Canlyniadau 541–560 o 2000 ar gyfer speaker:Siân Gwenllian

8. Dadl Plaid Cymru: Adeiladu Tai Cymdeithasol yng Nghymru ( 6 Maw 2019)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr. Mae hi'n hollol glir i ni ym Mhlaid Cymru ein bod ni angen mwy o dai cymdeithasol neu dai cyngor—beth bynnag dŷn ni'n mynd i'w galw nhw, dŷn ni'n gwybod am beth dŷn ni'n siarad. Yn fy ardal i, mae 2,000 o deuluoedd ar y rhestr aros yng Ngwynedd am dai cymdeithasol. Mae fy nghymorthfeydd i'n llawn o bobl sy'n byw mewn amodau annerbyniol, mewn tai rhent preifat, sy'n damp,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg ( 6 Maw 2019)

Siân Gwenllian: Diolch. Edrychwn ymlaen at y diweddariad yna, felly. Yn ôl eich rhagflaenydd, Alun Davies, un o ddibenion Bil y Gymraeg oedd, a dwi'n dyfynnu, ‘creu sefydliad o'r radd flaenaf a rhyngwladol ei fri a fyddai'n dwyn ynghyd y màs critigol o dalent ac arbenigedd i arwain cynllunio ieithyddol i lefel newydd ehangach a mwy soffistigedig.’ Er bod y Bil wedi mynd erbyn hyn, ydych chi'n cytuno...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Miliwn o Siaradwyr Cymraeg ( 6 Maw 2019)

Siân Gwenllian: 2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gyflawniad Cynllun Gweithredu 2018-19 Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr? OAQ53484

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cyllid Addysgol ( 5 Maw 2019)

Siân Gwenllian: Mae rhagrith y Torïaid ar fater cyllido gwasanaethau cyhoeddus yn syfrdanol. Blynyddoedd o lymder y Ceidwadwyr yn San Steffan sy'n gwaedu'n hysgolion ni ac yn tanseilio cyflawniad ein plant a'n pobl ifanc. Ond, does dim dwywaith: mae angen i Lywodraeth Lafur Cymru weithredu a stopio claddu eu pennau yn y tywod. Er enghraifft, mae angen cydgordio'r gefnogaeth i ysgolion yn well i osgoi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Fascwlaidd Brys yn Ysbyty Gwynedd ( 5 Maw 2019)

Siân Gwenllian: Dwi heddiw yn sôn am y broses, nid yr egwyddor, o symud gwasanaethau brys o Fangor—ond am y broses ei hun—a sut y cyrhaeddwyd at y penderfyniad. Yn y gwanwyn y llynedd, fe roddodd y bwrdd iechyd ei sêl bendith i gadw gwasanaethau brys ym Mangor, ac fel gafodd holl feddygon teulu yr ardal lythyr yn dweud hyn. Dydy'r bwrdd ddim wedi newid y penderfyniad yma, ac mewn datganiadau di-ri, mae...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gwasanaethau Fascwlaidd Brys yn Ysbyty Gwynedd ( 5 Maw 2019)

Siân Gwenllian: 1. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau pryd, ar ôl 1 Mawrth 2018, y diddymwyd y penderfyniad i gadw gwasanaethau fascwlaidd brys yn Ysbyty Gwynedd? OAQ53524

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ariannu Ysgolion (20 Chw 2019)

Siân Gwenllian: Yn y lle cyntaf, fe hoffwn i ganmol ein hathrawon a'r staff yn ein hysgolion am eu hymroddiad parhaus i'r dasg gynyddol anodd o ddysgu ein disgyblion. Maen nhw'n gweithio o dan gyfyngiadau penodol o ddiffyg adnoddau a chyllid i lawer gormod o ymyrryd yn eu gwaith bob dydd. Mae’r proffesiwn dan bwysau aruthrol ar hyn o bryd, ac mae angen dweud 'diolch' iddyn nhw am barhau i geisio ysbrydoli...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig (20 Chw 2019)

Siân Gwenllian: A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar y cynllun grantiau ffermwyr ifanc?

7. Dadl: Adroddiad Blynyddol Estyn 2017-18 (19 Chw 2019)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, a dwi'n symud y gwelliannau hynny.  Diolch yn fawr am y cyfle i drafod canfyddiadau adroddiad Estyn 2017-18. Mae sefyllfa ein hysgolion uwchradd yn fater o bryder mawr, gyda disgyblion mewn hanner ein hysgolion uwchradd, sef mewn tua 100 o ysgolion, yn cael eu gadael i lawr. Hynny yw, dydy'r plant ddim yn cyrraedd eu llawn botensial erbyn iddyn nhw adael yr ysgol. Mae hyn yn...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (19 Chw 2019)

Siân Gwenllian: Mi fyddwch chi’n gwybod ein bod ni wedi holi sawl gwaith yn y Siambr ynglŷn â disgwyliadau’r Llywodraeth o ran ein byrddau iechyd ni, a pha mor dryloyw maen nhw’n gweithredu. Mi fyddwch chi’n gwybod hefyd fy mod i’n teimlo bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, sydd dan eich rheolaeth chi, wrth gwrs, gan eu bod nhw mewn mesurau arbennig, yn ceisio gwneud penderfyniadau pwysig am...

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Effaith Economaidd Anghydraddoldeb (19 Chw 2019)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr, a llongyfarchiadau mawr ar ddefnyddio’r Gymraeg yn y Siambr. Un her allweddol fydd cefnogi mwy o ferched i weithio, ond, wrth gwrs, mae gofal plant yn parhau i fod yn rhwystr. Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol na dynion o sôn am ofalu am y teulu neu’r cartref fel rheswm dros beidio â gweithio. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud o effaith y cynnig...

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Effaith Economaidd Anghydraddoldeb (19 Chw 2019)

Siân Gwenllian: 2. Pa drafodaethau mae’r Dirprwy Weinidog wedi eu cael gyda Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ar effaith economaidd anghydraddoldeb yn sgil adroddiad Chwarae Teg, Cyflwr y Genedl 2019? OAQ53473

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (19 Chw 2019)

Siân Gwenllian: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn atal colli refeniw o drosglwyddo ail gartrefi o’r gyfundrefn dreth gyngor i’r gyfundrefn dreth annomestig?

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Ffordd Osgoi Caernarfon i Bontnewydd (13 Chw 2019)

Siân Gwenllian: Diolch yn fawr iawn, ac felly dwi'n gobeithio na fydd yn rhaid i mi ofyn y cwestiwn yna eto yn y Siambr yma. Agwedd arall ar y gwaith, wrth gwrs, ydy'r effaith ar yr economi'n lleol. Pa waith ydych chi fel Llywodraeth yn ei wneud i wneud yn siŵr y bydd gweithwyr lleol a busnesau lleol yn cael y budd mwyaf posib allan o'r cynllun pwysig yma?

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Ffordd Osgoi Caernarfon i Bontnewydd (13 Chw 2019)

Siân Gwenllian: 9. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau pryd y bydd ffordd osgoi Caernarfon i Bontnewydd yn agor? OAQ53411

QNR: Cwestiynau i Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (13 Chw 2019)

Siân Gwenllian: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU yngylch gwarchod hawliau pobl ifanc Cymru i deithio neu weithio ar draws Ewrop yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd?

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (12 Chw 2019)

Siân Gwenllian: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am newidiadau i gynlluniau rhyddhad adrethi busnes?

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol ( 6 Chw 2019)

Siân Gwenllian: Drwy wneud hynny, fodd bynnag, y perygl yw ein bod yn mynd i efelychu'n union yr hyn sy'n digwydd yng ngweddill y DU—hynny yw, fod popeth yn mynd i dde-ddwyrain Lloegr—yng Nghymru, gyda phopeth yn cael ei grynhoi mewn un cornel o Gymru. Dyna'r broblem fawr sy'n ein hwynebu.

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Anghydraddoldeb Economaidd Rhanbarthol ( 6 Chw 2019)

Siân Gwenllian: Dwi’n gobeithio y gall pawb ohonom ni gefnogi gwelliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Yn 2017, fe wnaeth Adam Price a minnau gyhoeddi’r papur trafod yma, ‘Dyfodol y Gorllewin: Cydweithio er Lles yr Economi a’r Gymraeg’. Roedd yn amlinellu’r awydd i weld cynghorau sir y gorllewin—Môn, Gwynedd, Ceredigion a sir Gâr—yn gweithio efo’i gilydd ar faterion strategol...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Deisebau: P-04-628 Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb ( 6 Chw 2019)

Siân Gwenllian: Mae Iaith Arwyddo Prydain yn iaith bwysig, sydd ddim yn cael ei chydnabod yn ddigonol. Ar hyn o bryd, does dim darpariaeth na hawliau digonol i gefnogi pobl fyddar ar unrhyw gam o’u taith drwy fywyd, gan ddechrau yn y blynyddoedd cyntaf. Mae 90 y cant o blant byddar yn cael eu geni i deuluoedd sy’n clywed. Felly, mae rhieni newydd yn aml heb brofiad o fyddardod, ac yn gorfod dysgu sut i...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.