfnod, yn rhywbeth roedden ni eisiau mynd i'r afael ag e. Rwy'n cofio, pan oeddwn i yn yr ysgol, cael manteisio ar wersi cerddoriaeth am ddim ac, fel yr Aelod, yn gallu benthyg offeryn pres, heb orfod prynu un ein hunain fel teulu. Mae'r tirwedd wedi newid yn sylweddol, yn anffodus, ers hynny...
Jeremy Miles: Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiynau adeiladol y mae wedi'u codi heddiw ac am y gefnogaeth y mae wedi'i rhoi i'r cynigion yr wyf i wedi'u cyhoeddi yn fy natganiad. Gofynnodd ai'r cynigion oedd y ffordd iawn o fynd ati i sicrhau cysondeb yn y ddarpariaeth ledled Cymru, a gallaf i gadarnhau wrthi mai'r cynigion yw'r ffordd iawn. Mae'r model yr ydym ni wedi'i fabwysiadu i ddarparu'r...
Jeremy Miles: Bydd y Gwasanaeth Cerddoriaeth Cenedlaethol yn cynnwys partneriaid a sefydliadau allweddol sy'n cydweithio fel hyb, gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn gorff arweiniol, yn gyfrifol am gydlynu gweithgareddau'r gwasanaeth a'i raglenni gwaith. Byddan nhw'n sicrhau bod y rhaglenni gwaith yn amrywiol ac yn hygyrch i bob plentyn a pherson ifanc, ac yn dyrannu cyllid i awdurdodau lleol i...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe ddylai’r llawenydd sy’n dod o gerddoriaeth o bob math fod yn elfen ganolog ym mhob ysgol a lleoliad addysgol. Ond ers yn rhy hir, rŷn ni’n gwybod mai dim ond y rheini sy’n gallu fforddio’r gwersi sy’n cael dysgu chwarae offeryn cerdd, a dyw hynny ddim yn dderbyniol. Ni ddylai’r un plentyn fod ar ei golled o achos diffyg arian. Fe ddylai pob plentyn,...
Jeremy Miles: Diolch i Jayne Bryant am y sylwadau yna a'r cwestiynau. Pan wnes i fy natganiad, rydw i am fod yn glir ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud: mewn gwirionedd, dydyn ni erioed wedi newid y gyfraith ar unrhyw adeg mewn cysylltiad â hysbysiadau cosb benodedig. Efallai ei bod hi'n cofio i ni benderfynu peidio â gwneud hynny, ond y byddem yn mynegi barn, os mynnwch chi, ynghylch i ba raddau y...
Jeremy Miles: Diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau hynny. Does dim byd yn y datganiad y gwnes i ei wneud sydd yn awgrymu y dylai'r pethau pwysig y gwnaeth hi eu codi yn ei sylwadau gael eu hanwybyddu. Mae, wrth gwrs, yn bwysig ein bod ni'n teilwra'r ffordd rŷn ni'n ymateb i'r heriau yma yn ôl amgylchiadau dysgwyr unigol a sefyllfa'r teulu, ac mae wedi rhoi amryw o enghreifftiau ac mae llawer eraill o...
Jeremy Miles: Diolch i Laura Anne Jones am ei chwestiynau ac rwy'n credu ei bod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig iawn yn ei chyfraniad, os caf i ddweud. Rwy'n credu ei bod yn iawn, fel y mae hi'n ei ddweud, fod hon yn gyfres o heriau pryd nad yw symud o bandemig i gyflwr endemig o ran ymateb y system ysgolion i COVID yn mynd i warantu ein bod yn dychwelyd i'r lefelau presenoldeb a ddigwyddodd cyn COVID. Mae...
Jeremy Miles: Bydd ein pwyslais ar ysgolion bro yn chwarae rhan allweddol wrth ymateb i'r her hon. Mae swyddogion ymgysylltu â theuluoedd yn hanfodol i sicrhau bod partneriaethau cadarnhaol yn cael eu creu a bod cymorth pwrpasol yn cael ei gynnig. Gall ysgolion sy'n adnabod eu teuluoedd yn dda sicrhau bod mesurau'n cael eu rhoi ar waith a fydd yn helpu plant i gynnal ymgysylltiad a phresenoldeb da. Rydym...
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydyn ni i gyd yn gyfarwydd â'r heriau sydd wedi dod i ran ein cymuned addysg ni yn sgil y pandemig. Un o'r rhain yw'r cynnydd yn absenoldeb dysgwyr, a hynny ymhob grŵp blwyddyn ac ymhlith dysgwyr o bob math. Rydyn ni'n gwybod bod yna resymau amrywiol dros yr absenoldeb yma, a bod y sefyllfa wedi gwaethygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn yn un o'r prif...
Jeremy Miles: Mae'r gwaith mae awdurdodau lleol mewn mannau yng Nghymru yn ei wneud i aildrochi rhai o'n dysgwyr ni sydd wedi cael y profiad o golli rywfaint ar eu Cymraeg yn y cyfnod hwn yn bwysig, a hoffwn i ddiolch hefyd i'r partneriaid, fel RhAG ac eraill, sydd wedi bod yn gweithio gyda ni i wneud ein gorau glas i leihau'r impact andwyol hynny ar yr iaith.
Jeremy Miles: Gwnaeth Jenny Rathbone gyfres bwysig o bwyntiau mewn cysylltiad â'r effaith ar y sector nas cynhelir. Mae'r adroddiad yn sôn am nifer o leoliadau sy'n fregus yn ariannol. Bydd yn gwybod ein bod wedi ymrwymo £8 miliwn rhwng mis Mawrth 2020 a 2021 drwy'r rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, ac rydym yn gweithio'n agos gyda rhanddeiliaid, gan gynnwys Estyn, i ddeall i ble y gellid...
Jeremy Miles: Byddwn ni'n cefnogi gwelliant Plaid, y soniodd Heledd Fychan amdano. Mae'n adlewyrchu ein pwyslais a'n blaenoriaeth fel Llywodraeth, ac ymdrechion y gweithlu addysg cyfan, yn wir. Gwnaeth rai pwyntiau pwysig mewn cysylltiad â chostau'r diwrnod ysgol. Bydd yn ymwybodol o'r gwaith yr ydym wedi bod yn ei wneud gyda phartneriaid i roi arweiniad i ysgolion mewn cysylltiad â hynny, a gwn y bydd...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd, a diolch i bob Aelod sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Er bod yr hyn sydd yn adroddiad Estyn yn dangos bod llawer gyda ni i fod yn falch ohono fe yn ein system addysg, mae'r adroddiad hefyd, wrth gwrs, yn taflu goleuni ar rai o'r elfennau hynny sydd yn rhaid inni barhau i ddelio â nhw. Rwy'n cytuno bod hyn yn cynnwys rhai o'r pethau a wnaeth Heledd Fychan sôn amdanyn nhw...
Jeremy Miles: Rwy'n gwybod bod llawer o ysgolion eisoes wedi gwneud cynnydd da o ran gweithredu'r fframwaith hwn a rhoi strategaethau ar waith i gefnogi plant a phobl ifanc drwy ddull ysgol gyfan cynhwysol o ymdrin â'u hiechyd a'u lles. Er mwyn cefnogi ysgolion ymhellach, rydym wedi comisiynu Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu pecyn cymorth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn eu helpu i nodi'r hyn...
Jeremy Miles: Diolch Llywydd, ac a gaf i agor y ddadl hon heddiw drwy ddiolch i Claire Morgan, prif arolygydd dros dro addysg a hyfforddiant yng Nghymru ar y pryd, am ei hadroddiad blynyddol? Mae'r adroddiad annibynnol hwn yn gofnod pwysig o'r ffordd yr ymatebodd ysgolion a darparwyr addysg a hyfforddiant eraill i'r heriau a gododd ym mlwyddyn academaidd 2020-21 o ganlyniad i'r pandemig. Mae hefyd yn...