Andrew RT Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol maes awyr Caerdydd?
Andrew RT Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae fy nghais yn gymharol syml. Rwy'n deall i chi nodi, mewn cyfarfod pwyllgor, yr hoffech ymweld â'r bloc fflatiau, a byddai'r preswylwyr yn awyddus iawn i'ch croesawu ar ymweliad o'r fath. A allwch nodi p'un a fydd ymweliad o'r fath yn digwydd mewn gwirionedd, ac unrhyw adegau yn y dyddiadur y gallech fod wedi sicrhau eu bod ar gael fel y gallent gyfarfod â...
Andrew RT Davies: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Hoffwn geisio deall o'r asesiad effaith faint o ffermydd a swyddi a fyddai'n cael eu colli, a phe gallech wneud hynny i mi ar ffurf ysgrifenedig, buaswn yn ddiolchgar am hynny, gan y buaswn yn disgwyl i asesiad effaith wneud y cyfrifiad hwnnw. Ond fe gyfeirioch chi at fforwm tir Cymru a'r sector yn dod at ei gilydd i gyflwyno 45 o argymhellion yn y maes...
Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd. Weinidog, ai eich bwriad o hyd yw cyflwyno'r rheoliadau a gorfodi'r rheoliadau hynny ar ansawdd dŵr o 1 Ionawr y flwyddyn nesaf?
Andrew RT Davies: Diolch. Mae'n siomedig, yn amlwg, y bydd hynny ar ffurf ysgrifenedig, yn hytrach nag ar lafar, ond rwy'n derbyn bod pwysau o ran amser. Rwy'n synhwyro rhywfaint o symud, efallai, a byddai'r sector yn croesawu hynny, rwy'n siŵr. Fe gynhalioch chi asesiad effaith rheoleiddiol ar y mater penodol hwn. A allwch gadarnhau heddiw faint o ffermydd a faint o swyddi a allai gael eu colli, a'r hyn a...
Andrew RT Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y materion diogelwch tân a ganfuwyd yn fflatiau cyfadeilad Celestia ym Mae Caerdydd? OAQ54825
Andrew RT Davies: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Mae maes polisi'r agenda aer glân yn hanfodol bwysig i'r Llywodraeth ac i wleidyddion o bob lliw a llun. Rwy'n mynd i ddarllen y datganiad hwn—rwy'n credu y bydd hynny ynddo'i hun yn fodd inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd dan sylw— Mae marwolaethau y gellir eu hosgoi oherwydd clefyd anadlol yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn...
Andrew RT Davies: Diolch, Gweinidog, am yr ateb yna. Yng Ngweriniaeth Iwerddon, maen nhw wedi sefydlu mesurau sydd, yn amlwg, yn cynorthwyo awdurdodau lleol a'r asiantaethau gorfodi i symud ar safleoedd anghyfreithlon. A ydych chi wedi rhoi unrhyw ystyriaeth i effeithiolrwydd darpariaeth o'r fath yma yng Nghymru? Ac, yn ail, yn aml iawn pan fydd safleoedd anghyfreithlon yn datblygu, mae bil glanhau enfawr y...
Andrew RT Davies: 2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am y camau a gymerir gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â safleoedd anghyfreithlon i deithwyr yng Nghymru? OAQ54813
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch ichi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae'n debyg mai'r peth mwyaf cyffrous sydd wedi digwydd i mi heddiw yw fy mod yn cael defnyddio'r darllenfwrdd, oherwydd bod gennym ni ddatganiad materion gwledig. Ond, mae'n werth myfyrio ar faint y diwydiant i Gymru: cyfanswm trosiant o £20.5 biliwn, 210,000 neu 217,000 o swyddi i gyd, os ydych...
Andrew RT Davies: Trefnydd, a gaf i ofyn am dri datganiad, os gwelwch yn dda? Wrth i ni nesáu at ddyddiadau'r toriad nawr, mae pob un ohonom yn ymwybodol bod cyfnod y Nadolig yn rhoi pwysau enfawr ar ein gwasanaethau meddygol, yn arbennig damweiniau ac achosion brys. Rwy'n talu teyrnged i bob un sy'n gweithio yn y gwasanaethau hynny dros gyfnod y Nadolig er mwyn ein cadw'n ddiogel a'n gwella, os oes angen y...
Andrew RT Davies: A wnewch chi ildio?
Andrew RT Davies: Nid ydym yn dod at ein gilydd i ymwrthod â'r gofrestr. Yr hyn a ddywedwn yw y dylid caniatáu y gwaith roedd eich Aelod—a gafodd ei ddyfynnu wrth i'r Gweinidog grynhoi—David Rowlands, yn rhan ohono yn y pwyllgor hwnnw, fel ein bod yn cael y canlyniad gorau posibl ac nad ydym yn rhoi rhywbeth ar waith nad yw'n addas i'r diben. Does bosibl na allwch gefnogi hynny, a dyna'r ffordd y dylem...
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw ein rheolwr busnes, a fu mor hael â chyflwyno'r gwelliant hwn i'r cynnig yn enw grŵp y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, ac felly mae'n bleser gennyf siarad amdano. Fel aelod o'r pwyllgor safonau, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn—ar bwyntiau'n ymwneud â safonau, a chynnal ffydd a hyder y cyhoedd yn y sefydliad hwn ac Aelodau'r...
Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ac rwy'n ddiolchgar am ddiweddariad y trefnydd yn y datganiad busnes ddoe mewn perthynas â'r dystiolaeth hon a gyflwynir i Lywodraeth Cymru. A allwch chi roi sicrwydd inni mewn perthynas â dau beth, os gwelwch yn dda? Yn gyntaf, fod y dystiolaeth a ddarparwyd gan y datblygwr o'r un ansawdd ag y byddai asesiad o'r effaith amgylcheddol wedi bod. Ac yn ail,...
Andrew RT Davies: Mewn perthynas â llywodraethu, mae'n hanfodol fod gan gyfarwyddwyr annibynnol byrddau iechyd gefndir cadarn, a'u bod yn deall sut y gweithredir y sefydliadau mawr hyn. Mae gan lawer ohonynt drosiant o fwy na £1 biliwn. Yn achos Cwm Taf, mae sawl adroddiad wedi nodi bod y trefniadau llywodraethu wedi methu. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni, Weinidog, fod eich adran, a chithau'n arbennig,...
Andrew RT Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog. Yr hyn a wyddom yw fod Cymwysterau Cymru wedi dweud y bydd yn rhaid sicrhau newidiadau yn y cymwysterau a'r arholiadau y bydd pobl yn eu sefyll yn 16 oed yma yng Nghymru, ni waeth beth fydd yr ymgynghoriad hwnnw'n ei ddweud. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig, ni waeth pa gymhwyster y mae rhywun yn ymgymryd ag ef, boed yn un galwedigaethol neu academaidd, yw fod...
Andrew RT Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol TGAU a chymwysterau eraill y mae pobl ifanc 16 oed yng Nghymru yn astudio ar eu cyfer? OAQ54739
Andrew RT Davies: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am statws yr asesiad o'r effaith amgylcheddol a wnaed ar losgydd y Barri, o gofio bod profion yn y gwaith eisoes wedi dechrau? 370
Andrew RT Davies: Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os oes modd—un gan y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol, am y sylw a wnaeth yn ôl ym mis Chwefror 2018 ynghylch asesiad o'r effaith amgylcheddol a oedd yn ofynnol ar gyfer llosgydd biomas y Barri. Roedd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yma i brotestio ddydd Sadwrn, a deallaf ei bod wedi siarad â'r dorf, ac wedi dweud y bydd y boeler biomas—neu'r...