Canlyniadau 561–580 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (28 Chw 2018)

Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ, oherwydd roeddwn ar fin sôn am delefeddygaeth, sy'n datblygu i fod yn ateb i ofal iechyd mewn ardaloedd gwledig ac yn cael ei weld yn eang fel ateb i'r diffygion sydd gennym ym maes gofal sylfaenol. Yn anffodus, darpariaeth wael sydd yna yn yr ardaloedd gwledig hynny o ran band eang a signal ffonau symudol. Felly, os ydym am fynd i'r afael ag...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (28 Chw 2018)

Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Arweinydd y tŷ, mae Cymru'n wynebu newid demograffig enfawr yn y dyfodol agos, gyda'r disgwyl y bydd nifer y bobl dros 65 oed yn cynyddu'n sylweddol, ac y bydd nifer y rhai sydd o oedran gweithio yn gostwng. Mae hyn yn creu heriau enfawr i wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig iechyd a gofal cymdeithasol. Gall defnydd cynyddol o dechnolegau digidol helpu i ddatrys y...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Gwella Arwynebau Ffyrdd (28 Chw 2018)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’r ôl-groniad o waith atgyweirio ffyrdd yn effeithio'n niweidiol ar bobl yn fy rhanbarth, Gorllewin De Cymru. Mae un o fy etholwyr yn methu mynd â'i wraig sydd mewn cadair olwyn allan o’u cartref oherwydd cyflwr y palmentydd o amgylch eu cartref. Pan gysylltodd â’r cyngor, dywedwyd wrtho ei fod ar waelod rhestr hir iawn o atgyweiriadau. Felly, sut y mae...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ: Cam-drin Domestig (28 Chw 2018)

Caroline Jones: 7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwella cymorth i ddioddefwyr cam-drin domestig? OAQ51794

QNR: Cwestiynau i Arweinydd y Ty a'r Prif Chwip (Julie James) (28 Chw 2018)

Caroline Jones: A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella seilwaith digidol Cymru?

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cyrhaeddiad Uchel — Cefnogi ein Dysgwyr Mwy Abl a Thalentog (27 Chw 2018)

Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydym ni yn UKIP Cymru yn croesawu eich cyhoeddiad o £3 miliwn i gefnogi disgyblion disgleiriaf a mwyaf talentog Cymru. Mae'n bwysig meithrin talent a nodi pwy yw ein disgyblion disgleiriaf ar y cam cynharaf posibl. Felly, oherwydd bod angen gwneud hyn yn gynharach nag ar lefel y chweched dosbarth, mae'n fenter dda i rwydwaith Seren ddechrau...

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Papur Gwyn ar Wasanaethau sy'n Addas i'r Dyfodol (27 Chw 2018)

Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel llawer o'r ymatebwyr i'r papur ymgynghori, rwy'n cefnogi'r bwriad y tu cefn i'ch Papur Gwyn yn gyffredinol. Cefnogaf yn llwyr y bwriad i gyflwyno dyletswydd didwylledd cyfreithiol a fydd yn ymestyn hyd rannau eraill o'r system iechyd a gofal cymdeithasol, yr un codau ymddygiad sy'n berthnasol i feddygon a nyrsys. Bydd hyn hefyd yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru (27 Chw 2018)

Caroline Jones: Arweinydd y tŷ, tynnodd arolwg Cadw'n Iach yng Nghymru sylw at y ffaith nad meddygon a nyrsys yw'r brif ffynhonnell o wybodaeth am iechyd, mae'n debyg oherwydd yr anhawster o gael apwyntiad gyda meddyg teulu neu nyrs practis. Mae'n sefyllfa'n cael ei gwneud yn llawer gwaeth gan benderfyniadau annoeth gan lywodraeth leol. Mae cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn bwriadu torri cymorthdaliadau bysiau,...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Iechyd Meddwl (14 Chw 2018)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl heddiw hon ac i Angela am agor y ddadl ac am ei chyfraniad huawdl. Yn anffodus, nid yw iechyd meddwl yn cael y sylw y mae'n ei haeddu yn ein GIG o hyd. Rwy'n croesawu'r £20 miliwn ychwanegol i'r gyllideb a glustnodwyd ar gyfer iechyd meddwl, sy'n codi'r cyfanswm i £649 miliwn. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon o hyd. Ar ôl...

6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar unigrwydd ac unigedd (14 Chw 2018)

Caroline Jones: Hoffwn gofnodi fy niolch i glercod y pwyllgor a'r rhai a roddodd dystiolaeth i'n pwyllgor yn ystod ein hymchwiliad, ac i'n Cadeirydd ymroddedig. Mae'n feirniadaeth drist ar ein cymdeithas pan ystyriwch fod tua un o bob pump o bobl Cymru yn unig. Mae dros hanner y bobl dros 25 oed yn byw ar eu pen eu hunain a chanfu ymchwil gan Age UK fod llawer o bobl hŷn yn gallu mynd am bump neu chwech o...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Mesuryddion Deallus (14 Chw 2018)

Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, gall mesuryddion deallus fod yn offeryn hollbwysig i newid ymddygiad, gan ein galluogi i roi pris ar y golau sy'n cael ei adael ymlaen neu weld faint mae'n gostio i adael dyfais ar y modd segur. Fodd bynnag, gall mesuryddion deallus hŷn glymu cwsmeriaid at un cyflenwr gan eu bod yn ddiwerth wrth newid i gyflenwr newydd, ac yn aml, mae'n rhaid i gwsmeriaid dalu...

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau'r Gaeaf (13 Chw 2018)

Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i'r holl staff ymroddedig am y ffordd y maen nhw wedi trin pwysau'r gaeaf hwn. Mae'r gwanwyn rownd y gornel, ond mae ein GIG yn parhau i fod yn nyfnderoedd argyfwng gaeaf, gyda llawer o ganslo llawdriniaethau, ac felly ni allwn symud ymlaen. Dylwn aralleirio hynny, oherwydd bod y term 'pwysau gaeaf' yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi yng Ngorllewin De Cymru (13 Chw 2018)

Caroline Jones: —gallaf—eisoes yn cael ei gynhyrchu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, yn fy rhanbarth i. Dylem ni fod yn adeiladu clwstwr uwch-dechnoleg o gwmpas Pen-coed, a threth is yw'r catalydd sydd ei angen arnom ni. Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'ch cyd-Aelod yr Ysgrifennydd dros gyllid am efelychu Iwerddon ac annog busnesau uwch-dechnoleg fel Intel ac Apple i sefydlu yng Nghymru...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi yng Ngorllewin De Cymru (13 Chw 2018)

Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Mae fy rhanbarth i yn un o ranbarthau tlotaf y DU erbyn hyn. Mae ganddi'r gyfradd cyflogaeth isaf yng Nghymru, lefelau uchel o anweithgarwch economaidd, a pheth o'r incwm gwario gros isaf yn y DU ymhlith ei haelwydydd. Ar ôl bron i 20 mlynedd o gynlluniau economaidd Llafur, mae pethau'n mynd i'r cyfeiriad anghywir. Nid tincran economaidd sydd ei angen ar fy rhanbarth...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Tlodi yng Ngorllewin De Cymru (13 Chw 2018)

Caroline Jones: 1. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru'n mynd i'r afael â thlodi yng Ngorllewin De Cymru? OAQ51777

10. Dadl Fer: Rôl ysbytai cymunedol yng ngofal iechyd yn y 21ain ganrif ( 7 Chw 2018)

Caroline Jones: Mae'r GIG wedi torri nifer y gwelyau 45 y cant, sy'n ffigur syfrdanol. Yn 1990, roedd bron i 20,000 o welyau yn GIG Cymru. Heddiw, ceir ychydig dros 10,000. Mae ysbytai cymunedol ledled y wlad wedi cau, mae wardiau wedi'u cau neu'u huno, a datgelwyd cynlluniau ar gyfer cau pellach. Rydym hefyd wedi gweld diffyg buddsoddi a chynllunio yn y sector gofal cymdeithasol, sydd wedi cyflymu dan...

10. Dadl Fer: Rôl ysbytai cymunedol yng ngofal iechyd yn y 21ain ganrif ( 7 Chw 2018)

Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn roi munud o fy amser i Suzy Davies a Dai Lloyd siarad yn y ddadl. Mae fy nadl ar rôl ysbytai cymunedol yn yr unfed ganrif ar hugain. Ddydd Iau 5 Gorffennaf eleni, bydd y GIG yn 70 mlwydd oed. Mae'r 70 mlynedd hynny wedi gweld datblygiadau aruthrol mewn gofal: dileu'r frech wen a polio, cyflawnwyd trawsblaniadau afu, calon ac ysgyfaint cyntaf y byd, ac nid yw...

8. Dadl UKIP Cymru: Diwygio Etholiadol y Cynulliad ( 7 Chw 2018)

Caroline Jones: Roedd hynna'n gyflym. Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn barod. [Torri ar draws.] O, rwy'n barod, credwch chi fi. [Chwerthin.] Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ei gwneud yn glir ar y cychwyn nad wyf yn gwrthwynebu ehangu'r Cynulliad o ran ideoleg. Mae arbrawf cyfansoddiadol mawr y Blaid Lafur, sef cyflwyno systemau gwahanol o ddatganoli i'r tair gwlad ddatganoledig, yn dangos nad oedd ganddynt...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ( 7 Chw 2018)

Caroline Jones: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae polisïau economaidd Llywodraeth Cymru yn gwella ffyniant economaidd Gorllewin De Cymru?

7. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Sut y mae Technoleg Ddigidol yn Gwella Gofal Sylfaenol ( 6 Chw 2018)

Caroline Jones: Yn olaf, diolch i chi. Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae technoleg ddigidol yn gweddnewid ein gwasanaeth iechyd. Mae'r defnydd o dechnoleg gwybodaeth yn hanfodol i GIG gyfoes. Ni allwn fynd yn ôl i'r dyddiau o gofnodion papur nac adeg pan yr oedd canlyniadau profion yn cymryd wythnosau i gyrraedd drwy ein gwasanaeth Post Brenhinol. Rwy'n...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.