Mohammad Asghar: 6. Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i gefnogi ffermwyr Cymru dros y 12 mis nesaf? (OAQ51001)
Mohammad Asghar: 3. Pa fesurau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i frwydro yn erbyn caethwasiaeth fodern dros y 12 mis nesaf? (OAQ51004)
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, os gwelwch yn dda? Mae'r cyntaf yn ymwneud â defnyddio Orkambi i drin pobl yng Nghymru sy’n dioddef ffibrosis cystig. Yn ei ateb i fy nghwestiwn ysgrifenedig ar 15 Awst eleni, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet nad oedd y feddyginiaeth hon ar gael fel rheol oherwydd ei chost uchel a’r...
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr i chi am yr ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ystod yr etholiad cyffredinol yn 2010, addawodd Llafur ddarparu gweithiwr allweddol i bob claf canser yng Nghymru erbyn 2011. Fodd bynnag, canfu arolwg profiad cleifion canser Cymru yn ddiweddar nad oes gan 14 y cant o’r ymatebwyr weithiwr allweddol o hyd. Hefyd, nid yw’n orfodol i Iechyd Cyhoeddus Cymru gasglu data ar weithwyr...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, un o’r ffyrdd gorau o godi allan o dlodi yw drwy waith, ac mae hynny’n golygu creu rhwydwaith trafnidiaeth integredig effeithlon i ganiatáu i bobl, yn enwedig pobl ifanc, allu cyrraedd swyddi o fewn pellter rhesymol i’w cartrefi. Fodd bynnag, gall cost tocynnau fod yn rhwystr yn aml i bobl ifanc rhag gallu cyrraedd swyddi. O ystyried bod cynllun...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, yn gynharach y mis hwn, dywedodd cyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Twristiaeth Cymru ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd nad yw Cymru yn cyrraedd ei photensial llawn o ran denu twristiaid rhyngwladol sy’n gwario llawer o arian. Nododd nad yw Cymru’n gwneud cystal â’n cystadleuwyr yn rhyngwladol, gydag oddeutu 3 y cant o’r ymwelwyr a 2 y cant o’r gwariant. O...
Mohammad Asghar: 4. Pa gamau y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i wella gwasanaethau i gleifion canser yng Nghymru yn 2017? OAQ(5)0197(HWS)
Mohammad Asghar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer parc busnes modurol newydd yng Nglyn Ebwy?
Mohammad Asghar: A gaf i ofyn i arweinydd y tŷ am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y diffyg ariannol y mae ein hysgolion uwchradd yn ardal Casnewydd yn ei wynebu? Wrth bennu’r gyllideb ar gyfer 2017-18, rhybuddiwyd Cyngor Dinas Casnewydd fod yna argyfwng ariannu, gyda'r holl ysgolion uwchradd mewn dyled ariannol a rhai heb gronfeydd wrth gefn. Rwyf wedi cael gwybod bod un o'r ysgolion yn yr ardal honno...
Mohammad Asghar: Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno y dylai addysg uwch ymgysylltu â dysgu seiliedig ar waith i fynd i'r afael â'r rheidrwydd economaidd o gyflenwi gweithwyr sydd â’r sgiliau a'r wybodaeth briodol i'w paratoi ar gyfer natur newidiol gwaith yn yr hinsawdd swyddi bresennol. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i annog mwy o gydweithredu rhwng cyflogwyr,...
Mohammad Asghar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu atal swyddi rhag cael eu colli yng Coilcolor yng Nghasnewydd? TAQ(5)0198(EI)
Mohammad Asghar: Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond rwy’n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy mhryder ynglŷn â’r sefyllfa yn Coilcolor a’r bygythiad i swyddi dros 40 o weithwyr a gyflogir yno. Rwy’n deall bod y sefyllfa hon wedi codi o anghydfod rhwng Llywodraeth Cymru a Coilcolor dros daliad iawndal ar ôl i adeilad y cwmni ddioddef llifogydd yn 2016. Mae’r rheolwr gyfarwyddwr yn mynnu...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe cyfeiriais at yr adroddiad ‘Tueddiadau Iaith Cymru’ diweddaraf a oedd yn dangos bod athrawon yn poeni’n fawr am ddyfodol ieithoedd tramor modern. Dywedodd yr adroddiad fod Dyfodol Byd-Eang yn boblogaidd gydag athrawon, ond nad yw ond yn cael effaith gyfyngedig ar y nifer sy’n astudio ieithoedd tramor modern yng...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, rydych yn cynrychioli un o ardaloedd gwledig mwyaf de Cymru yn y Siambr hon. Mae ysgolion gwledig ymhlith yr ysgolion sy’n canolbwyntio fwyaf ar y gymuned yng Nghymru. Maent yn ganolog i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Ers 1999, mae cannoedd o ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol wedi cau, gydag ardaloedd gwledig yn cael eu heffeithio waethaf. Pa gamau y...
Mohammad Asghar: Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Dywed y Gweinidog fod Llywodraeth Cymru yn dymuno cefnogi cyflogwyr i recriwtio a datblygu doniau o fewn eu busnesau, rhoi hwb i gynhyrchiant, a rhoi cyfle am swyddi gwell i bobl leol yn agosach i’w cartrefi. Yn ôl adroddiad gan Fanc Lloyds ym mis Rhagfyr y llynedd, mae 28 y cant o gwmnïau yng Nghymru wedi cael anawsterau wrth gyflogi staff medrus...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, dim ond i ddilyn ymlaen o’r hyn a ddywedodd Joyce Watson, a gawn ni ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y drefn a ddilynir gan awdurdodau lleol ynghylch rhoi tystysgrifau defnydd neu ddatblygiad cyfreithlon yn eu hardaloedd? Gwnaeth etholwr imi, sydd wedi bod yn rhedeg busnes teuluol ers dros 30 mlynedd yn yr un ardal yng...
Mohammad Asghar: Canfu adroddiad diweddaraf 'Tueddiadau Iaith Cymru' bod yr athrawon yn hynod bryderus am ddyfodol ieithoedd tramor modern. Mae gan fwy na thraean o ysgolion Cymru lai na 10 y cant o bobl ifanc 14 i 15 oed sy'n astudio iaith dramor fodern erbyn hyn. Yr ystadegyn yw bod gan 44 y cant o ysgolion lai na phum disgybl sy'n astudio ieithoedd tramor ar safon UG, a bod gan 61 y cant lai na phum...
Mohammad Asghar: Ewch yn eich blaen.
Mohammad Asghar: Wel, y peth yw eich bod yn gwybod bod yr arian a ddaeth o’r canol wedi cael ei anfon yn ôl, rwy’n meddwl—dyna a glywais—ac mae camreoli’n digwydd yn eich Llywodraeth eich hun. Llywydd, mae adfywio’n sbardun pwysig yn economi Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael ar unwaith â’r camreoli ariannol sydd wedi digwydd. Dyma’r unig ffordd o sicrhau’r elw gorau a gwerth...
Mohammad Asghar: Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd prosiectau adfywio i wella’r economi ac amodau cymdeithasol yn yr ardal. Mae hyn yn arbennig o wir yn fy rhanbarth sef de-ddwyrain Cymru, sydd â llawer o gymunedau a wynebodd ddegawdau o ddirywiad, yn anffodus. Gall cynlluniau adfywio llwyddiannus, sy’n dod â swyddi a buddsoddiad i ardaloedd sydd wedi dirywio, sicrhau swyddi a manteision eraill a all...