Canlyniadau 561–580 o 5000 ar gyfer speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed OR speaker:Bethan Sayed

4. 3. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell ( 4 Gor 2017)

Bethan Sayed: Diolch i chi am y cyfarfod ochr yn ochr â David Melding y bore ‘ma. Fel llefarydd Plaid Cymru ar gyfer tai—er na fyddech chi’n sylweddoli hynny heddiw—roedd arna i eisiau dweud, mewn cysylltiad â'ch pwynt ynghylch nad yw hyn yn wleidyddol, rwy’n llwyr gytuno. Ond credaf y dylai'r Llywodraeth ddisgwyl i Aelodau Cynulliad o bob plaid allu craffu’n effeithiol, a bod hynny'n rhan...

2. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Carchar Newydd ym Maglan
( 4 Gor 2017)

Bethan Sayed: Yn dilyn ymlaen o’r thema honno, yr wythnos diwethaf, mewn cwestiwn a ofynnais i Ysgrifennydd y Cabinet, gofynnais, ‘Pam wnaethoch chi ganiatáu i’r tir gael ei ystyried ar gyfer ei ddefnyddio fel carchar?', Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, a dyfynnaf 'mae’r Aelod yn anghywir yn honni bod gennyf ddewis o ran mater y tir parthed y carchar.' A wnewch chi egluro hyn os gwelwch yn dda? A...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cydlyniant Cymunedol
(28 Meh 2017)

Bethan Sayed: Diolch. Gofynnais gwestiynau am hyn i chi ychydig wythnosau yn ôl ac roedd hynny cyn yr ymosodiad terfysgol ar Fwslimiaid ym mosg Finsbury Park gan ddyn Prydeinig a oedd yn byw yng Nghaerdydd. Mae’n dangos bod angen i ni fabwysiadu agwedd wahanol tuag at geisio mynd i’r afael â’r materion hyn. Nid yw’n ymwneud yn unig â disgwyl i gymunedau lleiafrifoedd ethnig edrych ar eu...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(28 Meh 2017)

Bethan Sayed: Ond byddai wedi bod o fewn eich gallu i ddyrannu’r tir hwnnw ar gyfer rhywbeth arall, cyn cael carchar fel sydd gennym yn awr. Felly, mae hwnnw’n rhywbeth y byddwn yn dadlau yn ei gylch eto yn y dyfodol. Rwyf eisiau un cwestiwn am ddiogelwch tân. Er eich bod wedi dweud yr wythnos diwethaf nad oedd unrhyw adeiladau â’r math penodol o gladin a gafodd ei ddefnyddio yn nhŵr Grenfell,...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(28 Meh 2017)

Bethan Sayed: A gaf fi ofyn felly, pam mai un sgwrs yn unig a gawsoch? Os oeddech wedi cynnig y safleoedd hynny, yn sicr byddai wedi bod yn dda i chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet, fod wedi mynd ati’n rhagweithiol i fynd i’r afael â rhai o’r pryderon a fyddai gennych cyn y cyhoeddiad cyhoeddus hwnnw. Rwyf wedi gweld rhestr o nifer o safleoedd, a roddwyd gan eich adran, yn amlwg. A gafodd unrhyw...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(28 Meh 2017)

Bethan Sayed: Diolch. Mae tri mis wedi bod ers y cyhoeddiad ynglŷn â’r carchar dynion gyda chapasiti o 1,600 ym Mhort Talbot. Ac roeddwn eisiau holi mwy ynglŷn â’r ymateb a roesoch i mi y tro diwethaf y crybwyllais hyn. Nid oeddwn yn credu eich bod yn ddigon clir a phendant pan wnaethoch ddatganiad i’r Cynulliad ar 22 Mawrth ynglŷn â lefel yr ymgysylltiad roeddech wedi’i gael gyda’r...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Nodyn Cyngor Technegol 20
(28 Meh 2017)

Bethan Sayed: Diolch am hynny, ond daeth yr ymgynghoriad blaenorol i ben ym Mawrth y llynedd, sydd 15 mis yn ôl nawr, ac mae pobl yn dangos consýrn bod yna ddiffyg arweiniad yn hynny o beth. Sut ydych chi’n disgwyl i gynghorwyr, a’r Arolygiaeth Gynllunio, weithredu’n iawn ar y statws cryfach a ddaeth i’r Gymraeg drwy Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, os nad oes yna symud yn y mater yma? Ac, onid...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Nodyn Cyngor Technegol 20
(28 Meh 2017)

Bethan Sayed: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf o ran cynnydd y Nodyn Cyngor Technegol 20? OAQ(5)0158(ERA)

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cydlyniant Cymunedol
(28 Meh 2017)

Bethan Sayed: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella cydlyniant cymunedol yng Nghymru yn sgil digwyddiadau brawychiaeth diweddar? OAQ(5)0162(CC)

7. 7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei Ymchwiliad i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yng Nghymru (21 Meh 2017)

Bethan Sayed: A gaf fi ofyn pam mai 2018 fydd hyn? Oherwydd clywsom gan rai tystion a oedd yn dweud eu bod yn gorfod gwirfoddoli am nad oedd neb arall i wneud hynny. A allwn gael rhywfaint o frys o ran y posibilrwydd o edrych ar hyn yn gynharach oherwydd, ar hyn o bryd, maent o dan gymaint o bwysau fel y credaf fod hyn yn rhywbeth sy’n galw am ei archwilio?

7. 7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar ei Ymchwiliad i Ffoaduriaid a Cheiswyr Lloches yng Nghymru (21 Meh 2017)

Bethan Sayed: Rydym yn canmol pwyllgor arall yr wythnos hon, felly, Suzy—mae yna thema’n ymddangos yma. Hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd ac aelodau eraill y pwyllgor—y rhan fwyaf o aelodau’r pwyllgor—am gytuno i’r adroddiad hwn. Mae’n un o’r profiadau mwyaf boddhaus a gefais ers amser hir. Yn aml iawn, mae’n bosibl y byddwn yn mynd i ddigwyddiadau allgymorth lle y ceir nifer weddus o bobl...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Mynd i’r Afael â Thlodi
(21 Meh 2017)

Bethan Sayed: Ysgrifennydd y Cabinet, mae’n amlwg o werthusiadau annibynnol o Cymunedau yn Gyntaf fod y Llywodraeth wedi methu yn ei nod o leihau tlodi yn gyffredinol yn yr ardaloedd hyn. Wrth i Cymunedau yn Gyntaf ddirwyn i ben, sut y byddwch yn cyflawni’r nod penodol o leihau tlodi? Oherwydd, a dyfynnaf Ysgrifennydd y Cabinet o dystiolaeth y pwyllgor i ni y bore yma, bydd yn dibynnu ar ‘jig-so’ o...

4. 3. Datganiad: Diogelwch Tân yng Nghymru — Y Camau sy’n Cael eu Cymryd yn Dilyn y Tân yn Nhŵr Grenfell (20 Meh 2017)

Bethan Sayed: Hoffwn i hefyd estyn fy nghydymdeimlad â’r rhai a gollodd eu bywydau yn yr amgylchiadau trasig. Hoffwn i hefyd ganmol y gwirfoddolwyr o Gymru a oedd yn y cyfryngau heddiw ac sydd wedi mynd i helpu’r rheini yn Grenfell, a hoffwn i annog hynny. Pan allwn weld bod trasiedi ddynol mewn gwlad arall, yna fe ddylem ni geisio helpu eraill. Dyna fy marn i. Ond mae hefyd yn neges i bawb ohonom...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (20 Meh 2017)

Bethan Sayed: Cynhaliais ddigwyddiad gofalwyr ifanc yn y Senedd ddydd Sadwrn, lle’r oedd presenoldeb da, yn bennaf o blith gofalwyr ifanc o bob rhan o Gaerdydd. Gwn eu bod nhw wedi dweud wrthyf yno eich bod chi’n gweithio ar system cerdyn fel y gall gofalwyr ifanc nodi mewn ysgolion neu mewn lleoliadau cymdeithasol eu bod yn ofalwr, fel y gallant gael triniaeth sy'n sensitif i'r hyn sydd ei angen...

7. 7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Y Darlun Mawr: Safbwyntiau Cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru' (14 Meh 2017)

Bethan Sayed: Diolch. Nid wyf yn mynd i siarad yn hir iawn, ond diolch i bawb sydd wedi cyfrannu ac rwy’n siŵr y bydd hyn—fel y nododd Suzy yn dda, rwy’n meddwl, drwy ddweud mai dyma’r bennod gyntaf o lawer y byddwn yn edrych arni o ran darlledu, y diwydiant papurau newydd, radio ac yn y blaen fel rhan o’r pwyllgor hwn. Mae pwyllgorau eraill y Cynulliad wedi edrych arno’n achlysurol, ond...

7. 7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: 'Y Darlun Mawr: Safbwyntiau Cychwynnol y Pwyllgor ar Ddarlledu yng Nghymru' (14 Meh 2017)

Bethan Sayed: Diolch, Llywydd. Rwy’n falch iawn o allu agor y ddadl hon ar adroddiad cychwynnol y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ddarlledu yng Nghymru, ‘Y Darlun Mawr’, a diolch yn fawr i’r clercod ac i’r Aelodau Cynulliad o bob plaid am eu gwaith caled ar y pwyllgor. Er gwaethaf diffyg pwerau ffurfiol y Cynulliad yn y maes hwn ar hyn o bryd, rwy’n credu bod yna gonsensws nawr...

5. 5. Dadl yn Ceisio Cytundeb y Cynulliad i Gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod — Y Bil Awtistiaeth (Cymru) (14 Meh 2017)

Bethan Sayed: Wel, iawn, gallwn fynd yn ôl ac ymlaen yn y fan hon—

5. 5. Dadl yn Ceisio Cytundeb y Cynulliad i Gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod — Y Bil Awtistiaeth (Cymru) (14 Meh 2017)

Bethan Sayed: [Yn parhau.]—rydych yn cefnogi’r Bil, rwy’n cefnogi’r Bil. Gan weithio ar y consensws hwn, efallai—. Nid wyf yn ei wneud er mwyn cael clap, rwy’n ei wneud am fy mod yn malio am y bobl sydd wedi dod yma heddiw ac sy’n trafferthu i falio am y materion hyn. Mae gennyf rywun ar y rhestr aros ers dwy flynedd a hanner am ddiagnosis interim o oedi mewn datblygiad cyflawn, yn aros am y...

5. 5. Dadl yn Ceisio Cytundeb y Cynulliad i Gyflwyno Bil Arfaethedig Aelod — Y Bil Awtistiaeth (Cymru) (14 Meh 2017)

Bethan Sayed: Na, nid wyf yn chwarae i’r galeri. Rwy’n siarad yn seiliedig ar yr hyn rwyf wedi’i brofi yn fy etholaeth, a lefel y gefnogaeth i hyn y gallwch ei weld yma heddiw. Ac os gall Gweinidogion y Llywodraeth weld hynny, dylent gefnogi’r Bil hwn. Ac wrth ateb eich cwestiwn mewn perthynas â chyflyrau eraill, ar ôl ymgynghori â’r meddyg teulu wrth fy ymyl cyn i mi sefyll, rwy’n credu y...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.