Rhys ab Owen: Wedi dros 20 mlynedd o ddatganoli, dyw e ddim yn gwneud dim synnwyr, yw e, fod cyfiawnder heb gael ei ddatganoli yma i'r Senedd? Os yw'n ddigon da i'r Alban, os yw'n ddigon da i Ogledd Iwerddon, pam nad yw'n ddigon da i ni yn fan hyn yng Nghymru? Pam nad ydyn ni yn y Senedd yn gallu cael gofal am gyfiawnder? Ond hyd yn oed os ŷn ni'n rhoi o'r neilltu yr anomali rhyfedd hwnnw, fod gennym ni...
Rhys ab Owen: Mae pandemig y coronafeirws wedi dangos, pan fydd Cymru'n arwain mewn materion iechyd cyhoeddus, ei bod fel arfer yn llawer mwy effeithiol na dilyn arweiniad San Steffan. Lywodraeth Cymru, rydych yn falch iawn o'ch rhaglen frechu, a hynny'n briodol, ond yn awr mae angen inni greu system gyfiawnder y gallwn fod yr un mor falch ohoni. Mae angen inni greu system les sy'n diogelu'r bobl fwyaf...
Rhys ab Owen: Yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd y Prif Weinidog: 'Rydym angen ymreolaeth i Gymru, mwy o bwerau, sefyllfa lle na ellir tynnu datganoli yn ôl ar fympwy un o brif weinidogion y DU.' Wel, Brif Weinidog, wel, Gwnsler Cyffredinol, heddiw mae gennych gyfle i ategu'r geiriau hynny â chynllun priodol wedi'i osod mewn statud. Dyma'r amser i weithredu, i gyflawni mandad pobl Cymru, i sbarduno'r...
Rhys ab Owen: Wrth inni'n araf ymlwybro i gyfnod ôl-COVID, mae'n bwysig ein bod ni'n defnyddio'r cyfle yma i greu Cymru well. Fedrwn ni ddim mynd nôl i sut oedd pethau. Allan o ddinistr yr ail ryfel byd, fe wnaeth Llywodraeth Lafur ddangos y ffordd—gwnaethon nhw weddnewid Prydain er gwell. Rhaid i ni heddiw yng Nghymru meddwl yn radical unwaith eto, ond y tro yma, yng Nghymru gwnaiff hynny ddigwydd,...
Rhys ab Owen: Fe gafodd Llywodraeth Cymru ei hethol gyda'r addewid yn ei maniffesto am newid radical i'r cyfansoddiad. Wel, a gaf i gynnig bod dim byd radical yn eich gwelliannau chi heddiw, Llywodraeth? Gallai rhywun feddwl ein bod ni wedi mynd yn ôl i ddechrau'r pumed Senedd, wrth inni edrych ar eich gwelliannau chi.
Rhys ab Owen: Mae'n deg dweud bod Cymru ar groesffordd yn ein datblygiad fel cenedl wleidyddol. Ychydig a feddyliais yn fachgen ysgol wrth wylio trafodion cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 y byddwn yn sefyll yma fel Aelod o'r Senedd, pwerdy o Senedd gyda phwerau deddfu sylfaenol a chodi trethi. Mae wedi bod yn daith ryfeddol—neu'n broses, fel y mae rhai wedi'i galw. Er i Boris Johnson alw...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr iawn i chi, Ddirprwy Lywydd. Fe wnaeth etholiadau'r Senedd fis yn ôl roi mandad cryf a chlir ar gyfer datganoli pwerau sylweddol i fan hyn, i Gaerdydd.
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr ichi am eich ateb, Prif Weinidog. Dwi'n gobeithio y bydd modd inni weld amserlen fwy pendant am sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu implementeiddio'r argymhellion yn ymwneud â Llywodraeth Cymru. Pan ddes i fan hyn fel bachgen ysgol yn 1999 i agoriad y Cynulliad, byddwn i byth wedi dychmygu y byddwn i'n sefyll yn Senedd Cymru yn holi cwestiwn. Rydyn ni'n ddiolchgar iawn, onid ydyn...
Rhys ab Owen: Dwi wedi datgan budd ynglŷn â'r cwestiwn hwn.
Rhys ab Owen: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru? OQ56523