Canlyniadau 561–580 o 2000 ar gyfer speaker:Llyr Gruffydd

7. Dadl: Cyllideb Derfynol 2020-2021 ( 3 Maw 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi’n falch iawn o’r cyfle i allu cyfrannu jest ychydig o sylwadau cryno yn y ddadl yma ar gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru yn rhinwedd fy rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Dwi’n falch iawn bod y Gweinidog wedi derbyn neu wedi derbyn mewn egwyddor pob un o argymhellion y pwyllgor, a dwi’n arbennig o falch bod y Gweinidog wedi cytuno i...

5. Rheoliadau’r Polisi Amaethyddol Cyffredin (Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2020 ( 3 Maw 2020)

Llyr Gruffydd: Ni fyddwn yn pleidleisio yn erbyn hyn, ond mae yna ychydig o gwestiynau sydd wedi cael eu codi, a dweud y gwir, ac rwy'n credu y byddai gennyf ddiddordeb i glywed eich ymateb chi i'r rhain cyn inni bleidleisio. Gwn fod rhai yn y sector, er enghraifft, wedi holi a oes angen talu arian i ffermwyr mewn gwirionedd, neu a allai'r gwledydd datganoledig ddefnyddio'r arian ar gyfer rhywbeth arall, pe...

8. Dadl Plaid Brexit: Datganoli (26 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: A gaf fi wneud ymyriad byr iawn? Diolch. A oeddech chi yma pan gawsom ddadl am Betsi Cadwaladr ychydig wythnosau yn ôl? A oeddech chi yma pan gawsom ddadl ar yr A55 yn gynharach y prynhawn yma? A oeddech chi yma pan drafodasom gysylltiad band eang ychydig fisoedd yn ôl? Oherwydd mae'n ymddangos i mi eich bod chi'n hollol anymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn y lle hwn.

7. Dadl Plaid Cymru: Tywydd garw a difrod stormydd (26 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Yn y sylwadau agoriadol i'r ddadl hon, pan glywsom am yr angen i ddiogelu ar gyfer y dyfodol, glynodd rhai geiriau yn fy meddwl: mae angen i ni 'ailaddasu' ac mae angen i ni 'ailgalibradu'. Fel cymdeithas, mae angen i ni ailaddasu ac mae angen i ni ailgalibradu. Mae angen i'r economi ailaddasu ac ailgalibradu. Mae gwir angen i'n cymunedau, a phawb ohonom fel unigolion, ailaddasu ac...

7. Dadl Plaid Cymru: Tywydd garw a difrod stormydd (26 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Llywydd. Ie, mae hanner awr yn gyfnod byr ar gyfer dadl fel hyn. Wrth gwrs, dyw e ddim yr unig un byddwn ni'n ei chael, ac mi ddefnyddiwyd yr hanner awr arall, wrth gwrs, i bwyntio at un ffordd o geisio mynd i'r afael â newid hinsawdd—yr un thema greiddiol sydd i'r ddwy ddadl, i bob pwrpas, sef bod yr argyfwng hinsawdd yn realiti. Dyna'r neges sy'n dod drwyddo yn glir i bob...

6. Dadl Plaid Cymru: Datgarboneiddio (26 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Fel rwy'n siŵr bod pawb yn gwerthfawrogi, nod y ddadl yma yw rhoi chwyddwydr go iawn ar y potensial sydd gan hydrogen o safbwynt nid yn unig effaith amgylcheddol yng Nghymru, ond yn sicr yr effaith cymdeithasol ac economaidd y gallwn ni fod yn ei fwynhau ac yn manteisio arno fe petai'r sector yma yn cael y gefnogaeth a'r cyfle i dyfu y mae yn ei haeddu. Rŷn ni'n meddwl, yn aml iawn, ein bod...

3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Y Diweddaraf am yr Uwchgynhadledd Argyfwng am y Llifogydd (25 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: A gaf innau ategu y diolch a'r teyrngedau sydd wedi cael eu talu i'r gwasanaethau arbennig, i'r gweithwyr cyngor, i weithwyr Cyfoeth Naturiol Cymru, y gwirfoddolwyr a'r cymunedau sydd wedi dod at ei gilydd yn wyneb y darluniau eithriadol rydym ni wedi gweld dros yr wythnosau diwethaf?   A gaf i ofyn yn gyntaf, Weinidog, sut ydych chi'n ymateb i ddau o arweinyddion cynghorau'r gogledd, yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Lles Anifeiliaid Fferm (25 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Mi fydd unrhyw un a wyliodd Ffermio ar S4C neithiwr yn gwybod bod y cyfnod wyna ar ein pennau ni erbyn hyn, ac mae'n fater dwi wedi codi'n gyson yn y Siambr yma, wrth gwrs, sef y gofid ynglŷn ag ymosodiadau gan gŵn ar ddefaid, ac wŷn wrth gwrs ar yr adeg yma o'r flwyddyn. Dwi wedi codi'n flaenorol yr angen i fynd i'r afael â hyn, a'r ateb dwi wedi cael nôl yw bod y Llywodraeth yn...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Diogelu Plant sy'n mynychu Ysgolion Preifat (12 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch am eich ateb. Gwn eich bod yn ymwybodol iawn o'r sefyllfa a gododd yn Ysgol Rhuthun yn fy rhanbarth. A chyn dweud mwy, rwy'n credu y dylem ddiolch i Kelly Williams, newyddiadurwr y Daily Post a wnaeth gymaint i ddatgelu'r sefyllfa yno ac i dynnu sylw'r cyhoedd ehangach ati, a hefyd i helpu i ddod â phethau i ben. A chan fod rhai o'r pennau oedd angen eu torri bellach wedi'u torri, mae...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Diogelu Plant sy'n mynychu Ysgolion Preifat (12 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd. Mae'n werth aros amdano fe hefyd, os caf i ddweud—[Chwerthin.]

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Diogelu Plant sy'n mynychu Ysgolion Preifat (12 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelu plant sy'n mynychu ysgolion preifat yng Nghymru? OAQ55064

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rheolau Dŵr Newydd Arfaethedig (11 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Nid oes neb wedi cwestiynu pa un a oes angen rheoleiddio. Y cwestiwn yn y fan yma, wrth gwrs, yw cymesuredd y rheoliadau hynny. Nid yw Cyfoeth Naturiol Cymru, hyd yn oed, yn cytuno â dull eich Gweinidog ar gyfer dynodiad Cymru gyfan, ac mae'n sicr wedi bod yn fater o bryder a gohebiaeth i nifer enfawr o'm hetholwyr. Fe godais gwestiynau difrifol gyda'r Gweinidog yr wythnos diwethaf, yn ystod...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Llygredd Diwydiannol (11 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Rwy'n siŵr, Prif Weinidog, y byddwch chi'n ymwybodol o'r tân diweddar yn Kronospan yn y Waun, ardal yr wyf i'n ei chynrychioli yn y Cynulliad hwn. Rwy'n clywed mai dyma'r ail dân ar bymtheg mewn tua 18 mlynedd, er bod pobl leol yn dweud wrthyf i'n anecdotaidd eu bod nhw'n digwydd yn amlach na hynny hyd yn oed. Pa un a yw hynny'n wir ai peidio, maen nhw wedi syrffedu'n llwyr â'r mathau hyn...

Cwestiwn Brys: Llifogydd yn Nyffryn Conwy (11 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Fyddech chi'n cytuno â fi, Weinidog, fod yr erydu sydd wedi bod ar gyllidebau awdurdodau lleol a Chyfoeth Naturiol Cymru yn rhannol gyfrifol am y sefyllfa rŷn ni'n ffeindio ein hunain ynddi? Oherwydd, wrth gwrs, pethau fel glanhau afonydd a culverts ac yn y blaen sydd yn cael eu torri pan nad yw'r adnoddau dynol a'r cyllidebau yn eu lle. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn ein hatgoffa ni o bwynt dwi...

10. Dadl Fer: Pa ddyfodol i ffermydd cyngor? ( 5 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Fe ddylai diflaniad ffermydd cyngor fod yn destun gofid i gymdeithas gyfan. Mae'n droedle pwysig iawn i mewn i'r diwydiant i waed newydd a chenhedlaeth newydd o amaethwyr. Da chi, Weinidog, peidiwch ag eistedd ar eich dwylo; gweithiwch gyda'r cynghorau, nid yn unig i amddiffyn yr hyn sydd ar ôl, ond i weithio tuag at greu ystâd fferm gyhoeddus a fydd yn cyffroi y genhedlaeth nesaf i fod...

10. Dadl Fer: Pa ddyfodol i ffermydd cyngor? ( 5 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Pam y mae hyn yn bwysig? Wel, efallai y byddwch yn dweud bod 16,000 hectar o dir yn ddibwys fel rhan o'r darlun mawr, ond rwyf am gyflwyno'r achos dros ei arwyddocâd yn sicrhau dyfodol ffyniannus i ffermio yng Nghymru. Cafodd ffermydd a oedd yn eiddo i'r cyngor eu datblygu dros ganrif yn ôl er mwyn galluogi pobl heb gysylltiadau ffermio neu dir i weithio ym maes amaethyddiaeth. Nawr, buaswn...

10. Dadl Fer: Pa ddyfodol i ffermydd cyngor? ( 5 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ddeng mlynedd yn ôl, roedd cynghorau Cymru yn eiddo ar bron i 1,000 o ffermydd cyngor, ffermydd a oedd yn cael eu gosod allan, wrth gwrs, ac yn cynnig cyfle i newydd-ddyfodiaid i gael i mewn i'r diwydiant amaeth. Mae'r ystadegau diweddaraf sydd gennym ni yn dangos bod cynghorau sydd—ac mae rhywun yn cydnabod hyn—o dan bwysau ariannol yn sgil llymder wedi bod...

8. Dadl Plaid Cymru: Llygredd Aer ( 5 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Hoffwn sôn am y cyfeiriadau a glywsom at y 2,000 o bobl sy'n marw'n gynamserol oherwydd llygredd aer. Wrth gwrs, nid yw hynny'n cyfrif yn ogystal y miloedd lawer sy'n dioddef afiechydon o ganlyniad i lygredd yn yr aer. Nid yw graddau'r profiadau hynny'n cael eu hadlewyrchu yn yr ymateb gan Lywodraeth Cymru, sy'n deimlad sydd eisoes wedi'i fynegi ac un rwyf am ei gefnogi. Yn ôl ym mis Mai...

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2020-2021 ( 4 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: O ganlyniad i hynny, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi gwneud pob ymdrech i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y gyllideb ddrafft hon. Mi ddechreuodd hyn nôl ym mis Mehefin y llynedd pan gynhaliwyd digwyddiad rhanddeiliaid cyn y gyllideb yn Aberystwyth. Dyna oedd sylfaen dadl a gynigwyd gan y Pwyllgor Cyllid yma yn y Siambr, a ddilynodd wedyn ym mis Medi'r llynedd, gan roi cyfle i'r Cynulliad drafod...

6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2020-2021 ( 4 Chw 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyfrannu at y ddadl bwysig yma ar y gyllideb ddrafft gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mae'n adroddiad ni yn gwneud cyfres o argymhellion, ac mi fyddaf i'n ymdrin â rhai o'r rhai amlycaf yn fy nghyfraniad i i'r ddadl yma y prynhawn yma.  Nawr, fel rydym ni wedi clywed, o ystyried yr ansicrwydd o gwmpas y gyllideb yma...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.