Mark Drakeford: Siawns bod y bygythiad mwyaf i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus yn y Deyrnas Unedig yn dod o gynigion ei Lywodraeth ef yn San Steffan i breifateiddio Channel 4—yn gwbl ddi-gefnogwr fel cynigion ac wedi'u hysgogi'n llwyr ar sail ideolegol gan yr Ysgrifennydd diwylliant blaenorol—y methiant i ddod o hyd i sail briodol ar gyfer gwneud yn siŵr y gellir sicrhau cyllid y BBC yn y dyfodol, a...
Mark Drakeford: Diolch i Hefin David. Mae dau wahanol swm o arian ar gael drwy Lywodraeth Cymru. Mae cronfa newyddiaduraeth budd cyhoeddus Cymru, ac mae naw dyfarniad wedi cael ei gwneud ohoni'n barod. Roedd y Caerphilly Observer yn un o'r buddiolwyr ohoni, ynghyd â sefydliadau fel Llanelli Online a Wrexham.com, yr oedd pob un ohonyn nhw'n gyfranogwyr rheolaidd iawn yn y gyfres o gynadleddau newyddion a...
Mark Drakeford: Diolch yn fawr i Hefin David am y cwestiwn. Wrth gwrs, mae'r sector yn chwarae rôl bwysig yn rhoi gwybodaeth i bobl yma yng Nghymru, ac i'n helpu ni i greu pethau i'n dinasyddion. Rydym ni'n cefnogi'r sector drwy becyn o bethau. Rydym ni'n gweithio gyda'r sector, ac i'w helpu nhw i wrthwynebu beth mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ei wneud yn y maes hwn.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, mae arweinydd Plaid Cymru wedi cael tri chyfle y prynhawn yma i egluro i bobl yng Nghymru sut y byddai'n ariannu'r cynigion y mae'n eu rhoi o'n blaenau. Bob tro mae'n codi i'w draed, mae'n gwario mwy o arian. Bob tro mae'n gwneud hynny, nid yw'n gallu cynnig yr un awgrym i ni—dim un awgrym—o ba wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru y byddai'n rhaid ei leihau er mwyn ariannu ei...
Mark Drakeford: Wel, mae'n ddadl ddiddorol y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei gwneud. Mae eisiau ein perswadio ni y gallai hyblygrwydd y galw am drafnidiaeth gyhoeddus gael ei effeithio yn y ffordd yr awgrymodd, ac eto mae'n rhaid iddo ddweud wrthyf i ar yr un pryd nad yw nifer cwsmeriaid y diwydiant rheilffyrdd yn agos at yr hyn yr oedd cyn y pandemig, er gwaethaf y £100 miliwn a mwy y mae Llywodraeth Cymru...
Mark Drakeford: Wel, rwy'n ymwybodol o'r cynlluniau, ac rwy'n ymwybodol o'r ddau rinwedd y soniodd yr Aelod amdanyn nhw, Llywydd. Maen nhw'n gwneud trydydd peth hefyd: maen nhw'n lleihau'r refeniw sydd ar gael i'r cwmnïau hynny sy'n darparu'r gwasanaethau hynny, felly mae gostwng prisiau tocynnau yn gadael bwlch y mae'n rhaid ei lenwi. Bydd arweinydd Plaid Cymru yn ymwybodol o'r degau ar ddegau o filiynau o...
Mark Drakeford: Wel, diolch eto i arweinydd yr wrthblaid am hynna. Rwy'n gyfarwydd iawn â'r cynllun ail gynnig a oedd gennym ni yma yng Nghymru dros ddegawd yn ôl, ar ôl cymryd rhan fawr ynddo ar y pryd. Rydym ni eisoes yn defnyddio capasiti y tu allan i'r ardal lle mae rhywun yn byw er mwyn gallu cyflymu triniaeth lle bynnag y gallwn. Rydym ni'n defnyddio capasiti yn y sector di-elw. Rydym ni'n annog...
Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae arosiadau hir iawn yng Nghymru yn parhau i ostwng hefyd. Roedden nhw 4 y cant yn is yn ystod y mis diwethaf y mae ffigurau ar gael ar ei gyfer. Gair o rybudd am dybio bod popeth yn iawn mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig o ran y GIG, a rhai o'r honiadau sy'n cael eu gwneud: pan edrychwch ar yr eithriadau sydd y tu ôl iddyn nhw—'Rydym...
Mark Drakeford: Llywydd, gwn y bydd y Gweinidog iechyd yn hapus iawn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am ganlyniadau manylach yr uwchgynhadledd. Yn gyffredinol, mae arweinydd yr wrthblaid yn iawn i dynnu sylw at y pwysau sydd ar y gwasanaeth iechyd a'r gwaith caled iawn sy'n cael ei wneud i geisio adennill y tir a gollwyd yn ystod y pandemig. Mae arosiadau hir iawn yn GIG Cymru yn parhau i ostwng....
Mark Drakeford: Wel, ni fyddai ymchwiliad Cymru gyfan o unrhyw gymorth i rywun sydd eisiau edrych ymlaen, fel y gwnaeth y rhan fwyaf o gwestiwn yr Aelod, at amodau mewn cartrefi gofal yng Nghymru dros y gaeaf nesaf. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn, Llywydd, oherwydd mae'n caniatáu i mi atgoffa pawb yn y Siambr a thu hwnt nad yw coronafeirws wedi diflannu. Gwelsom, yn gynharach yn yr haf eleni, y...
Mark Drakeford: Wel, diolch i Heledd Fychan am y cwestiynau ychwanegol yna. Mae hi'n iawn i ddweud fy mod i, unwaith eto, wedi cyfarfod â'r grŵp teuluoedd mewn profedigaeth yn gynharach y mis yma, felly nid oes llawer o ddiwrnodau wedi mynd heibio ers y cyfarfod hwnnw, ac, o dan amgylchiadau eithriadol yr wythnos ddiwethaf, rwy'n credu ei bod hi'n ddealladwy na ymatebwyd i bob cwestiwn ar unwaith. At...
Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae rhai categorïau o breswylwyr cartrefi gofal eisoes wedi eu cynnwys yn y rhaglen waith genedlaethol a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni gan y Gweinidog iechyd. Mae'r hyn a ddysgwyd o gyfnod cynnar y rhaglen yn cael ei ddefnyddio i gynorthwyo'r sector cartrefi gofal i ymchwilio i weddill y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, yn anffodus, mae'r Aelod yn cymysgu dau fater cwbl wahanol. Rwy'n ymwybodol, wrth gwrs, o'r adroddiad arolygu ar Grist y Gair. Llwyddais i drafod hyn gydag arweinydd newydd Cyngor Sir Ddinbych a gyda'r aelod cabinet sy'n gyfrifol am addysg. Mae hi, fel y mae'r Aelod yn gwybod, dybiwn i, yn sefyllfa gymhleth gan ei bod hi'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir. Yr awdurdodau esgobaethol...
Mark Drakeford: Llywydd, mae darparu addysg yn sir Ddinbych yn parhau i fod yn gyfrifoldeb i'r cyngor sir a phan fo'n berthnasol, awdurdodau'r esgobaeth. Maen nhw'n gweithredu o fewn y fframwaith a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru a'r Senedd hon. Fis Medi eleni, er enghraifft, bydd ysgolion ar draws y genedl yn dechrau cyflwyno'r Cwricwlwm newydd i Gymru.
Mark Drakeford: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â digartrefedd i ben ar draws Cymru. I gefnogi’r ymdrech hon, rydym yn buddsoddi dros £197 miliwn mewn gwasanaethau digartrefedd a chymorth tai, yn ogystal â’r swm uchaf erioed o £310 miliwn mewn tai cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol hon yn unig. Mae hyn yn cynnwys dyrannu £8 miliwn o’r grant tai cymdeithasol i gyngor Ynys Môn.
Mark Drakeford: Despite the Prime Minister's latest fuel aid package, people in Newport East, and across Wales, are facing the biggest fall in living standards since records began. We work closely with local authorities and other stakeholders to understand the ongoing impacts of the cost-of-living crisis at a local level.
Mark Drakeford: We are reviewing and assessing all opportunities to redirect additional resources to those most in need, and to reduce the burdens on business. The announcement made last week to introduce an energy price guarantee is a step in the right direction, however, it is clear more needs to be done, and we shall continue to press the UK Government to support our businesses.
Mark Drakeford: Ym mis Mehefin, buom yn siarad yn y Siambr hon am straen byw bywyd mor ddigyfaddawd yng ngolwg y cyhoedd—pob eiliad yn cael ei gofnodi, pob sylw yn cael ei ddadansoddi'n fanwl, pob gwên neu wg yn dweud stori. Nawr daw'r stori honno i ben; mae'r bywyd a'i creodd yn llonydd yn yr hedd y bydd y cwsg olaf hwnnw yn ei roi i ni i gyd. Rydym wedi ymgynnull yma yn dilyn seremoni'r proclamasiwn y...
Mark Drakeford: Rydym ni’n cynnig ein cydymdeimladau dwysaf i'r Brenin newydd a'i deulu. Mae ein meddyliau gyda Thywysog a Thywysoges newydd Cymru. Dymunwn bob llwyddiant iddynt yn y bennod newydd hon yn eu bywydau o wasanaeth. Yn Gymraeg, mae yna ddihareb: colli tad, colli cyngor; colli mam, colli angor. Rydym ni'n dymuno iddynt y nerth i alaru yn eu colled, a dymuniadau da iddynt a'u teulu ar gyfer y dyfodol.
Mark Drakeford: Llywydd, mewn bywyd rhyfeddol, roedd y 24 awr olaf o deyrnasiad y Frenhines ymhlith y mwyaf rhyfeddol. Ni fydd neb a wyliodd yr oriau'n mynd rhagddynt yn anghofio gweld rhywun mor benderfynol o gyflawni ei rhwymedigaeth gyfansoddiadol, gan gadarnhau Prif Weinidog newydd, rhywbeth y gallai neb ond hi ei wneud, er gwaethaf yr effaith anochel ar yr ychydig gryfder a oedd ganddi wrth gefn. Ni...