Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am adroddiad y panel—mae'n ddrwg gennyf, am eich datganiad heddiw, ac mae’r adroddiad, fel y dywedasoch, yn un hir, felly nid wyf yn siŵr fy mod i’n edrych ymlaen at ei ddarllen i gyd, ond rwy'n siŵr y gallwn ni ystyried y pwyntiau perthnasol a'u trafod maes o law. Mae'n galonogol—[Torri ar draws.] Mae'n galonogol y cafwyd ymateb mor gryf gan y...
Gareth Bennett: Ydy, mae. Rwy’n hoffi cael syniadau newydd—
Gareth Bennett: Nid ydym yn cytuno â’ch cynnig y dylai’r Cynulliad gael pŵer feto dros unrhyw gytundeb Brexit. Rwy’n derbyn bod Dai Rees newydd gyflwyno rhai dadleuon yn groes i’r hyn rwy’n mynd i ddweud, ond nid oes gan y Cynulliad unrhyw bwerau datganoledig i ymdrin â mewnfudo neu fasnach ryngwladol. Beth fyddai’n digwydd mewn gwirionedd pe bai Theresa May yn negodi cytundeb Brexit a bod...
Gareth Bennett: Ni allaf gymryd ymyriadau yr wythnos hon, Rhun, am ei bod yn wythnos yr etholiad. Yn ôl i’r arfer yr wythnos nesaf. [Chwerthin.]
Gareth Bennett: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r cynnig heddiw. Rydym yn cytuno’n rhannol â rhai o’r syniadau sydd ganddynt mewn gwirionedd. Ar fater ariannu, mae UKIP wedi datgan bob amser y dylai San Steffan roi cyllid i Gymru yn lle’r hyn a gollir o gyllid yr UE. Rydym wedi cefnogi’r alwad honno’n gyson. Roeddem yn siarad yn gynharach am y rheolau caffael. Roedd Adam Price yn siarad am...
Gareth Bennett: Diolch, Gadeirydd, a diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r ddadl heddiw ar fater tra phwysig tai fforddiadwy, ac yn arbennig tai fforddiadwy ar gyfer pobl ifanc. Mae yna amryw o ffyrdd gwahanol y gallwn roi camau ar waith i helpu pobl ifanc i gamu ar yr ysgol dai, ac mae rhai ohonynt wedi cael eu profi gan y Llywodraeth yma ym Mae Caerdydd, ond mae problemau’n parhau. Y broblem fawr a...
Gareth Bennett: Diolch am hynny. Ymddengys fod problem yn datblygu gyda staff lolipop ysgolion, neu gynorthwywyr croesi ffordd fel y’u gelwir weithiau, gan fod y nifer wedi gostwng 23 y cant dros y tair blynedd diwethaf. Nid oes unrhyw ddyletswydd gyfreithiol ar hyn o bryd ar gynghorau i gadw’r cynorthwywyr croesi ffordd, ond wrth gwrs, maent yn angenrheidiol er mwyn cadw’r syniad o lwybrau diogel a...
Gareth Bennett: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb a ddyrannwyd i'r portffolio economi a'r seilwaith mewn perthynas â diogelwch ar y ffyrdd? OAQ(5)0140(FLG)
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno’r ddadl heddiw. Nid wyf i ar unrhyw un o'r pwyllgorau sy'n craffu ar y Bil hwn, ac mae'r materion sy'n cael eu codi wedi eu codi gan fy nghyd-Aelod Michelle Brown, sydd ar y pwyllgor addysg ac sy’n methu bod yma heddiw. Mewn egwyddor, rydym yn cefnogi'r Bil. Mae cyflwyno CDU, cyn belled â’i fod wedi’i wneud yn iawn, yn syniad da. Fodd bynnag, i...
Gareth Bennett: Iawn, diolch am hynny. Nawr, rwy’n gwybod eich bod hefyd yn gyfrifol am Swyddfa’r Post. Yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, roedd y Prif Weinidog yn tynnu sylw at yr angen am gyd-leoli, sy’n rhywbeth rydym wedi siarad amdano mewn llawer o wahanol feysydd polisi. Roeddwn yn meddwl tybed a oedd unrhyw bosibilrwydd o annog tafarndai, efallai, i gyd-leoli gyda...
Gareth Bennett: Iawn, diolch am hynny. Fe arhosaf am y cyhoeddiad wrth gwrs, ond mae rhai syniadau wedi cael eu gwyntyllu gan CAMRA yn y gorffennol. Nid wyf yn gwybod a yw hi’n rhy gynnar o bosibl i ofyn beth yw eich barn chi ar y rhain. Mae un ohonynt—rwy’n derbyn ei fod yn croesi portffolios i raddau—yn ymwneud â chynllunio a pha mor hawdd yw hi i dafarndai yng Nghymru gael eu newid gan y...
Gareth Bennett: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n credu bod newyddion i’w groesawu wedi dod yn ddiweddar gan eich cyd-Aelod, Lesley Griffiths, ynglŷn â’r posibilrwydd o gynnwys rheol ‘asiant y newid’ mewn rheoliadau cynllunio mewn perthynas â diogelu cerddoriaeth fyw. Credaf fod hwnnw’n ddatblygiad i’w groesawu. Mae’n rhywbeth a allai helpu tafarndai sy’n cynnal sioeau cerddoriaeth fyw....
Gareth Bennett: A gaf fi ychwanegu fy nghroeso at yr holl groeso rydych wedi’i gael eisoes, Gweinidog? Rydym wedi cael ambell i syniad diddorol yn ddiweddar a all helpu i leihau sbwriel. Rwy’n meddwl am syniadau ar gyfer mynd i’r afael â mater deunydd pacio gormodol ar fwyd. Efallai ei bod yn gynnar i ofyn hyn i chi, ond beth yw eich barn ar y cychwyn ynglŷn ag a allai hynny fod yn beth da?
Gareth Bennett: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnal a chadw llwybrau cerdded a llwybrau ceffylau yng Nghymru?
Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw. Cyfeiriasoch yn eich datganiad at y newidiadau technolegol cyflym yn y ffyrdd y gall teithwyr archebu tacsis y dyddiau hyn. Nid oeddech yn sôn yn benodol am Uber yn eich datganiad, ond wrth gwrs roeddech wedyn yn siarad am Uber mewn ymateb i un o'r cyfranwyr. Mae'n fater anodd braidd. Mae llawer o yrwyr yn poeni am effaith Uber ar y ffordd y...
Gareth Bennett: Un o'r pethau anoddach i'w cyflawni gyda chludiant cyhoeddus yw'r cerdyn teithio sy'n galluogi teithwyr i deithio ar wahanol fathau o drafnidiaeth. Gwn fod eich Llywodraeth yn mynd i fod yn rhan o gytundebau’r masnachfreintiau rheilffordd newydd. Faint o flaenoriaeth fydd yn cael ei rhoi i ddarparu’r math hwnnw o gerdyn teithio yn eich trafodaethau gyda'r cwmnïau trenau?
Gareth Bennett: A ydych hefyd yn cytuno â’r gwariant ar ymgynghorwyr, fodd bynnag, sydd wedi dyblu i dros £1 biliwn y flwyddyn ers 2012—[Torri ar draws]—arbenigwyr ar fuddion, iawn. O fudd i lawer o gwmnïau sy’n arbenigo mewn cyfrifyddiaeth, fel PricewaterhouseCoopers, nad ydynt yn arbennig o enwog am eu harferion moesegol, ond os ydych am barhau i roi’r—[Torri ar draws].
Gareth Bennett: Yn 1964, etholwyd Llywodraeth Lafur o dan Harold Wilson. Roedd yn Llywodraeth a wnaeth newidiadau adrannol ar unwaith a sefydlwyd pum gweinyddiaeth Lywodraethol newydd. Un ohonynt, yn ddiddorol, oedd y Swyddfa Gymreig. Un arall, sy’n fwy perthnasol i ddadl heddiw, oedd y Weinyddiaeth Datblygu Tramor, dan arweiniad Barbara Castle. Efallai mai dyna oedd cychwyn y diwydiant cymorth tramor....
Gareth Bennett: Diolch i’r Ceidwadwyr am gyflwyno’r cynnig heddiw. Fel y mae’r cynnig yn nodi, mae yna nifer fawr o risgiau y mae plant yn eu hwynebu wrth ddefnyddio’r rhyngrwyd y dyddiau hyn, ac mae llawer ohonynt wedi cael eu hamlinellu yn y gwahanol gyfraniadau heddiw, gan gynnwys seiberfwlio, caethiwed i gamblo, meithrin perthynas rywiol amhriodol, annog hunan-niweidio a hefyd, fel y crybwyllodd...
Gareth Bennett: Fel David Melding, nid oeddwn yn ymwybodol iawn o’r mater hwn nes i mi weld yr hyn a ymddangosodd ar yr agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw. Felly, rwyf wedi edrych ar yr hysbysebion ar Craigslist ac roeddent yn dipyn o agoriad llygad. Roeddwn yn synnu braidd i weld rhent gostyngol yn cael ei gynnig yn eithaf agored am ffafrau rhywiol, ac yn amlwg, mae hwn yn ddatblygiad anffodus sy’n...