Jeremy Miles: Wel, gyda'r cafeat a roddais i Andrew R.T. Davies ynghylch gallu gwneud sylwadau ar gynigion penodol, ar y cwestiwn ehangach y mae'r Aelod yn ei ofyn am addysg cyfrwng Cymraeg ym Mhowys, dylwn ddweud fy mod yn asesu pob un o'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ar hyn o bryd. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad ynglŷn ag a ddylid cymeradwyo, cymeradwyo gydag addasiadau neu wrthod y cynlluniau...
Jeremy Miles: Mae Powys yn ymrwymo i wella mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg ar draws pob cyfnod allweddol, ac mae eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg a gyflwynwyd yn ddiweddar yn cynnig cyflwyno darpariaeth gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ar draws pedair ardal o fewn y pum mlynedd gyntaf, gan gyfrannu at eu targed cyffredinol i gynyddu canran y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg i o leiaf 36 y...
Jeremy Miles: Wel, credaf fod hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, ac roedd y sail y datblygwyd y cod addysg a'r canllawiau ar addysg cydberthynas a rhywioldeb arni yn broses gynhwysol, a oedd yn cynnwys nifer o grwpiau a chynrychiolwyr cymunedol, fel y gallem sicrhau bod y cod a'r adnoddau, pan fyddant yn ein hysgolion, yn ddefnyddiol ac yn gefnogol ac yn cyflawni'r canlyniadau y gwn ei fod yn poeni amdanynt yn...
Jeremy Miles: Gwnaf. Credwn yn gryf y dylai fod gan bob person ifanc hawl i gael gafael ar wybodaeth, cymorth ac adnoddau dysgu sy'n eu cadw'n ddiogel rhag niwed, ac mae hynny'n cynnwys—a gwn fod gan yr Aelod ddiddordeb arbennig yn y maes hwn—diogelwch ar-lein a gwybod beth sy'n gywir ac yn anghywir fel y gallant godi materion gydag oedolion cyfrifol. Ar y pwynt penodol y mae'n ei godi yn ei chwestiwn,...
Jeremy Miles: Mae ffocws cryf ar ddatblygu perthnasoedd iach ym maes iechyd a llesiant y cwricwlwm newydd. Mae tyfu'n unigolion iach a hyderus yn un o bedwar diben y cwricwlwm newydd, a chaiff dysgwyr eu cefnogi i ddeall bod perthnasoedd iach yn hanfodol i'n llesiant.
Jeremy Miles: Bydd yr Aelod yn gwybod am y cyhoeddiad a wneuthum mewn perthynas ag ysgolion bro yr wythnos diwethaf, sy'n cydnabod y pwynt pwysig y mae'n ei wneud, sef mai un o'r cyfraniadau allweddol y gallwn ei wneud i gefnogi dysgwyr difreintiedig yn eu haddysg yw galluogi ysgolion i gael ffocws ar y gymuned yn yr hyn a wnânt a sut y maent yn gweithredu. A bydd wedi fy nghlywed yn dweud ein bod yn...
Jeremy Miles: Diolch i Alun Davies am hynny, a chredaf mai'r sefyllfa lom y mae'n ei disgrifio yw'r realiti i'w etholwyr ef a minnau a chyd-Aelodau eraill yn y Siambr heddiw. Bydd y Llywodraeth hon, Llywodraeth Cymru, yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi teuluoedd yng Nghymru. Fe wyddoch am y cyhoeddiadau a wnaeth y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ychydig wythnosau'n ôl. Fe fyddwch yn cofio'r...
Jeremy Miles: Mae mynd i'r afael ag effaith tlodi yn flaenoriaeth allweddol i ni. Fel rhan o becyn cymorth ehangach i helpu teuluoedd sy'n cael trafferthion, mae £4.4 miliwn ychwanegol wedi'i ddarparu ar gyfer 2022-2023 i gefnogi cost prydau gwyliau i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau'r Pasg yn y flwyddyn academaidd hon.
Jeremy Miles: Fel y dywedodd yr Aelod, diben ymgynghoriad yw cael barn y cyhoedd ac eraill mewn perthynas â chynnig ad-drefnu penodol, ac mae'r cod trefniadaeth ysgolion wrth gwrs yn nodi'r hyn y mae angen i'r cyngor ei ystyried pan fydd yn cael yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Gwn ei fod yn ymwybodol y gellir cyfeirio cynigion sydd naill ai wedi'u cymeradwyo neu eu gwrthod gan awdurdod lleol at Weinidog...
Jeremy Miles: Daeth y cyfnod cyflwyno gwrthwynebiadau i'r cynnig gan Gyngor Bro Morgannwg i ben ar 16 Mawrth. Yn unol â'r cod trefniadaeth ysgolion, rhaid i'r cyngor ystyried gwrthwynebiadau'n gydwybodol ochr yn ochr â dadleuon mewn perthynas â'r cynnig a phenderfynu a ddylid cymeradwyo'r cynnig ai peidio o fewn 16 wythnos i'r dyddiad hwnnw.
Jeremy Miles: Mae'r Aelod yn codi cwestiwn pwysig iawn. Fe fydd yn gwybod ein bod wedi cyhoeddi ein fframwaith ar gyfer dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a llesiant y llynedd. Ac eleni, rwy'n falch o ddweud bod y gyllideb ar gyfer hynny wedi cael ei hymestyn yn sylweddol er mwyn gallu darparu cwnsela ychwanegol, er mwyn gallu darparu estyniad i'r mewngymorth gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r...
Jeremy Miles: Mae'r Aelod yn codi pwyntiau pwysig iawn yn ei gwestiwn atodol. Bydd yn gwybod, fel rhan o'u dyletswyddau yn ymwneud â digonolrwydd cyfleoedd chwarae, o dan Fesur 2010, y bydd pob awdurdod lleol yn cyflwyno eu hasesiadau o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae eleni i'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, a fydd yn ein galluogi i gynnal adolygiad o'r rheini. Mae Chwarae Cymru eisoes yn...
Jeremy Miles: Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddwyd canllawiau statudol gennym ar gyfer ysgolion ar gefnogi anghenion llesiant poblogaeth yr ysgol gyfan. Mae'r canllawiau'n hyrwyddo ac yn cydnabod yr effaith y mae chwarae hunangyfeiriedig a ddewisir yn rhydd yn ei chael ar iechyd a llesiant plant, a bydd ein gwaith yn cael ei werthuso'n llawn yn y blynyddoedd i ddod.
Jeremy Miles: Rwy'n rhannu pryder yr Aelod am yr amgylchiadau y mae wedi'u disgrifio yn ei gwestiwn, ac fel y gŵyr, diben y diwygiadau yr ydym yn eu cyflwyno yw mynd i'r afael â'r ystod wirioneddol o heriau y mae wedi'u disgrifio yn ei gwestiwn. Mae'r rhain yn ddiwygiadau arwyddocaol iawn, a gwn fod yr Aelod wedi ein herio o'r blaen mewn perthynas â'r gefnogaeth i'r system i gyflawni'r diwygiadau hyn yn...
Jeremy Miles: Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sicrhau addysg addas i blant a phobl ifanc, gan gynnwys y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol. A bydd y system ADY newydd yn ysgogi gwelliannau yn y ffordd y caiff dysgwyr ledled Cymru eu cefnogi i sicrhau y gallant gyflawni eu potensial llawn.
Jeremy Miles: Wel, credaf y bydd yr Aelod yn ymwybodol iawn o'r rhesymau pam fod gan ysgolion gronfeydd wrth gefn. Rydym wedi cael heriau sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf—[Torri ar draws.]—a'n barn ni fel Llywodraeth yw y dylem barhau i ariannu ysgolion er mwyn darparu'r hyblygrwydd sydd ei angen arnynt i ymateb i bwysau COVID er budd eu dysgwyr. Felly, bydd yr arian ychwanegol i'r system wedi...
Jeremy Miles: Nid oedd y lefel uchel o gronfeydd wrth gefn y llynedd yn syndod, oherwydd bod llawer o weithgareddau wedi cael eu gohirio a bod arian ychwanegol wedi cael ei ddarparu yn ystod y pandemig. Gwyddom mai sefyllfa dros dro yw hon, ac rydym yn cynorthwyo awdurdodau lleol i weithio gyda'u hysgolion i reoli unrhyw arian dros ben yn hyblyg o dan yr amgylchiadau presennol.
Jeremy Miles: O edrych ar yr adnoddau sydd ar gael i gefnogi'r ddarpariaeth, fel rhan o'u cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, mae'n ofynnol ar bob awdurdod lleol ddisgrifio'r hyn maen nhw'n ei wneud er mwyn sicrhau bod adnoddau ar gael yn y Gymraeg, yn seiliedig ar y review bydd pob awdurdod wedi ei wneud o dan y Ddeddf anghenion dysgu ychwanegol. Felly, mae hynny'n rhan o'r cynlluniau strategol...
Jeremy Miles: Wel, credaf fod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud am y—. Yn amlwg, mae'n hanfodol gallu darparu gwasanaethau a chymorth anghenion dysgu ychwanegol yn Gymraeg ac yn Saesneg. Felly, mae'r cwestiwn am recriwtio yn rhan o gyfres ehangach o heriau yr ydym wedi'u trafod yn y Siambr yn y gorffennol, ac mae hynny'n rhan o'r cynllun recriwtio y byddwn yn ei gyflwyno yn ystod yr ychydig wythnosau...
Jeremy Miles: Wel, mae'r cwestiwn—. Diolch i'r Aelod am y gydnabyddiaeth o'r buddsoddiad o £2.2 miliwn eleni. Mae'r buddsoddiad hwnnw, wrth gwrs, yn gam mawr ymlaen. Rwy wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n cefnogi'r sector drochi oherwydd y rôl greiddiol sydd gan drochi yn darparu mynediad hafal at addysg Gymraeg. Mae amryw o gyfleodd fan hyn. Beth rŷn ni wedi'i weld gyda dyraniad y grant o jest dros...