Delyth Jewell: 2. Beth yw dadansoddiad cyfreithiol y Cwnsler Cyffredinol o'r mesurau ym Mil Marchnad Fewnol y DU fel y maent yn berthnasol i Gymru? OQ55533
Delyth Jewell: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Bil Marchnad Fewnol y DU ar y Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin?
Delyth Jewell: Rwy'n falch ein bod yn cael y ddadl hon heddiw a hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau fy hun i'r Cadeirydd, i'r pwyllgor a'r tîm clercio am y gwaith a wnaethant ar gynnal yr ymchwiliad hwn; roedd hynny cyn imi fod yn aelod o'r pwyllgor. Dylid barnu cymdeithas wâr yn ôl y ffordd y mae'n trin ei dinasyddion mwyaf agored i niwed. Ni ddylai fod stigma ynghlwm wrth dderbyn budd-daliadau ac ni...
Delyth Jewell: Diolch. A gwn fod rhywfaint o hyn yn bethau a drafodwyd gennym ddoe, ond rwy'n croesawu llawer o'r hyn rydych chi'n ei ddweud. Nawr, fel rydym newydd ei weld o'r drafodaeth honno eisoes, mae yna lawer y credaf fod ein dwy blaid yn cytuno yn ei gylch: rydym yn cytuno bod angen mwy o dai fforddiadwy ledled Cymru; rydym yn cytuno bod angen mwy o dai cymdeithasol; ac y dylai ystadau newydd gael...
Delyth Jewell: Rwy'n croesawu hynny'n fawr; diolch, Weinidog. Ac rwy'n siŵr y byddwn yn awyddus iawn i weithio gyda chi ac i weld pa atebion sydd i'w cael. Felly, diolch am eich ateb ar hynny. Nawr, i droi at rai sylwadau a wnaethoch ychydig yn ôl—credaf mai'n fuan ar ôl i chi gael y portffolio oedd hynny. Roeddech wedi cyfeirio at ystadau newydd a oedd wedi dod drwy'r system gynllunio fel rhai a allai...
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Weinidog, rydym yn debygol o weld newidiadau hirdymor i'r farchnad dai yn dilyn COVID-19, ac nid o reidrwydd er gwell. Efallai y bydd pobl sy'n gallu fforddio gwneud hynny eisiau prynu tai mawr gyda mannau agored a gerddi a thai nad oes raid iddynt fod mor agos at y swyddfa, a gallai hynny achosi i lawer o bobl gael eu prisio allan o'u cymunedau. Mae hynny'n debygol o gael ei...
Delyth Jewell: Cwnsler Cyffredinol, yr oedd ymddygiad rhai ASau Ceidwadol yn nadl y Bil marchnad fewnol neithiwr yn warthus. Fe wnaethon nhw gamliwio'r ffeithiau yn barhaus drwy wrth-ddweud sinigaidd, gan honni bod y Bil wedi rhoi pwerau datganoledig newydd wrth lawenhau ynghylch y ffaith ei fod yn mynd â hwy i ffwrdd. Roedd yn arbennig o sarhaus, ac rwy'n siŵr eich bod yn cytuno â mi, i glywed y cyn...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog, am y datganiad, a dwi yn cydnabod y gwaith helaeth rydych chi a'ch tîm wedi ei wneud ar hyn dros y misoedd diwethaf. Rwy'n credu bod y pandemig wedi gwneud i nifer o bobl sylweddoli bod angen uwchraddio'r hawl i gartref fod yn fater o hawl ddynol a bod digartrefedd yn rhywbeth sy'n niweidio pawb o fewn cymdeithas. Rwy'n croesawu eich ymrwymiad i geisio atal unrhyw un rhag...
Delyth Jewell: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Pan gyhoeddwyd y cyfyngiadau symud yr wythnos diwethaf, fe greodd ddryswch ymhlith llawer o drigolion Caerffili, a chefais fy moddi mewn negeseuon gan bobl sy'n awyddus i gael gwybod pa effaith y byddai'n ei chael ar eu hamgylchiadau. Cymerodd bron i 24 awr cyn i ganllawiau gael eu cyhoeddi yn egluro ble y gallai'r rhai a oedd yn rhannu gwarchodaeth dros...
Delyth Jewell: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyfyngiadau symud lleol a gyflwynwyd yng Nghaerffili? OQ55522
Delyth Jewell: Prif Weinidog, mae Shelter wedi canfod bod 15,000 o denantiaid yng Nghymru yn wynebu colli eu cartrefi oherwydd ôl-ddyledion rhent a gronnwyd yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud. Mae'r dyledion hyn wedi cronni heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain, ac mae ansicrwydd ynglŷn â'r dyfodol yn eu plagio. Mae'n rhyfeddol ei bod hi'n dal yn bosibl yng Nghymru troi rhywun allan a'u gwneud yn...
Delyth Jewell: Mae argyfwng COVID wedi egluro cymaint o bethau: yr hyn sy'n bwysig i'n cymdeithas ni, yr hyn yr ydym ni'n dymuno ei newid, pam y dylai penderfyniadau gael eu gwneud yn agos at y bobl y maen nhw'n effeithio arnynt, ac mae'r argyfwng hefyd wedi rhoi cipolwg i ni ar ddyfodol gwahanol, oherwydd nid yw'r ddadl hon am annibyniaeth yn gwestiwn cyfansoddiadol pellennig ar gyfer yfory; mae'n...
Delyth Jewell: Y cartrefi gofal sydd wedi dwyn baich argyfwng COVID-19, ac mae preswylwyr cartrefi gofal yn cyfrif am tua thraean o'r holl farwolaethau. Nawr, hyd at 23 Ebrill roedd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i drigolion heb eu profi fynd i gartrefi gofal o'r ysbyty, ac roedd hynny'n sgandal llwyr y bydd yn rhaid i Weinidogion fod yn atebol amdano mewn ymchwiliad sydd ar y gweill, hyd yn oed os nad ydyn...
Delyth Jewell: Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n siŵr y bydd trigolion Casnewydd yn falch o weld y cynnydd pellach yn y maes hwn, a'r cynnig ar gyfer lliniaru'r tagfeydd yn yr ardal gan barchu ymrwymiad y Senedd i leihau ein hallbwn carbon ar yr un pryd. Nawr, Gweinidog, yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd Boris Johnson fod ei Lywodraeth ef yn y DU yn bwriadu caniatáu adeiladu ffordd osgoi dros...
Delyth Jewell: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau i'r M4 o amgylch ardal Twneli Brynglas yn y dyfodol? OQ55468
Delyth Jewell: Diolch am yr ateb yna, Weinidog. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg wedi cysylltu â mi ynghylch eu hymgyrch nhw i fynd i'r afael â'r diffyg darpariaeth o addysg Gymraeg yn yr ardal. Ar hyn o bryd, dim ond dwy ysgol gynradd sydd yno, a does dim ysgol uwchradd o gwbl—sefyllfa gwbl annheg ar blant yr ardal. Mae Rhieni dros Addysg Gymraeg eisiau gweld ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg newydd yn cael...
Delyth Jewell: Diolch i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Ysgrifennais at Kepak a chyngor Merthyr Tudful ar 1 Ebrill eleni i fynegi fy mhryderon ynghylch diffyg gweithdrefnau cadw pellter cymdeithasol a hylendid yn eu ffatri ym Merthyr Tudful ar ôl i etholwr dynnu fy sylw at y mater. Roedd yr etholwr yn pryderu y gallai achosion o COVID-19 ddigwydd yno oni bai bod rheoliadau priodol yn cael eu rhoi ar waith,...
Delyth Jewell: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am leihau'r risg o heintiadau COVID-19 mewn ffatrïoedd a lleoliadau caeedig eraill? OQ55438
Delyth Jewell: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch cynlluniau Llywodraeth Cymru i ehangu’r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yn ardal Merthyr Tudful? OQ55422
Delyth Jewell: Mae cymaint i blant Cymru ymfalchïo ynddo, cymaint i lefain drosto, cymaint i deimlo edifeirwch amdano. Ond, eu straeon nhw ydy'r rhain i gyd, ac er mwyn dysgu o'n hanesion ni fel cenedl mae'n rhaid i blant Cymru ddeall haenau yr hanesion hynny. Wedi'r cwbl, mae'r gair 'Cymru' yn golygu plethiant, cymysgedd, pobl yn byw gyda'i gilydd. Palimpsest o straeon amryw, amryliw ydyn ni oll. Ac os...