Suzy Davies: Nid wyf yn credu y gall y cynnig gofal plant, ynddo'i hun, egluro'r gwahaniaeth yn y bwlch cyflog rhwng y rhywiau rhwng gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru. Ar un pen y sbectrwm, mae gennym ni Ynys Môn, â bwlch cyflog rhwng y rhywiau o 25.5 y cant ymhlith trigolion yn ei dalgylch yn y fan honno, ac yn agos iawn wedyn mae Bro Morgannwg, eich etholaeth chi—23.4 y cant. Ond ar...
Suzy Davies: Wel, fel y dywedwch, mae trigolion, athrawon a disgyblion wedi bod yn ymladd penderfyniad Cyngor Abertawe i gau Ysgol Gynradd Craigcefnparc hefyd, ac rwyf i wedi bod yn falch iawn o'u cefnogi yn y frwydr honno. Yn rhan o'r frwydr dros y ddwy ysgol, a dweud y gwir, rwyf i wedi gofyn i Gomisiynydd Plant Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru sut a phryd y dylid cynnwys eu...
Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, mae'n fis Chwefror, ac mae'n ddiwrnod San Ffolant yfory, a byddwn yn nofio mewn calonnau, fel y bydd pawb yn gwybod, ond y calonnau rwyf fi eisiau siarad amdanynt yw'r calonnau sy'n rhoi bywyd i ni, a hoffwn atgoffa pawb ei bod yn Defibruary yn ogystal â mis Chwefror. Gellir defnyddio diffibrilwyr awtomatig brys yn hawdd pan fydd rhywun wedi dioddef ataliad ar y...
Suzy Davies: Wrth gwrs, nid cwestiwn am gysylltiadau rhyngwladol yn unig yw hwn, mae'n ymwneud â'r Gymraeg hefyd, ac nid ydym yn unigryw na'r unig wlad i fod â mwy nag un iaith frodorol. A allwch ddweud wrthyf a wnaethpwyd unrhyw asesiadau o effeithiau Brexit ar sut yr ymgysylltwn â rhaglenni yn yr UE ar hyn o bryd ar gefnogi ieithoedd lleiafrifol o fewn amryw o wledydd yno, a beth fydd yr effaith ar...
Suzy Davies: Yn amlwg, rydym yn dal i aros yn eiddgar i glywed a fydd Ineos yn dod â'u cerbyd newydd i Ben-y-bont ar Ogwr yn hytrach na Phortiwgal. Ond testun pryder oedd clywed y diwrnod o'r blaen, hyd yn oed os yw'r gwaith hwn yn dod i'r DU, na fydd yn ddigon o bosibl i achub y ffatri Ford; am ei bod yn ffatri Ford, wrth gwrs, mae penderfyniad Arlywydd yr Unol Daleithiau hefyd yn effeithio arni a'r hyn...
Suzy Davies: Mae twristiaeth yn un o'r rhannau hynny o'n heconomi lle mae digon o le i ehangu o hyd, yn enwedig i fusnesau bach. Mewn gwirionedd, rwy'n meddwl am Gwm Afan, gan mai David Rees a ofynnodd y cwestiwn yn wreiddiol. Mae cryn botensial yma i'n busnesau cynhenid dyfu. Yn anffodus, wrth gwrs, nid yw rhai o'n busnesau bach yn ystyried eu hunain yn rhan o'n heconomi ymwelwyr, ac rwy'n gobeithio y...
Suzy Davies: Rydych wedi rhagweld yr hyn rwyf am ei ddweud nesaf, David. Oherwydd, yn y cyfamser, bydd y sector yn dymuno gwybod beth y gall yr holl weithredwyr yn y gofod hwn ei wneud i oresgyn y ffaith eu bod yn talu ddwywaith cymaint am eu trydan ag y mae gwneuthurwyr dur Ffrengig. Felly, mae'n galonogol iawn mewn gwirionedd fod Tata yn arwain ar hyn—maent eisoes wedi mynd gryn bellter i ailgylchu...
Suzy Davies: A gaf fi ddechrau drwy ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â chi fod gennym y gweithwyr dur gorau yn y byd yma, ac maent yn haeddu'r sylw rydym yn ei roi iddynt yn awr? Oherwydd rydym yn sôn am ddiwydiant sylfaenol i economi'r DU, yn enwedig yng Nghymru, yn enwedig yn fy rhanbarth i, ac er ein bod bellach yn cydnabod efallai y peryglon sy'n deillio o gymunedau cyfan yn dibynnu ar un diwydiant,...
Suzy Davies: Diolch am eich cwestiwn, David, oherwydd rwy'n meddwl unwaith eto am rôl cyd-ymatebwyr, mater rwyf wedi'i godi yn y Siambr sawl gwaith. Maent yn amlwg yn gymwys i ymateb yn gyflym i'r union fath o sefyllfa a grybwyllodd David Rees. Mae ganddynt rôl enfawr i'w chwarae o ran effeithlonrwydd ymateb brys, ac rwy'n credu bod y ddadl ynglŷn â sut y telir am y gwasanaeth hwnnw yn tynnu sylw oddi...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, yn y sesiwn gwestiynau yn dilyn eich datganiad ar y Papur Gwyn ar addysg yr wythnos diwethaf, fe ddywedoch, ac rwy'n dyfynnu: y 'tueddir i ganolbwyntio ar gymwysterau'. A bydd eich cyhoeddiad ar un cwricwlwm iaith Gymraeg, gobeithio, yn arwain gydag amser at well cyrhaeddiad iaith Gymraeg yn seiliedig ar arholiadau hefyd, ond at gynnydd yn y defnydd o'r...
Suzy Davies: Ydy, ac rwy'n gobeithio y byddem ni i gyd yn hoffi ymuno i longyfarch yr ysgolion hynny sy'n canfod nad oes angen cymorth arnyn nhw mwyach; fel y dywedwch, diben categoreiddio yw nodi pa un a oes angen cymorth ychwanegol ar ysgolion. O ystyried rhai o'r canlyniadau TGAU a Safon Uwch a welsom eleni, fodd bynnag, a'r ffigurau diwygiedig ar y bwlch cyrhaeddiad rhwng plant sy'n gymwys i dderbyn...
Suzy Davies: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gategoreiddio ysgolion? OAQ53376
Suzy Davies: Diolch yn fawr, a daw hynny â thrafodoion heddiw i ben. Diolch.
Suzy Davies: Diolch yn fawr, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Suzy Davies: Wel, diolch am hynny, achos, wrth gwrs, rŷn ni i gyd eisiau gweld plant sy'n dod mewn i Gymru yn parhau i gael y fantais o wasanaethau tebyg i'r rheini. Mae'n cael effaith wahanol mewn llefydd gwahanol yng Nghymru, wrth gwrs, ond yng Ngwynedd yn benodol mae'n bwysig iawn bod y plant yn cael caffael ar y sgiliau sy'n gallu eu helpu nhw i gael mynediad i addysg yno. Jest i droi nawr at...
Suzy Davies: Wel, sori, Gweinidog, dyw e ddim yn glir o gwbl beth mae 'teaching English' yn ei feddwl yn y system newydd, achos fel clywsom ni gan Dai Lloyd ddoe, dŷn ni ddim yn gwybod am feithrinfeydd sy'n dysgu Saesneg ar hyn o bryd. Maen nhw'n defnyddio Saesneg oherwydd lles plant, ond dŷn nhw ddim yn dysgu Saesneg, felly mae'n well i ni gael tipyn bach o eglurder o gwmpas hynny yn y dyfodol nawr. ...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Wel, rwyf eisiau dechrau gyda'r mater o ddysgu Saesneg mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg i blant ifanc iawn hefyd, achos efallai dŷch chi ddim yn gyfrifol yn uniongyrchol am addysg, ond rŷch chi yn gyfrifol am y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Felly, clywsom ddoe fod y Saesneg eisoes wedi ei defnyddio mewn rhai o'r lleoliadau blynyddoedd cynnar a chyfnod sylfaen....
Suzy Davies: Roeddwn yn siomedig gyda dechrau'r ateb hwnnw, mae'n rhaid imi ddweud, Drefnydd. Gyda chymaint o fanciau'n cau, rydym yn dibynnu ar swyddfeydd post bellach i gael mynediad at arian parod. A allwch egluro pa un a yw swyddfeydd post yn codi tâl ar fanciau am y gwasanaeth y gall pobl ei ddefnyddio yno, neu o bosibl, a godir tâl y ffordd arall? Ai'r swyddfeydd post sy'n codi tâl ar y banc neu...
Suzy Davies: Felly, rydym yn sôn nawr am yr hyn fydd yn effeithiol er mwyn darparu hyn mewn ffordd sy'n ein helpu i feithrin dinasyddion cyflawn a all gyflawni er eu mwyn eu hunain ac er mwyn eu gwlad. A dyna pam yr oeddwn yn awyddus i ofyn, yn wir, pam nad yw'r gair 'cyfrifoldeb' ond wedi ymddangos mewn un man yn yr hyn y bydd ein pobl ifanc yn ei gyflawni yn y chwe maes dysgu. Rwyf i o'r farn ei bod yn...
Suzy Davies: A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog? Rydych chi'n hollol iawn, bydd hwn yn newid enfawr i Gymru, ond gyda phob newid enfawr ceir perygl y bydd rhai yn colli'r trywydd. A thra bod gennych chi, wrth gwrs, gefnogaeth lawn gan bawb yn y Siambr hon o ran egwyddor gyffredinol y polisi, rwy'n gobeithio, y maen prawf hyn ar gyfer hyn fydd yr hyn a gaiff ei gyflawni'n ymarferol, ac a fydd yn sicrhau'r...