Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni blaenoriaeth un cynllun cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol?
Hefin David: Gwnaf. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n ddig iawn.
Hefin David: Rhun ap Iorwerth, rydych yn gwneud pwynt clir iawn, oherwydd dyna'r union fath o iaith a ddefnyddir, gan fod y pŵer yn nwylo'r bobl hyn. Maent yn gwneud cyn lleied â phosibl—mae cwmni rheoli'r ystâd yn gwneud cyn lleied â phosibl o waith ar yr ystadau hyn. Maent yn dal preswylwyr yn wystlon, ac nid yw'r contractau sy'n rhaid i chi eu llofnodi i brynu eich tŷ yn werth y papur y...
Hefin David: Mae yna ystâd yn fy etholaeth a adeiladwyd yn y 1970au: mae'r ffyrdd yn fawr, mae digon o le i barcio, gerddi mawr, a thai mawr. Ac mae'n drawiadol pan fyddwch yn ymweld â'r tai newydd a adeiladwyd yn ystod y degawd diwethaf, yr ystadau newydd a adeiladwyd yn ystod y degawd diwethaf, mae'r tai wedi'u gwasgu i mewn, mae'n aneglur pa stryd yw pa stryd, a chaiff pawb eu gwasgu at ei gilydd...
Hefin David: Ac rwy’n croesawu’r adolygiad hwnnw ochr yn ochr â'r cwestiwn a ofynnodd David Rowlands ar y cychwyn. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o fy nghefnogaeth i gynllunio datblygu strategol, a ddarperir yn Neddf Cynllunio (Cymru) 2015, i gynorthwyo i symud datblygiadau o'r ardaloedd gor-grynodedig o amgylch Caerdydd a'r M4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet, felly, gefnogi'r...
Hefin David: 10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am Bolisi Cynllunio Cymru? OAQ51767
Hefin David: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyflwyno treth trafodiadau tir yng Nghymru?
Hefin David: A yw felly'n cytuno bod y diwydiant fferyllol yn arbennig angen bargen fasnach arbennig, gan ei fod yn ddiwydiant â chadwyni cyflenwi sy'n chwalu'n gyflym a bod amseroedd byr o ran symud cynnyrch i'r farchnad, ac y byddai'r canlyniadau o beidio â chydnabod hynny yn enbyd i sgiliau, swyddi ac ymchwil fferyllol yng Nghymru?
Hefin David: 11. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y diwydiant fferyllol yng Nghymru? OAQ51716
Hefin David: Hoffwn ychwanegu fy nghefnogaeth, fel aelod o'r pwyllgor, i'r farn honno, a nodi, er y gwrthodwyd yr argymhelliad ar y sail honno, mae'r Llywodraeth wedi ymgymryd â ffrwd waith ac efallai mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw cael rhagor o ddealltwriaeth o effaith anawsterau bwydo ar y fron ar iechyd meddwl amenedigol.
Hefin David: Dyna'r newyddion roeddwn eisiau ei glywed: y ffaith bod y ddogfen hon yn destun adolygiad, sydd, wrth gwrs, ar gyfer oedolion, ac mae'r ddogfen hon hefyd yn destun adolygiad, sef y ddogfen ar gyfer gofal parhaus i blant. Mae'r ddwy ddogfen gyda'i gilydd yn cynrychioli'r daith y gallai plentyn fynd arni, o blentyndod i fywyd fel oedolyn, ac rwy'n cael yr argraff bendant nad yw gwasanaethau...
Hefin David: Dylid cynnwys addysg bellach yn y broses o ddylunio a datblygu'r cwricwlwm. Mae cymal Baker wedi dod i rym yn Lloegr yn ddiweddar, i fynnu bod ysgolion yn gadael i ddarparwyr addysg bellach hysbysebu eu gwasanaethau i ddisgyblion blynyddoedd 8 i 13, gan sicrhau bod dysgwyr yn ymwybodol o'r ystod o opsiynau sydd ar gael iddynt wedi iddynt adael addysg orfodol. O gofio'r diwygiadau...
Hefin David: 8. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i baratoi'r sector addysg ôl-16 yng Nghymru ar gyfer gweithredu'r argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad 'Dyfodol Llwyddiannus'? OAQ51676
Hefin David: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am 'Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Y Fframwaith Gweithredu Cenedlaethol yng Nghymru', a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2014? OAQ51677
Hefin David: Byddai gennyf fwy o barch at y ddadl honno pe bai wedi'i adlewyrchu yn y cynnig a roddwyd gerbron y Siambr hon, yn hytrach na'i ddiystyru'n unig er mwyn rhoi llinell dda ar Twitter. Ond mae'n rhyfedd fod eich beirniadaeth o'r cynllun economaidd hwn mor gryf pan oedd y ddadl flaenorol ar y fargen ddinesig mor adeiladol. Nid wyf yn deall, oherwydd mae'r pethau hyn yn mynd law yn llaw, a'r...
Hefin David: Hoffwn rannu'r siom ddifrifol iawn a fynegwyd yn y Siambr hon heddiw nad ydym erioed wedi cael Llywodraeth Lafur fwyafrifol yng Nghymru. Credaf fod hynny'n rhannol yn egluro rhai o'r sylwadau a ddaeth gan UKIP a'r Ceidwadwyr, yn arbennig. A gallaf weld na chyfrannodd Russell George—nid wyf yn gwybod a yw'n bwriadu gwneud hynny yn y ddadl hon—
Hefin David: O, dyna ni. Wel, edrychwn i weld a yw am chwarae plismon da, ond yn sicr fe gawsom y plismon drwg i ddechrau, a wrthododd y cynllun economaidd, y credaf ei fod yn gynllun economaidd da, mewn un frawddeg yn y cynnig. A chredaf fod dadansoddiad sy'n—. I fod yn deg â Suzy Davies, mae hi wedi mynd ati'n fanwl a thrylwyr—nid dyna fy safbwynt ideolegol i yn ôl pob tebyg, ond...
Hefin David: Mae'r adroddiadau pwyllgor hyn yn ddefnyddiol iawn, ac maent yn datgelu'r Russell George go iawn, rwy'n credu, yr un a welsom yn cadeirio'r pwyllgor, nid y Russell George a welwn, efallai, yn y ddadl nesaf. Credaf yn wir mai dyna yw personoliaeth go iawn yr Aelod Cynulliad rhesymol, Russell George. Mae'n werth cofio bod Adam Price wedi cyfeirio at y fargen ddinesig, yn ystod y ddadl...
Hefin David: Hoffwn ddiolch i arweinydd y tŷ am ei hymdrechion arwrol yn sicrhau bod y problemau gyda band eang ar ystadau Castle Reach a Kingsmead yng Nghaerffili wedi cael eu datrys. Mae wedi gweithio'n hynod o galed, ac rwy'n falch iawn o weld ei fod wedi digwydd. Ond roeddwn yn awyddus i—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, yn groes i'r hyn a ddywedodd Russell George yn gynharach. Roeddwn yn awyddus i...
Hefin David: 7. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am ddarpariaeth band eang cyflym iawn yn etholaeth Caerffili? OAQ51610