Elin Jones: Arweinydd Plaid Cymru nawr—Adam Price.
Elin Jones: Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Elin Jones: Diolch i'r Trefnydd am hynny.
Elin Jones: A'r cwestiwn cyntaf y prynhawn yma fydd gan Buffy Williams.
Elin Jones: Diolch. Y Trefnydd fydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog y prynhawn yma, ac rwy'n gofyn i'r Trefnydd ddweud ychydig eiriau.
Elin Jones: Prynhawn da a chroeso i'r cyfarfod y prynhawn yma. Wrth i ni gychwyn y prynhawn yma, rydyn ni i gyd yn boenus ymwybodol am golled sydyn y Prif Weinidog dros y penwythnos, ac, ar ein rhan ni i gyd, rydw i'n cydymdeimlo gyda fe a’i deulu.
Elin Jones: Anaml y mae pobl y tu allan i'r Siambr hon yn sylweddoli y gall yr hyn sy'n achosi poen i un ohonom, achosi poen i bob un ohonom. Yn yr achos hwn, mae'r hyn sy'n achosi poen i'r Prif Weinidog wedi cyffwrdd â llawer o bobl ledled Cymru. Pan dorrodd y newyddion ddydd Sadwrn, y person cyntaf i ofyn i mi estyn ei chydymdeimlad i'r Prif Weinidog, drwy anfon neges ataf, oedd nyrs ym Mronglais. ...
Elin Jones: Anghofiais i ofyn i'r Gweinidog gynnig yn ffurfiol welliant 2, yn enw'r Llywodraeth.
Elin Jones: Yn ffurfiol, felly wedi ei gynnig. Jenny Rathbone.
Elin Jones: Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Russell George, felly, i gynnig gwelliannau 1, 3 a 4. Russell George.
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn a nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn.
Elin Jones: Eitem 8 sydd nesaf: dadl Plaid Cymru yw hon ar leihau'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd. Dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Elin Jones: Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl nawr.
Elin Jones: Wel, mae'n iawn meddwl am ddod atynt, ond rydym eisoes ddwy funud dros amser. Fe roddaf funud neu ddwy ichi gloi.
Elin Jones: Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i gyfrannu i'r ddadl nawr, Dawn Bowden.
Elin Jones: Wel, rwy'n falch o glywed bod eich teis yn fater o ddiddordeb rhyngwladol [Chwerthin.] Hoffwn gadarnhau yn fy ymateb i chi, ac annog yr Aelodau yma i edrych ar y cyfleoedd sydd ganddynt fel Aelodau unigol, ac fel aelodau o bwyllgorau, i deithio ac i ymgysylltu â seneddau a chyda phrosiectau ledled y byd, fel y gallwn gyfoethogi ein gwaith yma ar ddatblygu polisi a deddfwriaeth â phrofiadau...
Elin Jones: Mae'r Comisiwn yn cefnogi cyfleoedd i hyrwyddo ac arddangos ein Senedd a'i gwaith arloesol ar lwyfan rhyngwladol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi Aelodau i gymryd rhan mewn rhwydweithiau rhyngwladol, a hwyluso rhaglenni ar gyfer ymweliadau gan ddirprwyaethau rhyngwladol, fel Senedd ffederal Canada’r wythnos diwethaf, a chroesawu diplomyddion i'r lle yma, fel cynrychiolydd Llywodraeth Catalwnia y...
Elin Jones: Rŷch chi'n ceisio fy nhemtio i i roi pob math o atebion gwleidyddol i'r cwestiwn yna. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n gyfrinach i neb i glywed fi'n ateb fel unigolyn i ddweud fy mod i o blaid datganoli mwy o rymoedd i'r Senedd yma. Ond, yng nghyd-destun y cwestiwn penodol ynglŷn â'r streic yr wythnos nesaf, i gadarnhau unwaith eto nad oes yna anghydfod penodol rhyngom ni a'r staff yn lleol...
Elin Jones: Nid yw'r Comisiwn yn rhan o unrhyw drafodaethau ffurfiol gydag undebau llafur sy'n cynrychioli staff y Comisiwn ar hyn o bryd. Mae trefniadau cyflog presennol y Comisiwn ar waith tan fis Mawrth 2025, ac mae'r Comisiwn yn mwynhau partneriaeth gadarnhaol gyda'n swyddogion undebau lleol. Mae cynrychiolwyr Prydeinig PCS wedi cadarnhau bod anghydfod ffurfiol, fodd bynnag. Cynhelir y streic ar 1...
Elin Jones: Llefarydd Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths.