Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn i groesawu eich cyhoeddiad heddiw, yn enwedig y cynnydd i'r cyllid sydd ar gael yn ganolog ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith. Yn ystod y toriad, cefais i a fy nghyd-Aelod Dawn Bowden drip gwych pan y caniatawyd i ni fynd drwy twnnel rheilffordd Abernant sy'n cysylltu ein dwy etholaeth, a byddwch yn cofio imi godi cwestiwn gyda chi ar hyn...
Vikki Howells: Diolch, arweinydd y tŷ. Roedd yn fraint wirioneddol i mi, yr haf diwethaf, i ymweld â'r clwb cinio a hwyl ym Mhenywaun yn fy etholaeth i i weld y manteision cadarnhaol yr oedd y fenter hon yn eu darparu, ac mae hynny'n driphlyg: mae'n ymwneud â darparu dau bryd o fwyd poeth bob dydd i'r holl ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim; darparu gweithgareddau addysgol difyr; ond...
Vikki Howells: 3. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ei chlybiau ysgol bwyd a hwyl yr haf hwn? OAQ51822
Vikki Howells: Gwnaf.
Vikki Howells: Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod. Os cymerwch ysgol, er enghraifft, pe bai ysgol yn perfformio'n wael ac yn methu sicrhau canlyniadau i'w disgyblion, yna byddai camau'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod ei safonau'n codi. Ond yn y sector preifat, nid oes gennym bwerau o'r fath ar hyn o bryd, ond mae gennym y gallu drwy'r adolygiad cynllunio i edrych ar hyn, ac mae'n gwbl hanfodol yn fy...
Vikki Howells: Wrth godi i siarad i gefnogi'r cynnig hwn heddiw, byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau ar brofiadau fy etholwyr—fy etholwyr sy'n byw nid yn unig ar ffyrdd heb eu mabwysiadu, ond fel y mae cynifer o fy nghyd-Aelodau yma wedi pwysleisio heddiw, ar ystadau sydd heb eu mabwysiadu. Rwyf am sôn am yr effaith a gaiff methiant datblygwyr i sicrhau bod yr ystadau hyn yn cyrraedd safonau mabwysiadwy...
Vikki Howells: Diolch, Lywydd. Daeth ACau o bob plaid ynghyd heddiw mewn digwyddiad a drefnwyd gan Cyswllt Amgylchedd Cymru. Fe'i cynhaliwyd i gefnogi ymgyrch Dangoswch y Cariad. Rydym yn gwybod am risgiau newid hinsawdd i'r byd o'n cwmpas. Mae wedi effeithio ar ymddygiad, helaethrwydd a dosbarthiad pob math o fflora, ffawna a ffyngau ledled y byd, ond hefyd yma yng Nghymru. Ond nid yw'n rhy hwyr inni...
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn eich bod wedi gallu siarad yn y digwyddiad ar fannau cymunedol a gynhaliwyd gennyf yr wythnos o'r blaen. Clywsom yn y digwyddiad sut y gall mynediad i fannau gwyrdd cymunedol helpu i wella iechyd, lles a ffyniant, er bod rhai o'r rhwystrau i berchnogaeth gymunedol wedi eu nodi hefyd. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'w gwneud yn haws i...
Vikki Howells: 9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad cymunedol at fannau gwyrdd? OAQ51743
Vikki Howells: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am eich datganiad heddiw. Rwy'n credu ei bod yn gyhoeddiad cyffrous iawn. Mae bancio tir yn sicr yn broblem sy'n—cael ei mynegi'n gryf iawn ar lawr gwlad yng Nghwm Cynon, ac roedd fy nghwestiwn cyntaf i yn y Siambr ar ôl i mi gael fy ethol yn ymwneud â bancio tir. Mae fy nghwestiwn yn canolbwyntio ar y datganiad a wnaethoch yn...
Vikki Howells: Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer cryfhau economi Cwm Cynon?
Vikki Howells: Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gymerodd ran yn y ddadl hon heddiw, ac yn enwedig y Gweinidog. Os caf ymateb i rai o'r pwyntiau a godwyd, gofynnodd fy nghyd-Aelod Bethan Jenkins sut olwg fyddai arno ar lawr gwlad, a nododd Michelle Brown rai pryderon ynghylch adnoddau. Credaf mai dyna sy'n atyniadol am fy awgrym, y gallai'r newidiadau hyn ddigwydd yn raddol. Rydym wedi bod yn pori drwy...
Vikki Howells: A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Vikki Howells: Weinidog, cytunaf â chi fod rhai arferion da iawn yno eisoes, a hoffwn eich gwahodd i ddod i fy etholaeth lle y gallwn ddangos enghraifft i chi o fan chwarae cynhwysol da iawn. Efallai y gallech gyfarfod â rhai o'r plant a'r rhieni y bûm yn gweithio gyda hwy.
Vikki Howells: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae chwarae yn rhywbeth sy'n hanfodol ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae'n annog iechyd corfforol a lles, yn mynd i'r afael â gordewdra, yn gwella sgiliau echddygol a deheurwydd, yn adeiladu gwydnwch a ffitrwydd. Mae hefyd yn hyrwyddo lles meddyliol. Mae chwarae'n cyfrannu at ddatblygiad ymennydd iach. Mae'n cynnig cyfleoedd i ddefnyddio'r dychymyg. Mae'n rhoi...
Vikki Howells: Rwy'n codi i siarad yn y ddadl hon fel Cadeirydd grŵp Llafur y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r materion a godwyd yn adroddiad y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad yn faterion, nid i'r Llywodraeth yn y lle cyntaf, ond i ni fel cynrychiolwyr ein pleidiau gwleidyddol, ac i'n cymunedau a'n pleidiau'n fwy eang eu hystyried. Hoffwn gofnodi diolch fy mhlaid i'r Athro Laura McAllister...
Vikki Howells: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Pan archwiliodd Sustrans sut y gellid trawsnewid 25 o dwnelau rheilffyrdd nas defnyddir yng Nghymru yn llwybrau teithio llesol, daeth un dewis i'r brig. Y dewis hwnnw oedd twnnel Aber-nant, rhwng Cwm-bach yn fy etholaeth a Merthyr Tudful, a gafodd y sgôr uchaf ar y system raddio o ran y gymhareb cost a budd a'r amcangyfrif o ddefnydd blynyddol. Mae cyngor...
Vikki Howells: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf am waith Llywodraeth Cymru i hyrwyddo teithio llesol yng Nghwm Cynon? OAQ51722
Vikki Howells: Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch un o fy etholwyr, Janet Lewis, enillydd haeddiannol gwobr nyrs endocrin 2018 am ei harweinyddiaeth yn dyfeisio atebion i wella darpariaeth gofal iechyd a chydraddoldeb ar gyfer cleifion sydd â thiwmorau niwroendocrin? Yn fwy cyffredinol, sut y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chleifion Cymru a gweithwyr gofal iechyd...
Vikki Howells: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl yr effeithir arnynt gan achosion o diwmorau niwroendocrin yng Nghymru? OAQ51647