Andrew RT Davies: Mae'r pwynt y mae arweinydd Plaid Brexit yn ei wneud yn cael ei bwysleisio yn y gyfraith yn awr. Os aiff y Bil drwy Dŷ'r Cyffredin, mae'r Bil Pysgodfeydd yn gwneud y pwynt hwnnw ac yn ei wneud yn bwynt cyfreithiol. Felly, nid yw'n rhywbeth y gellir ei fasnachu ymaith yn hawdd.
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a chroesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma a hefyd i gynnig y gwelliannau yn enw Darren Millar ar ran grŵp y Ceidwadwyr. Mewn gwirionedd, o edrych ar y prif gynnig, mae bron yn anodd anghytuno â'r teimladau ynddo ac yn amlwg, rwy'n gobeithio bod ein gwelliannau diweddarach yn ychwanegu at y cynnig ac yn pwyntio at y camau heddiw yn...
Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad a gallwn ddadlau am y ffigurau, ac rydym wedi gwneud hynny lawer o weithiau. Y peth allweddol, fel y dywedais yn y cwestiwn brys i'r Gweinidog iechyd y prynhawn yma, yw ei fod yn gyfrifol am gyfeiriad strategol y GIG yng Nghymru. Gallai gyfarwyddo'r bwrdd iechyd i gadw'r adran damweiniau ac achosion brys honno'n agored a dyfeisio achos busnes i...
Andrew RT Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n llongyfarch pawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma a chreu dadl rymus, a dweud y lleiaf. Rwyf am ddweud rhywbeth, os caf, am y weithdrefn. Rwy'n credu ei bod yn anffodus, pan fydd rhywun yn ymyrryd ar araith, ei fod yn cerdded yn syth o'r Siambr. Pwynt y ddadl, yn amlwg, yw ymgysylltu—
Andrew RT Davies: Wel, rwy'n derbyn hynny, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n credu bod gennyf hawl i ddweud yr hyn rwy'n ei feddwl. Ac rwyf am—
Andrew RT Davies: —dynnu sylw pobl ato. [Torri ar draws.] Rwyf am dynnu sylw pobl at y ffaith honno. Rwyf hefyd am ystyried sylwadau David Rees a Dai Lloyd. Rwy'n credu eu bod wedi gwneud sylwadau perthnasol iawn, yn yr ystyr mai dydd Gwener, i lawer o bobl, fel y pwysleisiodd Neil Hamilton, fydd penllanw gwaith oes mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Ond i lawer o bobl sydd â safbwyntiau gwahanol, bydd...
Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad, Dai. Mae'n anghywir dweud bod y penderfyniadau hynny wedi cael eu gwneud yma yn y Senedd—bu'n rhaid eu cymeradwyo ym Mrwsel yn gyntaf o dan yr amlen saith mlynedd o arian a oedd ynghlwm wrth y cronfeydd ailddatblygu hynny. Felly, rhaid i chi gydnabod bod partneriaeth i ddatblygu yma, ac rydym am weld y bartneriaeth honno'n datblygu gyda statws...
Andrew RT Davies: Rwy'n sylweddoli bod heriau ar draws y bwrdd iechyd ond o ran staffio yn arbennig. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yma, yn amlwg, yw bod y penderfyniadau sydd wedi'u gwneud ar ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn seiliedig ar raglen de Cymru. Lleolir Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn ardal â dwysedd poblogaeth uchel, gyda phoblogaeth sy'n tyfu a galw...
Andrew RT Davies: Weinidog, cytunaf yn llwyr â chi ei fod yn ddarlun cymhleth sy'n cael ei beintio bob tro y mae cynllun datblygu lleol dan ystyriaeth, a'r cymysgedd o dai sydd eu hangen hefyd, o aelwydydd meddiannaeth unigol i aelwydydd amlfeddiannaeth. Ond mae'n ffaith, yn amlwg, pan fydd cynghorau'n cyflwyno eu cynlluniau datblygu lleol, fod yn rhaid iddynt roi sylw dyledus i ragolygon poblogaeth. Un peth...
Andrew RT Davies: O’r meinciau hyn yn bendant, gallaf roi sicrwydd i chi, Weinidog, y byddem yn cefnogi unrhyw ddeddfwriaeth a gyflwynir i ddeddfu cyfraith Lucy, a chlywaf y sylwadau o’r meinciau cefn Llafur yn arbennig. Rwy'n credu bod consensws o amgylch y Siambr hon y gellir bwrw ymlaen â deddfwriaeth yn gyflym pan fydd y consensws hwnnw'n cael ei weithredu'n effeithiol. A buaswn yn erfyn arnoch i...
Andrew RT Davies: Rwy'n cytuno â chi. Mae un achos yn un achos yn ormod, ac yn y pen draw, mae'r diwydiant amaethyddol yn awyddus i wneud popeth yn ei allu i leihau nifer yr achosion hyn o lygredd. Ond fe ddywedoch eich hun fod 190 o achosion wedi'u hadrodd yn 2018. Credaf mai'r ffigur a roesoch ar gyfer 2019 oedd 157, sy'n dangos tuedd ar i lawr. Ac a yw'n iawn ymateb i'r niferoedd hyn drwy efelychu, i bob...
Andrew RT Davies: O'r ateb hwnnw, credaf y gallwn edrych ymlaen at gyhoeddiad ryw bryd ym mis Chwefror—
Andrew RT Davies: —felly. A fyddwch yn sicrhau, cyn y cyhoeddiad hwnnw, fod yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gael, gan ei bod hanfodol ein bod yn deall union gostau hyn, y goblygiadau i'r diwydiant, yn enwedig i rai o'r sectorau da byw, y sector cig eidion a defaid yn benodol? Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, er bod nifer yr achosion o lygredd wedi gostwng mewn gwirionedd yn 2019, a rhwng 2001 a 2018, ac nad...
Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd. Weinidog, rydych chi a minnau wedi cael llawer o drafodaethau yn y Siambr hon ynglŷn â pharthau perygl nitradau, ac yn amlwg, y rheoliadau amgylcheddol rydych yn awyddus i'w cyflwyno i reoli llygredd amaethyddol, fel rydych chi'n ei weld. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr hyn a ddywedoch chi wrthym ym mis Rhagfyr, pan gawsoch saib yn y broses ac fe fuoch yn...
Andrew RT Davies: Arweinydd y Tŷ, a gawn ni ddatganiad, os gwelwch yn dda, gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn ag adroddiad gan y Llywodraeth a luniwyd gan y rhwydwaith dysgu a gwella tai ynghylch cartrefi gofal a darparu cartrefi gofal? Mae'r adroddiad hwn yn tynnu sylw at y ffaith y bydd erbyn 2035 brinder o bron 30,000 o leoedd ledled Cymru o ddarpariaeth ar gyfer y math hwn o ofal....
Andrew RT Davies: [Anghlywadwy.] Ar y pwynt penodol hwn, oherwydd mae wedi bod yn ystyfnig o isel ar ddim ond 1 y cant—nifer y prentisiaethau amaethyddol—allan o ffigur o fwy na 30,000 o brentisiaethau. Gyda'r trafodaethau hyn, ble y credwch y gallai'r ffigur hwnnw fod ymhen dwy neu dair blynedd? A ydym yn mynd i weld cynnydd yn nifer y prentisiaethau amaethyddol yn gyffredinol? Rwy'n siŵr nad oes neb am...
Andrew RT Davies: Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu yn y ddadl heddiw. Mae'n werth ystyried nad yw dwy ran o dair o bobl ifanc yn mynd i'r brifysgol, ac mewn gwirionedd, y sector addysg bellach, boed yn rhan-amser neu'n amser llawn, yw'r prif lwyfan dysgu ar eu cyfer er mwyn iddynt wella eu rhagolygon gyrfa. Rwy'n credu bod honno'n ystyriaeth bwysig. Crybwyllodd arweinydd yr wrthblaid y nifer enfawr o staff...
Andrew RT Davies: Yn amlwg, mae gan y Llywodraeth amryw o ysgogiadau y gall eu defnyddio ym maes trafnidiaeth gyhoeddus a modelau trafnidiaeth y gall eu cefnogi. Buaswn yn awgrymu bod cyswllt awyr Ynys Môn, yn amlwg, yn un model o drafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r gwasanaeth wedi gwella'n ddramatig dros y 12 i 18 mis diwethaf, ac mae nifer fawr...
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, nid oedd y Prif Weinidog, mewn ymateb i arweinydd yr wrthblaid, wedi cadarnhau pryd y byddai'r asesiad effaith rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei ystyried. Mae hon yn ddogfen hanfodol bwysig er mwyn deall effaith cynigion o'r fath dan ystyriaeth y Llywodraeth ar hyn o bryd ynghylch parthau perygl nitradau i'w gweithredu yma yng Nghymru. A gaf i erfyn...