Canlyniadau 561–580 o 700 ar gyfer speaker:Neil McEvoy

10. 9. Dadl Fer: Gwneud Lobïo yng Nghymru yn Fwy Agored (19 Hyd 2016)

Neil McEvoy: Jayne Bryant, ie.

10. 9. Dadl Fer: Gwneud Lobïo yng Nghymru yn Fwy Agored (19 Hyd 2016)

Neil McEvoy: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Lobïo yng Nghymru—nid rhywbeth y dylem ei drafod yw hwn; mae’n rhywbeth y mae angen i ni ei drafod. Fy nod heddiw yw ailagor y ddadl a ddechreuwyd yma ar lobïo rai blynyddoedd yn ôl. Er lles iechyd democratiaeth Cymru, mae’n rhaid i ni reoleiddio lobïo masnachol a dod ag ef allan o’r cysgodion. Mae’n rhaid i ni warchod sefydliad Cynulliad Cenedlaethol...

6. 5. Dadl Plaid Cymru: Llywodraeth Leol (19 Hyd 2016)

Neil McEvoy: I rai o fy nghyd-Aelodau ar y chwith—yn gorfforol, ond yn sicr nid yn wleidyddol—efallai y cewch syndod yn y flwyddyn newydd o ran yr hyn y byddaf yn ei wneud; byddaf yn cyhoeddi bryd hynny.

6. 5. Dadl Plaid Cymru: Llywodraeth Leol (19 Hyd 2016)

Neil McEvoy: Gwnaf, fe ildiaf.

6. 5. Dadl Plaid Cymru: Llywodraeth Leol (19 Hyd 2016)

Neil McEvoy: Diolch, Lee. Diolch am hynny. Ond os adiwch y cyfan rwy’n ei ennill ar hyn o bryd, mae ymhell o dan yr £100,000 rydym yn sôn amdano. A’r hyn rwy’n mynd i’r afael ag ef yma mewn gwirionedd, ac wedi bod yn ymdrin ag ef dros y pump neu chwe blynedd diwethaf yw cyflogau dros £100,000 y flwyddyn. Nawr, mae’r Prif Weinidog yn ennill £140,000 y flwyddyn. A ddylai unrhyw un ennill mwy...

6. 5. Dadl Plaid Cymru: Llywodraeth Leol (19 Hyd 2016)

Neil McEvoy: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn siarad mwy am ‘(c) cyflwyno cyfres o gyfraddau, telerau ac amodau cyflog a gaiff eu penderfynu’n genedlaethol, i reoli cyflogau swyddogion uwch a phrif swyddogion drwy fframwaith cenedlaethol’. Roeddwn am fynd i’r afael â’r gwelliant Llafur yn gyflym ‘(c) parhau i archwilio’r achos o blaid cyflwyno cyfres o gyfraddau... cyflog a gaiff eu...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog: <p>Metro De Cymru</p> (18 Hyd 2016)

Neil McEvoy: Un peth yw brwdfrydedd, ond os nad yw’r cyllid llawn ar gyfer metro de Cymru wedi'i warantu, wedi’i warantu’n bendant, beth yw’r cynllun wrth gefn?

6. 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awtistiaeth (12 Hyd 2016)

Neil McEvoy: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Byddaf yn gryno iawn, a diolch i chi am adael i mi siarad. Rwyf wedi gweithio fel athro, a bûm yn gweithio fel athro am 23 blynedd. Felly, rwyf wedi gwneud y gwaith yn y rheng flaen, ac yn fwy diweddar bûm yn dysgu llawer iawn o blant â’r cyflwr hwn a oedd wedi cael cam gan y system. Gwelais rwystredigaethau teuluoedd, gwelais a phrofais pa mor wael y...

5. 4. Dadl Plaid Cymru: Y Stryd Fawr a Chanol Trefi ( 5 Hyd 2016)

Neil McEvoy: Duw, yr ACau Llafur hyn. Anogwch y Llywodraeth.

5. 4. Dadl Plaid Cymru: Y Stryd Fawr a Chanol Trefi ( 5 Hyd 2016)

Neil McEvoy: Rhowch bwysau ar y Llywodraeth. Eich Llywodraeth chi yw hi. Rydych yn cael cyfarfodydd grŵp gyda hwy, ‘does bosibl. Duw. Beth bynnag, unedau gwag: mae’n amlwg yn broblem mewn trefi. Mae hefyd yn broblem yn y brifddinas hon. Os ewch chi ar hyd y stryd fawr, mae yna uned wag ar ôl uned wag. Mae’n broblem enfawr. Mae angen strategaeth arnom; mae angen parthau datblygu economaidd lleol,...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: <p>Datblygu Economaidd a Seilwaith yng Nghanol De Cymru </p> ( 5 Hyd 2016)

Neil McEvoy: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried y canlynol: cytundeb tir Llys-faen, hyd at £40 miliwn wedi’i golli; tir a werthwyd yn y Rhws, £7.25 miliwn wedi’i golli; dwy siop ym Mhontypridd, £1 miliwn wedi’i golli; eich Llywodraeth yn destun cywilydd ac yn cael dirwy oherwydd ei gweithdrefn gaffael amheus, £1.52 miliwn wedi’i golli? Dros £50 miliwn wedi’i golli, ac mae llawer yn...

5. 5. Datganiad: Croesawu’n ôl Athletwyr Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio 2016 (27 Med 2016)

Neil McEvoy: Oes. Rydych yn honni eich bod wedi gofyn i awdurdodau lleol a allent ddarparu miliynau o bosibl, ond does dim cais ffurfiol i graffu ar hynny. Rwy’n credu y byddai Tony Blair yn gartrefol iawn yn y Llywodraeth Lafur hon. Felly, fy nghwestiwn i yw: a ydych yn awr mewn sefyllfa i roi i mi y ceisiadau ffurfiol wedi’u cofnodi rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol am gymorth ariannol...

5. 5. Datganiad: Croesawu’n ôl Athletwyr Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio 2016 (27 Med 2016)

Neil McEvoy: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn i hefyd longyfarch yr athletwyr o Gymru sydd wedi ein gwneud yn genedl mor falch. Mae hon yn wir yn oes aur i chwaraeon Cymru ac mae hynny’n dangos unwaith eto'r meddylfryd ennill sydd gennym yng Nghymru. Mae'n ddiddorol bod bwlch rhwng Gemau Olympaidd 1972 a Gemau Olympaidd 2008 pan nad enillodd un person o Gymru fedal. Roedd hynny’n 36 o flynyddoedd. Ond...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog: <p>Twristiaid sy’n Ymweld â Chymru</p> (27 Med 2016)

Neil McEvoy: Rydych chi wedi bod yn Brif Weinidog am saith mlynedd, ac rydych felly’n mynd heibio gorsaf drenau ddadfeiliedig Bae Caerdydd bob dydd. Rydych hefyd yn mynd heibio'r ffasâd ysblennydd ond dadfeiliol adeilad Cory’s gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru. Onid ydych chi’n sylweddoli faint o gywilydd y mae’n ei godi ar Gymru mai’r adeiladau hynny yw'r pethau cyntaf y mae llawer o...

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Neil McEvoy: Na, ni wnaf. Na wnaf. Yr holl beth am addysg yng Nghymru yw ei fod, i mi, yn rhy wleidyddol, ac rwy’n meddwl mai’r hyn yr hoffwn ei weld, mewn gwirionedd, yw comisiwn hollbleidiol ar addysg sy’n edrych 20 mlynedd i’r dyfodol, gan fod popeth yng Nghymru heddiw yn fyrdymor tu hwnt. Os edrychwch ar y Ffindir—. Wel, mae’r Ysgrifennydd addysg yn ysgwyd ei phen; nid wyf yn gwybod pam....

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Neil McEvoy: Rhai troeon ymadrodd diddorol yn y fan honno. Rwy’n credu bod y Blaid Lafur wedi diddymu ysgolion gramadeg pan oedd y Blaid Lafur yn Blaid Lafur. Nid wyf yn siŵr beth yw hi bellach. O ran y ddadl, mae ysgolion gramadeg yn amlwg yn syniad gwael. Maent yn ymrannol; rydych yn diystyru pobl yn 11 oed. Mae’r dystiolaeth yno nad oedd y system yn gweithio, ond nid yw hynny’n golygu bod yr hyn...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol: <p>Meiri Etholedig</p> (21 Med 2016)

Neil McEvoy: A yw’r Gweinidog yn ymwybodol fod llawer o bobl yng Nghaerdydd yn credu ein bod angen maer etholedig? Mae’r ddinas yn cael ei rhedeg gan bobl anweledig ar hyn o bryd, sydd, i bob pwrpas, yn cael eu hethol gan lond llaw o bobl. Nawr, rwy’n amau ​​y byddai’n well ganddynt ei chadw felly. Ac rwy’n deall bod detholiadau Plaid Lafur Llanisien bellach yn digwydd yn swyddfa etholaeth...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (21 Med 2016)

Neil McEvoy: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am setliad ariannol llywodraeth leol?

7. 5. Datganiad: Digwyddiadau Chwaraeon Rhyngwladol o Bwys (13 Med 2016)

Neil McEvoy: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy longyfarch Olympiaid Cymru ar y ffordd y maent wedi cynrychioli Cymru, gan ddangos eto fyth y meddylfryd ennill sydd gan ein gwlad ac, wrth gwrs, hoffwn longyfarch y Paralympiaid sy’n cystadlu yn Rio ar hyn o bryd. Hoffwn i hefyd longyfarch tîm pêl-droed Cymru am eu buddugoliaeth wirioneddol drawiadol dros Moldova i ddechrau gemau rhagbrofol...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.