Mark Isherwood: Gan gyfeirio at ddechrau eich ymateb—ac rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedwch—serch hynny, tynnodd Swyddfa Archwilio Cymru sylw at yr angen i newid diwylliant sefydliadau a'r her allweddol iddynt ddod yn fwy entrepreneuraidd. A chanfuwyd bod sgiliau'r aelodau etholedig eu hunain yn rhwystr i gynghorau fanteisio ar gyfleoedd masnachol a mwy o entrepreneuriaeth, gyda bron i ddwy ran o dair o'r...
Mark Isherwood: Diolch. Wel, gobeithio y bydd hynny'n golygu y bydd ystyriaeth yn y dyfodol ynghylch sut i helpu'r rheini sydd â leiaf o gronfeydd wrth gefn yn benodol a allai fod â llai o hyblygrwydd yn yr holl feysydd rydych yn sôn amdanynt. Ond yn eu hail adroddiad, 'Masnacheiddio mewn Llywodraeth Leol', dadleuodd Swyddfa Archwilio Cymru 'O edrych ar yr ochr orau, nid oes modd rhagweld y cyllid fydd ar...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru ddau adroddiad ar lywodraeth leol yng Nghymru. Dywedodd yr adroddiad 'Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol o ganlyniad i'r Pandemig COVID-19' fod cynghorau yng Nghymru, yn ystod chwe mis cyntaf eleni, wedi cofnodi costau ariannol o £325 miliwn oherwydd y pandemig ac er bod cronfa galedi llywodraeth leol Llywodraeth...
Mark Isherwood: Ar ôl i mi ysgrifennu atoch i gychwyn ar ran etholwyr ynglŷn â hyn, dywedasoch eich bod yn cael cyfarfodydd rheolaidd a’ch bod wedi cael sicrwydd fod eu polisïau’n parhau i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol ym mhob siop yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru. Ymatebodd etholwyr i'ch llythyr, gan nodi nad oedd hynny'n wir yn y tair siop roeddent wedi ymweld â hwy yn yr Wyddgrug,...
Mark Isherwood: 2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag archfarchnadoedd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheolau COVID-19? OQ55678
Mark Isherwood: Fel y mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru i'r Bil hwn yn ei ddweud, 'Mae'r sector rhentu preifat yn chwarae rôl bwysig wrth ddiwallu anghenion pobl Cymru o ran tai' ac 'mae Llywodraeth Cymru am sicrhau'r cydbwysedd iawn o gefnogaeth a rheoleiddio o fewn y sector rhentu preifat.' Fodd bynnag, o ystyried dibyniaeth gynyddol pobl ar y sector rhentu preifat ar gyfer tai, mae'n rhaid cael...
Mark Isherwood: Rwy'n galw am ddatganiad ar gefnogaeth i fusnesau gwely a brecwast yng Nghymru. Mae llawer o fusnesau gwely a brecwast bach wedi cysylltu â mi ar ôl i Lywodraeth Cymru eu heithrio eto o gymorth ariannol i'w helpu i oroesi'r pandemig; y tro hwn wedi'u gwahardd o drydedd rownd y gronfa cadernid economaidd. Cawsant eu hystyried yn anghymwys mewn cylchoedd blaenorol a chafodd grantiau busnesau...
Mark Isherwood: Er bod ein hadroddiad yn nodi, ers mis Mawrth 'mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd nifer o fesurau i fynd i'r afael â'r effeithiau penodol neu anghyfartal ar grwpiau arbennig o bobl', mae hefyd yn nodi bod llawer o ymatebwyr i'n hymchwiliad wedi pwysleisio'r angen am weithredu ar unwaith yn hytrach na chynhyrchu mwy o strategaethau, ac: 'Wrth lunio polisïau a chamau gweithredu sy'n mynd i'r...
Mark Isherwood: Diolch. Sut rydych yn ymateb i gynrychiolwyr y sector lletygarwch yng ngogledd Cymru sydd wedi gofyn i mi ddadlau'n gryf iawn ar ran gwestai a drwyddedwyd yn llawn sydd eisiau gallu gweini alcohol i breswylwyr gwestai ar ôl y cyrffyw am 10 p.m. gan bwysleisio y dylid ystyried y gwahaniaeth sylfaenol yn yr ystyr mai'r gwesty yw preswylfa swyddogol y gwesteion yn ystod eu harhosiad, eu cartref...
Mark Isherwood: 6. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau lletygarwch yn ystod pandemig y coronafeirws? OQ55629
Mark Isherwood: Rwyf i'n byw yn y boblogaeth fwyaf sy'n croesi ffin genedlaethol yn y DU, gyda pherthnasau agos gerllaw ar ddwy ochr ein ffin anweledig. Yn y cyd-destun hwn, pa gosbau am dorri rheolau COVID-19 ydych chi'n credu a ddylai fod yn berthnasol pe byddai meddyg iau anesthetig yn Ysbyty Glan Clwyd yn cyfarfod â'i ddyweddi, sy'n ymgymryd â chymrodoriaeth glinigol yn ysbyty Christie ym Manceinion,...
Mark Isherwood: Diolch. Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae 721,000 neu 23 y cant o'r holl unigolion—plant, oedolion o oedran gweithio a phensiynwyr—yn byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru, sy'n uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU. Yn ôl rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, Cymru sydd â'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y DU, ac mae 25 y cant o swyddi yng...
Mark Isherwood: Mae staff ambiwlans yng ngogledd-ddwyrain Cymru wedi cysylltu â mi i fynegi pryder y gallai diffyg profion i staff ambiwlans gyfrannu at farwolaethau COVID-19 mewn ysbytai yng ngogledd Cymru. Pan euthum ar drywydd hyn gydag ymddiriedolaeth ambiwlans GIG Cymru, dywedodd y prif weithredwr nad ystyrir bod cynnal profion ar bersonél ambiwlans asymptomatig yn briodol nac yn ddibynadwy. Dywedodd...
Mark Isherwood: Fe gyfeirioch chi at y pecyn trawsnewid trefi gwerth £90 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr a'r datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych ychydig cyn toriad yr haf ar gymorth i ganol ein trefi i ymdopi â phandemig y coronafeirws. Roedd eich datganiad ysgrifenedig ar 15 Gorffennaf, a oedd yn cyhoeddi cronfa o £9 miliwn, yn datgan bod £5.3 miliwn o hyn yn dod o'r rhaglen trawsnewid trefi a...
Mark Isherwood: Mae angen gwella cyfathrebu ynghylch cyflawni i randdeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach. Mae sefydlu llwyfan cyfathrebu cenedlaethol yn hollbwysig, i raeadru gwybodaeth i'r bobl sydd ar lawr gwlad. Cesglir a dadansoddir data rheoli allweddol ar gyfraddau aildderbyn, amseroedd aros, hyd arhosiad yn yr ysbyty ac yn y blaen ar lefel byrddau iechyd lleol, ond ni ddarparwyd data Cymru gyfan o'r math...
Mark Isherwood: Mae rôl y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol wedi'i diffinio'n glir o fewn y cynllun cyflawni. Fodd bynnag, pan gyflwynwyd y cynllun cyflawni gyntaf, ychydig iawn o gydgysylltu, os o gwbl, a gafwyd ar draws gwasanaethau niwrolegol ar lefel Cymru gyfan. Roedd rhwydweithiau ar gyfer gwasanaethau canser, y galon a'r arennau wedi hen sefydlu erbyn hynny, ond nid oedd hynny'n wir am...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. rwy'n siarad heddiw fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol. Ceir dros 250 o gyflyrau niwrolegol cydnabyddedig. Yng Nghymru, mae tua 100,000 o bobl yn byw gyda chyflwr niwrolegol sy'n cael effaith sylweddol ar eu bywydau. O 2011 ymlaen, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nifer o gynlluniau cyflawni ym maes iechyd. Cyhoeddwyd cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau...
Mark Isherwood: Mae gwelliant Llafur yn datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged o 20,000 o dai fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Senedd hon, ond er bod adroddiadau annibynnol yn datgan bod angen 20,000 o gartrefi cymdeithasol ar Gymru dros dymor y Senedd, nid yw'n crybwyll bod eu targed yn cynnwys perchentyaeth rhent uniongyrchol cost isel ac unrhyw beth arall y gallant wasgu iddo yn ogystal â...
Mark Isherwood: Rwy'n cynnig gwelliant 1. Ers 2003, rwyf wedi ymgyrchu dros y sector, gan rybuddio Llywodraeth Cymru fod Cymru'n wynebu argyfwng o ran y cyflenwad o dai fforddiadwy oni bai bod camau'n cael eu cymryd ar frys. Clywsom hyn pan gawsom dystiolaeth am Ben Llŷn 15 mlynedd yn ôl. Yn lle hynny, torrodd Llywodraeth Lafur Cymru dros 70 y cant oddi ar nifer y cartrefi cymdeithasol yn ystod tri thymor...
Mark Isherwood: Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y pwysau ariannol ar awdurdodau lleol?