Gareth Bennett: Diolch am eich ateb, Gweinidog; mae hynny’n galonogol. Cyfeiriasom at hyn yn y cwestiynau i’r Prif Weinidog ddoe—mae yna fater ehangach yn ymwneud â’r cysylltiad rhwng clybiau chwaraeon proffesiynol, megis ein clybiau pêl-droed proffesiynol, a’u gweithgareddau i hyrwyddo chwaraeon llawr gwlad, er mwyn gwella targedau iechyd a phethau felly. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa...
Gareth Bennett: 7. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi’i wneud o’r effaith a gaiff rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ar y strategaeth genedlaethol dros chwaraeon cymunedol? OAQ(5)0167(HWS)
Gareth Bennett: Mae Clwb Pêl-droed Abertawe a Chlwb Pêl-droed Casnewydd ill dau yn ganolbwynt pwysig yn eu cymunedau. A bydd ysbryd cymunedol yn cynyddu yn y lleoedd hynny o ganlyniad i lwyddiant y timau hynny. Y broblem sydd gennym ni weithiau gyda chlybiau pêl-droed proffesiynol yw eu bod yn tueddu i fod mewn perchnogaeth dramor erbyn hyn. Mae dau o'r tri chlwb pêl-droed yng nghynghrair Lloegr—[Torri...
Gareth Bennett: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i Caroline am y disgrifiad o waith campfa Bulldogs. Mae gwaith y mathau hyn o grwpiau gweithgareddau cymunedol yn rhan bwysig iawn o wead ein cymdeithas. Rwy’n siŵr fod grwpiau o’r fath yn etholaethau a rhanbarthau pawb. Yn fy rhanbarth i, mae Ysgol Farchogaeth Caerdydd, er enghraifft, wedi’i lleoli yng nghaeau Pontcanna, ac wedi’i hamgylchynu gan 35...
Gareth Bennett: Ie, ac fel y dywedais, Lee, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed yr hyn y mae’n ei ddweud am y prif gwnstabliaid er mwyn taflu goleuni ar yr hyn y mae’n ei awgrymu, sef bod y prif gwnstabliaid o blaid hyn. Nid wyf wedi cau fy meddwl yn y mater hwn, ond mae’n rhaid i chi ddeall fod yn rhaid i mi leisio’r pryderon er mwyn inni allu eu trafod yn briodol. Iawn. Soniais am Byron Davies....
Gareth Bennett: Gwnaf, yn sicr.
Gareth Bennett: Gwnaf, yn sicr.
Gareth Bennett: Iawn. Roeddwn yn ymwybodol o’r ddadl y tro cyntaf i chi ei chyflwyno. Diolch i chi am ei chyflwyno eto. Hoffwn glywed beth y byddai’r Gweinidog yn ei ddweud ar y pwynt hwnnw. Rwy’n siŵr y bydd yn ystyried hynny. Cafodd rhai anfanteision go gadarn—[Torri ar draws.] Cafodd rhai anfanteision go gadarn eu gwyntyllu yn y gorffennol ynglŷn â datganoli plismona. Nawr, roedd gennyf...
Gareth Bennett: Diolch i’r Aelodau unigol am gyflwyno’r ddadl heddiw. Rwy’n credu bod datganoli plismona yn fater pwysig, a dylwn nodi ei fod yn fater rydym ni yn UKIP heb benderfynu arno hyd yn hyn. Rwy’n credu bod angen i ni fod yn wyliadwrus, fodd bynnag, cyn i ni ddechrau ar y cam hwn. Os yw’r Cynulliad yn galw am fwy o bwerau, am ddatganoli dros fwy o bethau, yna credaf fod yn rhaid cael...
Gareth Bennett: Diolch am eich atebion ar y pwnc hyd yn hyn. Mae’n dda eich bod wedi llunio cod ymarfer, o leiaf, ond y pwynt a wnaeth Plaid Cymru yr wythnos diwethaf drwy Adam Price ar fater contractau dim oriau oedd eich bod wedi hawlio cymhwysedd cyfreithiol dros faes cyflogaeth y sector cyhoeddus drwy gyflwyno Deddf yr undebau llafur, felly ymddengys bod hynny’n anghyson â’ch ymagwedd at...
Gareth Bennett: Mae prinder sgiliau yn y diwydiant adeiladu ar hyn o bryd, felly tybed a yw’r rhaglen addysg alwedigaethol yn rhoi unrhyw bwyslais ar addysgu gwaith coed, gosod brics, ac unrhyw sgiliau cysylltiedig eraill sydd eu hangen yn y diwydiant hwnnw.
Gareth Bennett: Mae Bil yr Undebau Llafur, y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gyflwyno yma i’w drafod heddiw, yn ddarn o ddeddfwriaeth sydd wedi cael ei graffu yn bur faith yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yr wyf i'n aelod ohono, yn ogystal â'r pwyllgor cyfansoddiadol, nad ydw i’ aelod ohono, felly ni allaf ond siarad am y peth o ochr y pwyllgor yr wyf i’n aelod ohono. Clywsom lawer o...
Gareth Bennett: Soniodd Mike Hedges am fanciau yn cau ar y stryd fawr a soniasoch chi am swyddfeydd post. Rhan bwysig arall o ardaloedd siopa ardal weithiau yw’r dafarn leol. Roeddwn i’n meddwl tybed a oedd unrhyw ddiweddariad ynghylch trafodaethau Llywodraeth Cymru gyda'r Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn, rwy’n credu, am sut i ddiogelu tafarndai cymunedol.
Gareth Bennett: Wrth gwrs.
Gareth Bennett: Nid oeddwn yn awgrymu eich bod, Hefin; nid dyna oedd fy mhwynt. Dweud oeddwn fod yna wahaniaethau barn, dyna i gyd; gwyntyllu’r mater a wnawn, dyna i gyd. [Torri ar draws.] Iawn, mae wedi’i wyntyllu. Mae angen inni ffrwyno cyflogau gormodol i swyddogion. Mae angen canllawiau statudol llym yma, ac rydym hefyd yn ymwybodol o’r angen i fynd i’r afael â chontractau dim oriau. Nawr,...
Gareth Bennett: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw. Rydym ni, yn UKIP Cymru, yn cytuno â phwyslais cyffredinol cynnig Plaid Cymru. Wrth gwrs, mae gwasanaethau cyhoeddus lleol yn rhan allweddol o les y cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu. Mae toriadau mewn cyllid cyhoeddus bob amser yn destun gofid os ydynt yn bygwth gwasanaethau a chyfleusterau lleol y gwneir defnydd da ohonynt. Yn anffodus,...
Gareth Bennett: Ie, diolch am hynny. Er bod y Llywodraeth wedi yma wedi darparu arian, ni chredaf ei bod yn system a roddwyd ar waith yn gyffredinol ac yn gyson, felly byddai’n dda pe gallai bob cyngor ddarlledu cyfarfodydd cyngor llawn fan lleiaf. Gobeithio y byddwch yn cadw at hyn, ac rwy’n siŵr y gwnewch. Mae’n dda fod rhai o’r cynghorau hefyd yn darlledu cyfarfodydd cabinet, ac mae hynny i’w...
Gareth Bennett: Iawn, diolch am eich ateb clir iawn. Rydym ni yn UKIP yn bryderus ynglŷn â thargedau ailgylchu eich Llywodraeth. Teimlwn y gallai llai o gasgliadau bagiau du fod yn niweidiol i drigolion. A ydych yn cytuno y dylai gwasanaeth safonol ar gyfer preswylwyr gynnwys casgliadau pob pythefnos fan lleiaf?
Gareth Bennett: Diolch am eich ateb. Mae’r dewis yn swnio fel datblygiad i’w groesawu. Fodd bynnag, tybed a fyddai pleidiau sydd wedi bod yno ers amser hir ac sydd wedi bod yn rhedeg eu cyngor ers peth amser yn barod i gyflwyno newid system o’r fath yn wirfoddol, ond cawn weld. Mae lleoliaeth yn egwyddor sy’n cael ei hyrwyddo o bryd i’w gilydd gan eich Llywodraeth. Mae UKIP hefyd yn cefnogi...
Gareth Bennett: Diolch, Dirprwy Lywydd. Weinidog, mae rhai o’ch diwygiadau arfaethedig i lywodraeth leol yn galonogol iawn. Ymddengys eich bod yn awyddus i gael mwy o dryloywder, ac efallai hefyd eich bod yn derbyn y syniad fod angen mwy o amrywiaeth barn weithiau. Nid yw trigolion lleol yn cael budd go iawn o gynghorau sy’n cael eu rhedeg fel gwladwriaethau un blaid. A fyddech yn croesawu pe bai...